Research and analysis

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu: Ffioedd Sylfaenol Enghreifftiol (August 2024)

Published 15 August 2024

Cyflwyniad

Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu (pEPR) yn gonglfaen ar gyfer mynd i鈥檙 afael 芒 gwastraff yn y DU. Mae鈥檙 ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer blwyddyn 1 pEPR. Mae鈥檔 ymwneud 芒 ffioedd a fyddai鈥檔 cael eu codi ar gynhyrchwyr deunydd pecynnu dan rwymedigaeth gan Weinyddwr y Cynllun (SA). Nid yw鈥檔 cwmpasu:

  • telir ffioedd a thaliadau i Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr, Asiantaeth Amddiffyn Amgylchedd yr Alban, ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
  • costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyrraedd targedau ailgylchu deunydd pecynnu ee drwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunydd Pecynnu (PRNs)

Mae鈥檙 ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi ar ran Llywodraeth y DU, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban, a Llywodraeth Cymru. Mae鈥檙 term 鈥楲lywodraeth鈥 yma yn cyfeirio at bob un o鈥檙 pedair gweinyddiaeth.

Cefndir

Codir ffioedd o 1 Ebrill bob blwyddyn, yn seiliedig ar ddeunydd pecynnu a ddarparwyd gan gynhyrchwyr cofrestredig ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar ddata ar RPD yw 1 Ebrill. O ganlyniad, ni fydd cyfraddau ffioedd ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26) yn hysbys tan ar 么l 1 Ebrill 2025. Gan ganiat谩u i wiriadau perthnasol gael eu cynnal a chael cymeradwyaeth bilio, disgwylir y bydd yr SA yn cyhoeddi anfonebau yn gynnar yn yr haf bob blwyddyn. Gall anfonebu ym mlwyddyn gyntaf pEPR weithredu i amserlen wahanol oherwydd efallai bydd yr SA yn dal i gael ei sefydlu鈥檔 ffurfiol.

Bydd ffioedd pob cynhyrchydd dan rwymedigaeth yn cael eu cyfrifo gan yr SA gan ddefnyddio鈥檙 fformiwla ffioedd sydd wedi鈥檌 chynnwys yn y Gyfrifiannell Ffioedd a Thaliadau (FPC). Mae鈥檙 darpariaethau cyfreithiol ar gyfer y fformiwla ffioedd wedi鈥檜 nodi yn y

Cyn i ddata deunydd pecynnu 2024 gael eu cyflenwi gan gynhyrchwyr, ac mewn ymateb i alwadau gan y diwydiant am fwy o eglurder ynghylch y costau y maent yn debygol o鈥檜 hysgwyddo, mae ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26 wedi鈥檜 cyfrifo ar gyfer pob un o鈥檙 wyth categori deunydd pecynnu. Mae鈥檙 ffioedd enghreifftiol wedi鈥檜 cyfrifo gan ddefnyddio setiau data gwahanol i鈥檙 rhai y bydd yr SA yn eu defnyddio i gyfrifo鈥檙 ffioedd gwirioneddol. Maent yn cael eu rhannu i ddarparu cymaint o wybodaeth 芒 phosibl cyn gynted 芒 phosibl, er mwyn cefnogi cynhyrchwyr yn y ffordd orau.

