Budd-dal tai
Beth fyddwch yn ei gael
Efallai y cewch help gyda’ch rhent cyfan neu ran ohono. Nid oes unrhyw swm penodol o Fudd-dal Tai a bydd yr hyn a gewch yn dibynnu a ydych chi’n rhentu’n breifat neu gan gyngor.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan yr hyn y gallech ei gael neu i wirio pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.
Rhent cyngor a thai cymdeithasol
Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:
- eich rhent ‘cymwys’
- os oes gennych ystafell sbâr
- incwm eich cartref - gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
- eich amgylchiadau, er enghraifft oedran pobl yn y tÅ· neu os oes gan rywun anabledd
Rhent cymwys
Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch cais am Fudd-dal Tai. Eich rhent go iawn ydyw ynghyd ag unrhyw daliadau gwasanaeth y mae’n rhaid i chi eu talu (fel ar gyfer cynnal a chadw lifft neu olchfa gymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi neu ddŵr ar gyfer eich cartref.
Ystafelloedd gwely sbâr
Gellir lleihau eich Budd-dal Tai os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dai cymdeithasol a bod gennych ystafell wely sbâr. Y gostyngiad yw:
- 14% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 1 ystafell wely sbâr
- 25% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 2 ystafell wely sbâr neu fwy
Enghraifft
Eich rhent cymwys yw £100 yr wythnos, ond mae gennych 1 ystafell wely sbâr. Mae hynny’n golygu bod eich rhent cymwys yn cael ei ostwng gan14%, i £86 yr wythnos. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r ffigwr hwnnw.
Rhannu ystafelloedd gwely
Disgwylir i’r canlynol rannu:
- cwpl sy’n oedolion
- 2 blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
- 2 blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo’u rhyw)
Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:
- oedolyn sengl (16 oed neu’n hŷn)
- plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes yn cael eu defnyddio, er enghraifft mae gennych chi 3 phlentyn a 2 eisoes yn rhannu
- cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
- gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall - dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi y mae hyn ond weithiau’n gorfod aros dros nos
Caniateir un ystafell wely sbâr ar gyfer:
- gofalwr maeth cymeradwy sydd rhwng lleoliadau ond dim ond am hyd at 52 wythnos o ddiwedd y lleoliad diwethaf
- gofalwr maeth newydd ei gymeradwyo am hyd at 52 wythnos o ddyddiad y gymeradwyaeth os na roddir plentyn gyda nhw yn ystod yr amser hwnnw
Ni fydd ystafelloedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog neu wrth gefn yn cael eu cyfrif fel rhai ‘sbâr’ os ydyn nhw i ffwrdd ac yn bwriadu dychwelyd adref.
Rhent preifat
Os ydych yn rhentu’n breifat, eich swm rhent cymwys yw naill ai’ch cyfradd neu’ch rhent gwirioneddol, p’un bynnag sydd isaf. ²Ñ²¹±ð’r gyfradd LHA yn seiliedig ar:
- lle rydych yn byw
- maint eich cartref -
Faint allwch ei gael
Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:
- ffigwr isaf eich rhent ‘cymwys’ neu gyfradd LHA
- incwm eich cartref gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
- eich amgylchiadau (er enghraifft eich oedran neu a oes gennych anabledd)
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os ydych yn byw mewn:
- cwch tÅ· neu angorfa
- safle carafanau
- ystafell gydag unrhyw brydau bwyd wedi’u cynnwys yn y rhent (a elwir weithiau’n gartref preswyl)
- hostel
- eiddo a ddiogelir gan y Ddeddf Rhent
Eithriad
Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008, mae’r cyfyngiadau hyn ond yn berthnasol os ydych yn:
- newid cyfeiriad
- cael seibiant yn eich cais am Fudd-dal Tai
Sut rydych yn cael eich talu
²Ñ²¹±ð’r ffordd rydych yn cael Budd-dal Tai wedi’i ddalu gan eich cyngor yn dibynnu ar y math o denant ydych chi.
Os ydych yn:
- tenant y cyngor, mae’n cael ei dalu i’ch cyfrif rhent (ni fyddwch yn derbyn yr arian)
- tenant preifat neu gymdeithas dai, mae’n cael ei dalu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (anaml gyda siec)
Y cap ar fudd-daliadau
²Ñ²¹±ð’r cap ar fudd-dal yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych wedi’ch effeithio, bydd eich Budd-dal Tai yn gostwng i sicrhau nad yw cyfanswm y budd-dal a gewch yn fwy na lefel y cap. Defnyddiwch y cyfrifiannell cap budd-daliadau i ddarganfod sut mae’r cap ar fudd-dal yn effeithio arnoch chi.
Apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai.