Y Farwnes Randerson: Mae partneriaethau鈥檔 allweddol i lwyddiant twristiaeth
Partneriaethau cadarn yn hanfodol i lwyddiant parhaus y diwydiant twristiaeth yng Nghymru

Mae partneriaethau鈥檔 allweddol i lwyddiant twristiaeth, yn 么l y Farwnes Randerson wrth ymweld 芒 Gorllewin Cymru Mae partneriaethau cadarn rhwng y Llywodraeth, y diwydiant twristiaeth a chyrff marchnata yn hanfodol i lwyddiant parhaus y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn 么l y Farwnes Randerson heddiw.
Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i gwrdd 芒 rheiny yn y gorllewin sydd wedi elwa o gyllideb yr wythnos hon; ffermwyr, rheiny sydd yn prynu t欧 am y tro cyntaf a phensiynwyr yn arbennig.
Roedd y gweinidog yn siarad wrth ymweld 芒 Phlas Llanelly, ble bydd yn gweld drosti ei hun sut mae鈥檙 ymddiriedolaeth wedi gweithio ar y cyd ag eraill yn y diwydiant ac wedi creu 12 o swyddi llawn amser newydd.
Mae gwesty eiconig y dref, Gwesty Parc y Strade, yn croesawu ymwelwyr Plas Llanelly ac mae tafarn hanesyddol y Thomas Arms yn cael ei hyrwyddo yn ystod teithiau o amgylch y plas.
Mae鈥檙 dafarn a鈥檙 gwesty鈥檔 dweud wrth eu cwsmeriaid am Blas Llanelly hefyd.
Mae Plas Llanelly a Th欧 Aberglasne sydd gerllaw, yn hyrwyddo ei gilydd i鈥檞 hymwelwyr.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae鈥檙 diwydiant twristiaeth yng Nghymru鈥檔 llwyddiant enfawr i鈥檔 gwlad; yn denu buddsoddiad ac yn creu swyddi ar hyd a lled y wlad. Mae miliynau o bobl yn teithio i Gymru bob blwyddyn i fwynhau ein golygfeydd godidog, ymweld 芒鈥檔 hadeiladau hanesyddol a blasu ein bwyd a鈥檔 diod arobryn.
Ond mae ein llwyddiant yn dibynnu ar ba mor dda rydyn ni鈥檔 dod at ein gilydd er mwyn sicrhau bod ein hymdrech ar y cyd yn well na鈥檙 ymdrechion unigol.
Yma ym Mhlas Llanelly, mae eu dull arloesol o gydweithio wedi arwain at ganlyniadau gwych, ac rwy鈥檔 dymuno gweld hyn yn digwydd ledled Cymru.
Twristiaeth yw ail ddiwydiant mwyaf Cymru, a chynhyrchodd y diwydiant 拢2.3 biliwn o wariant yn 2013.
O鈥檙 96.72 miliwn o deithiau ym Mhrydain Fawr rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2014, roedd 8.9 y cant o鈥檙 rhain i Gymru - cynnydd o鈥檙 un cyfnod yn 2013.
Roedd cyfanswm y nosweithiau a dreuliwyd yng Nghymru yn ystod deg mis cyntaf 2014 1.5 y cant yn uwch o gymharu 芒鈥檙 un cyfnod yn 2013.
Mae鈥檙 gwariant yn ystod ymweliadau 芒 Chymru yn ystod deg mis cyntaf 2014 wedi cynyddu o gymharu 芒鈥檙 un cyfnod yn 2013.
Bydd y Farwnes Randerson yn ymweld ag atyniadau twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar ddydd Iau 19 a dydd Gwener 20 Mawrth.
Yn ogystal ag ymweld 芒鈥檙 adeilad 300 oed, Plas Llanelly, yn dilyn prosiect adnewyddu 10 mlynedd, bydd y Farwnes Randerson yn ymweld 芒鈥檙 lleoliadau canlynol; Canolfan Ddarganfod Llanelli, lle gall ymwelwyr ddysgu am atyniadau twristiaeth yr ardal; harbwr Porth Tywyn, marina mwyaf newydd Cymru sy鈥檔 cynnwys cyfleuster 450-angor; caffi arfordir Flanagan鈥檚 yn Llanelli, sy鈥檔 enwog am ei hufen i芒; siop fferm a chaffi Cwmcerrig yng Ngorslas a Chastell Aberteifi, sydd newydd ailagor yng Ngheredigion.