Cael cymorth a chefnogaeth ychwanegol i reoli eich budd-daliadau neu bensiwn
Os ydych yn cael anhawster rheoli cais budd-dal neu eich Pensiwn y Wladwriaeth, mae cymorth ychwanegol ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol gyda:
- gwneud cais budd-dal neu bensiwn newydd
- mynychu apwyntiadau
- deall eich budd-daliadau neu bensiwn
- rheoli eich arian
Cysylltwch 芒 ChThEF i gael cymorth a chefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael Budd-dal Plant neu gredydau treth.
Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg
Cefnogaeth ychwanegol os oes gennych anghenion hygyrchedd
Gallwch gael help os ydych yn ei chael hi鈥檔 anodd gwneud cais neu reoli eich cais. Er enghraifft, os ydych chi eisiau mwy o gefnogaeth i:
- ddefnyddio鈥檙 ff么n neu鈥檙 rhyngrwyd
- darllen llythyrau
- llenwi ffurflenni
- mynychu apwyntiad wyneb yn wyneb
- deall gwybodaeth am eich budd-daliadau neu bensiwn
Sut i gael rhywun arall i reoli eich cais
Gallwch ofyn i rywun arall (er enghraifft, aelod o鈥檙 teulu neu ffrind) eich helpu gyda鈥檆h cais. Gallant:
Os ydych chi angen rhywun arall i wneud penderfyniadau am eich budd-daliadau neu bensiwn ar eich rhan, gallant wneud cais i ddod yn benodai.
Gwiriwch os gallwch gael ymweliad cartref
Efallai y byddwch yn gallu cael ymweliad cartref i鈥檆h helpu gyda鈥檆h cais am fudd-dal os ydych:
- ag anghenion cymhleth
- yn anabl
- yn berson ifanc bregus sy鈥檔 gwneud cais am y tro cyntaf
- heb unrhyw un arall i鈥檆h cefnogi
- yn methu gwneud cais am fudd-daliadau mewn unrhyw ffordd arall
Gofynnwch am ymweliad cartref drwy ffonio鈥檙 llinell gymorth o鈥檙 budd-dal rydych chi鈥檔 gwneud cais amdani neu gysylltu 芒鈥檆h Canolfan Byd Gwaith leol.
Cymorth i reoli鈥檆h arian
Os oes angen help ariannol arnoch, gallwch gael cyngor cyllidebu a chefnogaeth.
Gallwch hefyd gael help gyda chostau byw. Gallai hyn gynnwys cymorth gydag ynni neu filiau d诺r, neu gostau hanfodol fel bwyd.
Os ydych chi鈥檔 ansicr pa gymorth sydd ei angen arnoch chi
Os ydych yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch 芒鈥檆h swyddfa leol a all edrych ar eich amgylchiadau a dweud wrthych beth y gallech ei gael.
Gallwch gysylltu 芒鈥檙:
- Ganolfan Byd Gwaith - os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol
- Gwasanaeth Pensiwn - am gymorth gyda鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth
- Ganolfan Gwasanaeth Anabledd - ar gyfer budd-daliadau sy鈥檔 gysylltiedig ag anabledd