Credyd Cynhwysol
Printable version
1. Beth yw Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i’ch helpu gyda’ch costau byw. Mae’n cael ei dalu’n fisol – neu ddwywaith y mis i rai pobl yn yr Alban.
Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel, allan o waith neu ni allwch weithio.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ewch i .
Mewngofnodi
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes gennych un yn barod.
Os ydych yn cael budd-daliadau’n barod
Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau canlynol:
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai:
- bod eich amgylchiadau yn newid
- rydych yn derbyn llythyr a elwir yn ‘Hysbysiad Trosglwyddo’ yn dweud wrthych fod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, mae’n rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad terfyn amser yn eich llythyr i barhau i gael cymorth ariannol.
Bydd y budd-daliadau hyn yn dod i ben pan rydych chi neu’ch partner yn hawlio Credyd Cynhwysol. Os ydych chi neu’ch partner yn cael Credyd Pensiwn, bydd hwn hefyd yn dod i ben os yw un ohonoch yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Byddwch yn parhau i gael unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael, fel Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Gofalwr. Â
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol eraill ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol, bydd y swm o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael yn cael ei leihau.
2. Cymhwyster
Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen help gyda’ch costau byw. Gallech fod:
- allan o waith
- yn gweithio (gan gynnwys hunangyflogaeth a rhan amser)
- yn methu gweithio, er enghraifft oherwydd cyflwr iechyd
I wneud cais rhaid i chi fod:
- yn byw yn y DU
- yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych chi rhwng 16 a 17 oed)
- o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- â £16,000 neu lai mewn arian, cynilion a buddsoddiadau
Mae rheolau cymhwysedd gwahanol os ydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael.
Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, yr AEE neu’r Swistir
Efallai y bydd angen statws sefydlog neu wedi’i setlo ymlaen llaw arnoch chi a’ch teulu o dan Gynllun Setliad yr UE i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.
Os ydych chi’n byw gyda’ch partner
Bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Rhaid i chi wneud cais ar y cyd am eich cartref, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys. Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch incwm chi.
Os yw un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi a’ch partner hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl o hyd. Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn bydd hwn yn dod i ben os ydych chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fel arfer byddwch well eich byd yn aros ar Gredyd Pensiwn, gallwch wirio gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.
Os ydych chi’n astudio neu mewn hyfforddiant
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi mewn addysg amser llawn ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych chi’n byw gyda’ch partner ac maen nhw’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- rydych chi’n gyfrifol am blentyn, naill ai fel person sengl neu fel cwpl
- rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch hefyd hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n 21 neu’n iau, yn astudio unrhyw gymhwyster hyd at Lefel A neu gyfwerth ac nad oes gennych gefnogaeth rhieni.
Efallai y gallwch hawlio os ydych chi’n astudio’n rhan-amser neu’n gwneud cwrs nad oes benthyciad na chyllid myfyriwr ar gael ar ei gyfer.
Gwiriwch y canllawiau ynghylch hawlio Credyd Cynhwysol fel myfyriwr.
Myfyrwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd
Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych mewn addysg llawn-amser, ac wedi cael eich asesu fel bod â gallu cyfyngedig i weithio gan Asesiad Gallu i Weithio cyn dechrau eich cwrs. Rhaid i chi hefyd fod â hawl i unrhyw un o’r canlynol:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Taliad Plant Anabl (CDP) yn yr Alban
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban
- Taliad Anabledd Oedran Pensiwn (PADP) yn yr Alban
Hawlio os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd a bod gennych dystiolaeth feddygol ar ei gyfer, fel nodyn ffitrwydd
- rydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agosà u at ddiwedd oes
- yn gyfrifol am blentyn
- rydych chi’n byw gyda’ch partner, mae gennych gyfrifoldeb am blentyn ac mae’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- rydych chi’n feichiog ac yn disgwyl eich babi yn yr 11 wythnos nesaf
- rydych chi wedi cael babi yn ystod y 15 wythnos ddiwethaf
- nid oes gennych gefnogaeth rhieni, er enghraifft nid ydych yn byw gyda’ch rhieni ac nid ydych o dan ofal awdurdod lleol
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio efallai y cewch arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn y lluoedd arfog
Os ydych yn y lluoedd arfog ac wedi’ch lleoli dramor, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad penodol pan fyddwch yn gwneud cais
3. Beth fyddwch yn ei gael
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol. Mae faint byddwch yn ei gael yn dibynnu ar:
- eich lwfans safonol
- unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi
- unrhyw arian sy’n cael ei gymryd o’ch taliad
- os ydych yn gweithio, faint rydych yn ei ennill
Gwelwch faint gallwch ei gael gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.
Lwfans safonol
Byddwch yn cael un lwfans safonol ar gyfer eich aelwyd.
Faint byddwch yn ei gael | Lwfans safonol misol |
---|---|
Sengl ac o dan 25 oed | £316.98 |
Sengl a 25 oed neu drosodd | £400.14 |
Mewn cwpl ac mae’r ddau ohonoch o dan 25 oed | £497.55 (i’r ddau ohonoch) |
Mewn cwpl ac mae un ohonoch yn 25 oed neu drosodd | £628.10 (i’r ddau ohonoch) |
Symiau ychwanegol
Efallai y cewch fwy o arian ar ben eich lwfans safonol os ydych yn gymwys.
Bydd angen i chi roi gwybod am newidiadau pan fyddwch yn dod yn gymwys i gael swm ychwanegol. Nid ydynt yn cael eu hychwanegu yn awtomatig.
Er enghraifft, os byddwch yn dod yn ofalwr mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) er mwyn i chi gael elfen gofalwr Credyd Cynhwysol. Nid yw’n cael ei gymhwyso’n awtomatig os byddwch yn dechrau cael Lwfans Gofalwr.
Os oes gennych blant
Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer eich plentyn os ydynt yn byw gyda chi. Byddwch yn cael y swm ychwanegol hyd at y 31 Awst ar ôl ei:
- ben-blwydd yn 16 oed
- ben-blwydd yn 19 oed, os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymwys - er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU, Lefelau A, BTEC, Scottish Highers a SVQs neu NVQs hyd at lefel 3.
Byddwch ond yn cael y swm ychwanegol ar gyfer eich plentyn cyntaf a’ch ail blentyn. Ni fyddwch yn cael y swm ychwanegol am ragor o blant oni bai:
- bod eich plant wedi’u geni cyn 6 Ebrill 2017
- roeddech yn barod yn hawlio am 3 neu fwy o blant cyn 6 Ebrill 2017
- mae eithriadau eraill yn berthnasol
Os oes gan eich plentyn anabledd
Efallai y byddwch yn cael swm misol ychwanegol os oes gan unrhyw un o’ch plant anabledd. Byddwch yn cael y swm ychwanegol hwn ni waeth faint o blant sydd gennych.
Byddwch yn cael:
- £158.76 os cewch y gyfradd is
- £495.87 os cewch y gyfradd uwch
Mae’r swm fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar y budd-daliadau y mae eich plentyn yn eu derbyn ac a oes ganddo/ganddi anableddau penodol.
Costau gofal plant
Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gweithio. Os ydych yn byw gyda’ch partner rhaid i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith, oni bai bod un ohonoch yn methu â gweithio oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.
Mae angen i’r gofal plant ddod gan ddarparwr cofrestredig. Gallwch gael help i dalu am ofal plant gan gynnwys meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau brecwast, gofal ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.
Y mwyaf y gallwch ei gael bob mis yw:
- £1,031.88 am un plentyn
- £1,768.94 am 2 blentyn neu fwy
Mae angen i chi dalu eich costau gofal plant ymlaen llaw a hawlio’r arian yn ôl fel rhan o’ch taliad. Gallwch gael cymorth i helpu talu eich costau gofal plant ymlaen llaw. Siaradwch â’ch anogwr gwaith ar ôl gwneud eich cais.
Darllenwch fwy am gostau gofal plant a Chredyd Cynhwysol.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Faint fyddwch yn ei gael | Swm ychwanegol y mis |
---|---|
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith | £423.27 |
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio ac wedi dechrau eich cais Credyd Cynhwysol yn gysylltiedig ag iechyd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyn 3 Ebrill 2017 | £158.76 |
Os ydych yn byw gyda’ch partner ac os oes gan y ddau ohonoch allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, dim ond un swm misol ychwanegol fyddwch chi’n ei gael.
Os cewch y premiwm anabledd difrifol ac rydych yn symud i Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch hefyd yn gymwys am daliad ‘amddiffyn wrth bontio’.
Darllenwch fwy am gyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol.
Os ydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd
Gallwch gael swm ychwanegol a elwir yn ‘elfen goflwr’. Caiff hwn ei ychwanegu i’ch Credyd Cynhwysol os ydych yn gofalu am rywun sy’n cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gweini Cyson – cyfradd dydd llawn, cyfradd canolraddol neu gyfradd eithriadol gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Gweini Cyson – cyfradd dydd llawn gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel
- Lwfans Byw i’r Anabl – cyfradd gofal canol neu uwch
- Taliad Annibyniaeth Personol – unrhyw gyfradd o’r elfen bywyd bob dydd
Mae angen i chi ddarparu gofal iddynt am o leiaf 35 awr yr wythnos.
Byddwch yn cael swm ychwanegol misol o £201.68. Os ydych yn byw gyda’ch partner ac mae’r ddau ohonoch yn gofalu am yr un person, byddwch ond yn cael un swm ychwanegol misol.
Efallai byddwch hefyd yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr
Mae hyn ar ben unrhyw swm ychwanegol rydych yn ei gael os oes gennych blentyn anabl.
Os yw’r person rydych yn gofalu amdano yn cael y premiwm anabledd difrifol, bydd yn dod i ben pan fyddwch yn hawlio elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.
Costau tai
Gallech gael arian i helpu i dalu eich costau tai. Gall y taliad gwmpasu rhent a rhywfaint o daliadau gwasanaeth.
Os ydych yn berchen ar eich cartref, efallai y gallech gael benthyciad i helpu gyda thaliadau llog ar eich morgais.
Arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad
Efallai caiff eich taliad ei leihau os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn talu taliad ymlaen llaw ar daliad Credyd Cynhwysol yn ôl
- byddwch wedi cael y swm sy’n cael ei gyfyngu gan y cap ar fudd-daliadau
- rydych wedi cael eich gordalu budd-dal yn y gorffennol
- rydych yn ddyledus am Dreth Cyngor, dirwyon llys, ynni, nwy, dŵr neu Gynhaliaeth Plant
- rydych yn talu eich bil ynni neu nwy yn uniongyrchol o’ch taliad Credyd Cynhwysol
- mae gennych swydd â thâl
- mae gennych incwm arall - er enghraifft, arian o bensiynau neu fudd-daliadau penodol eraill
- mae gennych fwy na £6,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau
Os oes gennych dros £6,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau, bydd eich taliad yn cael ei leihau £4.35 am bob £250 sydd gennych rhwng £6,000 a £16,000. Mae £4.35 arall yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw swm sy’n weddill nad yw’n £250 cyflawn.
Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Budd-daliadau sy’n effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n ei gael Â
Gallwch gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd â budd-daliadau eraill. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan swm sy’n hafal i daliad y budd-dal arall. Mae hyn yn berthnasol pan fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol ac unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol: Â
- Pensiynau’r Lluoedd Arfog
- Lwfans Gofalwr Â
- Taliad Cymorth i Ofalwyr (Yr Alban)
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (ac eithrio unrhyw gynnydd lle mae angen gweini cyson ac am analluogrwydd eithriadol o ddifrifol)
- Lwfans Mamolaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd
- Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Mam Weddw
- Lwfans Rhiant Gweddw
Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol am 2 wythnos yn fwy. Rhaid eich bod yn gymwys am eich budd-dal presennol.
Mae hwn ond yn berthnasol os ydych yn cael:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
Ni fydd angen i chi dalu’r taliadau ychwanegol yn ôl ac ni fyddent yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.
Os ydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, efallai byddwch hefyd yn cael taliad ‘amddiffyniad trosianol’
Cymorth arall y gallech ei gael
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai y gallwch gael cymorth ariannol arall yn dibynnu ar eich amgylchiadau
Os bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu
 Mae’n bosibl y bydd eich cais yn cael ei adolygu i wneud yn siŵr eich bod yn cael y taliad a’r cymorth cywir. Darganfyddwch fwy am Adolygiadau Credyd Cynhwysol.
4. Sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau
Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Nid oes terfyn ar faint o oriau y gallwch weithio a pharhau i gael Credyd Cynhwysol.
Os bydd eich cyflog yn mynd i fyny, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau. Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithio neu os bydd eich cyflog yn gostwng, bydd eich taliad yn cynyddu.
Mae rheolau gwahanol os ydych yn hunangyflogedig.
Am bob £1 rydych yn ei ennill drwy weithio, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn mynd i lawr 55c. Eich incwm fydd eich cyflog a’ch taliad Credyd Cynhwysol newydd.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld sut mae eich Credyd Cynhwysol yn newid os yw eich cyflog yn mynd i fyny.
Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn rhoi gwybod am eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.
Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu blant
Gallwch ennill swm penodol cyn mae eich Credyd Cynhwysol yn dechrau cael ei leihau os ydych chi neu’ch partner naill ai:
- yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc
- gydag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio eich gallu i weithio
Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith’.
Cyfrifo eich lwfans gwaith
Mae faint y gallwch ei ennill cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei leihau yn dibynnu a ydych yn cael help gyda chostau tai.
Gallwch ennill hyd at £411 y mis cyn i’ch taliad ddechrau lleihau os ydych naill ai’n:
- cael help gyda chostau tai trwy Gredyd Cynhwysol
- byw mewn llety dros dro a drefnwyd gan eich cyngor oherwydd eich bod yn ddigartref
Os nad yw un o’r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, gallwch ennill hyd at £684 y mis cyn i’ch taliad ddechrau lleihau
Pa mor aml a faint rydych yn cael eich talu
Cyfrifir swm y Credyd Cynhwysol a gewch bob mis. Gelwir hyn yn ‘cyfnod asesu misol’.
Dylai eich swm Credyd Cynhwysol aros yr un fath os:
- yw eich cyflogwr yn talu’r un swm i chi bob mis
- yw eich cyflogwr yn eich talu ar yr un dyddiad
- nad yw eich amgylchiadau personol yn newid
Bydd eich swm Credyd Cynhwysol yn cael ei effeithio os:
- nad ydych yn cael eich talu yn ystod cyfnod asesu misol
- ydych yn cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu misol
- ydych yn ennill swm gwahanol ym mhob cyfnod asesu misol
Gallwch wirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn cael eich talu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.
Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol ac enillion.
Os yw eich taliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben oherwydd bod eich cyflog wedi cynyddu
Wrth i’ch cyflogau chi neu eich partner gynyddu, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn lleihau nes eich bod yn ennill digon i beidio â chael Credyd Cynhwysol mwyach. Yna bydd eich taliadau yn cael eu stopio. Cewch eich hysbysu pan fydd hyn yn digwydd.
Os bydd eich cyflog yn gostwng ar ôl hyn, gallech ddod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol eto.
Os yw wedi bod yn 6 mis neu lai ers eich taliad Credyd Cynhwysol diwethaf, byddwch yn dechrau cael taliadau eto’n awtomatig. Os yw wedi bod yn fwy na 6 mis, bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.
5. Sut rydych yn cael eich talu
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith y mis, fel arfer i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Gall eich taliad gynnwys swm am eich rhent neu gostau tai eraill. Byddwch fel arfer angen talu hwn i’ch landlord.
Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.
Darganfyddwch sut y byddwch yn cael eich talu os .
Eich taliad cyntaf
Fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf. Os oes angen arian arnoch tra byddwch yn aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.
Eich cyfnodau asesu misol
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘cyfnodau asesu’. Fel arfer byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol 7 diwrnod ar ôl i bob cyfnod asesu ddod i ben.
Gall newidiadau i’ch amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am eich cyfnod asesu. Dylech roi wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau er mwyn cael y swm cywir.
Mae eich cyfnod asesu cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn gwneud eich cais.
Enghraifft
Mae Sam yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 10 Medi.
Mae cyfnod asesu cyntaf Sam yn rhedeg am fis hyd at 9 Hydref, gyda chyfnod asesu newydd yn dechrau ar 10 Hydref.
Byddent yn cael eu talu ar 17 Hydref ac yna’r 17eg o bob mis ar ôl hynny.
Dyddiadau talu
Ar ôl y taliad cyntaf byddwch yn cael eich talu ar yr un dyddiad bob mis.
Os yw’ch dyddiad talu ar benwythnos neu wyliau banc, cewch eich talu ar y diwrnod gwaith blaenorol.
Gallwch weld eich datganiad misol yn eich cyfrif ar-lein. Mae hwn yn dweud wrthych faint o Gredyd Cynhwysol byddwch yn ei gael.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Gallwch gael eich talu unwaith neu dwywaith y mis.
Os ydych yn gwneud cais newydd, byddwch yn derbyn hysbysiad am ba mor aml rydych eisiau cael eich talu. Rydych yn cael hwn ar ôl eich taliad cyntaf.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol yn barod a heb gael hysbysiad, gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith os gallwch gael eich talu ddwywaith y mis.
Pan fyddwch yn cael eich talu ddwywaith y mis, bydd eich taliad cyntaf am fis llawn. Fe gewch hanner cyntaf taliad eich ail fis mis ar ôl hyn. Bydd yr ail hanner yn cael ei dalu 15 diwrnod yn hwyrach. Mae hyn yn golygu y bydd tua mis a hanner rhwng eich taliad cyntaf a’r swm llawn ar gyfer eich ail fis.
Ar ôl hyn, cewch eich talu ddwywaith y mis.
Enghraifft
Rydych yn cael eich taliad cyntaf ar 14 Rhagfyr. Mae’r taliad hwn am fis llawn.
Os cewch eich talu ddwywaith y mis, cewch hanner eich ail daliad ar 14 Ionawr a’r hanner arall ar 29 Ionawr.
Byddwch yn cael eich talu ar y 14eg a 29ain o bob mis ar ôl hynny.
Os ydych yn byw gyda phartner
Os yw’r ddau ohonoch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad bob mis ar gyfer eich cartref.
Os ydych yn byw yn yr Alban ac rydych wedi dewis i gael eich talu ddwywaith y mis, byddwch yn cael 2 daliad bob mis i’ch cartref.
Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych yn poeni am gael mynediad at yr arian hwn.
Gofynnwch am newid sut rydych yn cael eich talu
Gallwch ofyn i gael eich Credyd Cynhwysol wedi’i dalu’n wahanol os oes angen help arnoch i reoli un taliad misol. Gelwir hwn yn drefniant talu amgen (APA). Gall gael APA feddwl:
- bod eich rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
- eich bod yn cael taliadau ddwywaith y mis yn lle unwaith
- eich bod wedi trefnu i gael taliad ar wahân i’ch partner
Dylech gysylltu â Chredyd Cynhwysol ar ôl i chi wwneud cais i ofyn am APA. Byddant yn penderfynu a ddylech gael APA yn seiliedig ar eich amgylchiadau.
Rydych chi’n fwy tebygol o gael APA os oes gennych chi bethau fel:
- rhent heb ei dalu (a elwir hefyd yn ‘ôl-ddyledion rhent’)
- problemau dibyniaeth
- problemau iechyd meddwl
- anawsterau dysgu
- profiad o ddigartrefedd
- profiad o gam-drin domestig
6. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.
Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Rhaid i chi gwblhau’ch cais o fewn 28 diwrnod ar ôl creu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto. Mae eich cais yn dechrau ar y dyddiad rydych yn ei gyflwyno yn eich cyfrif.
Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch greu cyfrifon. Byddwch yn eu cysylltu gyda’i gilydd pan fyddwch chi’n gwneud cais. Ni allwch wneud cais ar ben eich hun.
Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais dros y ffôn trwy’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Gwiriwch a ydych yn well eich byd ar Gredyd Cynhwysol cyn gwneud cais
Os ydych yn cael budd-daliadau yn barod, dylech weithio allan os byddwch yn well eich byd cyn i chi neu’ch partner hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol efallai daw’r budd-daliadau hynny i ben a ni fydd modd gwneud cais amdanynt eto, hyd yn oed os na chaiff eich cais ei gymeradwyo.
I wirio os byddwch yn well eich byd, gallwch:
-
defnyddio cyfrifiannell budd-daliadau
-
cysylltu â
-
gofyn i
Beth rydych angen i wneud cais
I wneud cais ar-lein byddwch angen:
- manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
- cyfeiriad e-bost
- mynediad i ffôn
Os nad oes gennych y rhain, gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu fynd i ganolfan byd gwaith. Gallwch hefyd gael cefnogaeth gan y gwasanaeth Cymorth i Hawlio gan Cyngor ar Bopeth.
Bydd yn rhaid i chi brofi’ch hunaniaeth hefyd. Bydd angen rhai dogfennau adnabod ar gyfer hyn, er enghraifft eich:
- trwydded yrru
- pasbort
- cerdyn debyd neu gredyd
- slip cyflog neu P60
I gwblhau’ch cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:
- eich tai, er enghraifft faint o rent rydych chi’n ei dalu
- eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog
- unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith
- faint rydych chi’n ei dalu am ofal plant os ydych chi eisiau cymorth gyda chostau gofal plant
- eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych chi’n ei rentu allan
- eich rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych un
- budd-daliadau eraill rydych yn eu cael
Efallai y bydd angen apwyntiad arnoch gyda’r tîm Credyd Cynhwysol:
- mae angen mwy o wybodaeth arnyn nhw
- ni allwch wirio’ch hunaniaeth ar-lein
Fe’ch hysbysir a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan byd gwaith neu ar y ffôn.
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein
Cymorth gyda’ch cais
Mae 2 ffordd i gael help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol. Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu ddefnyddio’r gwasanaeth Cymorth i Hawlio.
Mae galwadau i’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim.
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Cymraeg: 0800 328 1744
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am daliadau galwadau
Cymorth i wneud cais
Gallwch gael cefnogaeth am ddim gan gynghorwyr hyfforddedig i wneud hawliad Credyd Cynhwysol. Gallant eich helpu gyda phethau fel ceisiadau ar-lein neu baratoi ar gyfer eich apwyntiad canolfan byd gwaith gyntaf.
Darperir y gwasanaeth Cymorth i Hawlio gan Gyngor ar Bopeth ac mae’n gyfrinachol. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol oni bai eich bod yn cytuno.
Os ydych chi wedi hawlio Credyd Cynhwysol o’r blaen
Mewngofnodwch i’ch cyfrif i gychwyn cais newydd.
Os na allech wneud cais
Os cawsoch chi neu’ch partner eich oedi cyn gwneud cais heb fod unrhyw fai arnoch chi, gallwch ôl-ddyddio’ch cais hyd at fis o dan rai amgylchiadau.
Efallai y gallwch ôl-ddyddio eich cais os:
- mae gennych anabledd
- rydych chi wedi cael problemau iechyd sydd wedi eich atal rhag gwneud cais yn gynharach
- nid oedd y gwasanaeth ar-lein yn gweithio a gwnaethoch gais cyn gynted ag yr oedd yn gweithio eto
- roeddech yn cael budd-dal gwahanol o’r blaen ac ni ddywedwyd wrthych ei fod yn mynd i ddod i ben
- gwnaethoch ddechrau cais gyda phartner, ond ni wnaethant gwblhau eu cais a nawr rydych yn gwneud cais fel person sengl
Gallwch wneud cais i ôl-ddyddio eich cais yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol, ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu siarad â’ch anogwr gwaith.
Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth.
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
7. Cael taliad ymlaen llaw ar eich taliad cyntaf
Os ydych angen help i dalu eich biliau neu gostau eraill tra rydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.
Y mwyaf y gallwch ei gael fel taliad ymlaen llaw yw swm eich taliad cyntaf amcangyfrifiedig.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw yn eich cyfrif ar-lein neu drwy eich anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith.
Byddwch angen:
- egluro pam rydych angen taliad ymlaen llaw
- dilysu eich hunaniaeth (rydych yn gwneud hyn pan rydych yn gwneud cais ar-lein neu yn ystod eich apwyntiad ffôn cyntaf gyda’ch anogwr gwaith)
- darparu manylion banc ar gyfer y taliad ymlaen llaw (siaradwch â’ch anogwr gwaith os nad ydych yn gallu agor cyfrif)
Fel arfer cewch wybod ar yr un diwrnod os gallwch gael taliad ymlaen llaw.
Os ydych angen help
Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych angen help i wneud cais am daliad ymlaen llaw.
Sut i dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl
Fel arfer, bydd rhaid talu taliad ymlaen llaw yn ôl o fewn 24 mis. Rydych yn dechrau talu hwn yn ôl gyda’ch taliad cyntaf.
Enghraifft
Eich taliad amcangyfrifedig cyntaf yw £344 ac rydych yn cael £344 fel taliad ymlaen llaw.
Rydych yn talu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl dros 24 mis, sef £14.33 y mis. Byddwch yn cael £329.67 ar eich dyddiad taliad cyntaf – hwn yw’ch taliad cyntaf minws y rhan rydych yn ad-dalu (£344 minws £14.33).
Darllenwch fwy am gael taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.
8. Eich ymrwymiad hawlydd
I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’.
Dyma gofnod o’r hyn yr ydych yn cytuno i’w wneud:
- paratoi ac edrych am waith
- cynyddu eich enillion, os ydych eisoes yn gweithio.
Os ydych yn byw gyda’ch partner, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd gennych eich ymrwymiad hawlydd eich hun.
Rhaid i chi wneud popeth rydych yn cytuno iddo yn eich ymrwymiad neu gallai eich taliad gael ei ostwng neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn.
Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agosà u at ddiwedd oes, ni fydd angen ymrwymiad hawlydd arnoch ac ni fyddwch yn cael cosb.
Cytuno ar eich ymrwymiadau
Bydd gennych gyfarfod i drafod eich ymrwymiad hawlydd, fel arfer yn y ganolfan waith. Yn y cyfarfod hwn byddwch yn trafod eich amgylchiadau ac yn siarad am unrhyw beth a allai ei gwneud hi’n anodd i chi wneud yr hyn sydd yn eich ymrwymiad. Er enghraifft, os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, neu os ydych yn gofalu am rywun.
Rhaid i chi dderbyn eich ymrwymiad hawlydd yn eich cyfrif ar-lein neu bydd eich cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei stopio.