Mae鈥檙 ffi sylfaenol enghreifftiol wedi鈥檌 chyfrifo gan ddefnyddio pwysau鈥檙 deunydd pecynnu cartrefi a roddwyd ar y farchnad yn 2022, a gymerwyd o adroddiadau 鈥楶ackFlow Refresh 2023鈥.[footnote 1] Mae鈥檙 data hyn yn cynrychioli amcangyfrifon o ddeunydd pecynnu yn y gorffennol, gan gynrychioli dirprwy ar gyfer deunydd pecynnu yn y dyfodol. Gwnaethpwyd gwaith i ddosbarthu鈥檙 deunydd pecynnu mor agos 芒 phosibl i鈥檙 rhwymedigaethau adrodd pEPR newydd, fodd bynnag ni fydd y rhain yn cyfateb yn union.听 Nid yw鈥檙 data a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr yn y porth ar-lein Adrodd am Ddeunydd Pecynnu (RPD) wedi鈥檜 defnyddio oherwydd nodwyd anghysondebau y mae angen eu cywiro. Mae鈥檙 ffioedd yn Nhabl 1 yn cynnwys amcangyfrifon o gostau rheoli gwastraff deunydd pecynnu Awdurdodau Lleol (ALl) fesul WRAP. Mae ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cael eu darparu ar wah芒n ar gyfer gwydr (Tabl 2) oherwydd amcangyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio methodoleg ar wah芒n i ganfod costau ALl 听sy鈥檔 cael ei datblygu gan Defra, a fydd yn cael ei defnyddio i gyfrifo ffioedd sylfaenol pEPR terfynol. Ar hyn o bryd, mae鈥檙 fethodoleg hon yn dal i gael ei datblygu ac felly nid yw wedi鈥檌 chymhwyso ar draws yr holl ddeunyddiau, ond fe鈥檌 defnyddiwyd ar gyfer gwydr oherwydd ystyrir ei bod yn fwy cadarn ar gyfer y deunydd penodol hwn. Mae鈥檙 amcangyfrifon hyn wedi鈥檜 cynnwys er mwyn darparu cymaint o wybodaeth 芒 phosibl i gynhyrchwyr, ac i fod yn sail ar gyfer ymgysylltu parhaus 芒鈥檙 diwydiant ar y rhagdybiaethau methodolegol sylfaenol cyn rhyddhau鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol nesaf.

Cafeatau pwysig

Y ffioedd enghreifftiol hyn yw ein hamcangyfrif cyntaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael hyd yma. Nid y rhain yw鈥檙 ffioedd terfynol. Mae鈥檙 Llywodraeth yn cydnabod y gallai cynhyrchwyr dan rwymedigaeth ddymuno defnyddio鈥檙 amcangyfrifon uwch neu is i asesu鈥檙 senarios gwaethaf a gorau. Nid yw hyn yn cael ei argymell. Er y gall y ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn helpu鈥檙 diwydiant gyda pharodrwydd cynnar, mae鈥檙 ffigurau hyn yn dal i fod yn destun ansicrwydd sylweddol a byddant yn newid yn y dyfodol.[footnote 2](#_ftn1) O ystyried y cyfyngiadau data sylweddol, mae鈥檙 Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ffigurau wedi鈥檜 mireinio ar gyfer y ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Medi 2024, unwaith y bydd y data a dderbyniwyd drwy borth ar-lein RPD y Llywodraeth wedi鈥檜 hadolygu a鈥檜 gwerthuso ymhellach.听Mae鈥檙 ffioedd enghreifftiol hefyd yn rhan o adolygiad gwariant 2024. 听听

Ffioedd wedi鈥檜 modiwleiddio i鈥檞 cyflwyno o 2026

O flwyddyn 2 yr EPR, bydd ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sicrhau mai deunyddiau pecynnu sy鈥檔 cael effaith amgylcheddol is fydd y rhai lleiaf costus i gynhyrchwyr eu defnyddio. Trwy gyflwyno strwythur ffioedd wedi鈥檌 fodiwleiddio i鈥檙 farchnad, bydd y defnydd o ddeunyddiau pecynnu anghynaliadwy yn lleihau, gan leihau鈥檙 gwastraff sy鈥檔 mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau allyriadau CO2.

Bydd y mathau o ddeunydd pecynnu a fydd yn destun ffioedd uwch neu is (鈥渨edi鈥檜 modiwleiddio鈥) o Flwyddyn 2, a鈥檙 is-gategor茂au o ddeunydd pecynnu canlyniadol y byddai angen adrodd arnynt yn 2025 yn cael eu rhyddhau yn hydref 2024.

Ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26

Tabl 1. Cyfraddau ffioedd sylfaenol pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynnu ac eithrio deunydd pecynnu Gwydr

Deunydd Is (mewn 拢/tunnell) Canolradd (mewn 拢/tunnell) Uwch
(mewn 拢/tunnell)
Alwminiwm 拢245 拢495 拢655
Cyfansoddion sy鈥檔 seiliedig ar ffibr 拢410 拢525 拢655
Papur neu fwrdd 拢185 拢260 拢350
Plastig 拢355 拢515 拢610
Dur 拢170 拢295 拢420
Pren 拢225 拢265 拢330
Arall 拢225 拢265 拢330

Tabl 2. Cyfraddau ffioedd sylfaenol pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer deunydd pecynnu Gwydr.

