Polisi preifatrwydd DVLA
Diweddarwyd 10 Ebrill 2025
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae DVLA yn prosesu eich data personol. Yn benodol, mae’n esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio, datgelu, trosglwyddo a storio eich data.
1. Cyflwyniad
Nod DVLA yw cydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau diogelu data perthnasol wrth brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae’r cyfreithiau hyn wedi eu sefydlu i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn cynnwys mesurau yn cwmpasu diogelwch data, eich hawliau parthed eich data personol, a defnyddio a datgelu eich data.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y safonau y gallwch ddisgwyl gennym yn ein siarter gwybodaeth bersonol.
Pwy ydym ni
Rydym yn asiantaeth weithredol ´Ç’r Adran Drafnidiaeth. Rydym yn gyfrifol am drwyddedu gyrwyr ym Mhrydain Fawr, yn ogystal â chasglu a gorfodi treth cerbyd, a chofrestru ceidwaid cerbydau yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae gennym gofnodion ar gyfer dros 52 miliwn o yrwyr a chofnodion 46 miliwn o gerbydau, ac rydym yn casglu mwy na £7 biliwn yn flynyddol mewn treth cerbyd.
Ein cyfeiriad yw:
DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Pa wybodaeth mae DVLA yn ei chasglu amdanoch
Rydym yn casglu gwybodaeth at nifer o ddibenion. Mae’r rhain yn cynnwys:
- pan rydych yn gwneud cais am drwydded yrru
- pan rydych yn gwneud cais am gerdyn tacograff
- pan rydych yn gwneud cais i gofrestru cerbyd yn eich enw
- pan rydych yn gwneud cais am blât masnach
- pan rydych yn talu’r ardoll HGV
- pan rydych yn gwneud cais i gofrestru ôl-gerbyd
- pan rydych yn prynu rhif cofrestru preifat (personol)
- pan rydych yn cofrestru i ddod yn gyflenwr platiau rhif
- pan rydych yn cysylltu â ni ynghylch Parthau Aer Glân sy’n Codi Tâl
- pan rydych yn tanysgrifio i dderbyn hysbysiadau e-bost DVLA
- pan fydd gennych ymholiad neu gŵyn
- pan rydych yn rhanddeiliad neu gyflenwr allweddol sydd â chontractau a gwasanaethau gyda ni
Rydym hefyd yn prosesu eich data at ddibenion ystadegol ac ymchwil.
Pwrpas a sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Oni nodir yn wahanol, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol ar gyfer y gwasanaeth hwn yw Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, sy’n ein galluogi i brosesu data personol lle bo angen i gyflawni ein tasg gyhoeddus.
Os yw’r wybodaeth a roddwch inni yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth iechyd, crefyddol neu ethnig, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i’w phrosesu yw Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol. Rydym hefyd yn dibynnu ar Atodlen 1 rhan 2(6) ´Ç’r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA) sy’n ymwneud â dibenion statudol a llywodraethol.
Eich hawliau chi
Mae gennych yr hawliau canlynol ynghylch sut rydym yn defnyddio’ch data.
Mae gennych yr hawl i wybod os oes gennym ddata amdanoch, beth yw’r data, ei ffynhonnell a sut rydym yn ei ddefnyddio. Cael gwybod sut i wneud cais am y data sydd gennym amdanoch.
Mae gennych hawl i gwyno i’r os ydych yn amau ein bod wedi trin eich gwybodaeth yn amhriodol neu os nad ydym wedi arfer unrhyw rai o’ch hawliau.
Os ydych yn credu bod y data sydd gennym yn anghywir neu’n anghyflawn, mae gennych hawl i ofyn inni gywiro hyn heb oedi gormodol. Efallai y bydd angen inni ymchwilio ymhellach i gadarnhau bod hyn yn wir.
Mae gennych hawl i gael eich data wedi’i ddileu lle nad oes angen inni barhau i’w gadw. Fodd bynnag, lle mae gennym hawl neu rwymedigaeth gyfreithiol i gadw eich data personol, ni fydd yr hawl hon yn berthnasol.
Mae gennych yr hawl i gael cyfyngiad ar brosesu eich gwybodaeth bersonol lle mae’n anghywir neu lle mae’r prosesu yn anghyfreithlon.
Mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau sydd ag effaith gyfreithiol neu arwyddocaol yn seiliedig ar ddim mwy na ‘phrosesu awtomataidd’. Mae hyn yn cynnwys:
- gwneud penderfyniadau awtomataidd (gwneir penderfyniad yn gyfan gwbl drwy ddull awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol)
- proffilio (prosesir data personol yn awtomataidd i werthuso pethau penodol ynghylch unigolyn); gall proffilio fod yn rhan o broses gwneud penderfyniadau awtomataidd
Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol gennym dan unrhyw un ´Ç’r amgylchiadau canlynol:
- pan fydd yn seiliedig ar ‘fuddiannau cyfreithlon’ - dyma pryd fydd prosesu yn angenrheidiol ar gyfer buddiannau cyfreithlon y rheolydd neu drydydd parti, ac eithrio ble mae’r buddiannau hynny wedi eu trechu gan eich buddiannau neu hawliau a rhydd sylfaenol sy’n diogelu eich data personol
- pan fydd yn seiliedig ar y ‘cyflwr tasg gyhoeddus’ - mae hyn yn golygu cyflawni tasg benodol er les y cyhoedd a sefydlir yn y gyfraith, neu gyflawni awdurdod swyddogol (er enghraifft, tasgau, swyddogaethau, dyletswyddau neu bwerau corff cyhoeddus) a sefydlir dan y gyfraith
- marchnata uniongyrchol (yn cynnwys proffilio)
- at ddibenion ymchwil ac ystadegau gwyddonol neu hanesyddol
Nid yw’r hawliau canlynol yn weithredol ble mae prosesu yn seiliedig ar rwymedigaeth gyfreithiol:
- yr hawl i wrthwynebu prosesu
- yr hawl i gludadwyedd data, sy’n caniatáu i unigolion gael ac ailddefnyddio eu data personol ar gyfer eu dibenion eu hunain ar draws gwahanol wasanaethau
- yr hawl i dynnu cydsyniad yn ôl
Esbonnir yr hawliau hyn yn llawn ar wefan .
