Cael rhif EORI

Printable version

1. Pwy sydd angen EORI

Mae’n bosibl y bydd angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI) arnoch os ydych yn symud nwyddau:

  • rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu Ynys Manaw ac unrhyw wlad arall (gan gynnwys yr UE)

  • rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

  • rhwng Prydain Fawr ac Ynysoedd y Sianel

  • rhwng Gogledd Iwerddon a gwledydd y tu allan i’r UE

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen rhif EORI arnoch hefyd i gofrestru ar gyfer trwydded allforio ar SPIRE (yn agor tudalen Saesneg).

Nid oes angen rhif EORI arnoch os ydych yn symud nwyddau sy’n bodloni’r ddau amod canlynol:

  • nid yw’r nwyddau o dan reolaeth

  • maent at ddefnydd personol yn unig

Os yw’ch busnes wedi’i leoli (wedi’i ‘sefydlu’) yn y wlad yr ydych yn symud nwyddau iddi neu ohoni

I gael rhif EORI, fel arfer mae’n rhaid i’ch busnes fod â safle sydd wedi’i leoli yn y wlad yr ydych am fewnforio iddi neu allforio ohoni – yr enw ar hyn yw ‘bod wedi’ch sefydlu’. Mae angen i’ch safle fod yn un o’r canlynol:

  • swyddfa gofrestredig

  • pencadlys canolog

  • sefydliad busnes parhaol – safle ble mae rhai o’ch gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thollau yn digwydd a ble ³¾²¹±ð’c³ó adnoddau dynol a’ch adnoddau technegol wedi’u lleoli’n barhaol

Os nad yw’ch busnes wedi’i leoli yn y wlad yr ydych yn symud nwyddau iddi neu ohoni

Dylech gael rhif EORI o hyd os ydych:

Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am rif EORI eich hun, bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg). Bydd yn rhaid i’r person yr ydych yn ei benodi gael y rhif EORI yn eich lle chi.

Os ydych wedi’ch lleoli yn Ynysoedd y Sianel a’ch bod yn symud nwyddau i’r DU neu oddi yno, nid oes angen rhif EORI arnoch. Bydd angen rhif EORI arnoch os ydych yn defnyddio systemau tollau CThEF, megis System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Pryd bydd angen eich rhif EORI arnoch

Bydd angen eich rhif EORI arnoch os byddwch yn:

2. Gwirio pa rif EORI sydd ei angen arnoch

Mae’r gwledydd yr ydych yn symud nwyddau iddynt ac oddi wrthynt yn dylanwadu ar y math o rif EORI y bydd ei angen arnoch ac o ble y byddwch yn ei gael. Efallai y bydd angen mwy nag un arnoch.

Os nad oes gennych y rhif EORI cywir, efallai y bydd oedi wrth gyrraedd y tollau a chostau uwch, er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid storio’ch nwyddau nes i chi gael EORI.

Os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr neu oddi yno

Os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr neu oddi yno, mae’n rhaid i chi gael rhif EORI sy’n dechrau gyda GB. Os oes rhif EORI gennych eisoes ac nad yw’n dechrau gyda GB, mae’n rhaid i chi wneud cais am rif EORI GB.

Os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno

Mae’n bosibl y bydd angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI arnoch os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno.

Nid oes angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI arnoch os oes gennych eisoes rif EORI o wlad yn yr UE.

Os bydd eich busnes yn gwneud datganiadau tollau neu’n cael penderfyniad tollau yn yr UE

I wneud datganiad neu i gael penderfyniad tollau yn yr UE, bydd angen y naill neu’r llall o’r canlynol arnoch:

Bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdod tollau mewn gwlad yn yr UE os bydd angen rhif EORI yr UE arnoch.

Os na allwch gael rhif EORI y gellir ei ddefnyddio yn yr UE, bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).

3. Os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno

Fel arfer, bydd arnoch angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI) sy’n dechrau gydag XI i wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)

  • symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad arall nad yw’n rhan o’r UE

  • gwneud datganiad yng Ngogledd Iwerddon

  • gwneud cais am benderfyniad tollau yng Ngogledd Iwerddon

Dim ond rhai nwyddau a symudwch o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr y mae angen i chi eu datgan. Gwiriwch a oes angen i chi wneud datganiad allforio ac a fydd arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI.

Dim ond pobl neu sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE sy’n gallu cael eu henwi fel y ‘datganydd’ ar ddatganiadau mewnforio ac allforio a wneir yng Ngogledd Iwerddon.

Pan nad oes arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI

Nid oes arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gydag XI os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych rif EORI UE eisoes

  • rydych yn symud nwyddau ar ynys Iwerddon neu rhwng Gogledd Iwerddon a gwlad yn yr UE yn unig

  • ³¾²¹±ð’c³ó busnes wedi’i ‘sefydlu’ (â safle) mewn gwlad yn yr UE ond nid yng Ngogledd Iwerddon – yn yr achos hwn, mae’n rhaid i chi wneud cais yn y wlad honno yn yr UE

Os nad yw’ch busnes wedi’i sefydlu (heb safle) yng Ngogledd Iwerddon na’r UE

Mae angen i chi gofrestru gyda’r awdurdodau tollau yn y man lle rydych yn gwneud datganiad am y tro cyntaf neu’n gwneud cais am benderfyniad.

