Gweithio i Tŷ'r Cwmnïau
Sut i wneud cais am swyddi yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn asiantaeth weithredol o’r Adran Busnes a Masnach. Rydym yn hybu hyder yn yr economi drwy greu amgylchedd busnes tryloyw ac atebol.
Rydym yn dîm o dros 1,300  o bobl angerddol sy’n gweithio mewn:
- digidol a thechnoleg
- data
- cyllid a masnachol
- cyflwyno trawsnewid
- trawsnewid pobl
- cyflenwi cwsmeriaid
- strategaeth, polisi a chyfathrebu allanol
- Ymgysylltu â chudd-wybodaeth a gorfodi’r gyfraith
Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast.
Mae ein data yn llywio penderfyniadau busnes a defnyddwyr, yn cefnogi twf ac yn helpu i darfu ar droseddau economaidd. Mae ein staff yn ymroddedig i yrru arloesedd a chael effaith ystyrlon ar economi’r DU a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
. Rydym wedi ymrwymo i gynnig buddion gwych, gweithio hyblyg a chyfleoedd gyrfa cyffrous.  Â
Darganfyddwch fwy am .
Gwneud cais am swydd
P’un a ydych chi’n weithiwr proffesiynol profiadol neu’n dechrau eich gyrfa, hoffem glywed gennych.
.