Byddwn yn ystyried unrhyw gais a wnewch inni i arfer yr hawliau hyn o fewn y cyfnodau amser sy’n ofynnol gan gyfraith diogelu data.
Am ba mor hir rydym yn cadw gwybodaeth amdanoch chi
Bydd pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn dibynnu ar pam y gwnaethom ei chasglu a’n hangen parhaus i’w chadw at y dibenion hynny. Byddwn hefyd yn cadw at unrhyw ofynion cyfreithiol neu reoleiddiol ar gyfer cadw neu ddileu’r data.
Os na allwn nodi pa mor hir y bydd angen y data arnom, bydd proses ar waith i adolygu’r angen hwn yn rheolaidd.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gadw data yn Atodiad 1.
Gyda phwy y gallwn rannu gwybodaeth bersonol
Lle mae’n gyfreithlon inni wneud hynny, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda:
- chyflogwyr presennol a darpar gyflogwyr
- adrannau eraill y llywodraeth
- cyflenwyr
- asiantaethau casglu dyledion, olrhain, a dilysu hunaniaeth
- sefydliadau ariannol
- cwmnïau prydlesu neu logi cerbydau
- yr heddlu a chyrff gorfodi
- awdurdodau erlyn
- llysoedd, tribiwnlysoedd a phartïon i achosion cyfreithiol
- rheolyddion diwydiant yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop
- llywodraeth leol
- rhywun yn gwneud ymholiad neu gŵyn dilys
- sefydliadau arolygu ac ymchwil
- awdurdodau tramor yn unol â deddfwriaeth neu gytundebau rhyngwladol (er enghraifft, ar gyfer cyfnewid trwydded yrru neu ail-gofrestru cerbyd mewn gwlad arall)
- darparwyr gwasanaeth cyfieithu (mae rhai ´Ç’r ieithyddion yn byw yn yr UE)
- cwmnïau rheoli parcio ceir preifat
- diwydiannau yswiriant
- asiantaethau eraill yr Adran Drafnidiaeth, er enghraifft yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA)
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n ofynnol yn gyfreithiol inni rannu gwybodaeth a dibynnu ar gyfreithlondeb Erthygl GDPR y DU 6.1.1.c (rhwymedigaeth gyfreithiol) i wneud hynny. Mae enghreifftiau’n cynnwys cydymffurfio â gorchymyn llys sy’n ei wneud yn ofynnol inni ddarparu’r data neu lle rydym yn cydweithredu ag awdurdodau eraill wrth ymdrin â chwynion, fel yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Rydym hefyd yn rhannu manylion ceidwaid cofrestredig gyda thrydydd partïon awdurdodedig ac yn dibynnu ar gyfreithlondeb Erthygl GDPR y DU 6.1.e (tasg gyhoeddus) i wneud hynny. Mae enghreifftiau’n cynnwys rhyddhau manylion ceidwaid cofrestredig at ddibenion rheoli parcio preifat a dinesig, i awdurdodau lleol ac i gyrff rheoleiddio eraill fel y gallant gyflawni eu swyddogaethau statudol. Mae Rheoliad 27 o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002 yn darparu porth cyfreithiol ar gyfer rhannu manylion ceidwaid cofrestredig at y dibenion hyn.
Mewn unrhyw sefyllfa, byddwn yn bodloni ein hunain bod gennym sail gyfreithlon dros rannu’r wybodaeth. Byddwn hefyd yn cofnodi ein penderfyniadau ac yn bodloni ein hunain bod gennym sail gyfreithiol dros rannu’r wybodaeth.
Cael gwybod rhagor am gyda phwy rydym yn rhannu eich data.
Rydym yn rhannu gwybodaeth gydag asiantaeth atal twyll trydydd parti er mwyn atal twyll a diogelu eich hunaniaeth. Ble rydym yn canfod cais twyllodrus am drwydded yrru neu dystysgrif cofrestru cerbyd, bydd yr asiantaeth diogelu twyll yn cadw cofnod o unrhyw perygl twyll ac o ganlyniad gall hwn arwain at eraill yn gwrthod darparu chi gyda gwasanaethau, benthyciadau arian neu gyflogaeth. Cael gwybod mwy .
Rydym yn gyd-reolwr am yr hysbysebu rydym yn ei gynnal gyda darparwyr cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am breifatrwydd yn y gwefannau perthnasol drwy ddefnyddi´Ç’r dolenni canlynol:
2. Gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch
Gallwch ofyn am wybodaeth mae DVLA yn ei chadw amdanoch drwy wneud ‘cais am fynediad at ddata gan y testun’. I wneud hyn, gwnewch gais am fynediad at ddata gan y testun i DVLA.
Gallwch naill ai lawrlwytho ffurflen i’w hatodi i e-bost a’i hanfon i SubjectAccess.Requests@dvla.gov.uk neu ei hargraffu a’i hanfon i:
Ymholiadau Cais Am Fynediad At Ddata Gan Y Testun (SAR)
DVLA
Abertawe
SA99 1BX
Bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth i’n helpu ni brofi eich hunaniaeth a dod o hyd i’r wybodaeth rydych ei hangen er mwyn inni allu prosesu eich cais.
Os hoffech wybodaeth am eich cerbyd presennol neu gerbyd a oedd yn arfer cael ei gofrestru yn eich enw chi, bydd angen ichi ddarparu:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad cyfredol a’r cyfeiriad ar eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) os yw’n wahanol
- rhifau cofrestru’r cerbydau rydych yn holi amdanynt
Os hoffech wybodaeth o’ch cofnod gyrrwr, gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio ein
gwasanaeth ar-lein.
Neu gallwch ysgrifennu atom yn darparu eich enw llawn, cyfeiriad post cyfredol, a rhif eich trwydded yrru (neu eich dyddiad geni os nad ydych yn gwybod eich rhif gyrrwr).
Os nad yw’r data sydd ei angen arnoch amdanoch chi’ch hun yn gysylltiedig â’ch cofnod cerbyd neu yrrwr, rhaid ichi ddweud wrthym yn union pa wybodaeth bellach sydd ei hangen arnoch.
Nid oes ffi am wneud cais am fynediad at ddata gan y testun. Byddwn yn ymateb i gais o fewn mis i’w dderbyn, oni bai ei fod yn gais cymhleth. Yn yr achosion hyn, byddwn yn ysgrifennu i esbonio pam fod oedi a phryd y gallwch ddisgwyl cael ymateb.
3. Os ydych yn defnyddio gwasanaeth ar-lein ac mae angen inni wirio eich hunaniaeth
Gallwch brofi eich hunaniaeth drwy ddefnyddio un ´Ç’r gwasanaethau isod. Os nad ydych am i’ch data gael eu prosesu yn y modd hwn, gallwch gyflwyno’ch ceisiadau drwy’r post.
ÒÁÈËÖ±²¥ One Login
Gallwch brofi eich hunaniaeth ar-lein gyda ÒÁÈËÖ±²¥ One Login, sy’n cael ei reoli gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. I brofi eich hunaniaeth fel hyn, gofynnir ichi fewngofnodi neu greu cyfrif ÒÁÈËÖ±²¥ One Login.
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, byddwn yn defnyddio rhai manylion rydych yn eu darparu yn eich ÒÁÈËÖ±²¥ One Login fel rhan o’ch cais. Bydd hyn yn caniatáu i DVLA gysylltu eich manylion â’r gwasanaeth DVLA cywir. Mae’r rhain yn cynnwys eich:
- cyfeiriad e-bost
- enw
- cyfeiriad (blaenorol a phresennol)
- dyddiad geni
- rhif trwydded yrru
- lefel o hyder hunaniaeth ÒÁÈËÖ±²¥ One Login
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu o ÒÁÈËÖ±²¥ One Login i DVLA. Gallwch hefyd weld yr .
Gwasanaeth Hunaniaeth DVLA
Bydd rhai o’n gwasanaethau’n parhau i brofi eich hunaniaeth drwy Wasanaeth hunaniaeth DVLA.
I ddefnyddi´Ç’r gwasanaeth hwn, gofynnir ichi ddarparu eich enw, manylion a hanes eich cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, rhif trwydded yrru Prydain Fawr (os oes gennych un - byddwn yn ei ddilysu gan ddefnyddio’ch cofnodion) a manylion y dogfennau adnabod gofynnol, megis eich pasbort neu rif Yswiriant Gwladol.
Pan fyddwch yn defnyddio eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif pasbort y DU, byddwn yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi (HMPO) i helpu i gadarnhau eich hunaniaeth. Os byddwch yn defnyddio eich pasbort y tu allan i’r DU, cerdyn adnabod cenedlaethol Ewropeaidd, Caniatâd Biometrig i Breswylwyr (BRP) neu Gerdyn Biometrig i Breswylwyr (BRC), byddwn yn cysylltu â’r Swyddfa Gartref i helpu i gadarnhau eich hunaniaeth.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio darparwr gwasanaeth gwirio hunaniaeth i wirio os oes cofnod ohonoch yn bodoli dros amser. Mae’r platfform hunaniaeth yn defnyddio elfen o brosesu awtomataidd wrth brofi eich hunaniaeth. Gwneir hyn gan ddefnyddio set benodol o reolau. Os nad ydych am i’ch data gael eu prosesu yn y modd hwn, gallwch gyflwyno’ch ceisiadau drwy’r post.
4. Pan rydych yn agor Cyfrif gyrwyr a cherbydau
I fod yn gymwys i ddefnyddi´Ç’r gwasanaeth, bydd angen ichi brofi eich hunaniaeth. Gofynnir ichi hefyd brofi eich hunaniaeth drwy ÒÁÈËÖ±²¥ One Login. Nodwch y byddwn yn parhau i ofyn i ddeiliaid Cyfrifon gyrwyr a cherbydau presennol a defnyddwyr rhai o’n gwasanaethau ar-lein brofi eu hunaniaeth drwy blatfform adnabod y DVLA.
