Stori newyddion

RFCA dros Gymru yn croesawu 130 o westeion i'r Briff Blynyddol

Croesawodd y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru dros Gymru dros 130 o westeion i'w Briff Blynyddol.

Annual Briefing 2023. Copyright: RFCA for Wales

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Iau 19 Hydref yn HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd, a mynychwyd ef gan gynulleidfa amrywiol gan gynnwys aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, sefydliadau partner, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Rhoddodd cadeirydd yr RFCA dros Gymru, y Brigadydd Russ Wardle OBE DL a鈥檙 Prif Weithredwr Cyrnol Dominic Morgan OBE, ddiweddariad ar y flwyddyn a aeth heibio gan fyfyrio ar gyflawniadau鈥檙 ysgrifenyddiaeth.

Trafodwyd allbynnau鈥檙 RFCA dros Gymru o safbwynt y pileri allweddol, sef y Cadetiaid, Milwyr Wrth Gefn, Ystadau ac Ymgysylltu.

Prif siaradwr y digwyddiad oedd y Cadfridog Syr Richard Barrons KCB CBE ADC.

Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys Richard Selby MBE DL cadeirydd Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru a Rheolwr Gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Pro Steel Engineering ym Mhont-y-p诺l a roddodd safbwynt y cyflogwr.

Rhoddodd y milwyr wrth gefn, y Corporal Jared Seale a鈥檙 Corporal Sharon Penhale o Ysbyty Maes 203 (Cymru) gyflwyniad ar Orymdeithiau Nijmegen ym mis Gorffennaf 2023.

Rhoddwyd cyflwyniad ar Ymarfer Haf De Affrica 2023 gan Gadet y Fyddin Gwirfoddolwyr Oedolion Llu鈥檙 Cadetiaid, Capten Dan Priddy ynghyd 芒 chadetiaid ACF, y Cadet RSM Matteo Molica-Franco (ACF Clwyd a Gwynedd), y Cadet Molly Dickinson (ACF Gwent a Phowys) a鈥檙 Cadet Gethin O鈥橲ullivan (ACF Dyfed a Morgannwg).

Cyflwynwyd y digwyddiad gan gyflwynydd newyddion ITV, Andrea Byrne.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Hydref 2023