Mae eich ymrwymiad hawlydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn newid os bydd eich amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, os ydych yn mynd yn sâl, mae’ch partner yn dechrau swydd neu os oes gennych blentyn.
Os oes angen i chi chwilio am waith
Efallai bydd angen chwilio am swydd. Os oes gennych swydd, efallai y bydd angen i chi chwilio am swydd sy’n talu’n well neu weithio mwy o oriau.
Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar os ydych :
- â chyflwr iechyd neu’n anabl
- yn gofalu am rywun
- â phlentyn o dan 13 oed
- yn ennill uwchben swm penodol
Os nad ydych yn gallu gweithio nawr ond byddwch yn gallu yn y dyfodol, efallai bydd angen i chi baratoi ar gyfer gwaith. Gallai hyn gynnwys pethau fel ysgrifennu CV neu fynychu cwrs hyfforddiant.
Eich anogwr gwaith
Os oes angen i chi chwilio am waith, fe gewch gymorth gan ‘anogwr gwaith’. Gall eich anogwr gwaith helpu gyda phethau fel ymgeisio am swyddi, cael mynediad at hyfforddiant neu chwilio am waith yn eich ardal.
Mynychu apwyntiadau
Efallai y bydd angen i chi fynychu apwyntiadau rheolaidd. Mae’r rhain fel arfer yn y ganolfan waith, ond gallai hefyd fod dros y ffôn.
Os ydych yn colli apwyntiad, bydd angen i chi ddarparu rheswm da dros beidio â mynychu. Os na dderbynnir eich rheswm, gallech gael cosb a bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng.
Rheoli eich cais ar-lein
Bydd yn rhaid i chi reoli eich cais yn eich cyfrif ar-lein. Efallai bydd rhaid i chi ateb negeseuon, cofnodi costau gofal plant, neu ddweud wrthym beth rydych wedi’i wneud i chwilio am waith.
Cewch neges destun neu e-bost pan fydd angen i chi wneud rhywbeth yn eich cyfrif ar-lein.
Bydd yn rhaid i chi hefyd roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau.
Cael cymorth a chefnogaeth
Dylech gysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am gymorth yn syth os ydych:
- yn methu gwneud cais ar-lein ac angen gwneud cais dros y ffôn
- methu gwneud y pethau rydych wedi cytuno i’w gwneud yn eich ymrwymiad hawlydd
- yn methu ymateb i neges na gwneud rhywbeth y gofynnir i chi yn eich cyfrif ar-lein
- am golli apwyntiad
Efallai y byddwch yn gallu cael saib byr neu newid eich ymrwymiad hawlydd mewn argyfwng. Er enghraifft, os oes gennych farwolaeth yn y teulu neu’n wynebu perygl o fod yn ddigartref.
Help os bydd eich taliad yn cael ei stopio neu ei ostwng
Os nad ydych yn gwneud yr hyn sydd yn eich ymrwymiad hawlydd, gallech gael cosb.
Os na allwch dalu am eich anghenion rhent, gwresogi, bwyd neu hylendid oherwydd bod gennych gosb gallwch ofyn i Gredyd Cynhwysol am daliad caledi.
9. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau wrth iddynt ddigwydd. Gall unrhyw oedi olygu eich bod yn cael gormod o arian a bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliad.
Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu gyfan – nid ond o’r dyddiad rydych yn rhoi gwybod.
Gall newidiadau gynnwys:
- dod o hyd i neu orffen swydd
- cael plentyn
- symud i mewn gyda’ch partner
- dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
- eich plentyn yn stopio neu’n ail-ddechrau addysg neu hyfforddiant, os ydynt rhwng 16 ac 19 oed
- newid eich rhif ffôn symudol neu’ch cyfeiriad e-bost
- symud i gyfeiriad newydd
- mynd y tu allan i Brydain Fawr am unrhyw gyfnod o amser, os ydych yn byw yno
- mynd y tu allan i Ogledd Iwerddon am unrhyw gyfnod o amser, os ydych yn byw yno
- newid eich manylion banc
- eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
- newidiadau i’ch cyflwr iechyd
- dod yn rhy sâl i weithio neu i gyfarfod â’ch anogwr gwaith
- os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agosà u at ddiwedd oes
- newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)
- newidiadau i’ch cynilion, buddsoddiadau a faint o arian sydd gennych
- newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig.
Efallai bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu ddim yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau.
Sut i roi gwybod
Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.
