Hawlio ad-daliad ffi dirprwyaeth

Printable version

1. Trosolwg

Efallai eich bod yn gymwys i gael ad-daliad os yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr wedi codi gormod arnoch am ffioedd dirprwyaeth.

Ni wneir ad-daliadau ond yn achos asesiadau a goruchwyliaeth flynyddol dirprwyaeth a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

I gael gwybod a oes arian yn ddyledus i chi a faint fyddwch chi’n ei gael, bydd angen i chi gyflwyno hawliad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Os ydych chi’n ddirprwy yn gweithredu o dan orchymyn llys cyfredol, nid oes angen i chi wneud cais am ad-daliad. Bydd unrhyw ffioedd gormodol a godwyd yn cael eu had-dalu’n awtomatig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliadau am ad-daliadau ydy 4 Hydref 2022.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Faint gewch chi

Bydd faint gewch chi’n dibynnu ar:

  • faint o arian yr ydych chi wedi ei dalu a’r gyfradd
  • ers pryd ydych chi wedi bod yn talu
  • oes gennych chi unrhyw ffioedd heb eu talu

Bydd y rhan fwyaf o ad-daliadau’n llai na £200. Byddwch chi hefyd yn cael 0.5% o log.

2. Pwy sy'n cael hawlio

Gallwch wneud hawliad os:

  • oedd gennych chi ddirprwy o’r blaen
  • ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun a oedd â dirprwy ac sydd wedi marw

Mae’n rhaid i’r ddirprwyaeth fod wedi bod yn weithredol rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

Os ydych chi’n dal i weithredu fel dirprwy, nid oes angen i chi wneud cais. Bydd unrhyw ffioedd gormodol a godwyd yn cael eu had-dalu’n awtomatig.

Os oedd gennych chi ddirprwy o’r blaen

Os oedd gennych chi ddirprwy ond eich bod erbyn hyn yn gwneud penderfyniadau dros eich hun, gallwch wneud cais am ad-daliad.

Gallwch chi hefyd ofyn i’ch atwrnai eiddo a materion ariannol wneud hawliad ar eich rhan.

Os ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun sydd wedi marw

Os ydy’r sawl a oedd yn arfer bod â dirprwyaeth (y ‘cleient’) wedi marw, rhaid i ysgutor yr ewyllys hawlio’r ad-daliad.

Os nad oes ysgutor, gall gweinyddwr yr ystad wneud cais.

Os nad oes gweinyddwr i’r ystad, gall aelod o’r teulu wneud cais.

Beth fyddwch chi’n ei wneud â’r ad-daliad

Dylai unrhyw ad-daliad a dderbynnir gael ei rannu rhwng buddiolwyr ystad y cleient.

Os ydy ystad y cleient eisoes wedi cael ei setlo, gallwch gael help gan neu gyfreithiwr i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

3. Beth fydd ei angen arnoch i hawlio

I hawlio, bydd arnoch angen manylion y sawl a oedd â’r ddirprwyaeth (y ‘cleient’). Mae hyn yn cynnwys:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad pan ddaeth y ddirprwyaeth i ben
  • dyddiad marwolaeth (os yw’n berthnasol)

Bydd arnoch hefyd angen darparu manylion y cyfrif banc rydych chi eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo (os nad oes arnoch eisiau ad-daliad drwy siec).

Dogfennau y bydd angen i chi eu darparu

Bydd angen i chi anfon prawf o’ch:

  • enw
  • cyfeiriad
  • hawl i apelio (os nad chi ydy’r cleient)

Gallwch anfon dogfennau wedi’u sganio neu eu llungopïo.

Gallwch chi hefyd anfon y dogfennau gwreiddiol. Byddant yn cael eu dychwelyd atoch chi drwy’r post.

Bydd angen i chi anfon darn gwahanol o dystiolaeth ar gyfer pob math o brawf.

Prawf o’ch enw

Gall hyn olygu:

  • pasbort cyfredol wedi’i lofnodi (copi o’r dudalen sy’n dangos eich enw a’ch llun)
  • tystysgrif geni neu fabwysiadu wreiddiol
  • trwydded yrru cerdyn llun DU neu AEE gyfredol (dim trwydded dros dro)
  • trwydded yrru lawn o’r hen fath
  • cerdyn adnabod aelod wladwriaeth neu gerdyn adnabod cenedlaethol gyda llun AEE
  • llyfr budd-daliadau neu lythyr hysbysiad gwreiddiol gan yr asiantaeth budd-daliadau

Prawf o’ch cyfeiriad

Gall hyn olygu:

  • bil cyfleustodau (dim bil ffôn symudol) o’r 12 mis diwethaf
  • bil treth cyngor cyfredol
  • cyfriflen banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd neu lyfr cyfrif wedi’i ddyddio yn ystod y 3 mis diwethaf
  • cyfriflen morgais wreiddiol a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn lawn ddiwethaf
  • cerdyn rhent cyngor neu gymdeithas dai neu gytundeb tenantiaeth ar gyfer y flwyddyn gyfredol

Prawf o’ch hawl i wneud cais

Rhowch gopi o:

  • dyfarniad profiant (ysgutorion)
  • llythyrau gweinyddu (gweinyddwyr)
  • tystysgrif marwolaeth (aelodau o’r teulu)

Os ydych chi’n atwrnai eiddo a materion ariannol, rhaid i chi ddarparu cyfeirnod yr atwrneiaeth arhosol.

4. Sut mae hawlio

Bydd angen i chi lenwi ffurflen a’i hanfon gyda’ch tystiolaeth.

Hawlio drwy e-bost

Anfonwch y ffurflen a’r dystiolaeth fel atodiadau e-bost i:

DeputyshipFeeRefunds@justice.gov.uk

Bydd angen i chi atodi copïau wedi’u sganio neu luniau clir o’r dogfennau gwreiddiol. 10MB yw maint mwyaf y negeseuon e-bost a ganiateir ond gallwch chi anfon mwy nag un neges.

Teipiwch ‘Cais am ad-daliad ffi dirprwyaeth’ yn llinell pwnc y neges e-bost.

Hawlio drwy’r post

Postiwch y ffurflen a’ch tystiolaeth i:

Deputyship fee refunds
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 10796
Nottingham
NG2 9WF

Hawlio dros y ffôn

Os na allwch chi hawlio drwy e-bost na llenwi’r ffurflen eich hun, cysylltwch â’r llinell gymorth. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth yr un fath.

Llinell Gymorth Ad-daliadau
DeputyshipFeeRefunds@justice.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300 (dewiswch opsiwn 6)
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

5. Ar ôl i chi hawlio

Byddwch yn cael gwybod drwy e-bost neu lythyr:

  • pan fydd eich cais wedi cyrraedd
  • os oes unrhyw wybodaeth ar goll
  • os ydy eich hawliad yn llwyddiannus
  • swm yr ad-daliad a phryd bydd yn cael ei dalu
  • y rhesymau dros wrthod

Pryd fyddwch chi’n cael yr ad-daliad

Mae’n gallu cymryd hyd at 10 wythnos i gael penderfyniad i 2 wythnos arall i gael yr ad-daliad.

Os caiff eich hawliad ei wrthod

Gallwch apelio drwy gysylltu â’r Llinell Gymorth Ad-daliadau.

Llinell Gymorth Ad-daliadau
DeputyshipFeeRefunds@justice.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300 (dewiswch opsiwn 6)
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus