Talu’ch bil treth Asesiad Syml
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n bosibl y cewch lythyr Asesiad Syml os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae arnoch Dreth Incwm nad oes modd ei didynnu oddi wrth eich incwm yn awtomatig
- mae arnoch £3,000 neu fwy i CThEF
- mae’n rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn y llythyr yn anghywir, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF cyn pen 60 diwrnod.
Gallwch ddysgu rhagor am eich bil treth Asesiad Syml, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir.
Sut i dalu
Gallwch wneud y canlynol:
Pryd i dalu
Os byddwch yn cael llythyr Asesiad Syml:
- cyn 31 Hydref 2025 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025) – mae’n rhaid i chi dalu yr hyn sydd arnoch erbyn 31 Ionawr 2026
- ar neu ar ôl 31 Hydref 2025 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025 neu unrhyw flwyddyn dreth flaenorol) – mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch cyn pen 3 mis i ddyddiad y llythyr hwn
Os na allwch dalu’ch bil treth Asesiad Syml mewn pryd
Bydd angen i chi gysylltu â CThEF. Efallai y bydd yn awgrymu eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch fesul rhandaliad. Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich cyfrif banc yn y DU
Gallwch wneud hyn dim ond pan fydd y dyddiad cau ar gyfer talu wedi mynd heibio.
Bydd CThEF yn gofyn y canlynol i chi:
- a allwch dalu’n llawn
- a oes unrhyw drethi eraill y mae angen i chi eu talu
- faint o arian rydych yn ei ennill
- faint rydych yn ei wario, fel arfer, bob mis
- pa gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych
Os oes gennych gynilion neu asedion, bydd CThEF yn disgwyl i chi ddefnyddio’r rhain i ostwng eich dyled cymaint â phosibl.
2. Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
-
cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi yn cael ei chodi os byddwch yn talu â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Os byddwch yn talu drwy eich cyfrif bancio ar-lein
Dim ond taliad ar unwaith y gallwch ei wneud drwy’ch cyfrif bancio ar-lein. Gall y taliad gymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Talu’ch bil treth Asesiad Syml ar-lein
Byddwn yn gofyn i chi a ydych am fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Mae mewngofnodi’n gadael i chi weld a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, ond rydych yn dal i allu talu heb fewngofnodi.
Os oes arnoch dreth o’r cyfnod cyn 6 Ebrill 2023, ni allwch weld na thalu treth gan ddefnyddio’ch Cyfrif Treth Personol.
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.
Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn neu ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Talu drwy ap CThEF
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio gwasanaeth bancio ar-lein eich banc, neu ap eich banc.
3. Talu drwy drosglwyddiad banc
Gallwch dalu gan ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn, Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.
Bydd angen y cyfeirnod talu sydd ar eich llythyr Asesiad Syml arnoch. Mae hwn yn 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Fel arfer, bydd taliadau yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel a ganlyn:
- Taliadau Cyflymach – ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- CHAPS – yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch bancÌý
- taliadau Bacs – cyn pen 3 diwrnod gwaithÌý
Gwiriwch amserau prosesu’ch banc, a’i derfynau o ran trafodion mwyaf, cyn i chi wneud taliad.
Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn, neu, gallwch ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd ar eich llythyr Asesiad Syml.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os ydych yn talu o gyfrif tramor
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Barclays Bank PLC
1 Churchill PlaceÌý
LlundainÌý
Y Deyrnas UnedigÌý
E14 5HP
4. Talu â siec
Gallwch dalu â siec drwy’r post. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:
CThEF
Direct
BX5 5BD
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec – mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.Ìý Bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.