Os byddwch yn cael swydd neu’n cynyddu’r oriau rydych yn eu gweithio
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau neu siaradwch â’ch anogwr gwaith i gael gwybod am sut y gallai cael swydd neu gynyddu eich enillion effeithio’ch cais Credyd Cynhwysol.
Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn adrodd eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer, bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.
Os oes gormod wedi ei dalu i chi
Efallai bydd yn rhaid i chi dalu’n ôl yr arian os ydych:
- wedi methu rhoi gwybod am newid ar unwaith
- wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- wedi cael eich gordalu mewn camgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.
10. Help a chefnogaeth ariannol
Os ydych angen cymorth ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch ei gael.
Efallai y byddwch yn gallu cael .
Os ydych angen arian ar frys
Os nad oes gennych ddigon i fyw arno tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar ôl i chi wneud cais.
Os oes gennych sancsiwn ac nawr yn methu talu am rent, gwresogi, neu fwyd, gallwch hefyd ofyn am daliad caledi. Dylech wirio a ydych yn gymwys.
Bydd angen i chi dalu hwn yn ôl. Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn is hyd nes y bydd yn cael ei ad-dalu.
Sut i gael taliad ymlaen llaw mewn argyfwng
Efallai y gallwch gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda:
- costau brys yn y cartref fel prynu popty newydd yn lle popty sydd wedi torri
- cael swydd neu aros mewn gwaith
- costau angladd
Byddwch yn ei ad-dalu drwy eich taliadau Credyd Cynhwysol rheolaidd - bydd y rhain yn is nes i chi ei ad-dalu. Os byddwch yn rhoi’r gorau i gael Credyd Cynhwysol, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian mewn ffordd arall.
Faint allwch chi ei fenthyca
Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar faint rydych ei angen.
Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Gallwch gael hyd at:
- £348 os ydych yn sengl
- £464 os ydych yn rhan o gwpl
- £812 os oes gennych blant
Cymhwyster
I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, bydd angen i chi naill ai:
- wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy
- angen yr arian i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu aros mewn gwaith
Ni fyddwch yn gymwys os naill ai:
- rydych wedi ennill mwy na £2,600 (£3,600 ar y cyd ar gyfer cyplau) yn ystod y 6 mis diwethaf
- nad ydych wedi ad-dalu unrhyw fenthyciadau Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol (gallwch ond cael un ar y tro)
Sut i wneud cais
I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:
- diweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
- ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Sut i newid eich Credyd Cynhwysol misol
Os ydych yn cael anawsterau ariannol neu os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gallwch ofyn am newid y ffordd y caiff eich Credyd Cynhwysol ei dalu.
Efallai y byddwch chi neu’ch landlord yn gallu gwneud cais am Drefniant Talu Amgen (APA).
Help ariannol ar gyfer treuliau swydd annisgwyl
Pan fyddwch yn gweithio neu’n dechrau gweithio, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am rywbeth nad oeddech yn ei ddisgwyl, er enghraifft, gwisg neu offer.
Os nad yw’ch cyflogwr yn talu am rywbeth, dylech siarad â’ch anogwr gwaith. Gallant ddweud wrthych a allwch gael yr arian ymlaen llaw neu ei hawlio’n ôl.
Cyngor ar arian a dyled
Os ydych angen help i reoli eich cyllideb neu filiau, gallwch gael cyngor am ddim.
Gallwch gael help i ofalu am eich costau byw gan gynnwys cymorth gyda’ch biliau cyfleustodau, costau tai neu bresgripsiynau’r GIG.
11. Cysylltu â Chredyd Cynhwysol
Gallwch gysylltu â Chredyd Cynhwysol:
- drwy eich cyfrif ar-lein
- drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych yn byw yn Ngogledd Iwerddon ac eisiau defnyddio llinell gymorth, cysylltwch â’r yn lle.
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â hawlio budd-daliadau ‘dull newydd’ gyda Chredyd Cynhwysol
Gallech gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA) neu Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) ar yr un pryd neu yn lle Credyd Cynhwysol.
Gwneud cais am ESA Dull Newydd
Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd ar-lein neu ffonio llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Llinell gymorth ceisiadau newydd am ESA
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 055 6688
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Gwneud cais am JSA Dull Newydd
Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd ar-lein neu cysylltwch â llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith am JSA
Ffôn: 0800 012 1888
Ffôn testun: 0800 023 4888
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os oes gennych ymholiad am ESA neu JSA Dull Newydd sy’n bodoli eisoes
Cysylltwch â Llinell gymorth y Ganolfan Byd Gwaith.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 012 1888
Ffôn testun: 0800 169 0314
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau