Pymtheg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg
Mae ymdrechion 15 o bobl, gan gynnwys pedwar cad茅t ifanc, o bob rhan o Orllewin Morgannwg wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of West Glam Awards. Copyright: RFCA for Wales.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i un ar ddeg o bobl gan Mrs Louise Fleet YH, yn y seremoni yn John Chard VC House, Abertawe ddydd Iau 25 Ionawr.
Yr un ar ddeg oedd yr Is-gomander Andrew Davies a Karen Osmond y ddau o HMS CAMBRIA; Helen Short o Gorfflu Cadetiaid M么r Abertawe; Rhingyll Staff Stephen Davies o Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol; y Capten Simon Chaplin o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Ail Lefftenant Steve Jones a鈥檙 Uwch Sarjant a Hyfforddwr Callum Williams ill dau o ACF Dyfed a Morgannwg; Hyfforddwr Sifilaidd Stewart Lawrence, y Swyddog Hedfan Julia Havard, yr Is-gapten Francesca O鈥橞rien a鈥檙 Sarjant Hedfan Thomas Jenkins i gyd o Gadetiaid Awyr Adain Cymru Rhif 3 yr Awyrlu Brenhinol.
Cafodd cyflawniadau pedwar cad茅t yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan i 100 o bobl.
Cafwyd amlinelliad o鈥檜 hamser gyda鈥檙 cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu r么l dros y 12 mis diwethaf, gan y Sarjant Lliw a鈥檙 Cadet Madison Chaplin o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; y Sarjant Hedfan a鈥檙 Cadet Ioan Osbourne o Gadetiaid Awyr Rhif 3 Adain Gymreig yr Awyrlu Brenhinol; Uwchgapten y Gatrawd MacKenzie Bryan o ACF Dyfed a Morgannwg a鈥檙 Cadet Arweiniol Jessica Flynn o Gorfflu Cadetiaid M么r Abertawe.
Mae鈥檙 r么l, sy鈥檔 parhau tan fis Medi, yn cynnwys mynychu nifer o achlysuron swyddogol gyda鈥檙 Arglwydd Raglaw fel digwyddiadau鈥檙 Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau brenhinol.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy鈥檔 ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.
Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei ddarparu gan 1,850 o oedolion sy鈥檔 hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser hamdden yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Trefnwyd y digwyddiad gwobrwyo gan Gymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA dros Gymru) - sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.