O fewn y gwasanaeth Cyfrif gyrwyr a cherbydau, gallwch:
- weld eich cofnod gyrru, er enghraifft cerbydau y gallwch eu gyrru
- gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
- ychwanegu a gweld manylion eich cerbydau, gan gynnwys pryd mae’r MOT yn dod i ben
- gwiri´Ç’r cyfraddau treth ar gyfer eich cerbydau
- sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy e-bost a neges destun (os ydych yn talu treth bob 6 neu 12 mis)
- dewis rhoi’r gorau i gael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy’r post
- adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun
- gweld ffotograff o’ch trwydded yrru (bydd angen trwydded yrru cerdyn-llun ddilys arnoch)
- creu ‘cod gwirio’ trwydded i rannu eich cofnod gyrru ag eraill, er enghraifft cwmni llogi ceir
- gweld eich Tystysgrif Gyrru Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) a gwybodaeth tacograff, os oes gennych y rhain
- optio i mewn i gymryd rhan mewn ymchwil ar gyfer datblygu gwasanaethau newydd (noder gallwch optio allan o hyn ar unrhyw adeg o fewn eich cyfrif)
Ni fydd DVLA yn defnyddi´Ç’r gwasanaeth hwn i gasglu manylion personol pellach neu wybodaeth drwydded yrru amdanoch. Mae’n wasanaeth sydd wedi’i gynllunio i’ch galluogi chi i gael mynediad at eich data trwydded yrru a cherbydau.
Os nad ydych am gael cyfrif bellach, gallwch ei ddileu o fewn y gwasanaeth.
Os gwnaethoch ddefnyddio ÒÁÈËÖ±²¥ One Login i brofi eich hunaniaeth a’ch bod yn newid eich cyfeiriad e-bost yn ddiweddarach, bydd ÒÁÈËÖ±²¥ One Login yn hysbysu DVLA am eich e-bost newydd. Bydd DVLA yn e-bostio hysbysiad yn cadarnhau ein bod wedi derbyn y diweddariad hwn i’ch hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad e-bost newydd pan fydd hyn yn digwydd.
Os byddwch yn dileu eich cyfrif ÒÁÈËÖ±²¥ One Login, bydd hysbysiad yn cael ei rannu â ni hefyd, a bydd hyn yn dileu eich Cyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA. Ar ôl iddo gael ei ddileu, gallwch wneud cais i ailsefydlu eich Cyfrif gyrwyr a cherbydau ar unrhyw adeg, ond gofynnir ichi brofi eich hunaniaeth drwy’r broses ÒÁÈËÖ±²¥ One Login.
5. Pan rydych yn gwneud cais am drwydded yrru
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol i’n galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol (Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU) dan y ddeddfwriaeth ganlynol.
Deddf Traffig Ffyrdd 1988
- I gyhoeddi trwyddedau gyrru dros dro a llawn, amnewid trwyddedau a gollwyd, diweddaru trwyddedau gyda manylion personol neu hawl yrru wedi’u haddasu, ac adnewyddu trwyddedau os ydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru neu mae’ch hawl i yrru wedi dod i ben.
- I gofnodi a galluogi ymchwiliad i gyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich ffitrwydd i yrru.
Deddf Troseddau Moduro 1988/Deddf Traffig Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995
- I gofnodi manylion gwaharddiadau ac euogfarnau traffig ffyrdd.
- I weinyddu diddymiad hawl i yrru ble mae’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth hon.
Arall
Mae hefyd yn ofynnol inni o dan y gyfraith i gofnodi manylion troseddau nad ydynt yn droseddau gyrru sy’n arwain at waharddiad gyrru.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data gyrrwr
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth o’ch cofnod gyrru gyda thrydydd partïon lle bo angen, a phan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny. Cael gwybod mwy am ryddhau gwybodaeth o gofrestrau DVLA.
Os ydych wedi ein hawdurdodi i ryddhau gwybodaeth a ddarparwyd inni yn ystod ymchwiliad meddygol, efallai y byddwn yn rhannu unrhyw ddogfennau ategol (yn cynnwys adroddiadau meddygol) lle bo angen gyda meddygon, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, optometryddion neu weithwyr gofal llygaid proffesiynol, parafeddygon, aseswyr gyrru, therapyddion galwedigaethol ac aelodau Paneli Cynghori Meddygol yr Adran Drafnidiaeth. Dim ond y lleiafswm o ddata sydd ei angen i asesu eich ffitrwydd meddygol i yrru y byddwn yn ei rannu. Os nad ydych yn darparu’r wybodaeth ofynnol inni, gallech golli eich hawl i yrru.
Rydym yn cipio data ar ran Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHSBT) pan rydych yn dynodi ar eich cais trwydded yrru eich bod yn dymuno bod yn rhoddwr organau. Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda NHSBT a’u darparu nhw gyda manylion newid cyfeiriad. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi gyda chod ar eich trwydded yrru. Os nad ydych yn dymuno bod yn rhoddwr organau bellach, dylech gysylltu â NHSBT fel y gall eich manylion gael eu dileu o’u cofnodion, a dychwelyd eich trwydded yrru atom fel y gall y cod gael ei ddileu a thrwydded yrru newydd i gael ei chyhoeddi.
Pwy sy’n darparu gwybodaeth inni amdanoch chi
Gallai’r sefydliadau canlynol roi gwybodaeth inni amdanoch chi:
- mae’r llysoedd yn rhoi gwybod inni pan fydd gyrrwr wedi’i ddyfarnu’n euog o drosedd yrru neu waharddiad ac maent hefyd wedi eu rhwymo’n gyfreithiol i roi gwybod inni am unrhyw gyflyrau meddygol a ddatgelwyd yn ystod yr achos llys
- mae Comisiynwyr Traffig yn darparu canlyniadau achosion ymddygiad gyrwyr cerbydau nwyddau mawr (LGV) a cherbyd cludo teithwyr (PCV)
- gall yr heddlu a thrydydd partïon eraill (fel aelodau ´Ç’r cyhoedd) roi gwybod inni os ydynt yn pryderu am ffitrwydd rhywun i yrru
- gall eich meddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorwr ddarparu gwybodaeth inni am gyflwr meddygol hysbysadwy a allai effeithio ar eich ffitrwydd i yrru; mae hyn yn ofynnol er mwyn inni allu gwirio eich bod yn bodloni’r safonau cyfreithiol presennol i yrru
Pam mae’n rhaid ichi ddarparu eich data personol
Yn ôl y gyfraith, rhaid i yrwyr ddarparu eu gwybodaeth bersonol i gael trwydded yrru. Mae’n drosedd i beidio â rhoi gwybod inni am newid i fanylion personol neu am gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich ffitrwydd i yrru, neu i yrru cerbyd heb yr hawl ofynnol i yrru. Os nad ydych yn cydymffurfio â’r gofynion hyn, gallech gael eich erlyn.
Pan rydych yn rhoi gwybod inni ar-lein am gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich ffitrwydd i yrru, mae elfen o brosesu awtomataidd o fewn y gwasanaeth. Mae’r broses hon yn rhoi argymhelliad, i’r person sydd yn delio â’ch hysbysiad, ar y camau nesaf i’w cymryd gyda’ch achos.
Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau ar-lein neu’n anfon ffurflen DVLA ynglŷn â’ch trwydded yrru, bydd gennych yr opsiwn o ddarparu eich rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. Bydd y wybodaeth hon dim ond yn cael ei defnyddio i gysylltu â chi ynghylch y materion hyn.
Newidiadau i drwyddedau gyrru HGV a bws
O 15 Tachwedd 2021 bydd newid i drwyddedau gyrru a phrofion HGV a bws. Mae hyn yn golygu pan fyddwch yn gweld eich trwydded yrru ar wasanaeth ar-lein DVLA fel Gweld eich Gwybodaeth Trwydded Yrru, efallai y byddwch yn sylwi ar hawliau gyrru gwahanol yn dangos ar eich trwydded. I gael rhagor o wybodaeth am y newid hwn, ewch i Newidiadau i drwyddedau gyrru a phrofion HGV a bws o 15 Tachwedd 2021.
6. Pan rydych yn gwneud cais am gerdyn tacograff
Rydym yn casglu data personol i brosesu ceisiadau tacograff a chyhoeddi cardiau tacograff ar ran yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn y Deyrnas Unedig, a’r awdurdod trwyddedu perthnasol yn Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Rydym yn prosesu eich data yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a’r Ddeddf Diogelu Data 2018, a Rheoliad Tacograff (UE) 165/2014, fel y mae’n cael effaith yn y DU.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data tacograff
Mae’n bosibl y byddwn yn pasi´Ç’r wybodaeth ar eich cofnod tacograff digidol i sefydliadau llywodraeth eraill, awdurdodau cyhoeddi tacograff yr UE/AEE ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Mae’n bosibl yn byddwn yn gwneud hyn i wirio ceisiadau tacograff, atal a chanfod troseddau, at ddibenion ystadegol neu lle mae pwerau cyfreithiol i wneud hynny.
7. Pan rydych yn gwneud cais i gofrestru neu drethu cerbyd
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu data personol amdanoch chi i’n galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol (Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU) ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol (Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol.
Deddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 a’r Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002
- I gofrestru cerbydau, aseinio rhifau cofrestru a chyhoeddi tystysgrifau cofrestru V5CW.
- I gasglu treth cerbyd (VED) a gorfodi yn erbyn osgoi VED (mae hyn yn cynnwys talu cosbau, setliadau y tu allan i’r llys a defnyddio technoleg darllen platiau rhif awtomataidd a chlampio olwynion).
- I gysylltu â cheidwad cerbyd lle mae technoleg adnabod rhifau cerbydau awtomatig wedi nodi bod rhif cofrestru cerbyd yn cael ei arddangos yn anghywir.
Lle darperir tystiolaeth feddygol fel rhan o apêl Orfodaeth, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei phasio i’r adran Meddygol Gyrwyr yn DVLA i’w hystyried ymhellach.
- I ystyried ceisiadau am wybodaeth gan sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat.
Y Rheoliadau Cadw Platiau Cofrestru 1993
- I weithredu cynllun i gadw rhif cofrestru.
Y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988
- I weithredu’r cynllun gorfodi yswiriant parhaus. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi gael yswiriant modur ar gyfer eich cerbyd os y’i defnyddir ar ffyrdd ac mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data cerbyd
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth o’ch cofnod cerbyd gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff eraill lle bo angen, ac yn unol â’r gyfraith.
Cael gwybod mwy am ryddhau gwybodaeth o gofrestrau DVLA.
Pwy sy’n darparu gwybodaeth inni amdanoch chi
Mae yn darparu data yswiriant inni i’n galluogi i weithredu cynllun gorfodi yswiriant parhaus.
Mae DVSA yn darparu data MOT inni i atal cerbydau rhag cael eu trethu os nad ydynt yn addas i’r ffordd gyhoeddus.
Rydym yn derbyn gwybodaeth wrth y Swyddfa Dramor a Chymanwlad er mwyn inni gyhoeddi trwyddedau cerbyd a gyrru i staff diplomyddol a chonsylaidd tramor yn y DU.
Rydym yn derbyn gwybodaeth gan y Gwasanaeth Ansolfedd pan fyddwch yn galw ar eich hawl i le i anadlu o dan Reoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020.
Trethu eich cerbyd drwy Ddebyd Uniongyrchol
Rydym yn prosesu data deiliaid mandad Debyd Uniongyrchol a manylion cardiau talu i gasglu VED ac unrhyw gosbau am beidio â thalu VED, a gorfodi yswiriant parhaus.
Pam mae’n rhaid ichi ddarparu eich data personol
Yn ôl y gyfraith, rhaid i geidwaid cerbydau ddarparu eu manylion inni. Mae’n drosedd i beidio â chofrestru, trethu neu wneud Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol (HOS) ar gerbyd yn gywir. Gallai methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn arwain at gamau gorfodi megis cosb drwyddedu hwyr, setliad y tu allan i’r llys neu, yn y pen draw, erlyniad.
Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau ar-lein neu’n anfon eich V5CW atom i ddweud wrthym am newid fel newid cyfeiriad, bydd gennych yr opsiwn o ddarparu eich rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. Bydd y wybodaeth hon dim ond yn cael ei defnyddio i gysylltu â chi ynghylch y newidiadau hyn.
8. Pan rydych yn gwneud cais am blât masnach
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu data personol unigolion sy’n gwneud cais am blât masnach i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol (Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol.
Y Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 a’r Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002
- I gynnal cofrestr o bob cwsmer sydd â thrwydded plât masnach.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data plât masnach
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth am bobl sydd wedi derbyn platiau masnach gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff eraill lle bo angen, ac yn unol â’r gyfraith.
9. Pan rydych yn gwneud cais i gofrestru ar gyfer a thalu’r ardoll defnyddwyr ffyrdd HGV
Rydym yn defnyddio cyflenwr trydydd parti i gasglu a phrosesu data personol i weinyddu, gorfodi a chasglu taliadau am yr ardoll HGV. Eglurir hwn yn y Ddeddf Ardoll Defnyddwyr Ffyrdd HGV 2013. Eglurir hwn yn y Ddeddf Ardoll Defnyddwyr Ffyrdd HGV 2013.
Mae’r data a gesglir yn ofynnol i gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol yr Adran Drafnidiaeth o dan y Ddeddf honno.
Pa wybodaeth y mae’r cyflenwr yn ei chasglu
Pan fyddwch yn cofrestru i dalu’r ardoll HGV, bydd y cyflenwr yn casglu gwybodaeth bersonol yn cynnwys manylion talu, enw, cyfeiriad, rhif cofrestru a’r dyddiadau pan fydd y cerbyd yn cyrraedd a gadael Prydain Fawr.
Sut mae’r data ardoll HGV yn cael ei rannu
Rhennir y data hwn gyda’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (Gogledd Iwerddon) a chyrff gorfodi’r gyfraith at ddibenion gorfodi lle bo angen.
10. Pan rydych yn gwneud cais i gofrestru ôl-gerbyd
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu data personol amdanoch chi i’n galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol (Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU) dan y ddeddfwriaeth ganlynol.
Y Ddeddf Trwyddedau Cludo Nwyddau a Chofrestru Ôl-gerbydau 2018 a’r Rheoliadau Cofrestru Ôl-gerbyd 2018
- I gofrestru ôl-gerbydau, aseinio rhifau cofrestru a chyhoeddi tystysgrifau cofrestru.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data ôl-gerbyd
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth o’ch cofnod ôl-gerbyd gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff eraill lle bo angen, ac yn unol â’r gyfraith.
Cael gwybod mwy am ryddhau gwybodaeth o gofrestrau DVLA.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu
Pan rydych yn cofrestru ôl-gerbyd rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad a manylion yr ôl-gerbyd. Yn gyfreithiol, mae’n rhaid darparu’r wybodaeth hon fel y gallwn brosesu eich cais.
11. Pan rydych yn prynu rhif cofrestru preifat (personol)
Pan rydych yn prynu rhif cofrestru preifat (personol), bydd angen ichi sefydlu cyfrif cwsmer. Rydym yn casglu eich:
- enw
- cyfeiriad
- cyfeiriad e-bost
- enw cwmni
- rhif ffôn
- manylion cerdyn talu
Lle bo’n berthnasol, byddwn hefyd yn casglu enw’r enwebai a chyfeiriad yr enwebai.
Pan fyddwch yn nodi eich diddordeb mewn rhifau cofrestru sydd ar werth, byddwn yn casglu eich manylion cyswllt yn cynnwys eich enw a chyfeiriad e-bost, i’ch hysbysu o werthiannau i ddod ac i ofyn ichi am adborth am y gwasanaeth. Rydym yn prosesu’r data hwn gyda’ch caniatâd o dan Erthygl 6(1)(a) o GDPR y DU. Mae’r manylion hyn yn cael eu cadw am uchafswm o 5 mlynedd, ac ar ôl hynny bydd rhaid ichi ailgyflwyno eich diddordeb mewn rhif cofrestru nad yw ar gael eto i’w brynu. Unwaith y bydd y rhif cofrestru ar gael i’w brynu ac rydym wedi cysylltu â chi, bydd eich cofnod o ddiddordeb yn cael ei ddileu.
Y Rheoliadau Gwerthu Platiau Cofrestru 1995
- I alluogi gwerthu rhifau cofrestru cerbydau.
Os nad ydych bellach eisiau derbyn diweddariadau e-bost neu drwy’r post ar rifau cofrestru ar werth, gallwch ddefnyddi´Ç’r cyfleuster optio allan a ddarparwyd.
Pan fyddwch yn ymgeisio am rif cofrestru, bydd ein harwerthwr contract yn cadw gwybodaeth ymgeiswyr nes bydd yr arwerthiant wedi cau. Ni fyddant yn cadw manylion unrhyw gerdyn talu ond cedwir copi o anfoneb y cwsmer am 7 mlynedd.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data
Byddwn dim ond yn rhannu’r wybodaeth hon ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff eraill lle bo angen, ac yn unol â’r gyfraith.
