Gwneud cais am, ac ymdrin â, Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Printable version

1. Os bydd eich plentyn yn cael babi

Os oes gan blentyn rydych chi’n gyfrifol amdano babi, gallant hawlio Budd-dal Plant neu gallwch hawlio ar ei ran ac ar ran ei fabi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os yw’ch plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, byddant yn cael:

Os ydych yn hawlio ar ei ran:

  • byddwch yn cael £17.25 yr wythnos am bob plentyn ychwanegol rydych yn hawlio ar ei ran - os byddwch yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, ni fyddwch yn cael unrhyw arian ychwanegol
  • ni fydd eich plentyn yn cael credydau Yswiriant Gwladol

Os yw’ch plentyn yn hawlio Budd-dal Plant, gallwch gasglu’r taliad ar ei ran trwy siarad â’u banc.

Gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant i un cyfrif yn unig. Gall hwn fod yn gyfrif ar y cyd rydych yn ei rannu gyda’ch plentyn, ond rhaid i’w enw fod ar y cyfrif hefyd.

2. Penodedigion

Gallwch wneud cais am yr hawl i ymdrin â Budd-dal Plant rhywun na all reoli ei faterion ei hun, er enghraifft os nad ydynt yn meddu ar alluedd meddyliol neu’n ddifrifol anabl.

Yr enw ar hyn yw dod yn ‘benodai’.

Gallwch wneud cais fel unigolyn neu fel sefydliad gwirfoddol.

Os ydych yn cael tâl am ymdrin â Budd-dal Plant rhywun arall, rydych yn cael eich adnabod fel ‘asiant taledig’.

Nid ydych yn benodai os ydych dim ond yn helpu rhywun i gwblhau ei ffurflen hawlio.

Sut i ddod yn benodai

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant i wneud cais. Byddant yn trafod os mai dod yn benodai yw’r opsiwn gorau a rhoi gwybod beth sy’n rhaid i chi ei wneud.

Gallwch drefnu gyda banc person arall neu’r Swyddfa Bost i gasglu ei daliadau heb ddod yn benodai.

Eich cyfrifoldebau

Fel penodai, dylech wneud pethau fel y canlynol:

Bydd y Budd-dal Plant yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc.

Sut i ddod yn asiant taledig

Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu ymdrin â Budd-dal Plant ar ei ran.

Stopio neu newid penodai neu asiant taledig

Ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen mis o’r dyddiad yr ydych am stopio neu newid y penodai.

3. Awdurdodiad

Bydd y Llinell Gymorth Budd-dal Plant dim ond yn gallu trafod hawliad â’r person a enwir ar y ffurflen hawlio (neu un sy’n benodai iddynt) Gall partner neu rywun arall gael cyngor cyffredinol ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u ‘hawdurdodi’ i drafod hawliad gyda’r llinell gymorth.

Mae’r broses yn wahanol os ydych yn gweithredu ar ran nifer o gleientiaid neu os ydych yn asiant taledig.

Cael awdurdodiad

Mae’n rhaid i’r hawliwr lenwi ffurflen CH105 (yn agor tudalen Saesneg), neu ysgrifennu llythyr â’r un wybodaeth, a’i anfon at y Swyddfa Credydau treth – mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Mae’r awdurdodiad yn para 12 mis oni bai bod dyddiad cau gwahanol yn cael ei nodi ar y ffurflen. Fel arfer mae’n cymryd 2 ddiwrnod i gael awdurdodiad o’r dyddiad y daw’r ffurflen i law. Fel arfer, ni fyddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r awdurdodiad.

Bydd hefyd angen bod ffurflen hawlio Budd-dal Plant yr hawliwr wedi cyrraedd y Swyddfa Budd-dal Plant.

Gellir awdurdodi mwy nag un person ond mae’n rhaid i bob un ohonynt gyflwyno ffurflen CH105.

Os ydych yn gweithredu ar ran nifer o gleientiaid

Ysgrifennwch at Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gofrestru fel ‘sefydliad sy’n gweithredu fel cyfryngwr’ os ydych yn gweithio yn y sector wirfoddol ac yn gweithredu ar ran nifer o bobl.

Gallwch gael os ydych yn sefydliad sy’n gweithredu fel cyfryngwr a’ch bod wedi cwblhau ffurflen TC689. Mae’n rhaid i chi gadw ffurflen TC689 eich cleient wedi’i chwblhau am 7 mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei harwyddo.

Os ydych yn asiant treth

Mae’n rhaid i’ch cleient anfon llythyr at y Swyddfa Budd-dal Plant, yn rhoi gwybod eich bod yn gallu ymdrin â Budd-dal Plant ar ei ran.

Fel y gallwch gael eich awdurdodi i ymdrin â materion Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel bydd hefyd rhaid iddynt lenwi ffurflen CH995.

Canslo awdurdodiad

Gellir canslo awdurdodiad drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant.