Guidance

Gwasanaeth Diweddaru鈥檙 DBS: canllaw i gyflogwyr

Updated 3 April 2025

Am y gwasanaeth diweddaru

Mae鈥檙 gwasanaeth diweddaru yn gadael i gyflogwyr wirio statws tystysgrif DBS sy鈥檔 bodoli, os yw ar gyfer yr un gweithlu pan fydd angen yr un math a lefel o wiriad cofnod troseddol a phan fydd gennych ganiat芒d yr unigolyn.

Gallwch weld enghreifftiau o鈥檙 modd y gall cyflogwyr ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth diweddaru yn gyfreithlon yn y canllaw hwn.

Mae鈥檙 terfynau ar y caniat芒d y gall yr unigolyn ei roi yn cynnwys:

  • yn gallu dangos ei dystysgrif ei hun i unrhyw un, gan mai ei wybodaeth ef sydd yno
  • yn gallu rhoi caniat芒d i gyflogwr fel ei fod yn gallu gweld ei statws ar y gwasanaeth diweddaru

Ond, ni all y cyflogwr wirio statws oni bai ei fod hefyd yn gallu gofyn yn gyfreithiol am gais DBS newydd ar gyfer y r么l y bydd yr unigolyn yn gweithio ynddi. Er enghraifft, gwiriad a fyddai yn yr un gweithlu ac ar yr un lefel 芒鈥檙 dystysgrif wreiddiol.

Mae hyn yn wir oherwydd mai cyfrifoldeb y cyflogwr, i gychwyn, yw deall a gweithredu鈥檙 ddeddfwriaeth yng nghyswllt pob r么l y maent yn recriwtio ar ei chyfer.

Mewn rhai achosion nid yw cyflogwyr wedi cofrestru gyda鈥檙 DBS ac mae鈥檔 rhaid iddynt ddefnyddio sefydliad sydd wedi cofrestru i gyflwyno gwiriadau ar eu rhan.

Pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno gan gorff cofrestredig ar ran y cyflogwr, rhaid i鈥檙 corff cofrestredig ddeall y r么l y mae鈥檙 cais ar ei chyfer a gwirio bod y lefel y gofynnir amdani gan y cyflogwr yn addas, gan mai hwy sy鈥檔 gyfrifol yn gyfreithiol am gyflwyno鈥檙 cais i鈥檙 DBS.

Gall cyflogwr gynnal gwiriad ar-lein am ddim yn syth a bydd yn cael gwybod statws presennol y dystysgrif DBS.

Am danysgrifiad blynyddol o 拢16 (am ddim i wirfoddolwyr) gall unigolyn fynd 芒鈥檌 dystysgrif gydag ef neu hi o r么l i r么l yn yr un gweithlu a lle mae angen yr un math a lefel o dystysgrif.

Rhaid i鈥檙 tanysgrifiad gael ei dalu trwy gerdyn debyd neu gredyd gan yr unigolyn sy鈥檔 ymuno, neu gyda chaniat芒d deiliad cerdyn arall.

Os bydd yr ymgeisydd yn defnyddio cerdyn trydydd parti i ymuno ac yn dewis yr opsiwn 鈥榓dnewyddu awtomatig鈥, bydd y DBS yn ceisio cymryd y ffi adnewyddu flynyddol o鈥檙 cerdyn a ddefnyddiwyd i danysgrifio yn wreiddiol.

Bydd yr holl negeseuon e-bost a anfonwyd gan y DBS yn dangos enw鈥檙 ymgeisydd.

Mae鈥檙 safle gwasanaeth diweddaru ar system ddiogel ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Manteision y gwasanaeth

  • gwiriadau ar-lein ar unwaith ar dystysgrifau DBS
  • dim mwy o ffurflenni cais DBS i鈥檞 llenwi
  • efallai na fydd angen i chi ymgeisio am wiriad DBS ar gyfer cyflogai eto
  • llai o fiwrocratiaeth
  • arbed amser ac arian i chi
  • yn cryfhau eich prosesau diogelu ac yn hawdd i鈥檞 ymgorffori yn eich gweithdrefnau llunio penderfyniadau ar addasrwydd

Helpu ymgeiswyr i ymuno 芒鈥檙 Gwasanaeth Diweddaru

Fel y cyflogwr, gallwch helpu鈥檙 ymgeisydd trwy roi gwybodaeth benodol y mae angen iddo/iddi ei roi i ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru.

Ar hyn o bryd, gall unigolyn ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru cyn cyflwyno ei ffurflen gais wirio DBS, yn ystod y broses ymgeisio neu ar 么l cael tystysgrif DBS.

Gall unigolion ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru:

  • gyda rhif cyfeirio eu ffurflen gais cyn i鈥檙 ffurflen gais gael ei chyflwyno neu yn ystod y broses ymgeisio - gallwch roi hwn iddynt neu gallant ddod o hyd iddo ar gornel uchaf dde tudalen flaen y ffurflen gais
  • gyda rhif e-gyfeirio鈥檙 cais os byddwch yn cyflwyno ceisiadau yn electronig

Os bydd yr unigolyn yn ymuno gyda rhif cyfeirio ei ffurflen gais neu e-gyfeirio, rhaid i鈥檙 DBS dderbyn y cais cyn pen 28 diwrnod o greu鈥檙 tanysgrifiad, neu bydd y tanysgrifiad yn methu.

Pan gyhoeddir tystysgrif DBS yr ymgeisydd byddwch yn ei hychwanegu at ei gyfrif yn awtomatig. Bydd y tanysgrifiad i鈥檙 gwasanaeth yn fyw wedyn.

Gall unigolion ymuno hefyd:

  • ar 么l i鈥檙 dystysgrif DBS gael ei rhoi gan ddefnyddio rhif cyfeirio鈥檙 dystysgrif. Rhaid iddynt wneud hyn cyn pen 19 diwrnod o鈥檙 dyddiad cyhoeddi a ddangosir ar y dystysgrif

Gallwch ddefnyddio rhestr wirio ffurflen gais ein gwasanaeth diweddaru i helpu ymgeiswyr i ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru.

Os oes gan unigolion ddiddordeb mewn ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru gallant hefyd ddarllen y canllaw manwl i ymgeiswyr.

Gwirio statws

Cyn i chi gynnal gwiriad statws gofynnir i chi lenwi datganiad cyfreithiol syml yn cadarnhau bod gennych ganiat芒d yr unigolyn a bod gennych yr hawl gyfreithiol i ofyn y cwestiwn a eithriwyd.

Y datganiad y mae angen i chi gytuno ag ef yw:

Cadarnhaf fod gennyf awdurdod yr unigolyn sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 rhif tystysgrif DBS hwn i dderbyn gwybodaeth gyfredol (yn gyson 芒鈥檙 ystyr yn adran 116a Deddf yr Heddlu 1997) mewn perthynas 芒鈥檌 dystysgrif DBS o gofnod troseddol er dibenion gofyn cwestiwn eithriedig yn gyson ag adran 113A Deddf yr Heddlu 1997; neu mewn perthynas 芒鈥檌 dystysgrif DBS cofnod troseddol manwl er dibenion gofyn cwestiwn eithriedig er diben a bennwyd yn gyson ag adran 113B Deddf yr Heddlu 1997.

Mae cwestiwn eithriedig yn golygu bod gennych yr hawl i weld gwybodaeth am droseddau sydd wedi dod i ben nad yw鈥檔 cael ei ddiogelu ac mae diben a bennwyd yn golygu bod y r么l wedi ei rhestru yn rheoliadau Deddf yr Heddlu sy鈥檔 rhoi鈥檙 hawl i gyflwyno tystysgrif DBS fanwl. Gall rhai dibenion a bennwyd hefyd fod 芒 gwybodaeth am addasrwydd ar gyfer plant ac oedolion yn y dystysgrif fanwl.

Mae hyn yn golygu, ar wah芒n i wybodaeth am gollfarnau sydd wedi treulio a heb dreulio nad yw wedi ei diogelu, gall tystysgrifau manwl hefyd gynnwys gwybodaeth berthnasol am achlysuron pan na chollfarnwyd y dylid eu datgelu ac mewn rhai achosion statws ar restrau gwaharddedig plant neu oedolion.

Trwy wneud datganiad rydych yn dweud bod gennych yr hawl i gael y wybodaeth honno i wneud asesiad addasrwydd ac mae鈥檙 wybodaeth ar y lefel y mae gennych hawl gyfreithiol i鈥檞 cheisio yng nghyswllt y r么l yr ydych yn recriwtio ar ei chyfer.

Os byddwch yn cael mynediad at wybodaeth y dystysgrif mae鈥檔 rhaid i chi gydymffurfio 芒 Chod ymarfer y DBS a chael polisi ar recriwtio cyn-droseddwyr.

Gallwch wirio nodweddion diogelwch tystysgrif DBS i wneud yn si诺r ei bod yn un ddilys. Mae鈥檔 rhaid i chi fedru ateb 鈥榙o/oes鈥 i鈥檙 cwestiynau canlynol cyn y gallwch gynnal gwiriad statws.

Os byddwch yn ateb 鈥榥a鈥 i unrhyw gwestiwn ni allwch gynnal gwiriad statws:

  • a ydych wedi gweld tystysgrif wreiddiol yr ymgeisydd?
  • a ydych wedi gwirio ei hunaniaeth i gadarnhau pwy yw?
  • a oes gennych ganiat芒d gan yr ymgeisydd?
  • a yw鈥檙 hawl gyfreithiol gennych i鈥檙 un lefel o dystysgrif DBS - safonol neu fanwl?
  • a yw鈥檙 dystysgrif DBS yn cynnwys yr union weithlu y mae gennych hawl i wybod amdanynt ar gyfer y r么l yr ydych yn recriwtio ar ei chyfer?

Bydd hyn yn cael ei restru yn yr adran 鈥榮wydd yr ymgeisiwyd amdani鈥 a bydd yn dangos pa weithlu a ddefnyddiwyd i bennu perthnasedd unrhyw wybodaeth a gedwir gan yr heddlu yn lleol a all ymddangos ar dystysgrif DBS fanwl.

Pan fydd y gweithlu yn 鈥渁rall鈥 yna bydd yr heddlu yn asesu perthnasedd gwybodaeth a gedwir yn lleol yng nghyswllt penodol y swydd yr ymgeisir amdani. Y 3 gweithlu yw plant, oedolion ac arall.

Gall tystysgrifau ddangos un gweithlu neu gyfuniad o blant ac oedolion ond nid unrhyw gyfuniad arall.

  • os oes gennych hawl gyfreithiol i wiriad rhestr waharddedig, a yw鈥檙 dystysgrif DBS yn cynnwys yr un sydd ei hangen arnoch ee: rhestr plant, rhestr oedolion, y ddwy. Bydd rhai tystysgrifau manwl yn dangos na ofynnodd y sefydliad gwreiddiol am wirio鈥檙 rhestr waharddedig

Gallwch ddarllen rhagor am weithluoedd ar dudalen cyfarwyddyd cymhwyster y DBS.

Os bydd unigolyn yn gadael eich sefydliad, yn symud i swydd lle nad oes hawl gyfreithiol i鈥檙 un gwiriad DBS, neu鈥檔 tynnu鈥檙 caniat芒d i wirio yn 么l, yna rhaid i chi stopio unrhyw wiriadau statws pellach.

Os parhewch i gynnal gwiriadau statws ar ei dystysgrif byddwch yn torri鈥檙 gyfraith drwy gael mynediad at ddata nad oes gennych hawl i鈥檞 weld.

Dylech gael caniat芒d yr unigolyn cyn i chi wirio statws ei dystysgrif DBS bob amser. Cofnodir pob gwiriad statws a gall yr unigolyn eu gweld ar ei gyfrif gwasanaeth diweddaru.

Sut i gynnal gwiriad statws

Wedi i chi weld y dystysgrif DBS wreiddiol, os oes gennych yr hawl gyfreithiol i gwblhau gwiriad statws a鈥檆h bod wedi cael caniat芒d yr unigolyn ewch i dudalen y Gwasanaeth Diweddaru a darllen yr adran cyflogwyr.

Ni fydd raid i chi greu cyfrif i gynnal gwiriadau statws am ddim.

Mae cynnal gwiriad statws ar danysgrifiad yn gyflym a syml. Rhaid i chi ddarllen yr holl gyfarwyddiadau鈥檔 ofalus a rhoi:

  • enw eich sefydliad
  • eich enw cyntaf a鈥檆h cyfenw
  • manylion y dystysgrif DBS sy鈥檔 cael ei gwirio.
  • rhif y dystysgrif DBS
  • cyfenw cyfredol deiliad y dystysgrif DBS fel y nodir ar ei dystysgrif DBS
  • dyddiad geni deiliad y dystysgrif DBS ar ffurf DD/MM/BBBB, fel y dangosir ar y dystysgrif DBS

Gofalwch nad oes unrhyw fylchau ar 么l rhoi鈥檙 wybodaeth. Yna darllenwch y datganiad cyfreithiol a rhowch dic os ydych yn cytuno ag ef.

Ar 么l i chi gynnal gwiriad statws yn llwyddiannus byddwch yn gweld canlyniad y gwiriad y gallwch ei argraffu ac yna鈥檌 gadw鈥檔 ddiogel yn unol 芒 a pholisi trin gwybodaeth tystysgrif DBS.

Gwirio statws nifer o bobl

Gallwch wirio nifer o dystysgrifau ar yr un pryd.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth gwirio statws nifer o bobl a sut i gael mynediad ato, edrychwch ar ein canllaw cyfleuster gwirio statws nifer o bobl.

Dehongli canlyniadau gwirio statws

Bydd un o鈥檙 canlyniadau canlynol yn cael ei gyflwyno ar 么l gwiriad statws llwyddiannus:

Ni ddatgelodd y dystysgrif DBS unrhyw wybodaeth ac mae鈥檔 parhau鈥檔 gyfredol gan na ddynodwyd unrhyw wybodaeth ers ei chyhoeddi.

Golyga hyn:

  • bod y dystysgrif yn glir pan gafodd ei chyhoeddi (ni ddatgelodd unrhyw wybodaeth am yr unigolyn)
  • ni chanfuwyd unrhyw wybodaeth newydd ers ei chyhoeddi ac felly gellir ei derbyn fel un gyfredol a dilys
Mae鈥檙 dystysgrif DBS hon yn parhau鈥檔 gyfredol gan na ddynodwyd unrhyw wybodaeth bellach ers ei chyhoeddi.

Golyga hyn:

  • bod y dystysgrif DBS wedi datgelu gwybodaeth am yr unigolyn
  • ni chanfuwyd unrhyw wybodaeth newydd ers ei chyhoeddi ac felly gellir ei derbyn fel un gyfredol a dilys
Nid yw鈥檙 dystysgrif DBS yn gyfredol mwyach. Ymgeisiwch am wiriad DBS newydd i gael y wybodaeth fwyaf cyfredol.

Golyga hyn:

  • daeth gwybodaeth newydd i鈥檙 amlwg ers cyhoeddi鈥檙 dystysgrif DBS a bydd angen i chi ymgeisio am wiriad DBS newydd i weld y wybodaeth newydd hon
Nid yw鈥檙 manylion a gyflwynwyd yn cyfateb 芒鈥檙 rhai a gedwir ar ein system. Gwiriwch a rhoi cynnig arni eto.

Golyga hyn un ai:

  • nad yw鈥檙 unigolyn wedi tanysgrifio i鈥檙 gwasanaeth diweddaru
  • bod y dystysgrif DBS wedi ei thynnu o鈥檙 gwasanaeth diweddaru
  • nad ydych wedi cyflwyno鈥檙 wybodaeth gywir

Amlder chwiliadau DBS am wybodaeth newydd

Pan fydd unigolyn yn ychwanegu ei dystysgrif DBS i鈥檞 gyfrif gwasanaeth diweddaru, bydd y DBS yn chwilio鈥檔 rheolaidd i weld a oes unrhyw wybodaeth newydd wedi dod i鈥檙 amlwg ers ei chyhoeddi. Mae鈥檙 amlder yn amrywio gan ddibynnu ar y lefel a鈥檙 math o dystysgrif DBS.

Ar gyfer collfarnau troseddol a gwybodaeth ar wahardd bydd y DBS yn chwilio am ddiweddariadau yn wythnosol.

Ar gyfer gwybodaeth nad yw鈥檔 ymwneud 芒 chollfarn, bydd y DBS yn chwilio am ddiweddariadau bob 9 mis.

Ni fyddwn yn eich hysbysu os bydd statws yn newid, bydd angen i chi gynnal gwiriadau achlysurol ar dystysgrif gyda chaniat芒d yr unigolyn.

Pam y byddai statws tystysgrif yn newid?

Bydd y statws yn newid os:

Ar gyfer pob tystysgrif DBS:

  • bydd collfarnau, rhybuddiadau, ceryddon neu rybuddion newydd wedi cael eu hychwanegu at gofnodion yr heddlu neu
  • os diwygiodd yr heddlu鈥檙 collfarnau, rhybuddiadau, ceryddau neu rybuddion presennol

Ar gyfer tystysgrifau DBS manwl:

  • fel yr uchod ag unrhyw wybodaeth newydd, berthnasol gan yr heddlu

Ar gyfer tystysgrifau manwl gyda gwiriad ag unrhyw un o鈥檙 rhestrau gwaharddedig:

  • fel yr uchod ac os bydd yr unigolyn yn cael ei wahardd o鈥檙 naill restr waharddedig neu鈥檙 llall/neu鈥檙 ddwy

Os bydd y gwiriad statws yn datgelu bod newid wedi digwydd, argymhellir i chi gael trafodaeth gyda鈥檙 unigolyn am y rhesymau am y newid.

Bydd unrhyw gamau a gymerwch cyn i chi gael gwybod beth yw鈥檙 wybodaeth newydd yn fater i鈥檆h sefydliad.

Gallwch argraffu a chadw copi o鈥檙 gwiriad statws cyn belled 芒鈥檆h bod yn diogelu鈥檙 wybodaeth yn unol 芒 chod ymarfer y DBS a鈥檙 Ddeddf Diogelu Data 1998.

Os cyflwynir cais am dystysgrif DBS newydd oherwydd newid mewn statws, bydd y sefydliad sy鈥檔 gyfrifol am gyflwyno鈥檙 cais (corff cofrestredig) yn gallu gofyn am gopi o鈥檙 dystysgrif newydd os bydd yr holl amodau isod yn berthnasol:

  • mae鈥檙 unigolyn wedi tanysgrifio i鈥檙 gwasanaeth diweddaru
  • mae鈥檙 cyflogwr wedi cwblhau gwiriad statws a amlygodd newid i鈥檙 dystysgrifDBS
  • gwnaeth yr unigolyn gais am wiriad DBS newydd
  • mae鈥檙 DBS wedi cyhoeddi tystysgrif DBS newydd i鈥檙 ymgeisydd fwy na 28 diwrnod yn 么l
  • nid yw鈥檙 ymgeisydd wedi dangos y dystysgrif DBS newydd i鈥檙 cyflogwr
  • mae rheswm dilys o hyd dros gael gweld gwybodaeth y dystysgrif, er enghraifft mae鈥檙 r么l yn dal ar gael

Os yw鈥檙 unigolyn wedi bwrw amheuaeth ar gynnwys y dystysgrif DBS newydd ni fyddwn yn ystyried cyhoeddi copi i gorff cofrestredig hyd 28 diwrnod ar 么l i鈥檙 anghydfod gael ei ddatrys.

Mae hyn yn rhoi digon o amser i鈥檙 ymgeisydd ddangos y dystysgrif newydd i鈥檙 cyflogwr.

Gwiriadau cadarnhau cynnar

Bydd gwiriad cadarnhau cynnar yn gadael i chi ganfod a yw statws wedi newid oherwydd bod yr unigolyn wedi cael ei ychwanegu at restr waharddedig.

Bydd arnoch angen caniat芒d yr unigolyn i ofyn am wiriad cadarnhau cynnar.

Gallwch wneud cais am y wybodaeth hon os yw鈥檙 amodau canlynol yn berthnasol yn unig:

  • mae鈥檙 unigolyn wedi tanysgrifio i鈥檙 gwasanaeth diweddaru
  • mae gwiriad statws wedi dynodi nad yw鈥檙 dystysgrif yn gyfredol mwyach
  • roedd y dystysgrif yn cynnwys gwiriad o restr(au) gwaharddedig
  • mae gennych yr hawl i wybod canlyniad y gwiriad rhestr waharddedig
  • rydych wedi cael caniat芒d yr ymgeisydd

Bydd angen i chi gwblhau鈥檙 ffurflen cadarnhau gwiriad cynnar a鈥檌 hanfon trwy e-bost atom ni. Byddwch yn cael ateb cyn pen 7 diwrnod gwaith.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd gwiriad cadarnhau cynnar yn cadarnhau bod fy nghyflogai wedi ei wahardd?

Mae鈥檔 anghyfreithlon i gyflogwr, ac yntau yn gwybod, ganiat谩u i rywun barhau i gyflawni gweithgaredd sy鈥檔 cael ei reoleiddio gyda鈥檙 gr诺p y maent wedi ei wahardd ohono.

Mae鈥檔 drosedd hefyd i unigolyn a waharddwyd weithio neu geisio gwaith mewn gweithgaredd a reoleiddir mewn gr诺p y cafodd ei wahardd ohono.

Os bydd y gwiriad yn dangos bod eich gweithiwr ar restr waharddedig, byddwch yn cael cyfarwyddyd gan y DBS ynghyd 芒鈥檙 gwiriad cadarnhau.

Nid oes unrhyw gost am wiriad cadarnhau cynnar.

Gwasanaeth diweddaru a swyddi o gartref

Bydd y gwasanaeth diweddaru鈥檔 gwirio am ddiweddariadau yn seiliedig ar yr unigolyn y cwblhawyd y gwiriad ar ei gyfer yn unig, nid y cyfeiriad cartref lle cynhelir y gwaith nac unrhyw unigolion eraill a gyflogir nac sy鈥檔 byw yn y cyfeiriad hwnnw.

Os ydych am gael gwybod a oes unrhyw wybodaeth newydd am unigolion sy鈥檔 byw neu yn gweithio o鈥檜 cartrefi, rhaid i chi ofyn am wiriad DBS newydd.

Ni allwch wneud hyn oni bai bod y swydd yr ydych yn ystyried yr unigolyn ar ei chyfer yn rhoi鈥檙 hawl i chi weld y wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y canllaw swyddi o gartref.

Y gwasanaeth diweddaru a thystysgrifau 芒 llaw

Weithiau nid yw鈥檔 bosibl i鈥檙 DBS gynhyrchu tystysgrif DBS ar y system/yn electronig.

Pan ddigwydd hyn bydd y DBS yn cyhoeddi tystysgrif DBS 芒 llaw. Ni ellir defnyddio tystysgrifau 芒 llaw i ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru oherwydd cyfleuster ar-lein yw鈥檙 gwasanaeth diweddaru.

Defnyddio鈥檙 gwasanaeth diweddaru os ydych yn gorff cofrestredig e-swmp

Fel corff cofrestredig e-swmp gallwch hyrwyddo鈥檙 defnydd o鈥檙 gwasanaeth diweddaru i鈥檆h cleientiaid a鈥檆h ymgeiswyr. Gallwch hefyd gynnig rhedeg gwiriadau statws i鈥檆h cleientiaid os cewch chi ganiat芒d gan bob unigolyn.

Os byddwch yn cyflwyno cais yr unigolyn am wiriad DBS drwy鈥檙 gwasanaeth ymgeisio e-swmp gall yr unigolyn ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru drwy ddefnyddio鈥檌 rif e-gyfeirnod neu rif tystysgrif DBS.

Os bydd yr unigolyn yn ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru gyda鈥檌 rif e-gyfeirio, rhaid i鈥檙 DBS dderbyn y cais cyn pen 28 diwrnod o greu鈥檙 tanysgrifiad.

Os bydd unigolyn yn tanysgrifio drwy ddefnyddio ei rif tystysgrif DBS, rhaid gwneud hynny cyn pen 30 diwrnod calendr o ddyddiad cyhoeddi鈥檙 dystysgrif.

Nid yw鈥檙 gwasanaeth diweddaru ac e-swmp yn systemau integredig. Mae cyfleuster ar wah芒n ar gael y gall sefydliadau ei ddefnyddio i gynnal gwiriadau statws i nifer o bobl. Mae rhagor o fanylion ar gael yng nghanllaw gwirio statws nifer o bobl y gwasanaeth diweddaru.

Defnyddio鈥檙 gwasanaeth diweddaru pan fydd penderfyniadau recriwtio yn cael eu gwneud yn ganolog ac nid yn lleol

Os bydd unigolyn wedi ymuno 芒鈥檙 gwasanaeth diweddaru, ac y byddai鈥檔 well gennych lenwi gwiriad statws ar-lein yn hytrach na gofyn iddo gwblhau cais gwiriad DBS newydd, gallwch wneud hyn trwy ddilyn unrhyw un o鈥檙 dewisiadau canlynol:

Opsiwn 1

Gofynnwch i鈥檙 unigolyn anfon ei dystysgrif DBS wreiddiol atoch. Os byddwch, ar 么l gweld y dystysgrif, yn dal i ddymuno ystyried ei gyflogi a defnyddio鈥檙 gwasanaeth diweddaru, rhaid i chi fedru ateb yr holl gwestiynau canlynol yn gadarnhaol, os bydd unrhyw un yn negyddol ni allwch gynnal gwiriad statws.

  • a ydych wedi gwirio hunaniaeth i gadarnhau pwy yw?
  • a oes gennych ganiat芒d gan yr ymgeisydd?
  • a yw鈥檙 hawl gyfreithiol gennych i鈥檙 un lefel o dystysgrif DBS - safonol neu fanwl?
  • a yw鈥檙 dystysgrif DBS yn cynnwys y gweithlu penodol y mae gennych hawl i wybod amdanynt ar gyfer y r么l yr ydych yn recriwtio ar ei chyfer?

Bydd hyn yn cael ei restru yn yr adran 鈥榮wydd yr ymgeisiwyd amdani鈥 a bydd yn dangos pa weithlu a ddefnyddiwyd i bennu perthnasedd unrhyw wybodaeth a gedwir gan yr heddlu yn lleol a all ymddangos ar dystysgrif DBS fanwl.

Y gweithluoedd yw plant, oedolion ac arall. Gall tystysgrifau ddangos un gweithlu neu gyfuniad o blant ac oedolion ond nid unrhyw gyfuniad arall.

  • os oes gennych hawl gyfreithiol i wiriad rhestr waharddedig, a yw鈥檙 dystysgrif DBS yn cynnwys yr un penodol sydd ei hangen arnoch, er enghraifft rhestr plant, rhestr oedolion, y ddwy. Bydd rhai tystysgrifau manwl yn dangos na ofynnodd y sefydliad gwreiddiol am wirio鈥檙 rhestr waharddedig

Opsiwn 2

Fel y swyddfa recriwtio ganolog gallwch:

  • ddweud wrth y swyddfa leol pa lefel o wiriad sy鈥檔 gymwys ar gyfer y r么l yr ydych yn recriwtio ar ei chyfer a gofynnwch i鈥檆h swyddfa leol wirio a yw鈥檙 dystysgrif wreiddiol o鈥檙 un math a lefel o ddatgeliad ag y gallwch ofyn amdano
  • os yw, ac os nad oes gwybodaeth ar y dystysgrif, bod gennych broses yn ei lle i adael i鈥檙 unigolyn wybod y bydd ei wybodaeth yn cael ei rhannu gyda鈥檙 swyddfa ganolog fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniad recriwtio cychwynnol
  • gofyn i鈥檙 swyddfa leol gynnal gwiriadau hunaniaeth i gadarnhau pwy yw鈥檙 unigolyn
  • gofyn i鈥檙 swyddfa leol gael caniat芒d yr ymgeisydd i wneud gwiriad statws

Yna gallwch gwblhau gwiriad ar-lein am ddim i sicrhau bod y dystysgrif DBS yn gyfredol ac yn ddilys o hyd.

Enghreifftiau o鈥檙 modd y gall cyflogwyr ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth diweddaru yn gyfreithlon

Gweithlu oedolion

Enghraifft 1

Mae gan Amanda danysgrifiad diweddaru gyda thystysgrif fanwl ar gyfer y gweithlu oedolion. Mae hyn yn cynnwys gwiriad gyda鈥檙 rhestr waharddedig oedolion.

Mae Amanda wedi cynnig gweithio i sefydliad gwirfoddol sy鈥檔 danfon oedolion at y meddyg ac i apwyntiadau ysbyty. Mae鈥檔 dangos ei thystysgrif i鈥檞 darpar gyflogwr newydd. Mae鈥檙 rheolwr recriwtio, Ranjiit, yn gofyn i Amanda a gaiff wneud gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru hefyd. Mae Amanda yn rhoi ei chaniat芒d.

Mae Ranjiit yn gwybod bod lefel y gwiriadau ar dystysgrif Amanda yr un lefel a鈥檙 un gweithlu y mae ganddo hawl i ofyn amdanynt. Felly pan fydd yn mynd ar y gwasanaeth diweddaru mae鈥檔 hyderus y gall wneud y datganiad cyfreithiol gofynnol.

Enghraifft 2

Mae gan Roger danysgrifiad diweddaru gyda thystysgrif fanwl ar gyfer y gweithlu oedolion a phlant. Mae hyn yn cynnwys gwiriad gyda鈥檙 rhestr waharddedig oedolion a phlant.

Cynigiwyd swydd i Roger mewn cartref gofal i oedolion. Mae鈥檔 dangos ei dystysgrif i鈥檞 gyflogwr newydd. Mae鈥檙 rheolwr recriwtio, Doris, yn gofyn i Roger a gaiff wneud gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru hefyd. Mae Roger yn rhoi ei ganiat芒d; ond, pan aiff Doris ar y gwasanaeth diweddaru, mae鈥檔 sylweddoli na all wneud hyn, oherwydd nad oes ganddi ganiat芒d cyfreithiol i ofyn am wiriad o鈥檙 rhestr waharddedig ar gyfer plant na gweld gwybodaeth heblaw collfarnau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 gweithlu plant.

Mae hyn yn wir oherwydd y byddai鈥檙 datganiad cyfreithiol yn gofyn i Doris a oes ganddi hawl i wirio鈥檙 rhestr plant 鈥 ac nid oes ganddi 鈥 dim ond y rhestr oedolion. Felly, er bod Roger wedi rhoi ei ganiat芒d, ni all Doris wneud y datganiad cyfreithiol gofynnol ac ni all wneud gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru.

Gallai Doris ofyn i Roger lenwi ffurflen gais DBS newydd lle mae鈥檔 gofyn am y lefel a鈥檙 gweithlu cywir ar gyfer y swydd y bydd yn ei gyflogi ar ei chyfer. Gall Roger wedyn ychwanegu鈥檙 dystysgrif newydd honno at ei danysgrifiad gwasanaeth diweddaru heb unrhyw gost ychwanegol.

Gweithlu plant

Enghraifft 1

Mae Maria yn athrawes sydd 芒 thanysgrifiad gwasanaeth diweddaru gyda thystysgrif fanwl ar gyfer y gweithlu plant. Mae hyn yn cynnwys gwiriad gyda鈥檙 rhestr waharddedig ar gyfer plant. Mae Maria yn cynnig gwirfoddoli gyda gr诺p chwarae plant lleol.

Mae Maria yn cyflwyno ei thystysgrif i Fatima, arweinydd y gr诺p chwarae. Mae鈥檔 gofyn i Maria a all hi hefyd gynnal gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru. Mae Maria yn rhoi ei chaniat芒d; ond, pan aiff Fatima ar y gwasanaeth diweddaru, mae鈥檔 sylweddoli na all wneud hyn, oherwydd nad oes ganddi ganiat芒d cyfreithiol i ofyn am wiriad o鈥檙 rhestr waharddedig ar gyfer plant. Mae hyn yn wir am ei bod yn gwybod y bydd Maria yn cael ei goruchwylio gan arweinydd gr诺p chwarae arall sydd mewn gweithgaredd rheoledig ac mae hyn yn golygu na fydd Maria mewn gweithgaredd rheoledig gyda phlant.

Dim ond cyflwyno ffurflen gais DBS newydd ar lefel manwl yn y gweithlu plant heb wirio鈥檙 rhestr waharddedig ar gyfer plant y gall Fatima ei wneud ar gyfer y swydd y bydd Maria yn ei chyflawni yn y gr诺p chwarae. Felly, er bod Maria wedi rhoi ei chaniat芒d, ni all Fatima wneud y datganiad cyfreithiol gofynnol ac ni all gynnal gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru.

Gallai Fatima ofyn i Maria lenwi ffurflen gais DBS newydd lle mae鈥檔 gofyn am y lefel a鈥檙 gweithlu cywir ar gyfer y swydd y bydd yn ei chyflogi ar ei chyfer. Gall Maria wedyn ychwanegu鈥檙 dystysgrif newydd honno at ei thanysgrifiad gwasanaeth diweddaru heb unrhyw gost ychwanegol.

Enghraifft 2

Mae gan Andrew danysgrifiad diweddaru gyda thystysgrif fanwl ar gyfer y gweithlu plant. Mae hyn yn cynnwys gwiriad gyda鈥檙 rhestr waharddedig ar gyfer plant. Mae鈥檔 gwneud cais am gwrs hyfforddi athrawon ac yn cyflwyno ei dystysgrif i Jessica, gweinyddwraig y cwrs.

Bydd Andrew yn cyflawni gweithgaredd rheoledig gyda phlant fel rhan o鈥檌 leoliadau ar y cwrs felly gallai鈥檙 coleg ofyn am wiriad manwl yn y gweithlu plant a gwiriad o鈥檙 rhestr waharddedig ar gyfer plant.

Mae Andrew yn rhoi ei dystysgrif i Jessica ac yn rhoi caniat芒d iddi gynnal gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru. Mae鈥檙 dystysgrif yn cynnwys yr un lefel o wiriad yn yr un gweithlu ag sy鈥檔 ofynnol ar gyfer y r么l hyfforddi athrawon ac felly gall Jessica gynnal y gwiriad statws gan y bydd yn gallu gwneud y datganiad cyfreithiol gofynnol.

Gweithlu Plant ac Oedolion

Enghraifft 1

Mae gan Lene danysgrifiad diweddaru gyda gwiriad lefel safonol ar gyfer y gweithlu oedolion a phlant oherwydd iddi weithio fel derbynnydd rhan-amser mewn meddygfa. Nid yw gwiriadau rhestrau gwaharddedig ar gael ar gyfer gwiriadau lefel Safonol.

Yna mae Lene yn sicrhau lle ar raglen hyfforddi sylfaen.

Yn ystod ei hyfforddiant, bydd ar nifer o leoliadau mewn ymddiriedolaethau GIG. Bydd y lleoliadau yma yn cynnwys darparu gweithgareddau a reoleiddir gydag oedolion a phlant.

Gofynnodd i Jim, gweinyddwr y rhaglen, a fyddai鈥檔 defnyddio ei thanysgrifiad gwasanaeth diweddaru i gynnal gwiriad statws yn hytrach na gofyn iddi lenwi ffurflen gais DBS newydd.

Mae Lene wedi rhoi caniat芒d i Jim gynnal y gwiriad statws ond ni all Jim ddefnyddio ei thystysgrif i asesu a yw鈥檔 addas i gymryd rhan yn y rhaglen oherwydd mae鈥檙 asesiad i gofrestru yn cynnwys darparu gwiriad lefel manwl yn y gweithlu plant ac oedolion gan wirio鈥檙 rhestri gwaharddedig plant ac oedolion.

Mae Jim yn dewis peidio 芒 gwneud cais statws oherwydd na fyddai鈥檔 rhoi鈥檙 wybodaeth y mae arno ei hangen iddo felly mae鈥檔 gofyn i Lene lenwi ffurflen gais DBS newydd. Gall Lene wedyn ychwanegu鈥檙 dystysgrif newydd honno at ei thanysgrifiad gwasanaeth diweddaru heb unrhyw gost ychwanegol.