12. Pan rydych yn gwneud cais i ddod yn gyflenwr platiau rhif
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu data personol unigolion sy’n gwneud cais i ddod yn gyflenwr platiau rhif yn unol â’r Ddeddf Troseddau Cerbyd 2001 a’r Rheoliadau Deddf Troseddau Cerbyd (Cofrestru Cyflenwyr Platiau Cofrestru) 2008.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth cofrestr cyflenwyr platiau rhif ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff eraill lle bo angen, ac yn unol â’r gyfraith.
13. Pan rydych yn cysylltu â ni ynghylch Parthau Aer Glân
Rydym yn prosesu eich data personol ar ran Uned Ansawdd Aer ar y Cyd (JAQU), sy’n fenter ar y cyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a’r Adran Drafnidiaeth (DfT).
I alluogi awdurdodau lleol i reoli eu Parthau Aer Glân (CAZ), mae JAQU wedi datblygu’r gwasanaeth Gyrru mewn Parth Aer Glân sy’n cynnwys offeryn ar-lein i ddefnyddwyr wirio p’un ai bod yn rhaid iddynt dalu ffi ddyddiol am yrru i mewn i CAZ neu o fewn iddo neu beidio. Am ragor o wybodaeth gweler .
Mae canolfan gyswllt DVLA yn delio ag ymholiadau gwasanaeth CAZ ac yn cymryd taliadau CAZ wrth unigolion ar ran JAQU.
Pan fo angen, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’r canlynol â JAQU:
- rhif cofrestru’r cerbyd
- enw’r cwsmer
- cyfeiriad e-bost y cwsmer
Mae’n bosibl y byddwn yn darparu copi ´Ç’r recordiad ffôn at ddibenion apeliadau neu orfodi pan fydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gofyn inni wneud hynny.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd DVLA hefyd yn cyhoeddi llythyrau i geidwaid cofrestredig cerbydau nad yw’n cydymffurfio sy’n debygol o gael eu heffeithio gan gyflwyniad Parth Aer Glân ar ran yr awdurdod lleol perthnasol neu JAQU.
14. Pan rydych yn tanysgrifio i dderbyn hysbysiadau e-bost DVLA
Rydym yn defnyddio cyflenwr trydydd parti pan rydych yn . Maent yn casglu eich cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad IP i ddarparu’r wybodaeth berthnasol rydych wedi gofyn amdani fel rhan o’ch tanysgrifiad. Gallwch ddatdanysgrifio rhag defnyddi´Ç’r gwasanaeth hon ar unrhyw amser.
Os na hoffech dderbyn gwahoddiadau arolwg drwy e-bost wrth DVLA, e-bostiwch DVLAResearch.responses@dvla.gov.uk a rhoi ‘datdanysgrifio’ yn y blwch pwnc.
15. Trosglwyddiadau data y tu allan i’r DU
Mae trosglwyddo data ´Ç’r DU i’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn digwydd o dan benderfyniad digonolrwydd yr UE:DU a fabwysiadwyd ar 28 Mehefin 2021. Pan fyddwn yn trosglwyddo data i wlad sydd heb gytundeb digonolrwydd ar waith o dan Erthygl 45 o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU, rydym yn dibynnu’n bennaf ar fesurau diogelu priodol o dan Erthygl 46 o GDPR y DU, megis Cymalau Cytundebol Safonol (SCCs) neu Gytundebau Trosglwyddo Data Rhyngwladol (IDTAs). Lle nad yw hynny’n briodol, rydym yn dibynnu ar Erthygl 49 (1) (d) o (GDPR) y DU: mae’r trosglwyddiad yn angenrheidiol am resymau pwysig er budd y cyhoedd.
Os ydych y tu allan i’r DU ac yn gofyn am gopi o’ch data personol gan DVLA, byddwn yn defnyddi´Ç’r rhanddirymiad priodol o dan Erthygl 49 o GDPR y DU ar gyfer trosglwyddo’ch data personol.
Cytundeb rhannu data â Sbaen
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu a phrosesu data personol amdanoch chi i’n galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol.
Deddf Diogelwch Ffyrdd 2006 – Adran 49
- Datgelu gwybodaeth drwyddedu a chofrestru i awdurdodau tramor.
Mae gan DVLA gytundeb mewn lle gyda Sbaen sy’n hwyluso rhannu data cofrestru cerbydau ar gyfer 8 trosedd draffig benodol sy’n gysylltiedig â diogelwch ar y ffyrdd. Y troseddau yw:
- goryrru
- methu â defnyddio gwregys diogelwch
- methu â stopio wrth olau traffig coch
- yfed a gyrru
- gyrru tra dan ddylanwad cyffuriau
- methu â gwisgo helmed ddiogelwch
- defnyddio lôn waharddedig
- defnyddio ffôn symudol yn anghyfreithlon neu unrhyw ddyfeisiau cyfathrebu eraill wrth yrru
16. Pan fydd gennych ymholiad neu gŵyn
Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol pan fyddwn yn cael ymholiad neu gŵyn naill ai gennych chi neu drydydd parti yn gweithredu ar eich rhan.
I ymchwilio i’ch ymholiad neu gŵyn, efallai y bydd angen inni gyrchu eich cofnod gyrrwr neu gerbyd i gael gwybodaeth gan bartïon trydydd parti perthnasol i helpu i ddatrys unrhyw faterion.
Er mwyn gwella ein gweithdrefn gwyno, rydym yn cynnal arolygon boddhad cwsmeriaid ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi am adborth ar sut rydym wedi delio â’ch cwyn.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy we-sgwrs, heblaw am we-sgwrs Recriwtio OCSD, bydd DVLA yn prosesu’r wybodaeth a gyflwynir fel rhan o’n hawdurdod swyddogol. Bydd y manylion cyswllt rydych yn eu darparu yn cael eu defnyddio at y diben hwn. Pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy we-sgwrs Recriwtio OCSD, mae angen prosesu data at ddibenion y buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y rheolydd.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu manylion eich cwyn gyda’r Aseswr Cwynion Annibynnol a’r Ombwdsmon neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth lle bo angen, a phan fyddwch yn gofyn inni wneud hynny.
17. Pan rydych yn rhanddeiliad neu gyflenwr allweddol sydd â chontractau a gwasanaethau gyda ni
Rydym yn casglu enwau ac weithiau rhifau ffôn ein rhanddeiliaid a chyflenwyr allweddol sydd â chontractau a gwasanaethau gyda ni. Bydd y manylion hyn dim ond yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r contract neu’r gwasanaeth dan sylw.
Rydym yn defnyddio meddalwedd i gasglu manylion ein rhanddeiliaid a chyflenwyr allweddol sy’n ymwneud â’n cynllun parhad busnes pe byddai adfer ar ôl trychineb. Mae angen prosesu’r data hwn at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynwyd gan y rheolwr neu’r trydydd parti.
18. Pan rydych yn ymwelydd allanol â safle DVLA
Mae hyn yn cynnwys:
- darparwyr hyfforddiant allanol
- ymgeiswyr am swyddi
- cyflenwyr a masnachwyr
- staff o adrannau eraill ´Ç’r llywodraeth
Rydym yn cipi´Ç’r data personol canlynol pan rydych yn ymweld â safle DVLA
- enw
- sefydliad/cwmni rydych yn ei gynrychioli
- dyddiad ac amser eich ymweliad
- hyd ymweliad os yn fwy nac un diwrnod
- rhif cofrestru cerbyd
Mae angen y manylion hyn er mwyn inni allu dosbarthu’r pas ymwelydd priodol ichi. Mae’n rhaid ichi wisgo’ch pas ymwelydd drwy gydol eich ymweliad.
Mae teledu cylch cyfyng (CCTV) yn gweithredu y tu allan a’r tu mewn i’r adeilad at ddibenion diogelwch. Mae’r wybodaeth yn cael ei gweld gan bersonél priodol ar ffrwd fyw, ac mae’n cael ei recordio a’i chadw am 31 diwrnod cyn cael ei dileu’n awtomatig, oni bai fod ei hangen ar gyfer digwyddiad penodol fel damwain, gweithredoedd troseddol neu doriadau diogelwch.
Mae staff diogelwch yn gwisgo camerâu ar eu cyrff sy’n cael eu hysgogi lle bo angen ar gyfer eu diogelwch neu ar gyfer gweithredoedd troseddol. Mae’r recordiadau’n cael eu cadw am 31 diwrnod cyn cael eu dileu’n awtomatig, oni bai fod eu hangen ar gyfer digwyddiad penodol.
Y pwrpas ar gyfer prosesu’r digwyddiad uchod yw at ddibenion amddiffyniad a diogelwch. Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(f) o GDPR y DU, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd yn angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon.
Mae gennym Wifi Gwesteion ar y safle at ddefnydd ymwelwyr. I gyrchu’r Wifi Gwesteion bydd angen ichi ddarparu eich enw a’r cyfeiriad e-bost, enw cwmni a chyfeiriad e-bost noddwr DVLA. Y noddwr DVLA fel arfer yw’r unigolyn sydd wedi gofyn ichi fynychu’r safle. Bydd y noddwr DVLA yn derbyn e-bost ´Ç’r system yn rhoi’r mynediad Wifi Gwesteion am gyfnod amser o 24-awr. I gyrchu’r Wifi rydym yn gofyn ichi gytuno i’r telerau a nodir ar y sgrîn. Bydd eich data personol yn cael eu cadw am 12 mis.
Nodwch fod yr holl weithgaredd rhyngrwyd sy’n ymwneud â rhwydwaith Wifi Gwesteion DVLA yn cael ei recordio’n awtomatig. Nid yw’r recordiadau hyn (o wefannau yr ymwelir â nhw, ffeiliau a drosglwyddir, negeseuon e-bost a anfonir, ac ati) yn cael eu monitro’n weithredol, ond os amheuir unrhyw gamddefnydd, gallant gael eu dadansoddi yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol sy’n gymwys.
Y pwrpas ar gyfer prosesu gwybodaeth Wifi Gwesteion yw darparu mynediad i’r rhyngrwyd ichi wrth ymweld â’n safle. Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(f) o GDPR y DU, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd yn angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon.
19. Sut i gysylltu â Rheolwr Diogelu Data DVLA
Os ydych eisiau cysylltu â’n Rheolwr Diogelu Data, ysgrifennwch i:
Ymholiadau SAR DVLA
DVLA
Abertawe
SA6 7JL
Neu gallwch ysgrifennu at y Rheolwr Diogelu Data drwy e-bost yn: SubjectAccess.Requests@dvla.gov.uk
20. Adolygiad
Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd o leiaf yn flynyddol. Drwy wneud hyn byddwn yn sicrhau eich bod yn gwybod bob amser pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, sut y byddwn yn ei defnyddio a than ba amgylchiadau (os o gwbl) y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.