Domestic homicide review legislation consultation (Welsh accessible version)
Updated 5 March 2024
Rhagair y Gweinidog
Mae cam-drin domestig a lladdiad domestig yn droseddau ffiaidd a dinistriol. Mae鈥檔 rhaid cael ymateb drwy鈥檙 system gyfan i fynd i鈥檙 afael 芒 nhw. Mae diogelu鈥檙 cyhoedd, p鈥檜n a ydyn nhw gartref, allan yn crwydro, neu ar-lein, yn flaenoriaeth i mi ac i鈥檙 Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.
Dyna pam mae鈥檙 Llywodraeth yn cymryd camau i drawsnewid y ffordd mae cymdeithas yn ymdrin 芒鈥檙 mater hwn, gan ganolbwyntio ar atal, rhoi cymorth i ddioddefwyr, ac ymlid troseddwyr. Ym mis Mawrth 2022 fe wnaethom gyhoeddi鈥檙 Cynllun Mynd i鈥檙 Afael 芒 Cham-drin Domestig er mwyn sbarduno鈥檙 ymdrechion hynny. Roedd y Cynllun yn amlinellu diwygiadau i鈥檙 broses Adolygiadau o Laddiadau Domestig, gan gynnwys canllawiau statudol diwygiedig a mwy o wybodaeth am gynnal Adolygiadau o鈥檙 fath mewn achosion o hunanladdiad yn dilyn cam-drin domestig. Er mwyn sicrhau bod yr hyn a ddysgir o鈥檙 Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn cael ei roi ar waith ac yn arwain at newid go iawn, rydym hefyd wedi ymrwymo i greu rolau ffurfiol i鈥檙 Comisiynydd Cam-drin Domestig a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Gyda鈥檔 gilydd, rydym yn gwneud cynnydd. Ond rydym yn gwybod bod angen gwneud llawer mwy, ac mae arnom ddyled i鈥檙 dioddefwyr a鈥檜 hanwyliaid i gynnal y momentwm. Dydy dysgu gwersi yn unig ddim yn ddigon; rydym am fynd ymhellach a gwneud yn si诺r ein bod yn adolygu鈥檙 holl ddata sydd ar gael i ni er mwyn deall lladdiadau domestig yn well. Dyna pam ein bod yn adeiladu ystorfa ar-lein o鈥檙 holl Adolygiadau o Laddiadau Domestig; bydd yn mynd yn fyw yn yr haf. Bydd hyn yn helpu i wella dealltwriaeth cymdeithas gyfan o sbardunau a phatrymau lladdiadau domestig.
Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i barhau i wella鈥檙 ffordd mae Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn cael eu cynnal mewn partneriaeth agos 芒 theulu a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd cam-drin domestig, y sector cam-drin domestig, academyddion, a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol. Diolch i chi am roi o鈥檆h amser i ymateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn ac am eich cyfraniadau at y broses Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn gyffredinol. Mae鈥檔 waith eithriadol o bwysig; hoffwn estyn fy niolch, yn ogystal 芒鈥檓 parch ac edmygedd parhaus tuag atoch.
Cyd-destun
Cam-drin domestig yw鈥檙 math mwyaf cyffredin o drais yn erbyn menywod a genethod, ac mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i鈥檞 ddeall a鈥檌 atal yn well. Mewn rhai achosion, gall cam-drin domestig arwain at farwolaeth. Mae鈥檔 erchyll ac yn dreiddiol, ac yn rhy aml yn cael ei guddio o鈥檙 golwg.
Mae鈥檙 llywodraeth hon eisoes wedi cymryd camau i wella ei hymateb i gam-drin domestig. Rydym wedi ymrwymo i roi cyllid i gynyddu鈥檙 cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, rydym wedi pasio Deddf Cam-drin Domestig 2021 bwysig ac rydym wedi cyhoeddi鈥檙 Cynllun Mynd i鈥檙 Afael 芒 Cham-drin Domestig yn 2022. Roedd y Cynllun Mynd i鈥檙 Afael 芒 Cham-drin Domestig yn nodi sut y bydd dros 拢230 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn cyflawni nifer o ddarpariaethau Deddf Cam-drin Domestig 2021 i ennyn ymateb gan bob rhan o gymdeithas i oresgyn cam-drin domestig. Roedd hefyd yn nodi bwriad y Llywodraeth i ddiwygio鈥檙 broses Adolygiadau o Laddiadau Domestig; er ein bod wedi ymrwymo i egwyddorion sylfaenol yr Adolygiadau rydym yn cydnabod bod lle i wella鈥檙 ffordd maen nhw鈥檔 cael eu cynnal.
Mae Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn gyfle i asiantaethau lleol a chenedlaethol, cymunedau lleol a chymdeithas roi sylw i bob dioddefwr unigol a thrin pob marwolaeth fel rhywbeth y gellir ei hatal. Deddfwyd ar gyfer yr Adolygiadau o Laddiadau Domestig drwy Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004, ac yn 2016 diweddarodd y Llywodraeth y canllawiau statudol i gyfarwyddo鈥檙 Adolygiadau hynny mewn achosion 鈥榣le鈥檙 oedd dioddefwr wedi cymryd ei fywyd ei hun (hunanladdiad), a鈥檙 amgylchiadau鈥檔 achosi pryder鈥.
Rhaid i ni sicrhau bod yr Adolygiadau hynny鈥檔 parhau i hybu dysgu a gweithredu sy鈥檔 atal cam-drin domestig, ac yn y pen draw, pob marwolaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig. Dylai gwersi o鈥檙 10 mlynedd diwethaf hefyd gyfrannu at wneud y broses yn fwy effeithiol ac ymateb i adborth rhanddeiliaid ar sut y gallem ddal ati i wella.
Disgrifiad o鈥檙 ymgynghoriad
Yn yr ymgynghoriad hwn rydym yn gofyn am farn ar ddiwygio鈥檙 Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr er mwyn:
- Sicrhau bod Adolygiad o Laddiadau Domestig yn cael ei gomisiynu pan fydd marwolaeth wedi digwydd o ganlyniad i gam-drin domestig fel y鈥檌 diffinnir gan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, neu pan fydd yn ymddangos bod hynny wedi digwydd.
- Diwygio鈥檙 term 鈥榣laddiad鈥 yn yr Adolygiadau o Laddiadau Domestig i adlewyrchu鈥檙 ystod o farwolaethau sy鈥檔 dod o fewn cwmpas adolygiad.
Ymgorffori diffiniad Deddf Cam-drin Domestig 2021 o 鈥榞am-drin domestig鈥
Cyflwynodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 ddiffiniad statudol o gam-drin domestig sy鈥檔 ymgorffori ystod o gamdriniaethau y tu hwnt i 鈥榙rais, cam-drin ac esgeuluso鈥 i gynnwys ymddygiad sy鈥檔 rheoli neu鈥檔 gorfodi, cam-drin emosiynol ac economaidd. Byddai cynnwys y diffiniad hwn yn benodol yn y Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr yn sicrhau bod Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn parhau i gyfrannu at ein dealltwriaeth o gam-drin domestig, ac yn cofnodi鈥檙 gwersi a ddysgwyd i atal cam-drin domestig angheuol.
Mae cwmpas y cyd-destun perthynol lle gall cam-drin domestig ddigwydd hefyd yn cael ei ddiffinio yn y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 fel rhywbeth rhwng unigolion sydd 芒 鈥榗hysylltiad personol鈥. Ar hyn o bryd gellir comisiynu Adolygiadau o Laddiadau Domestig pan fydd lladdiad domestig yn digwydd mewn achosion lle mae unigolion yn cyd-fyw ond heb gysylltiad personol, nad yw鈥檔 ychwanegu at ein dealltwriaeth o Laddiad Domestig na鈥檔 gallu i鈥檞 atal.
Diwygio鈥檙 term 鈥榣laddiad鈥 mewn Adolygiadau o Laddiadau Domestig
Mae Adolygiadau o Laddiadau Domestig hefyd yn cael eu comisiynu mewn achosion o hunanladdiadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig, marwolaethau heb esboniad ac mewn achosion o esgeuluso, felly nid yw鈥檙 term 鈥榣laddiad鈥 yn cynrychioli鈥檙 ystod o farwolaethau y gellir eu hadolygu yn ddigonol.
Mae鈥檙 Llywodraeth yn ymateb i adborth gan randdeiliaid y gall y term 鈥榣laddiad鈥 beri dryswch i deuluoedd a ffrindiau mewn profedigaeth, yn ogystal ag ymarferwyr, wrth adolygu achos sydd heb ei ddyfarnu鈥檔 lladdiad. Yn anad dim, mae teuluoedd a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn gysylltiedig 芒 cham-drin domestig wedi bod yn galw am gonfensiwn enwi arall ar gyfer yr Adolygiadau o Laddiadau Domestig. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl farwolaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig yn cael eu trin yr un mor ddifrifol 芒 lladdiad domestig, a bod yr adolygiadau鈥檔 adlewyrchu鈥檙 amgylchiadau.
Mae鈥檙 Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr yn berthnasol i sefydliadau ac asiantaethau sy鈥檔 gweithio gyda dioddefwyr, teuluoedd a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd cam-drin domestig angheuol, neu鈥檙 rhai sy鈥檔 cyflawni cam-drin domestig. Efallai y bydd gan rai o鈥檙 sefydliadau hyn ddyletswyddau statudol hefyd i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig.
Mae鈥檙 ddeddfwriaeth yn berthnasol i Gymru a Lloegr.
Rydym yn awyddus i glywed gan y grwpiau canlynol drwy鈥檙 ymgynghoriad hwn:
- Asiantaethau gorfodi鈥檙 gyfraith (yr heddlu, corff plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron)
- Sefydliadau gofal iechyd
- Awdurdodau Lleol (gan gynnwys Partneriaethau Diogelwch Cymunedol)
- Sefydliadau addysgol neu gyrff myfyrwyr
- Sefydliadau Trais yn erbyn Menywod a Genethod
- Gwasanaethau 鈥榞an ac ar gyfer鈥 arbenigol a allai gynnig arbenigedd penodol ar faterion sy鈥檔 effeithio ar gymunedau lleol
- Sefydliadau Lladdiad Domestig neu Hunanladdiad sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig
- Aelod o鈥檙 teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd lladdiad domestig.
- Aelod o鈥檙 teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd marwolaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig (nid lladdiad)
Os ydych chi鈥檔 methu llenwi ffurflen yr arolwg ar-lein, neu os hoffech chi gael fersiwn fwy hwylus neu mewn iaith arall, mae fersiynau ychwanegol o鈥檙 arolwg ar gael.
Cwestiynau鈥檙 Ymgynghoriad
Cwestiynau Drafft ar gyfer yr Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth Adolygiadau o Laddiadau Domestig
1. A ydych chi鈥檔 ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad?
- Unigolyn
- Sefydliad
[os Unigolyn ewch i C2, os Sefydliad ewch i C3]
2. Os ydych chi鈥檔 ymateb fel unigolyn, dewiswch yr opsiwn sy鈥檔 disgrifio eich statws orau.
- Aelod o鈥檙 teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd lladdiad domestig
- Aelod o鈥檙 teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd math arall o farwolaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig (nid lladdiad)
- Ymchwilydd academaidd/ myfyriwr
- Arall (rhowch fanylion) [Testun agored]
3. Os ydych chi鈥檔 ymateb ar ran sefydliad, dewiswch yr opsiwn sy鈥檔 disgrifio eich cysylltiad orau.
- Asiantaeth gorfodi鈥檙 gyfraith (yr heddlu, corff plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron)
- Sefydliad gofal iechyd
- Awdurdod Lleol
- Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
- Sefydliad addysgol neu gorff myfyrwyr
- Darparwr gwasanaeth/ elusen trais yn erbyn menywod a genethod
- Arall (Rhowch fanylion) [Testun agored]
Cynnal Adolygiad o Laddiadau Domestig
Mae鈥檙 ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn golygu y gellir eu comisiynu mewn achosion lle鈥檙 oedd y dioddefwr a鈥檙 troseddwr yn byw yn yr un cartref, nad yw鈥檔 gwella ein dealltwriaeth o gam-drin domestig na鈥檙 ffyrdd o鈥檌 atal.
4. Ydych chi o blaid diweddaru鈥檙 ddeddfwriaeth Adolygiadau o Laddiadau Domestig fel eu bod yn cael eu comisiynu ar gyfer pob marwolaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig, yn unol 芒鈥檙 diffiniad o gam-drin domestig yn y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (gweler isod)?
- Ydw + [blwch testun rhydd]
- Nac ydw + [blwch testun rhydd]
- Ddim yn gwybod + [blwch testun rhydd]
Mae Adran 1 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn diffinio cam-drin domestig fel:
(2)Mae ymddygiad person (鈥淎鈥) tuag at berson arall (鈥淏鈥) yn 鈥済am-drin domestig鈥 os鈥
(a)yw A a B yn 16 oed neu h欧n ac 芒 chysylltiad personol 芒鈥檌 gilydd, a
(b)mae鈥檙 ymddygiad yn gamdriniol.
(3)Mae ymddygiad yn 鈥済amdriniol鈥 os yw鈥檔 cynnwys unrhyw un o鈥檙 canlynol鈥
(a)camdriniaeth gorfforol neu rywiol;
(b)ymddygiad treisgar neu fygythiol;
(c)ymddygiad sy鈥檔 rheoli neu鈥檔 gorfodi;
(d)camdriniaeth economaidd (gweler is-adran (4));
(e)camdriniaeth seicolegol, emosiynol neu arall;
ac nid yw鈥檔 gwneud gwahaniaeth a yw鈥檙 ymddygiad yn cynnwys un digwyddiad neu ymddygiad.
(4)Ystyr 鈥渃amdriniaeth economaidd鈥 yw unrhyw ymddygiad sy鈥檔 cael effaith niweidiol sylweddol ar allu B i wneud y canlynol鈥
(a)cael, defnyddio neu gynnal arian neu eiddo arall, neu
(b)cael nwyddau neu wasanaethau.
(5)At ddibenion y Ddeddf hon gall ymddygiad A fod yn ymddygiad 鈥渢uag at鈥 B er ei fod yn cynnwys ymddygiad a gyfeirir at berson arall (er enghraifft, plentyn B).
(6)Rhaid i gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ymddygiad camdriniol tuag at rywun arall gael eu darllen yn unol 芒鈥檙 adran hon.
(7)Am ystyr 鈥渃ysylltiad personol鈥, gweler adran 2.
Mae Adran 2 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn diffinio 鈥渃ysylltiad personol鈥 fel:
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae dau berson 芒 鈥渃hysylltiad personol鈥 芒鈥檌 gilydd os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol鈥
(a)maent yn briod, neu wedi bod yn briod;
(b)maent yn bartneriaid sifil, neu wedi bod yn bartneriaid sifil;
(c)maent wedi cytuno i briodi (p鈥檜n a yw鈥檙 cytundeb wedi鈥檌 derfynu ai peidio);
(d)maent wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (p鈥檜n a yw鈥檙 cytundeb wedi鈥檌 derfynu ai peidio);
(e)maent mewn perthynas bersonol agos, neu maent wedi bod mewn perthynas bersonol agos 芒鈥檌 gilydd;
(f)mae ganddynt, neu roedd adeg pryd roedd ganddynt, berthynas rhiant yn gysylltiedig 芒鈥檙 un plentyn (gweler is-adran (2));
(g)maent yn perthyn.
(2)At ddibenion is-adran (1)(f) mae gan berson berthynas rhiant yn gysylltiedig 芒 phlentyn os鈥
(a)yw鈥檙 person yn rhiant y plentyn, neu
(b)mae gan y person gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(3)Yn yr adran hon鈥
mae 鈥減lentyn鈥 yn golygu person o dan 18 oed;
mae 鈥渃ytundeb partneriaeth sifil鈥 yn meddu ar yr ystyr a roddir yn adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004;
mae gan 鈥済yfrifoldeb rhiant鈥 yr un ystyr 芒鈥檙 un yn y Ddeddf Plant 1989 (gweler adran 3 o鈥檙 Ddeddf honno);
mae 鈥減erthyn鈥 yn meddu ar yr ystyr a roddir yn adran 63(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
Confensiwn enwi ar gyfer Adolygiadau o Laddiadau Domestig
Gall yr enw 鈥楢dolygiad o Laddiadau Domestig鈥 fod yn gamarweiniol pan nad yw鈥檙 farwolaeth yn yr adolygiad wedi鈥檌 dyfarnu鈥檔 lladdiad (e.e. hunanladdiad a marwolaeth heb esboniad).
5. Ydych chi o blaid ailenwi 鈥楢dolygiadau o Laddiadau Domestig鈥? - Ydw - Nac ydw - Ddim yn gwybod
[os ydw, ewch i 6, os nac ydw neu ddim yn gwybod, ewch i C7]
6. Os ydych chi o blaid ailenwi 鈥楢dolygiadau o Laddiadau Domestig鈥, a ddylai鈥檙 Llywodraeth: - Cyflwyno鈥檙 term 鈥楢dolygiad o Farwolaethau yn Gysylltiedig 芒 Cham-drin Domestig鈥 ar gyfer achosion o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 cham-drin domestig nad ydynt yn lladdiadau, gan gadw鈥檙 term 鈥楢dolygiad o Laddiadau Domestig鈥 ar gyfer lladdiadau domestig. - Ail-enwi鈥檙 holl 鈥楢dolygiadau o Laddiadau Domestig鈥 yn 鈥楢dolygiadau o Farwolaethau yn Gysylltiedig 芒 Cham-drin Domestig鈥 - Defnyddio term (neu dermau) arall i adlewyrchu鈥檙 ystod o farwolaethau sy鈥檔 dod o fewn cwmpas Adolygiad o Laddiadau Domestig (rhowch fanylion) yn well
[(blwch testun rhydd) Gall enghreifftiau o enwau eraill gynnwys: Adolygiad o Laddiadau Partneriaid Agos, Adolygiad o Laddiadau Oedolion y Teulu, marwolaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig drwy hunanladdiad neu farwolaethau eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig, neu y gellir eu holrhain mewn rhyw fodd at gam-drin domestig, gan gynnwys marwolaethau annisgwyl neu anesboniadwy, lladdiadau canlynebol].
7. Os mai 鈥榥a鈥 oedd eich ateb i gwestiwn 5, esboniwch eich rhesymau dros eich ymateb yn gryno. - [blwch testun rhydd]
Mae Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004, Adran 9, Rhan 1 yn nodi y dylid cynnal Adolygiad o Laddiadau Domestig pan fydd:
鈥渕arwolaeth person 16 oed neu h欧n wedi digwydd o ganlyniad i drais, camdriniaeth neu esgeuluso, neu pan fydd yn ymddangos bod hynny wedi digwydd gan鈥
(a)person yr oedd yn perthyn iddo neu yr oedd mewn perthynas bersonol agos ag ef, neu yr oedd wedi bod mewn perthynas bersonol agos ag ef yn y gorffennol, neu
(b)aelod o鈥檙 un aelwyd ag ef,
a gynhelir gyda鈥檙 bwriad o nodi鈥檙 gwersi i鈥檞 dysgu o鈥檙 farwolaeth鈥
Deddfwriaeth Bresennol
Amdanoch chi
Mae鈥檙 cwestiynau canlynol yn holi am eich nodweddion personol. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i weld a oes gan wahanol bobl wahanol safbwyntiau a phrofiadau. Mae pob cwestiwn yn ddewisol, a does dim rhaid i chi ddarparu unrhyw ran o鈥檙 wybodaeth os nad ydych chi eisiau.
Demograffeg
Ym mha un o鈥檙 grwpiau oedran hyn ydych chi?
Dan 16 oed
16-19
20-24
25-34
35-44
45-54
55-64
65-74
75-84
85 oed a h欧n
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Pa un o鈥檙 canlynol sy鈥檔 disgrifio orau sut rydych chi鈥檔 gweld eich hun?
Gwryw
Benyw
Anneuaidd
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Arall (rhowch fanylion):
A yw鈥檙 rhywedd rydych chi鈥檔 uniaethu ag ef yr un fath 芒鈥檙 rhywedd a gofrestrwyd adeg eich geni?
Ydy
Nac ydy
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Beth yw eich ethnigrwydd?
Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig
Gwyddelig
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
Cefndir Gwyn arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
Indiaidd
Pacistanaidd
Bangladeshaidd
Tsieineaidd
Unrhyw gefndir Asiaidd arall
Cymysg/grwpiau aml-ethnig
Gwyn a Du 颁补谤颈产茂补颈诲诲
Gwyn a Du Affricanaidd
Gwyn ac Asiaidd
Unrhyw gefndir cymysg arall
Du neu Ddu Prydeinig
颁补谤颈产茂补颈诲诲
Affricanaidd
Unrhyw gefndir du arall
Gr诺p ethnig arall
Arabaidd
Unrhyw gr诺p ethnig arall
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Os ydych chi wedi dewis unrhyw gefndir arall, rhowch fanylion:
Beth yw eich crefydd?
Bwdhydd
Cristion
贬颈苍诲诺
Iddew
Moslem
Sikh
Arall (rhowch fanylion):
Dim crefydd
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Pa un o鈥檙 canlynol sy鈥檔 disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol orau?
贬别迟别谤辞谤测飞颈辞濒/厂迟谤锚迟
Hoyw
Lesbiad
Deurywiol
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Arall (rhowch fanylion):
Oes gennych chi unrhyw salwch neu anabledd tymor hir?
Oes
Nac oes
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Ble rydych chi鈥檔 byw?
Gogledd-ddwyrain Lloegr
Gogledd-orllewin Lloegr
Swydd Efrog a Humber
Gorllewin Canolbarth Lloegr
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Dwyrain Lloegr
De-orllewin Lloegr
De-ddwyrain Lloegr
Llundain Fwyaf
Cymru
Mae鈥檔 well gen i beidio 芒 dweud
Arall (rhowch fanylion):
Amdanoch chi
Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun 鈥 nid yw鈥檙 adran hon yn orfodol
Enw llawn | |
---|---|
Teitl eich swydd neu ym mha swyddogaeth yr ydych yn ymateb i鈥檙 ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o鈥檙 cyhoedd) | 听 |
Dyddiad | 听 |
Enw鈥檙 cwmni/sefydliad (os yw鈥檔 berthnasol) | 听 |
Cyfeiriad/Cod post | 听 |
Os hoffech chi i ni gydnabod ein bod wedi derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn | 听 |
I ba gyfeiriad y dylid anfon y gydnabyddiaeth, os yw鈥檔 wahanol i鈥檙 uchod | 听 |
Manylion cyswllt a sut i ymateb
Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein:
Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i:
E-bost: DHRReform@homeoffice.gov.uk
Neu drwy鈥檙 post i:
Domestic Homicide Review Reform Consultation
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Cwynion neu sylwadau
Os oes gennych chi unrhyw gwynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori, dylech gysylltu 芒鈥檙 Swyddfa Gartref gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad uchod.
Cyhoeddi ymateb
Cyhoeddir papur yn crynhoi鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad hwn ar GOV.uk maes o law.
Grwpiau cynrychioladol
Gofynnir i grwpiau cynrychioladol roi disgrifiad cryno o鈥檙 bobl a鈥檙 sefydliadau maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.
Cyfrinachedd
Mae鈥檔 bosibl y cyhoeddir neu y datgelir gwybodaeth a roddir wrth ymateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol 芒鈥檙 trefniadau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os ydych chi am i鈥檙 wybodaeth a ddarperir gennych gael ei chadw鈥檔 gyfrinachol, rhaid i ni eich atgoffa bod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys Cod Ymarfer statudol y mae鈥檔 rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef sy鈥檔 ymwneud, ymhlith pethau eraill, ag ymrwymiadau cyfrinachedd. Oherwydd hyn, byddai鈥檔 fuddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn credu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os ydym yn derbyn cais i ddatgelu鈥檙 wybodaeth, rhoddwn ystyriaeth lawn i鈥檆h esboniad, ond ni allwn addo y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir unrhyw ymwrthodiad cyfrinachedd a gynhyrchir yn awtomatig gan eich system Technoleg Gwybodaeth, ynddo鈥檌 hun, yn rhwymedigaeth ar y Swyddfa Gartref.
Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol 芒鈥檙 Ddeddf Diogelu Data a dan y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd part茂on.