Beth i'w wneud ar ôl i rywun farw
Printable version
1. Cofrestru y farwolaeth
Ar ôl i rywun farw, bydd archwilydd meddygol yn gwirio achos y farwolaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gywir.
Byddant yn uwch feddyg ac ni fyddant wedi bod yn gysylltiedig â gofalu am yr unigolyn sydd wedi marw.
Yna bydd swyddfa’r archwilydd meddygol y cysylltu â chi i:
- egluro achos y farwolaeth
- ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hyn neu’r gofal iechyd a roddwyd i’r unigolyn cyn iddynt farw
ond nid oes rhaid i chi siarad â nhw os nad ydych eisiau gwneud hynny. Â
Cofrestru’r farwolaeth
Bydd swyddfa’r archwilydd meddygol hefyd yn cysylltu â chi i gadarnhau y gallwch gofrestru’r farwolaeth.
Cofrestrwch y farwolaeth o fewn 5 diwrnod (8 diwrnod yn yr Alban) i’r swyddfa gysylltu â chi. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Ar ôl i chi gofrestru’r farwolaeth
Byddwch yn cael tystysgrif claddu neu amlosgi (a elwir yn aml yn ‘green form’).
Rhowch y dystysgrif i’ch trefnydd angladdau, amlosgfa neu awdurdod claddu. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn y gellir cynnal yr angladd.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
2. Pan fydd marwolaeth yn cael ei adrodd i grwner
Os rhoddir gwybod i grwner am farwolaeth, gall y dogfennau sydd eu hangen arnoch i gofrestru’r farwolaeth fod yn wahanol. Bydd y crwner yn penderfynu naill ai:
- bod achos y farwolaeth yn glir
- bod angen post-mortem
- i gynnal cwest
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae achos y farwolaeth yn glir
Os bydd y crwner yn penderfynu bod achos y farwolaeth yn glir:
-
Byddant yn rhoi tystysgrif i’r cofrestrydd yn dweud nad oes angen post-mortem neu gwest.
-
Bydd y cofrestrydd yn cofrestru’r farwolaeth.
Mae angen post-mortem
Efallai y bydd y crwner yn penderfynu bod angen post-mortem i ddarganfod sut y bu farw’r unigolyn. Gellir gwneud hyn naill ai mewn ysbyty neu fortiwari.
Ni allwch wrthwynebu post-mortem crwner - ond os ydych wedi gofyn mae’n rhaid i’r crwner ddweud wrthych (a meddyg teulu’r unigolyn) pryd a ble y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal.
Ar ôl y post-mortem
Bydd y crwner yn rhyddhau’r corff ar gyfer angladd ar ôl iddynt gwblhau’r archwiliadau post-mortem ac nid oes angen archwiliadau pellach.
Os caiff y corff ei ryddhau heb unrhyw gwest, bydd y crwner yn anfon ffurflen (‘Pink Form - form 100B’) at y cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth.
Bydd y crwner hefyd yn anfon ‘Certificate of Coroner - form Cremation 6’ os yw’r corff i gael ei amlosgi.
²Ñ²¹±ð’r crwner yn cynnal cwest
Rhaid i grwner gynnal cwest os yw:
- achos y farwolaeth yn dal yn anhysbys
- gallai’r unigolyn fod wedi cael marwolaeth dreisgar neu annaturiol
- gallai’r unigolyn fod wedi marw yn y carchar neu ddalfa’r heddlu
Tystysgrifau marwolaeth
Os oes angen prawf o’r farwolaeth arnoch wrth i chi aros i’r cwest orffen, gofynnwch i’r crwner am dystysgrif marwolaeth interim.
Unwaith y bydd y cwest drosodd, gallwch gael y dystysgrif marwolaeth derfynol gan y cofrestrydd.
Gallwch ddefnyddio’r naill dystysgrif i:
- wneud cais am brofiant
- rhoi gwybod am y farwolaeth i fwy nag un sefydliad o’r llywodraeth gan ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith – gall y cofrestrydd eich helpu i wneud hyn
Cael cymorth
Gallwch gael cymorth annibynol rhad am ddim gan .
