Cynllun cyhoeddi
Mae cynllun cyhoeddi yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn dangos y wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am y ffordd y mae APHA yn gweithredu ac yn egluro sut i gael gafael ar y wybodaeth honno.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOI) yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddweud wrth aelodau o’r cyhoedd ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau’n rheolaidd.
Mae ein cynllun cyhoeddi yn bodloni gofynion y Comisiynydd Gwybodaeth fel y’u nodwyd yn y .
Rydym yn cyhoeddi’r rhan fwyaf o wybodaeth APHA ar y wefan hon (ÒÁÈËÖ±²¥), a gellir dod o hyd i ddogfennau penodol drwy wneud chwiliad am gyhoeddiad.
Os na chaiff y wybodaeth rydych am ei chael ei chyhoeddi’n rheolaidd, gallwch wneud cais amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR). Gweler manylion am sut i wneud cais am wybodaeth a manylion cyswllt APHA.
Ffioedd am gyhoeddiadau
Gallwch lawrlwytho cyhoeddiadau APHA o ÒÁÈËÖ±²¥ am ddim.
Gallwch hefyd ofyn am allbrint unigol o unrhyw un o gyhoeddiadau APHA am ddim. Gellir codi tâl am fwy nag un allbrint, neu am gopïau o ddogfennau wedi’u harchifo nad ydynt ar gael ar ÒÁÈËÖ±²¥ er mwyn talu am gostau llungopïo a phostio. Byddwn yn rhoi manylion am y costau pan fyddwch yn gwneud y cais. Rhaid i chi dalu unrhyw gostau i APHA ymlaen llaw.
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, lleoliadau a manylion cyswllt sefydliadol, yn ogystal â gwybodaeth gyfansoddiadol a gwybodaeth am lywodraethu cyfreithiol gan gynnwys:
- ein dull llywodraethu
- trosolwg o’n gwaith
- ein gwasanaethau
- ein strwythur llywodraethu
- ein trefniadau rheoli
- ein lleoliadau a’n manylion cyswllt
- ymchwil yn APHA
- a gyhoeddir gan Senedd y DU
Ein gwariant a sut rydym yn ei wario
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ariannol am incwm rhagamcanol a gwirioneddol a hefyd am wariant, tendrau, caffael a chontractau gan gynnwys:
- adroddiad blynyddol a chyfrifon
- ±è´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü Defra sy’n trafod tendro a chaffael
- caiff gwybodaeth am reoli’r gweithlu a gwariant dros £25,000 ei chyhoeddi ar data.gov.uk o dan yr enw ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2011 a mis Medi 2012, ac fel rhan o’r ar ôl hynny
- caiff gwybodaeth am gostau busnes a lletygarwch ei chyhoeddi gan Defra fel rhan o’i data tryloywder
- caiff gwybodaeth am alwadau am dendrau, contractau a ddyfarnwyd a hysbysiadau cyn gwybodaeth ei chyhoeddi ar .
- cyhoeddir contractau newydd a ddyfarnwyd ar dudalen ein sefydliad
Ein blaenoriaethau a’n perfformiad
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, yn ogystal â chynlluniau, asesiadau, archwiliadau ac adolygiadau gan gynnwys ein strategaeth wyddonol
Ein ffordd o wneud penderfyniadau
Rydym yn cyhoeddi cynigion polisi, prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol ac ymgyngoriadau ar ein tudalen papurau polisi ac ymgyngoriadau.
Ein ±è´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a’n gweithdrefnau
Rydym yn cyhoeddi protocolau ysgrifenedig am gyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau ar ein tudalen papurau polisi ac ymgyngoriadau gan gynnwys:
- safonau gwasanaeth cwsmeriaid
- gweithdrefn gwyno
- siarter gwybodaeth bersonol
- mynediad at wybodaeth
- polisi rheoleiddiol a chydymffurfiaeth
Rhestrau a chofrestrau
Rydym yn cyhoeddi rhestrau a chofrestrau o safleoedd a gymeradwywyd gan APHA sy’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â gwybodaeth am blanhigion a hadau gan gynnwys:
- gweithfeydd cymeradwy sy’n delio â sgil-gynhyrchion anifeiliaid
- unedau pesgi ar gyfer gwartheg
- profion TSE ar wartheg trig
- Cynllun Iechyd Dofednod: rhestr o aelodau
Ein gwasanaethau
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu a’r hyn y dylech ei wneud i ofyn am y gwasanaethau hyn. Lle y bo’n briodol, mae canllawiau hefyd ar gael ar gydymffurfiaeth gyfreithiol. Dyma rai enghreifftiau:
- profion gwasanaethau labordy a rhestrau prisiau
- anifeiliaid anwes sy’n teithio: gwneud cais am dystysgrif iechyd y DU i anifeiliaid anwes
- cynhyrchion pysgod: tystysgrifau iechyd
- cadw anifeiliaid fferm
- delio â sgil-gynhyrchion anifeiliaid
- rheolaethau iechyd planhigion
- Y Rhestr Genedlaethol ac ardystio hadau
- mewnforio ac allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid
- y fasnach ryngwladol mewn rhywogaethau mewn perygl a’r defnydd masnachol ohonynt
- Porth Milfeddygon
Cyhoeddiadau
Gallwch ddod o hyd i lawer o gyhoeddiadau APHA ar ein tudalen cyhoeddiadau corfforaethol a’n tudalen ymchwil ac ystadegau gan gynnwys:
- cyhoeddiadau staff APHA
- adroddiadau APHA ar ddigwyddiadau cemegol a diogelwch bwyd (da byw)
- (BeeBase)
- ystadegau ar achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
- adroddiadau APHA ar wyliadwriaeth clefydau anifeiliaid
- ystadegau gwyliadwriaeth clefyd TSE
- gwyliadwriaeth ac epidemioleg TB buchol ym Mhrydain Fawr
- archwiliadau lles anifeiliaid ar y fferm
- cyhoeddiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR)
Gallwch ddod o hyd i ragor o gyhoeddiadau ar dudalen gan gynnwys gwybodaeth am .
Gallwch hefyd weld deunydd a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol ar dudalennau eraill ar ÒÁÈËÖ±²¥ neu drwy .
Gwneud cais am wybodaeth
Rydym am sicrhau bod ein cynllun cyhoeddi yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid.
If you’ve a comment or query on the scheme, or want to request information, send to:Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau am y cynllun, neu os ydych am wneud cais am wybodaeth, dylech ysgrifennu at:
ATI Enquiries Manager
Animal and Plant Health Agency
Woodham Lane
New Haw
Addlestone
Surrey, KT15 3NB
Neu anfonwch neges e-bost i: enquiries@apha.gov.uk
Hawlfraint
Mae’r wybodaeth a roddir i chi wedi’i diogelu gan Hawlfraint y Goron, ac mae’r cynnwys ar gael o dan y f3.0, oni nodir fel arall.
I gael gwybodaeth am y Drwydded Llywodraeth Agored ac am ailddefnyddio gwybodaeth â Hawlfraint y Goron, gweler .