Enghraifft 2

Mae gan Sue danysgrifiad diweddaru gyda thystysgrif fanwl ar gyfer y gweithlu oedolion a phlant. Mae hyn yn cynnwys gwiriad gyda鈥檙 rhestr waharddedig oedolion a phlant. Cynigiwyd swydd i Sue yn gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda phlant ac oedolion. Mae鈥檔 dangos ei thystysgrif i鈥檞 darpar gyflogwr newydd.

Mae鈥檙 rheolwr recriwtio, Alana, yn gofyn i Sue a gaiff wneud gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru hefyd. Mae Sue yn rhoi ei chaniat芒d. Mae Alana yn gwybod bod lefel y gwiriadau ar dystysgrif Sue ar yr un lefel ag y mae ganddi hawl i ofyn amdano. Felly pan fydd yn mynd ar y gwasanaeth diweddaru mae鈥檔 hyderus y gall wneud y datganiad cyfreithiol gofynnol.

Gweithlu arall

Enghraifft 1

Mae gan Rob danysgrifiad diweddaru gyda thystysgrif fanwl ar gyfer y gweithlu arall. Mae鈥檔 cynnwys gwiriad gyda鈥檙 rhestr waharddedig oedolion a phlant. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol gan awdurdod lleol i wneud asesiad fel rhan o broses ymgeisio am drwydded tacsi.

Mae鈥檔 rhaid i Rob adnewyddu ei drwydded tacsi ond mae wedi symud i ardal awdurdod lleol gwahanol. Mae Rob yn rhoi ei dystysgrif i Peter; ei swyddog trwyddedu tacsis awdurdod lleol newydd. Mae Peter yn gofyn i Rob a all wneud gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru. Mae Rob yn rhoi ei ganiat芒d.

Gan fod lefelau鈥檙 gwiriad ar y dystysgrif wreiddiol ar yr un lefel ag y gall Peter ofyn amdano ar gyfer cais trwyddedu tacsi, mae Peter yn hyderus y gall wneud y datganiad cyfreithiol sy鈥檔 ofynnol ac y gall wneud y gwiriad statws ar y gwasanaeth diweddaru.

Yr unig fath o sefydliad a all wneud cais am statws yn y Gwasanaeth Diweddaru, pan fydd y dystysgrif ar lefel fanwl yn y gweithlu arall gan wirio鈥檙 rhestrau gwaharddedig plant ac oedolion yw sefydliadau trwyddedu tacsis neu phv eraill.

Enghraifft 2

Mae Julia yn gweithio i鈥檙 Comisiwn Gamblo ac mae ganddi dystysgrif fanwl yn y gweithlu arall. Nid yw鈥檔 cynnwys gwiriadau gyda鈥檙 rhestri gwaharddedig plant nac oedolion oherwydd nad yw鈥檙 swydd yn caniat谩u i鈥檙 gwiriadau hynny gael eu ceisio.

Pan fydd y gweithlu yn cael ei ddatgan fel 鈥楪weithlu Arall鈥 mae鈥檔 ofynnol i Brif Swyddogion ystyried yr holl wybodaeth sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 swydd neu drwydded y gwneir cais amdani.

Mae nifer gyfyngedig o resymau pam y gallai rhywun gael gwiriad manwl yn y gweithlu arall. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn nogfen gweithlu arall y DBS.

Gallai鈥檙 Comisiwn Gamblo ofyn i Julia danysgrifio i鈥檙 gwasanaeth diweddaru gan y byddai ganddynt hawl i wneud gwiriad statws.

Ond, byddai unrhyw fath arall o sefydliad yn gorfod ystyried a fyddai unrhyw wybodaeth bosibl heblaw collfarnau a allai gael ei rhyddhau ar dystysgrif Julia yn wybodaeth y gallent ei defnyddio yn gyfreithlon i ystyried ar gyfer swydd newydd ac y gallent ei defnyddio yn eu penderfyniad recriwtio.

Gwiriadau lefel safonol yn y gwasanaeth diweddaru

Dim ond gwybodaeth am gollfarnau sydd wedi eu treulio a heb eu treulio, rhybuddiadau, ceryddon a rhybuddion terfynol a ddelir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) sydd ar dystysgrifau lefel safonol, nad yw鈥檔 cael ei ddiogelu.

Nid oes raid i gyflogwyr sy鈥檔 cael gweld tystysgrif lefel sylfaenol ac sydd wedi cael caniat芒d i wneud gwiriad statws yn y gwasanaeth diweddaru ystyried y gweithlu ar y dystysgrif. Mae hyn yn wir oherwydd nad yw鈥檙 gweithlu yn dylanwadu ar ba wybodaeth PNC sy鈥檔 cael ei chyflwyno ar dystysgrif.

Felly, os yw鈥檙 swydd yn gymwys ar gyfer gwiriad lefel safonol ac mai dyna鈥檙 lefel o wybodaeth y mae ar y cyflogwr ei hangen, gall unrhyw gyflogwr a all ofyn am dystysgrif lefel sylfaenol wneud gwiriad statws yn gyfreithlon oherwydd ei fod yn gallu gwneud y datganiad gofynnol.