The Coroners’ Courts Support Service
Llinell Gymorth (Cymru a Lloegr)
Ffôn: 0300 111 2141
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 7pm
Dydd Sadwrn, 9am i 2pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
3. Beth i'w wneud os bydd rhywun yn marw dramor
Rhaid i chi gofrestru marwolaeth gyda’r awdurdodau lleol yn y wlad lle bu farw’r unigolyn.
Mewn nifer o wledydd gallwch hefyd gofrestru’r farwolaeth gydag awdurdodau’r DU.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
²Ñ²¹±ð’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr. Mae yna broses gwahanol yn a .
Rhoi gwybod am y farwolaeth
²Ñ²¹±ð’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.
Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn a fu farw:
- fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- Â tramor dros dro (er enghraifft, ar wyliau neu daith busnes)
Cysylltwch â swyddfa gofrestru i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith. Byddant naill ai’n:
- cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
- rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn
Os na allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, rhowch wybod i sefydliadau am y farwolaeth eich hun
Darganfyddwch fwy am ddelio â marwolaeth tramor.
Dod â’r corff adref
I ddod â’r corff adref mae’n rhaid i chi:
- cael cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r dystysgrif marwolaeth
- cael caniatâd i symud y corff, a gyhoeddwyd gan grwner (neu swyddog cyfatebol) yn y wlad lle bu farw’r unigolyn
- rhoi gwybod i grwner yng Nghymru neu Loegr os oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol
Darllenwch wybodaeth am y wlad lle bu farw’r unigolyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud.
Cysylltu â swyddfa gofrestru
Unwaith y bydd y corff gartref, ewch â’r dystysgrif marwolaeth i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle mae’r angladd yn cael ei gynnal.
Gan fod y farwolaeth eisoes wedi’i chofrestru dramor, bydd y cofrestrydd yn rhoi ‘tystysgrif dim atebolrwydd i gofrestru’ i chi. Rhowch hon i’r trefnydd angladdau fel y gall yr angladd fynd yn ei flaen.
Os ydych chi’n trefnu’r angladd eich hun, rhowch y dystysgrif yn ôl i’r cofrestrydd ar ôl i’r angladd gael ei gynnal. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 96 awr i’r angladd.
Pryd y bydd crwner yn gysylltiedig
Bydd crwner fel arfer yn cynnal cwest yng Nghymru neu Loegr os nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu os oedd yn sydyn, yn dreisgar neu’n annaturiol.
Mae angen tystysgrif gan y crwner arnoch (ffurflen ‘Cremation 6’) os yw’r unigolyn i gael ei amlosgi.
Dod â lludw adref
Wrth adael gwlad gyda lludw dynol fel arfer bydd angen i chi ddangos:
- y dystysgrif marwolaeth
- y dystysgrif amlosgi
Mae gan bob gwlad ei rheolau ei hun ynghylch gadael gyda lludw dynol ac efallai y bydd gofynion ychwanegol. Darllenwch gwybodaeth am y wlad lle bu farw’r unigolyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd angen i chi lenwi ffurflen tollau safonol pan fyddwch yn cyrraedd adref.
Cysylltwch â’ch cwmni hedfan i ddarganfod a allwch chi gario’r lludw fel bag llaw neu fel bag wedi’i gofrestru. Efallai y bydd yn gofyn i chi roi’r lludw mewn cynhwysydd anfetelaidd fel y gallant gael archwiliad pelydr-x.
Ni ddylech gael yr unigolyn wedi’i amlosgi dramor os ydych am i grwner gartref gynnal cwest i’w farwolaeth.
4. Dywedwch Wrthym Unwaith
²Ñ²¹±ð’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn caniatáu i chi roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat Hawdd ei Ddeall yn Saesneg
Pryd i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Gallwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn a fu farw yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae hyn yn cynnwys os bu farw’r unigolyn tra roeddent dramor dros dro, er enghraifft ar wyliau neu daith fusnes.
Mae’n rhaid bod y farwolaeth naill ai wedi:
- cael ei chofrestru
- cael ei hadrodd i grwner a bod gennych dystysgrif marwolaeth terfynol neu dystysgrif marwolaeth interim
Ni allwch ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith os oedd yr unigolyn yn:
Sut i ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Bydd cofrestrydd yn egluro’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith pan fyddwch yn cofrestru’r farwolaeth. Byddant naill ai’n:
- cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi
- rhoi cyfeirnod unigryw i chi fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun ar-lein neu dros y ffôn
Bydd y cofrestrydd yn rhoi rhif i chi ei ffonio. Mae hyn yn cynnwys os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn. Os ydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), mae yna os ydych yn defnyddio cyfrifiadur - darganfyddwch mwy am sut i .
Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod ar ôl cael eich cyfeirnod unigryw.
Os na allwch gofrestru’r farwolaeth oherwydd bod cwest ar y gweill, gallwch barhau i ofyn i gofrestrydd am gyfeirnod unigryw. Bydd angen i chi gael tystysgrif marwolaeth interim gan y crwner sy’n cynnal y cwest yn gyntaf.
Cyn i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Byddwch angen y rhif cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith a gawsoch gan y Cofrestrydd.
Byddwch hefyd angen manylion canlynol yr unigolyn a fu farw:
- cyfenw
- y dyddiad y bu farw
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr unigolyn neu’r cwmni sy’n delio â’i ystad (eiddo ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu ‘weinyddwr’
- os oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif Yswiriant Gwladol neu ddyddiad geni’r priod neu bartner sifil
- os nad oes priod neu bartner sifil sy’n goroesi, neu os nad yw eu priod neu bartner sifil yn gallu delio â’u materion, enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
- os bu farw mewn ysbyty, cartref nyrsio, cartref gofal neu hosbis, enw a chyfeiriad y sefydliad hwnnw - gofynnir i chi hefyd a oedd yr arhosiad am 28 diwrnod neu fwy
Efallai byddwch hefyd angen:
- os oedd ganddynt basbort, eu rhif pasbort a’u tref enedigol
- os oedd ganddynt drwydded yrru, rhif eu trwydded yrru
- os oedd yn berchen ar unrhyw gerbydau, y rhifau cofrestru cerbydau
- os oedd yn talu treth y cyngor neu’n cael gwasanaethau gan eu cyngor lleol, fel taliadau Budd-dal Tai, enw eu cyngor lleol a pha wasanaethau yr oedd yn eu cael
- os oedd ganddynt fathodyn glas, eu rhif bathodyn glas os ydych yn ei wybod
- os oedd yn cael unrhyw fudd-daliadau, credydau treth neu bensiwn y wladwriaeth, gwybodaeth am ba rai yr oedd yn eu cael
- os oedd yn cael arian o gynllun pensiwn neu iawndal lluoedd arfog, manylion y cynllun hwnnw
- os oedd yn cael arian neu’n talu i mewn i gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus, manylion y cynlluniau hynny
Byddwch angen eu rhif Yswiriant Gwladol hefyd os oeddent yn cael arian neu’n talu i mewn i unrhyw un o’r cynlluniau pensiwn canlynol:
- Pensiynau GIG ar gyfer staff y GIG yng Nghymru a Lloegr
- Cynlluniau Asiantaeth Pensiwn Cyhoeddus yr Alban ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
- Cronfa Diogelu Pensiynau a Chynllun Cymorth Ariannol
- Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
Fel arall, nid oes angen eu rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Fodd bynnag, os gallwch chi ei ddarparu o hyd, bydd yn helpu rhai sefydliadau i ddod o hyd i’w cofnodion yn gyflymach.
Mae angen caniatâd arnoch gan unrhyw briod neu bartner sifil sydd wedi goroesi, y perthynas agosaf, ysgutor, gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd gyda’r unigolyn a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.
Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein
Sefydliadau y bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw
Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn hysbysu:
- Cyllid a Thollau EF (HMRC) - i ddelio â threth bersonol ac i ganslo budd-daliadau a chredydau, er enghraifft Budd-dal Plant a chredydau treth.