Deunydd Is (mewn 拢/tunnell) Canolradd (mewn 拢/tunnell) Uwch (mewn 拢/tunnell)
Gwydr 拢130 拢260 拢330

Darperir ffioedd gwydr ar wah芒n oherwydd amcangyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio methodoleg ar wah芒n i ganfod costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu ALl sy鈥檔 cael ei ddatblygu gan Defra, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y ffioedd pEPR terfynol.听

Eglurhad o鈥檙 gwahaniaeth rhwng cyfraddau ffioedd deunyddiau

Mae tri phrif reswm dros wahaniaethau mewn ffioedd sylfaenol enghreifftiol rhwng deunyddiau, a fydd yn parhau yn y ffioedd gwirioneddol ar gyfer 2025/26:

1.听听听 Mae gwahaniaethau yng ngwerthoedd ailwerthu鈥檙 gwahanol gategor茂au o ddeunydd pecynnu. Tynnir y gwerth hwn (鈥渨edi鈥檌 netio i ffwrdd鈥) o鈥檙 costau gwaredu. Er enghraifft, mae gan ddeunyddiau cyfansawdd ffibr ffi uwch oherwydd gwerth ailwerthu cymharol isel y deunydd hwn.

2.听听听 Mae gwahaniaethau yng nghyfran pob categori deunydd pecynnu sy鈥檔 cael ei ailgylchu a鈥檌 waredu fel gwastraff gweddilliol. Mae costau gwahanol yn gysylltiedig 芒鈥檙 gwahanol ffyrdd hyn o reoli gwastraff deunydd pecynnu, gan arwain at ffioedd gwahanol. Er enghraifft, mae ffioedd gwydr yn seiliedig yn bennaf ar gostau ailgylchu oherwydd y lefelau uchel o ailgylchu gwydr, tra bydd ffioedd alwminiwm yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar gostau gwaredu gwastraff gweddilliol oherwydd cyfraddau ailgylchu isel ar gyfer ffoil alwminiwm a chynwysyddion heblaw am rai diodydd.

3.听听听 O dan y setiau data cyfredol, mae anghysondebau rhwng amcangyfrifon o faint o bob categori deunydd pecynnu sy鈥檔 digwydd fel gwastraff a鈥檙 swm yr amcangyfrifir ei fod wedi鈥檌 roi ar y farchnad gan gynhyrchwyr dan rwymedigaeth, er enghraifft ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig ac alwminiwm. Gall hyn adlewyrchu newidiadau mwy diweddar yn y deunydd pecynnu a roddwyd ar y farchnad nas cyfrifwyd amdano yn amcangyfrifon cyfansoddiad gwastraff 2017 a ddefnyddiwyd yng nghyfrifiadau costau ALl WRAP. Yn fwyaf arwyddocaol, mae鈥檔 debygol ei fod yn adlewyrchu鈥檙 gwahaniaeth rhwng deunydd pecynnu gwag sydd wedi鈥檌 gofrestru fel 鈥榳edi鈥檌 roi ar y farchnad鈥 a鈥檙 deunydd pecynnu sydd wedi鈥檌 lenwi鈥檔 rhannol a鈥檌 halogi y mae鈥檔 rhaid i ALlau gael gwared arno. Mae鈥檙 effaith olaf hon i鈥檞 gweld yn fwyaf amlwg ar gyfer deunyddiau ysgafnach.

Oherwydd diffyg data cadarn, mae鈥檙 ffioedd ar gyfer pren a deunydd pecynnu 鈥榓rall鈥 wedi cael yr un gyfradd ffi yn seiliedig ar y dybiaeth y c芒nt eu gwaredu fel gwastraff gweddilliol.

Y camau nesaf

Roedd gan gynhyrchwyr rwymedigaeth i adrodd ar eu set lawn o ddata deunydd pecynnu cartrefi 2023 erbyn 1 Ebrill 2024 a gallent wynebu camau gorfodi os oeddent yn methu 芒 gwneud hynny erbyn 31 Mai 2024. Mae鈥檙 Llywodraeth yn bwriadu rhyddhau鈥檙 set nesaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Medi 2024 unwaith y bydd mwy o ddata wedi鈥檜听 hadrodd a鈥檜 gwirio wedyn gan reoleiddwyr. Bydd cadernid y data hyn a maint yr ystod yn dibynnu ar gyflwyno data cynhyrchwyr digonol o ansawdd uchel ar amser. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer adrodd 6 mis o ddata deunydd pecynnu cartrefi 2024 yw 1 Hydref 2024.

Dull cyfrifo

Crynodeb

Amcangyfrifir y ffi ganolradd enghreifftiol ar draws y ddau dabl drwy rannu鈥檙 costau amcangyfrifedig canolradd ar gyfer y deunydd hwnnw 芒 phwysau amcangyfrifedig canolradd y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad, wedi鈥檌 dalgrynnu i鈥檙 拢5 agosaf. Amcangyfrifir y ffi is enghreifftiol ar gyfer pob categori deunydd pecynnu ar draws y ddau dabl drwy rannu鈥檙 costau amcangyfrifedig is ar gyfer y deunydd hwnnw 芒 phwysau amcangyfrifedig uwch y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad, ac amcangyfrifir y ffi uwch enghreifftiol drwy rannu鈥檙 costau amcangyfrifedig uwch ar gyfer y deunydd hwnnw 芒 phwysau amcangyfrifedig is y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad. Mae amcangyfrifon ffioedd uwch, canolradd ac is yn ganlyniad ansicrwydd mewn costau gwaredu, prisiau refeniw deunyddiau a phwysau amcangyfrifedig y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad o fewn categor茂au deunydd pecynnu unigol.听 Bydd yr ansicrwydd hwn yn lleihau yn yr iteriadau nesaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol pEPR wrth i鈥檙 Llywodraeth drosglwyddo i ddefnyddio data deunydd pecynnu a adroddir RPD a model听 costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu ALl Defra, sy鈥檔 defnyddio mewnbynnau mwy diweddar.

Eglurhad manwl

Cyfrifir ffioedd sylfaenol enghreifftiol trwy rannu costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu yr ALl (ar gyfer gwastraff deunydd pecynnu cartrefi) 芒 chyfanswm amcangyfrifedig y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd a fynegir fel ffi fesul tunnell o ddeunydd pecynnu a roddir ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori deunydd pecynnu ar wah芒n:

Rhifiadur (1) Costau yr eir iddynt gan ALlau sy鈥檔 rheoli gwastraff y categori deunydd pecynnu hwnnw (gwastraff deunydd pecynnu cartrefi yn unig) llai refeniw o werthiannau deunydd plws (2) Cyfran y categori o gostau eraill megis costau SA a chostau darparu dyledion (gweler isod)

Enwadur Cyfanswm pwysau鈥檙 categori deunydd pecynnu hwnnw a roddwyd ar y farchnad (deunydd pecynnu cartrefi yn unig)

Er bod y wybodaeth orau sydd ar gael wedi鈥檌 defnyddio, mae ystod eang o ansicrwydd yn gysylltiedig 芒鈥檙 amcangyfrifon a nodir isod, ochr yn ochr 芒鈥檙 fethodoleg ar gyfer eu cyfrifo.

Noder, ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26), na fydd costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rheoli gwastraff biniau cyhoeddus a sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Fodd bynnag, bydd yr enwadur yn cynnwys deunydd pecynnu cartrefi a deunydd pecynnu a adroddir fel 鈥榚itemau sy鈥檔 cael eu binio鈥檔 gyffredin neu sy鈥檔 cael eu taflu fel sbwriel.鈥

Y rhifiadur: costau

Costau ALl

Yn Nhabl 1, mae鈥檙 cyfrifiad ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cymryd amcangyfrif o gostau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi鈥檙 ALl, yn net o鈥檙 refeniw o werthu deunyddiau (yn seiliedig ar gyfartaleddau prisiau ar draws adroddiadau Prisio Deunyddiau WRAP),[footnote 3] ac yn ychwanegu costau amcangyfrifedig sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwasanaeth gwybodaeth yr SA a ffi weinyddu鈥檙 SA; dyma鈥檙 rhifiadur (brig y ffracsiwn).听 Ar gyfer Tabl 1, mae鈥檙 amcangyfrif diweddaraf (2019) o鈥檙 costau yr eir iddynt ar gyfer rheoli gwastraff deunydd pecynnu a gesglir o ymyl y ffordd wedi鈥檌 amcangyfrif gan WRAP yn seiliedig ar amlder casglu gwastraff gweddilliol ALl, systemau casglu ailgylchu a lefelau gwledigrwydd ac amddifadedd (heb ei gyhoeddi). Mae鈥檙 amcangyfrifon hyn wedi鈥檜 haddasu gan ddefnyddio鈥檙 Mynegai Prisiau Manwerthu o Ragolygon Economaidd a Chyllidol Tachwedd 2024 y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol[footnote 4] i adlewyrchu鈥檙 prisiau a ragwelwyd yn 2025/26 a鈥檜 haddasu ar gyfer data cyfansoddiad (gweler isod). Mae cost rheoli gwastraff deunydd pecynnu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRCs) wedi鈥檌 chymryd o Asesiad Effaith pEPR 2022,[footnote 5] a amcangyfrifwyd yn wreiddiol gan WRAP yn 2019 ac a chwyddwyd i brisiau 2025/26.

Yn Nhabl 1, mae pwysau sgil-gynhyrchion gwastraff deunydd pecynnu a ddefnyddir i gyfrifo costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi ALl yn seiliedig ar ddata cyfansoddiad gwastraff cyn y pandemig yn seiliedig ar astudiaethau maes ar lefel ALl wedi鈥檜 cyfosod i gynhyrchu amcangyfrifon cenedlaethol o gyfansoddiad gwastraff.[footnote 6] Gan ei bod yn bosibl nad yw鈥檙 data hwn yn adlewyrchu鈥檙 tueddiadau diweddaraf mewn deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad, mae addasiadau wedi鈥檜 gwneud i alinio鈥檙 data. Noder, i gyfrifo arffin isaf y sgil-gynhyrchion gwastraff, defnyddiwyd yr isaf o:

  • y cyfwng hyder is o 99% ar gyfer data cyfansoddiad gwastraff rhagamcanol 2017 ac
  • amcangyfrif o bwysau鈥檙 deunydd pecynnu a roddwyd ar y farchnad gan gynhyrchwyr yn 2022 o adroddiadau 鈥楶ackFlow Refresh 2023鈥

听ar gyfer tunelledd deunydd pecynnu. Mae hyn oherwydd bod yr ansicrwydd yn yr amcanestyniad o ddata cyn y pandemig a鈥檙 posibilrwydd y bydd data cyfansoddiad gwastraff yn systematig uwch na鈥檙 hyn a roddwyd ar y farchnad oherwydd halogiad, ee gweddillion bwyd, yn golygu y gallai鈥檙 naill neu鈥檙 llall gynrychioli鈥檙 tunelledd isaf posibl.

Yn Nhabl 2, mae costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi ALl yn seiliedig ar amcangyfrifon cychwynnol o鈥檙 model 鈥楥ost a Pherfformiad Deunydd Pecynnu Awdurdodau Lleol鈥 (LAPCAP) sy鈥檔 dal i gael ei ddatblygu ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr SA i gyfrifo costau ALl ar gyfer 2025/26. Mae hwn yn defnyddio prisiau deunyddiau wedi鈥檜 diweddaru, amcangyfrifon costau awdurdodau lleol a thunelleddau sy鈥檔 deillio o wastraff. Mae鈥檙 model hwn yn dal i gael ei ddatblygu ac felly nid yw wedi鈥檌 ddefnyddio ar gyfer pob amcangyfrif.

Costau eraill

Mae鈥檙 amcangyfrif presennol o gostau tebygol gwasanaethau gweinyddol a gwybodaeth SA wedi鈥檌 gynnwys, gyda ffioedd gweinyddu SA wedi鈥檜 dosrannu yn gymesur 芒 chyfran deunydd o gostau gwaredu鈥檙 ALl a ffioedd gwasanaeth gwybodaeth yr SA yn gymesur 芒 chyfran deunydd o bwysau deunydd pecynnu. Ychwanegwyd 6% enghreifftiol fel 鈥榙arpariaeth drwgddyledion鈥. Mae鈥檙 ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion yn unol 芒鈥檙 gofynion ar holl gyrff y Llywodraeth (ac fel rhan o reolaeth ariannol dda) i wneud darpariaeth ar gyfer anfonebau efallai na all yr SA eu casglu, er gwaethaf pob ymdrech resymol[footnote 7] (ee, os yw cynhyrchwyr yn mynd yn fethdalwyr).

