Credydau Yswiriant Gwladol

Printable version

1. Trosolwg

Efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol, er enghraifft pan fyddwch yn hawlio budd-daliadau oherwydd eich bod yn sâl neu’n ddi-waith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall credydau helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol am fylchau.

Cael credydau

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau – naill ai byddwch yn eu cael yn awtomatig neu bydd yn rhaid i chi wneud cais amdanynt.

Byddwch yn cael un o’r mathau hyn o gredydau, os ydych yn gymwys:

  • Dosbarth 1 – mae’r rhain yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a gallant eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau eraill, er enghraifft Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
  • Dosbarth 3 – mae’r rhain yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth yn unig

Gallwch drosglwyddo’ch credydau, a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Budd-dal Plant, i’ch priod neu i’ch partner sy’n byw gyda chi, os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am flwyddyn (yr enw ar hyn yw ‘blwyddyn gymwys’ ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth).

Gwirio’ch credydau

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod a oes gennych gredydau. Os gwnaethoch gais am gredydau ond eu bod yn anghywir ar eich cofnod, cysylltwch â’r swyddfa lle gwnaethoch y cais.

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych gwestiynau am gredydau Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad credydau Yswiriant Gwladol

Gallwch herio penderfyniad am eich credydau Yswiriant Gwladol. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyried gorfodol.

2. Cymhwysedd

Gwiriwch a allech fod yn gymwys ar gyfer credydau Yswiriant Gwladol, er enghraifft os ydych yn cael Credyd Cynhwysol neu Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn chwilio am waith

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ac nid ydych yn derbyn addysg nac yn gweithio 16 awr neu fwy bob wythnos Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith, ond nid ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol i hawlio credydau Dosbarth 1

Os ydych yn sâl, yn anabl neu’n cael tâl salwch

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), neu Lwfans neu Atodiad i’r Anghyflogadwy Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Nid ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ond rydych yn bodloni’r amodau ar ei gyfer Gwnewch gais am y math newydd o ESA er mwyn cael credydau Dosbarth 1
Rydych yn cael Tâl Salwch Statudol ac nid ydych yn ennill digon i gyflawni blwyddyn gymhwysol Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1. Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, HMRC, BX9 1ST. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol

Os ydych yn cael tâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael Lwfans Mamolaeth Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych yn cael Tâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu Statudol, neu Dâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, ac nid ydych yn ennill digon i gyflawni blwyddyn gymhwysol Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1. Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, HMRC, BX9 1ST. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol

Rhieni a gwarcheidwaid

Eich sefyllfa ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 Sut i gael credydau
Rydych yn rhiant neu’n warcheidwad sydd wedi cofrestru i gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed (hyd yn oed os nad ydych yn ei gael) Byddwch yn cael credydau Dosbarth 3 yn awtomatig
Rydych am drosglwyddo credydau o’ch priod neu’ch partner a gafodd Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed Gwnewch gais i drosglwyddo credydau Dosbarth 3 rhwng rhieni neu warcheidwad
Rydych yn ofalwr maeth, neu’n ofalwr sy’n berthynas yn yr Alban Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 3
Eich sefyllfa cyn 6 Ebrill 2010 Sut i gael credydau
Rydych yn rhiant neu’n warcheidwad a gafodd Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010, ond ni chawsoch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) yn awtomatig Hawliwch HRP er mwyn cael credydau Dosbarth 3
Rydych am drosglwyddo credydau o’ch priod neu’ch partner a gafodd Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed Gwnewch gais i drosglwyddo HRP rhwng rhieni neu warcheidwaid er mwyn cael credydau Dosbarth 3
Roeddech yn ofalwr maeth, neu’n ofalwr sy’n berthynas yn yr Alban, rhwng 6 Ebrill 2003 a 5 Ebrill 2010 Hawliwch HRP er mwyn cael credydau Dosbarth 3

Gofalwyr

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn cael taliadau Lwfans Gofalwr neu (yn yr Alban yn unig) Daliad Cymorth Gofalwr Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych yn cael Cymhorthdal Incwm ac yn darparu gofal rheolaidd a sylweddol Byddwch yn cael credydau Dosbarth 3 yn awtomatig
Rydych yn gofalu am un neu fwy o bobl sy’n sâl neu’n anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos Gwnewch gais am gredydau gofalwyr Dosbarth 3 os nad ydych yn cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth Gofalwr na Chymhorthdal Incwm

Neiniau a theidiau ac aelodau eraill o’r teulu sy’n gofalu am blentyn

Gallwch wneud cais am gredydau Gofal Plant ar gyfer Oedolion Penodedig Dosbarth 3 (yn agor tudalen Saesneg) os yw pob un o’r canlynol yn wir:

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, byddwch yn cael credydau Dosbarth 3 yn awtomatig.

Os ydych yn dilyn cwrs hyfforddi

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych dros 18 oed ac mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi’ch anfon ar gwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan y llywodraeth nad yw’n para mwy na blwyddyn Byddwch yn cael credydau Dosbarth 1 yn awtomatig
Rydych dros 18 oed ac yn dilyn cwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan y llywodraeth nad yw’n para mwy na blwyddyn ond ni chawsoch eich anfon ar y cwrs gan y Ganolfan Byd Gwaith Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1. Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, HMRC, BX9 1ST. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol

Os ydych ar wasanaeth rheithgor

Os ydych wedi mynychu’r llys ac nad ydych yn hunangyflogedig, gallwch ysgrifennu at CThEF i wneud cais am gredydau Dosbarth 1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Partneriaid pobl sydd yn y lluoedd arfog

Eich sefyllfa Sut i gael credydau
Rydych yn briod neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog, aethoch gyda’ch partner ar leoliad milwrol tramor ar ôl 6 Ebrill 2010, ac rydych yn dychwelyd i’r DU Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 1 (yn agor tudalen Saesneg)
Rydych yn briod neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog, aethoch gyda’ch partner ar leoliad milwrol tramor ar ôl 6 Ebrill 1975, byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ac nid ydych yn cael credydau Dosbarth 1 Gwnewch gais am gredydau Dosbarth 3 (yn agor tudalen Saesneg)

Os cawsoch eich carcharu ar gam

Os diddymwyd eich euogfarn gan y Llys Apêl (neu’r Llys Apêl Troseddol yn yr Alban), gallwch wneud cais am gredydau Dosbarth 1.

Ysgrifennwch at CThEF gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a rhowch wybod pam yr ydych yn gymwys ar gyfer y credydau a’r dyddiadau perthnasol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Pwy na all gael credydau

Fel arfer, ni allwch gael credydau os ydych yn fenyw briod sy’n talu Yswiriant Gwladol cyfradd is (yn agor tudalen Saesneg).