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - i ganslo budd-daliadau a hawliau, er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Bensiwn y Wladwriaeth
- Swyddfa Basbort - i ganslo pasbort Prydeinig
- Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded, dileu yr unigolyn fel ceidwad hyd at 5 cerbyd a chanslo treth cerbyd
- y cyngor lleol - i ganslo Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor (a elwir weithiau’n Cymorth Treth cyngor), Bathodyn Glas, hysbysu gwasanaethau tai y cyngor a thynnu manylion yr unigolyn oddi ar y gofrestr etholiadol
- Veterans UK - i ganslo neu ddiweddaru taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
- Nawdd Cymdeithasol yr Alban - i ganslo budd-daliadau a hawliadau gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban
Bydd CThEF a’r DWP yn cysylltu â chi ynglŷn â threth, budd-daliadau a hawliadau’r unigolyn a fu farw.
Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith hefyd yn cysylltu â rhai cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus fel eu bod yn canslo taliadau pensiwn yn y dyfodol. Byddant yn rhoi gwybod i:
- Cynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog
- Pensiynau’r GIG ar gyfer staff GIG yng Nghymru a Lloegr
- Cynlluniau pensiwn ar gyfer staff y GIG, athrawon, yr heddlu a diffoddwyr tân yn yr Alban
- Cronfa Amddiffyn Pensiwn a Chynllun Cymorth Ariannol
- Cynlluniau Pensiwn Awdurdodau Lleol (LGPS)
Ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
I gau neu newid manylion cyfrifon ariannol yr unigolyn, bydd angen i chi gysylltu â sefydliadau fel:
- banciau
- darparwyr morgeisi
- darparwyr yswiriant
- cwmnïau yr oedd gan yr unigolyn gontractau â nhw, fel cwmnïau cyfleustodau, landlordiaid neu gymdeithasau tai
- cynlluniau pensiwn personol neu weithle, oni bai eu bod yn un o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus y mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn cysylltu â nhw
Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cynlluniau pensiwn yr unigolyn, gallwch chwilio am fanylion cyswllt pensiwn.
Efallai y bydd angen i chi hefyd:
- ddiweddaru’r cofnodion eiddo, os oedd yr unigolyn yn berchen ar dir neu eiddo
- cysylltu â DVLA, os oedd yr unigolyn yn berchen ar gerbyd a’ch bod yn ei werthu neu’n ei gadw ac yn ei drethu yn eich enw eich hun
- cysylltu â CThEF, os oedd gan yr unigolyn drethi busnes fel TAW
- cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os oedd gan yr unigolyn fenthyciad myfyriwr ganddynt
Os nad ydych yn defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith
Rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliadau perthnasol am y farwolaeth eich hun.
5. Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith
Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyllid a Thollau EF (HMRC)
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF, a fydd yn gweithio allan a yw’r swm cywir o dreth wedi’i dalu gan yr unigolyn a fu farw. Byddant yn rhoi gwybod i chi:
- pa dreth sydd angen iddynt ei chasglu neu ei had-dalu
- a oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar ran yr unigolyn, er enghraifft pan fydd yr ystad yn parhau i gael incwm
Gallwch hefyd ddefnyddio HMRC i weithio allan pa ffurflenni i’w llenwi a ble i’w hanfon.
Efallai y bydd Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ystad yr unigolyn ar ôl iddynt farw.
Efallai y gallwch gael cyngor treth am ddim os ydych ar incwm isel.
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI)
Cysylltwch â Swyddfa Cyfraniadau i ganslo taliadau Yswiriant Gwladol yr unigolyn os oedd yn hunangyflogedig neu’n talu Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Swyddfa Budd-dal Plant
Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd plentyn neu’r rhiant yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 8 wythnos ar ôl y farwolaeth.
Swyddfa Credydau Treth
Cysylltwch â’r Swyddfa Credydau Treth os yw’ch partner neu blentyn rydych yn gyfrifol amdano yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 1 mis ar ôl y farwolaeth.
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Cysylltwch â’r gwasanaeth profedigaeth i ganslo budd-daliadau a hawliadau’r unigolyn, gan gynnwys eu Pensiwn y Wladwriaeth. Byddant hefyd yn gwirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd neu fudd-daliadau eraill.
Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
(os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn defnyddio cyfrifiadur - darganfyddwch sut
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Llinell Saesneg: 0800 151 2012
Ffôn Testun Saesneg: 0800 731 0464
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os oeddent yn byw dramor pan fu farw, cysylltwch â’r Canolfan Bensiwn Rhyngwladol yn lle
Pensiynau personol, gweithle a’r lluoedd arfog
Bydd yr hyn sydd angen i chi ei wneud i atal taliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.
Defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn i ddod o hyd i fanylion pensiwn personol neu bensiwn gweithle’r unigolyn.
Cysylltwch â Veterans UK os oedd gan yr unigolyn bensiwn lluoedd arfog.
Cerbydau a thrwyddedau gyrru
Cysylltwch â Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau (DVLA) os oedd gan yr unigolyn drwydded yrru neu os oedd yn berchen ar gerbyd.
HM Swyddfa Basport (HMPO)
Llenwch y ffurflen ‘Beth i’w wneud pan fydd deiliad pasbort yn marw’ a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Nawdd Cymdeithasol yr Alban
Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol yr Alban i ganslo budd-daliadau a hawliasau’r unigolyn gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban. Gallant hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd.
Rhadffôn: 0800 182 2222
Ffôn (os ydych y tu allan i’r DU): +44 (0)1382 931 000 - mae taliadau’n berthnasol ond gallwch ofyn iddynt eich ffonio’n ôl
ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm\
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)
Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os oedd yr unigolyn yn ad-dalu benthyciadau myfyriwr iddynt.
6. Trefnu yr angladd
Fel arfer dim ond ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru y gellir cynnal yr angladd oni bai bod y farwolaeth wedi’i riportio i grwner.
Gallwch dalu i drefnydd angladdau drefnu’r angladd neu ei wneud eich hun.
Dylech wirio a oedd yr unigolyn a fu farw wedi gwneud trefniadau ar gyfer ei angladd - gallai hyn gynnwys cynlluniau angladd rhagdaledig neu yswiriant bywyd. Gallwch wirio hyn gyda threfnwyr angladdau lleol.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Trefnwyr angladdau
Bydd trefnydd angladdau yn darparu cyngor a chymorth pan fyddwch yn trefnu angladd.
Os ydych yn llogi trefnydd angladdau, gallwch ddewis trefnydd angladdau sy’n aelod o:
Mae gan y sefydliadau hyn godau ymarfer - dylent roi rhestr o brisiau i chi pan fyddwch yn dewis eu gwasanaethau.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld os oes ganddynt eu gwasanaeth angladdau eu hunain. Mae rhai cynghorau lleol yn gwneud hyn ochr yn ochr â threfnwyr angladdau lleol, er enghraifft, ar gyfer claddedigaethau digrefydd.
²Ñ²¹±ð’r a hefyd yn gallu helpu gydag angladdau digrefydd.
Trefnu’r angladd eich hun
Gallwch ddewis trefnu angladd eich hun.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am:Â
- brynu plotiau claddu
- cysylltu â gwasanaethau amlosgi
- costau angladdau
Amlosgiadau
Mae yna ffurflenni gwahanol i chi eu llenwi gan ddibynnu ar lle digwyddodd y farwolaeth.
Cysylltwch â’ch cyngor neu amlosgfa leol os oes arnoch angen cymorth gyda’ch cais.
Costau angladd
Gall costau angladd gynnwys:
- ffioedd trefnydd angladdau
- pethau y mae’r trefnydd angladdau yn talu amdanynt ar eich rhan (a elwir yn ‘alldaliadau’ neu ‘gostau trydydd parti’), er enghraifft yr unigolyn fydd yn cynnal y gwasanaeth angladd, ffioedd yr amlosgfa neu fynwent neu gyhoeddiad papur newydd am y farwolaeth
- ffioedd claddu neu amlosgi awdurdodau lleol
Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i drefnwyr angladdau gyhoeddi rhestr brisiau ar gyfer y gwasanaethau a’r cynnyrch cyffredinol maent yn cynnig
Mae gan ÒÁÈËÖ±²¥Helper .
Talu am angladd
Gellir talu am yr angladd:
- o gynllun ariannol roedd gan yr unigolyn, er enghraifft, cynllun angladd neu bolisi yswiriant wedi’i dalu ymlaen llaw
- gennych chi, neu aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau
- gydag arian o ystad yr unigolyn (cynilion, er enghraifft) - gelwir cael mynediad at hyn yn gwneud cais am ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir weithiau’n ‘gwneud cais am brofiant’)
Gallwch wneud cais am Daliad Costau Angladd os ydych yn cael anhawster talu am yr angladd.
Yn Lloegr, gall Children’s Funeral Fund for England helpu i dalu am rai o gostau angladd ar gyfer plentyn dan 18 oed neu baban marw-anedig ar ôl 24 wythnos y beichiogrwydd.
Symud corff ar gyfer angladd dramor
Rydych angen caniatâd gan grwner i symud corff ar gyfer angladd dramor. Rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os yw crwner yn ymchwilio i’r farwolaeth.
Gwnewch gais o leiaf 4 diwrnod cyn eich bod am i’r corff gael ei symud.
Dewch o hyd i grwner lleol gan ddefnyddio .
Mae yna broses wahanol ar gyfer:
7. Beth i'w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw
Beth i’w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw
Rhaid i chi gofrestru’r farwolaeth yn y ffordd arferol, ond efallai y bydd angen i chi roi gwybod am farwolaeth plentyn i sefydliadau eraill yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae gwahanol reolau ar gyfer cofrestru farw enedig.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Budd-dal Plant
Dylech ddweud wrth y swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os ydych chi’n hawlio Budd-dal Plant.
Bydd taliadau Budd-dal Plant fel arfer yn parhau am 8 wythnos ar ôl marwolaeth plentyn.
Efallai y byddwch yn dal i allu hawlio Budd-dal Plant os bu farw’ch plentyn cyn i chi wneud cais.
Os bydd baban newydd-anedig yn marw
Mae gennych hawl i hyd at 8 wythnos o Fudd-dal Plant os ydych yn gwneud cais o fewn 3 mis ar ôl y farwolaeth.
Os bu farw’r plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni ynddo, mae’r 8 wythnos yn dechrau o’r dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.
Os yw plentyn yn farwanedig
Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Plant os yw’r plentyn yn farwanedig.
Credydau Treth
Os ydych yn hawlio credydau treth a bod eich plentyn yn marw, gall eich taliadau newid. Bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EF (HMRC) o fewn mis ar ôl y farwolaeth. Os na wnewch fe allech chi:
- orfod talu gordaliadau yn ôl
- peidio â chael yr holl arian sy’n ddyledus i chi
Gallwch barhau i gael credydau treth am hyd at 8 wythnos yn dilyn y farwolaeth.
Os bu farw’r plentyn cyn i chi hawlio credydau treth, gallwch ddal hawlio (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig). Ffoniwch HMRC i wneud cais.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Gallwch gael y grant o hyd os ydych yn gymwys. Mae’n rhaid i chi wneud cais cyn pen 3 mis ar ôl yr enedigaeth.
Absenoldeb a thâl mamolaeth a thadolaeth
Byddwch yn dal yn gymwys i gael absenoldeb a thâl os yw eich baban:
- yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd
- yn marw ar ôl cael ei eni
Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl statudol mewn profedigaeth os ydych yn gyflogedig a naill ai bod:
- bod eich plentyn yn marw cyn iddynt gyrraedd 18 oed
- yn farw enedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd
Rhaid bod y farwolaeth neu’r farw enedig fod wedi digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020.
Taliadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Pan fydd plentyn yn marw, mae unrhyw arian yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant - gan gynnwys unrhyw daliadau gan y llywodraeth - fel arfer yn cael ei drosglwyddo i bwy bynnag sy’n etifeddu ystad y plentyn.
8. Cymorth a Chefnogaeth Profedigaeth
Mae profedigaeth yn brofiad personol a gall effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth a gwybodaeth am brofedigaeth gan y sefydliadau a ganlyn:
- am ffyrdd i reoli profedigaeth
- am gefnogaeth os ydych newydd gael profedigaeth
Gallwch ddod o hyd i rywun i siarad ag am brofedigaeth o’r sefydliadau canlynol:
- am gymorth parhaus dros y ffôn
- Mae yn cynnwys cymuned ar-lein i siarad ag eraill sy’n galaru, gwasanaeth cwnsela sgwrs fideo a chymorth galar neges testun wedi’i bersonoli
- am sgwrs fyw am ddim gydag ymgynghorydd profedigaeth
a phethau y gallai fod angen i chi eu gwneud, yn dibynnu ar yr amgylchiadau