Dyddiadau taliadau Budd-dal Plant
Printable version
1. Pan fyddwch yn cael eich talu
Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob 4 wythnos, ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth.
Mae yna ddyddiadau talu gwahanol os yw’r dyddiad yn disgyn ar ŵyl y banc.
Gellir cael Budd-dal Plant wedi ei dalu’n wythnosol os ydych yn rhiant sengl neu os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Eich taliad cyntaf
Gwiriwch eich hysbysiad o ddyfarniad i weld dyddiad eich taliad cyntaf. Gallwch gyfrif ymlaen 4 wythnos o’r dyddiad hwn i gyfrifo pryd fydd y taliad nesaf.
Mae’n bosibl na fydd eich taliad cyntaf yn eich cyrraedd am 12 wythnos (gall fod yn hirach os ydych newydd symud i’r DU). Bydd yn cael ei ôl-ddyddio hyd at 3 mis.
Cyfrifo’ch taliad nesaf
Gallwch gyfrifo pryd byddwch yn cael Budd-dal Plant nesaf drwy gyfrif 4 wythnos ymlaen o’ch taliad diwethaf. Peidiwch â chyfrif ymlaen os oedd eich taliad i’w dalu ar ŵyl y banc - mae’r dyddiadau’n wahanol.
Gwiriwch pryd oedd y tro diwethaf i chi cael eich talu
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- gwirio’ch cyfriflen banc - bydd y cyfeirnod talu yn dechrau gyda ‘HMRC Child Benefit’ ac mae’n cynnwys 18 o gymeriadau
- Â a gweld hyd at 5 taliad blaenorol
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Os nad ydych wedi cael eich taliad
Os yw taliad yn hwyr, gwiriwch ddyddiad eich taliad a chysylltwch â’ch banc cyn ffonio’r Swyddfa Budd-dal Plant.
Mae’n bosibl bod eich taliadau wedi dod i ben oherwydd:
- nid ydych wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant bod eich banc wedi newid neu am blaniau eich plentyn o ran addysg ar ôl troi’n 16 oed
- nid ydych wedi ymateb i lythyr oddi wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
- mae’ch plentyn bellach yn byw gyda rhywun arall
- nid ydych bellach yn gymwys i gael hawlio Budd-dal Plant
Rhowch wybod am newidiadau i’ch amgylchiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod eich taliadau’n gywir.
2. Gwyliau banc
Fel arfer, os yw eich taliad Budd-dal Plant yn disgyn ar ŵyl y banc caiff ei dalu ar ddyddiad gwahanol.
Dyddiad dyledus | Â Dyddiad talu |
---|---|
30 Rhagfyr 2024 | 31 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig)Â |
17 Mawrth 2025 | 18 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig) |
18 Mawrth 2025 | 19 Mawrth (Gogledd Iwerddon yn unig) |
21 Ebrill 2025 | 17 Ebrill |
05 Mai 2025 | 2 Mai |
26 Mai 2025 | 23 Mai |
14 Gorffennaf 2025 | 15 Gorffennaf (Gogledd Iwerddon yn unig) |
15 Gorffennaf 2025 | 16 Gorffennaf (Gogledd Iwerddon yn unig) |
4 Awst 2025 | 5 Awst (Yr Alban yn unig) |
25 Awst 2025 | 22 Awst |
29 Rhagfyr 2025 | 30 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig) |
30 Rhagfyr 2025 | 31 Rhagfyr (Gogledd Iwerddon yn unig) |
Gallwch weithio allan pryd y cewch eich talu.
Gwyliau cyhoeddus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os yw’r banc ar gau oherwydd gwyliau cyhoeddus ar y diwrnod mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn eich talu.
Gwiriwch gyda’ch banc o ran y dyddiad y byddwch yn cael eich taliad.
Gwyliau lleol yn yr Alban
Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi oherwydd gwyliau lleol os ydych yn byw yn y llefydd canlynol:
-
Glasgow - gwyliau lleol ar 29 Medi
-
Caeredin - gwyliau lleol ar 15 Medi
-
Dundee - gwyliau lleol ar 6 Hydref