Diolch i gyflogwyr am gefnogi milwyr wrth gefn mewn noson wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd
Mae 17 sefydliad anhygoel o Gymru wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023.

Silver ERS Awards 2023. Copyright: RFCA for Wales
Mae 17 sefydliad anhygoel o Gymru wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2023.
Cafodd cyflogwyr o bob rhan o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Caerdydd ddydd Iau 28 Medi.
Arweinydd y noson oedd Sian Lloyd a thraddodwyd yr anerchiad agoriadol gan y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Gadlywydd Brig芒d 160 (Cymru).
Y derbynwyr oedd:
- Age Cymru Dyfed
- APK Security Ltd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Espanaro Ltd
- Heddlu Gwent
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Involve Recruitment
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- North Wales 4x4 Ltd
- Regimental Cleaning Services Ltd
- The Family Foundation
- The Mentor Ring
- Topwood Ltd
- Valley Veterans
- YourNorth Veteran Support CIC
Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Cadlywydd Steve Drysdale OBE, y Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Gadlywydd Brig芒d 160 (Cymru) a Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Adrian Williams OBE.
Traddodwyd yr anerchiad i gloi gan gadeirydd yr RFCA dros Gymru, y Brigadydd Russ Wardle OBE DL.
O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae鈥檙 Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth weithredol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polis茂au ymarferol yn y gweithle.
Er mwyn ennill Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o鈥檜 polis茂au recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu鈥檔 ymwybodol o鈥檜 polis茂au cadarnhaol tuag at faterion pobl Amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr Oedolion y Lluoedd Cadetiaid, a phriod a phartneriaid y rhai sy鈥檔 gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: 鈥淎r ran ein cymuned yn Met Caerdydd, mae鈥檔 bleser mawr gen i dderbyn y wobr hon
sy鈥檔 cyd-fynd cystal 芒鈥檔 gwerthoedd, ein pwrpas a鈥檔 blaenoriaethau. Mae鈥檙 Brifysgol yn cydnabod gwerth cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog,
gan gynnwys person茅l sy鈥檔 gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol a鈥檙 ystod eang o sgiliau a phrofiad y maen nhw鈥檔 eu cynnig i鈥檔 cymuned.鈥
Dywedodd Mr Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu 芒 Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y De, 鈥淩ydym wrth ein bodd bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda鈥檙 Wobr Arian.鈥
Mae 2023 yn dathlu deng mlynedd o鈥檙 cynllun gwobrwyo. I gael gwybod mwy am yr ERS a sut y gallai eich sefydliad gefnogi person茅l amddiffyn yn y gweithle drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog, cysylltwch 芒:
-
Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu 芒 Chyflogwyr Rhanbarth y De, wa-reed@rfca.mod.uk Ff么n symudol: 07970 493086.
-
Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu 芒 Chyflogwyr Rhanbarth y Gogledd, wa-reed2@rfca.mod.uk Ff么n symudol: 07508 193902.