Yr enwadur: pwysau鈥檙 deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad

Cymerwyd pwysau deunydd pecynnu cartrefi a roddwyd ar y farchnad yn 2022 o adroddiadau 鈥楶ackFlow Refresh 2023鈥.[footnote 8]

Defnyddiwyd y diffiniad newydd o ddeunydd pecynnu cartrefi yn Rheoliad 7 o鈥檙 offeryn statudol diwygio 鈥楻heoliadau Gwastraff Deunydd Pecynnu (Adroddiadau Data) (Lloegr) (Diwygio) 2024鈥[footnote 9] cyn belled ag yr oedd yn ymarferol ar y pryd. Bydd iteriadau鈥檙 dyfodol o鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn llwyr ymgorffori鈥檙 diffiniad wedi鈥檌 ddiweddaru o ddeunydd pecynnu cartrefi.

Cyfrifwyd amcangyfrifon uwch ac is i gyfrif am amrywiadau yn y modd y gellir dosbarthu deunydd pecynnu fel deunydd pecynnu 鈥榗artrefi鈥. Roedd yr amcangyfrif canolradd o ddeunydd pecynnu cartrefi yn seiliedig ar adio pwysau deunydd pecynnu 鈥榙efnyddwyr鈥 a phwysau deunydd pecynnu 鈥榗ludfwyd鈥 y sector lletygarwch a adroddwyd yn PackFlow. Cynhyrchwyd amcangyfrif uwch trwy gymryd amcangyfrif PackFlow o gyfanswm pwysau deunydd pecynnu鈥檙 sector defnyddwyr a lletygarwch i efelychu gwallau posibl yn deillio o ddosbarthu holl ddeunydd pecynnu鈥檙 sector lletygarwch fel deunydd pecynnu 鈥榗artrefi鈥. Cyfrifwyd amcangyfrif is trwy dynnu鈥檙 gwall canrannol dangosol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phwysau deunydd pecynnu defnyddwyr a amcangyfrifwyd ar gyfer pob categori.

Er mwyn cefnogi buddsoddiad yn Sefydliad(au) Rheoli Ernes y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS), mae cynwysyddion alwminiwm, dur a diodydd plastig PET o fewn cwmpas DRS wedi鈥檜 heithrio o ffioedd costau gwaredu pEPR. Bydd cynwysyddion diodydd gwydr yn cael eu cwmpasu gan pEPR. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys gwydr yng nghwmpas y DRS ac yn y pen draw bydd yn cael ei eithrio o ffioedd costau gwaredu pEPR. Os na fydd DRS wedi鈥檌 sefydlu erbyn 1 Ionawr 2028, bydd cynhyrchwyr cynwysyddion diodydd sy鈥檔 bodloni鈥檙 diffiniad o ddeunydd pecynnu DRS yn ddarostyngedig i鈥檙 ystod lawn o rwymedigaethau pEPR, hyd nes y bydd DRS yn weithredol.

Troednodiadau

  1. Valpak and WRAP (2024) 听

  2. Ni fwriedir i鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gynhwysir yn y ddogfen hon fod yn gyfystyr 芒 chyngor neu wybodaeth y dylai Cynhyrchwyr ddibynnu arni (gan gynnwys at ddibenion cynllunio busnes). Ni fydd y Llywodraeth yn atebol am unrhyw golled ariannol os bydd cynhyrchwyr yn defnyddio鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn yn y ddogfen hon at ddibenion cynllunio neu at ddibenion eraill.听

  3. WRAP (2017) 听听

  4. Office for Budget Responsibility (2024) 听听听

  5. 听听

  6. WRAP (2017) 听听听

  7. 听HM Treasury (2023) 听听听

  8. Valpak and WRAP (2024) 听