Sut i wneud cais

Ewch ati i gael gwybod sut i wneud cais am rif EORI XI.

Help a chyngor os ydych yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor ar rifau EORI ac ar symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Ewch ati i gael rhagor o arweiniad ar symud nwyddau i Ogledd Iwerddon ac oddi yno (yn agor tudalen Saesneg).

4. Gwneud cais am rif EORI

Gwneud cais am rif EORI sy’n dechrau gyda GB

I wneud cais am rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI), bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) – dewch o hyd i’ch UTR os nad ydych yn gwybod beth ydyw

  • dyddiad dechrau’ch busnes a’r cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) – mae’r rhain ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg)

  • eich rhif TAW a’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym (os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW) – mae’r rhain ar eich tystysgrif cofrestru TAW

  • eich rhif Yswiriant Gwladol – os ydych yn unigolyn neu’n unig fasnachwr

Os nad yw’ch busnes wedi’i leoli yn y DU, nid oes arnoch angen Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) na Rhif Yswiriant Gwladol.

Bydd angen i chi fewngofnodi i wneud cais. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Cewch eich rhif EORI GB ar unwaith, oni bai bod angen i CThEF wneud unrhyw wiriadau ar eich cais. Os bydd angen i CThEF wneud hyn, gall gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith.

Gwneud cais am rif EORI sy’n dechrau gydag XI

Cyn i chi wneud cais, gwiriwch eich bod yn gymwys i gael rhif EORI XI.

Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais am rif EORI GB cyn y gallwch gael rhif EORI XI.

Ar ôl i chi gael eich rhif EORI GB, bydd yn rhaid i chi .

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • eich rhif TAW XI (os oes un gennych)

  • unrhyw rifau TAW a gyhoeddwyd gan wlad yn yr UE

  • 2 ddogfen sy’n dangos tystiolaeth o’ch sefydliad busnes parhaol yng Ngogledd Iwerddon – er enghraifft, cyfriflen banc a bil cyfleustodau

Ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth o sefydliad busnes parhaol yng Ngogledd Iwerddon os yw’r canlynol yn berthnasol:

Cewch eich rhif EORI XI cyn pen 5 niwrnod.

Gwirio statws cais

Gallwch .

5. Rhoi gwybod am newid neu ganslo rhif EORI

Mae sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau yn dibynnu ar:

  • os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW

  • pa fath o rif EORI mae’r newid yn ei gylch (GB neu XI)

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW

Yn dibynnu ar a ydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW neu a ydych wedi newid rhai o’ch manylion, mae yna gamau gwahanol i’w dilyn.

Os ydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW

Bydd CThEF yn canslo’ch rhif EORI ar yr un pryd.

Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r canlynol mwyach:

  • awdurdodiadau’r tollau sydd gennych (er enghraifft, eich awdurdodiad Marchnad Fewnol y DU) 

  • trwyddedau sy’n gysylltiedig â’ch rhif EORI

Os oes angen rhif EORI arnoch o hyd, bydd angen i chi wneud cais arall am un.

Er mwyn parhau i ddefnyddio’ch awdurdodiadau’r tollau, cysylltwch â’r swyddfa goruchwylio ar gyfer eich math o awdurdod. Bydd y manylion ar y llythyr a gawsoch pan roddwyd awdurdod i chi.

Er mwyn parhau i ddefnyddio unrhyw drwyddedau, cysylltwch â’r adrannau o’r Llywodraeth a anfonodd y drwydded.

Os gwnaethoch newid eich manylion

Os ydych yn newid unrhyw un o’r canlynol, rhowch wybod i CThEF drwy’ch cyfrif TAW ar-lein er mwyn iddynt allu diweddaru’ch cofnod EORI:

  • enw’r busnes

  • cyfeiriad y busnes 

  • yr enw masnachu

  • rhif ffôn y busnes

Ar gyfer unrhyw newidiadau eraill, neu os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi lenwi ffurflen wahanol. Mae yna ffurflenni ar wahân ar gyfer rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB a rhifau EORI sy’n dechrau gydag XI.

Ar gyfer rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB

I ddiweddaru’ch manylion, llenwch y .

I ganslo’ch rhif, llenwch y .

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaethau hyn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Os byddwch yn gofyn i ganslo’ch rhif EORI sy’n dechrau â GB, bydd eich rhif EORI sy’n dechrau gydag XI hefyd yn cael ei ganslo.

Ar gyfer rhifau EORI sy’n dechrau gydag XI

Llenwch i ddiweddaru’ch:

  • Sefydliad Busnes Parhaol yng Ngogledd Iwerddon

  • Cyfeirnod TAW yr Undeb Ewropeaidd

  • Cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol

  • Manylion ar gyfer Wiriwr Dilysu EORI yr UE

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon i ganslo rhif EORI sy’n dechrau gydag XI.

I ddiweddaru manylion eraill, llenwch y .

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaethau hyn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

6. Help

Os oes gennych gwestiwn am rif EORI, gallwch . Byddwch yn cael ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Arhoswch 5 diwrnod gwaith cyn cysylltu â CThEF ynglŷn â statws eich cais am rif EORI.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am wneud cais am rif EORI neu os oes angen unrhyw help arall arnoch, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os na allan nhw ateb eich cwestiwn, fe fyddan nhw’n ei anfon ymlaen i’r tîm EORI a fydd yn ymateb cyn pen 5 diwrnod gwaith.