Ein llywodraethiant
Prif fwrdd a phwyllgorau gwneud penderfyniadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)
Mae’r bwrdd yn cyfarfod bob 2 fis ac mae’n darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd strategol i’r OPG.
Mae hefyd yn monitro perfformiad ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau a’n hamcanion.
Aelodau Bwrdd OPG
Mae aelodau’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau fel grŵp, nid fel cynrychiolwyr unrhyw faes busnes. Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae mynychwyr sefydlog yn dod i bob cyfarfod.
Dyma’r aelodau presennol:
- Alison Sansome, Cadeirydd y Bwrdd Anweithredol
- Ruth Duffin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
- Martyn Burke, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Veronika Neyer, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Greig Early, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Caroline Patterson, Cyfarwyddwr Partneriaethau Busnes a Chyllid, Cyllid MoJ
Mae aelodau eraill o’r Pwyllgor Gweithredol hefyd yn mynychu’r Bwrdd, er nad ydynt yn aelodau ffurfiol.
Pwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn gwneud penderfyniadau yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn adrodd arnynt. Mae’n gyfrifol am reoli Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd ac mae’n goruchwylio ein darpariaeth weithredol a blaenoriaethu adnoddau. Mae’n cyfarfod unwaith y mis.
Aelodau Pwyllgor Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Dyma’r aelodau presennol:
- Ruth Duffin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (cadeirydd)
- Peter Boyce, Gyfarwyddwr Dros Dro – Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth
- Julie Lindsay, Prif Swyddog Gweithredu
- Ruth Duffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
- Amy Shaw, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
- Louisa Harrison, Uwch Swyddog Cyllid Partneriaethau Busnes (MoJ)
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn rhoi barn annibynnol i’r Prif Weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae mynychwyr sefydlog yn dod i bob cyfarfod.
Mae’r pwyllgor yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn.
Aelodau Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Dyma’r aelodau presennol:
- Martyn Burke, Cyfarwyddwr Anweithredol (cadeirydd)
- Veronika Neyer, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Emir Feisal, Aelod Annibynnol
Yn ogystal â’r aelodau ffurfiol, mae nifer o bobl yn mynychu’n rheolaidd, sef:
- Ruth Duffin, Prif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- Amy Shaw, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
- Niall Morgan, Pennaeth Data, Perfformiad a Sicrwydd
- Caroline Patterson, Cyfarwyddwr Partneriaethau Busnes a Chyllid, Cyllid MoJ
- Glenda Roberts, Pennaeth Dros Dro Cyfrifon Ariannol Asiantaethau, MoJ
- Louisa Harrison, Uwch Bartner Busnes - Cyllid, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Cynrychiolydd o Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
- Cynrychiolydd o’r Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (ac archwilwyr dan is-gontract)