Guidance letter for the certificate of appointment (Welsh accessible version)
Updated 19 May 2021
Applies to England and Wales
Tystysgrif Penodi Person Awdurdodediggan Ymddiriedolwr neu Gorff Llywodraethu Adeilad Cofrestredig - Canllawiau ar gyfer yr Ymgeisydd
(Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi鈥檙 ffurflen AP1 )
Beth yw Person Awdurdodedig?
Mae gan Ddeddf Priodasau 1949 ddarpariaeth i briodasau rhwng dyn a menyw gael eu gweinyddu mewn adeilad sydd wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer y diben hwnnw heb fod angen i gofrestrydd fod yn bresennol. Yn lle hynny, gall ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu adeilad cofrestredig awdurdodi person i fynychu priodasau a llofnodi鈥檙 amserlen briodasau ar gyfer priodasau a fyddai鈥檔 cael eu gweinyddu yn yr adeilad hwnnw. Bydd enw a chyfeiriad y person awdurdodedig yn cael eu hardystio i鈥檙 Cofrestrydd Cyffredinol a chofrestrydd arolygu yr ardal gofrestru y lleolir yr adeilad ynddo. Rhaid bod yr adeilad wedi鈥檌 gofrestru am o leiaf 12 mis cyn y gellir penodi person awdurdodedig.
Mae gan Ddeddf Priodasau 1949 ddarpariaeth hefyd i briodas cyplau o鈥檙 un rhyw gael ei gweinyddu mewn adeilad sydd wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer y diben hwnnw heb fod angen i gofrestrydd fod yn bresennol. Erbyn hyn, gall ymddiriedolwyr neu鈥檙 corff llywodraethu benodi personau awdurdodedig i fynyhcu priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau o鈥檙 un rhyw yn unig, neu鈥檙 ddau.
Beth yw cyfrifoldebau Person Awdurdodedig?
Mae cyfrifoldebau person awdurdodedig yn cynnwys:
- sicrhau bod rhagarweiniadau cyfreithiol unrhyw briodasau i鈥檞 gweinyddu yn yr adeilad wedi鈥檜 cwblhau gan y cwpl cyn i鈥檙 briodas ddigwydd
- sicrhau bod pob priodas yn cael ei gweinyddu yn unol 芒 deddfwriaeth a bod y manylion yn cael eu cofnodi yn gywir ar yr amserlen briodasau
- dychwelyd yr amserlen briodasau wedi鈥檌 llofnodi i鈥檙 cofrestrydd arolygu o fewn yr amserlen gyfreithiol h.y. o fewn 21 diwrnod ar 么l y briodas.
Dylech fod yn ymwybodol y gallai methu 芒 chydymffurfio 芒鈥檙 gofynion cyfreithiol hyn arwain at amheuon ynghylch dilysrwydd y briodas a pheri gofid mawr i鈥檙 rhai dan sylw. Ceir manylion llawn am gyfrifoldebau a dyletswyddau person awdurdodedig yn y llyfryn 鈥淐anllaw i Bersonau Awdurdodedig鈥.
Fel arall, gallwch ofyn am gopi drwy anfon e-bost at GRO yn: GROCasework@gro.gov.uk. Dylai fod copi o鈥檙 canllaw eisoes ar gael yn yr adeilad cofrestredig os yw person awdurdodedig wedi鈥檌 benodi i鈥檙 adeilad o鈥檙 blaen. Rhaid i鈥檙 person awdurdodedig fod yn gyfarwydd 芒鈥檙 canllaw er mwyn i holl ddarpariaethau deddfwriaeth priodas gael eu gwneud yn iawn ac yn gywir.
Sut ydw i鈥檔 dod yn Berson Awdurdodedig?
Bydd person awdurdodedig ond yn cael ei benodi gan yr ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu adeilad sydd wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau yn unol 芒 darpariaethau Deddf Priodasau 1949. Rhaid iddynt gwblhau tystysgrif penodi (Ffurflen AP1).
Cwblhau Tystysgrif Benodi
Dylai鈥檙 dystysgrif benodi gael ei chwblhau gan ymddiriedolwyr neu aelodau corff llywodraethu鈥檙 adeilad. Mae Deddf Priodasau 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i bob penodiad person awdurdodedig gael ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Felly, ni ddylai unrhyw berson weithredu fel person awdurdodedig nes bod penodiad wedi鈥檌 ardystio i鈥檙 Cofrestrydd Cyffredinol a鈥檌 fod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) fod manylion y penodiad wedi鈥檜 cofnodi.
Rhaid i bersonau awdurdodedig a benodir ar hyn o bryd i fynychu priodasau rhwng dyn a menyw beidio 芒 mynychu na llofnodi amserlen briodas ar gyfer priodas unrhyw gwpl o鈥檙 un rhyw hyd nes y bydd yr adeilad wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer y diben hwnnw a鈥檜 bod hefyd wedi鈥檜 penodi gan yr ymddiriedolwyr i wneud hynny.
Dylid anfon y dystysgrif wedi鈥檌 chwblhau at GRO drwy anfon e-bost:
neu drwy鈥檙 post:
Swyddfa Gofrestru Gyffredinol,
Blwch Post 476,
Southport,
Glannau Mersi
PR8 2WJ.
Rhowch 20 diwrnod gwaith o dderbyn y cais yn GRO i鈥檙 broses gofnodi penodiad ddigwydd. Unwaith y bydd y penodiad wedi鈥檌 gofnodi, bydd y person awdurdoedig yn cael gwybod yn ysgrifenedig a bydd y dystysgrif benodi yn cael ei hanfon at gofrestrydd arolygu yr ardal lle mae鈥檙 adeilad wedi鈥檌 leoli. O.N. 鈥 Lle bo鈥檔 berthnasol, ni fydd y person sy鈥檔 gadael y swydd bellach yn gallu cyflawni dyletswyddau person awdurdoedig heb gael ei ailbenodi.
Adran 1 鈥 Manylion Adeilad Cofrestredig
1.1 Rhif priodas 鈥 Mae鈥檙 rhif wedi鈥檌 gofnodi ar y Tystysgrif Gofrestru.
1.2 Enw鈥檙 adeilad 鈥 Rhowch enw鈥檙 adeilad fel y mae鈥檔 ymddangos ar y Dystysgrif Gofrestru. Os bydd yr wybodaeth a roddir yn eich cais yn wahanol i鈥檙 cofnodion a gedwir yma yn GRO, efallai y bydd yn rhaid i ni ymchwilio i鈥檙 newid cyn y gallwn ddechrau cofnodi eich apwyntiad.
1.3 Ardal gofrestru 鈥 Unwaith y byddwn wedi cofnodi鈥檙 penodiad, anfonir y dystysgrif at Gofrestrydd Arolygu yr ardal gofrestru lle mae鈥檙 adeilad wedi鈥檌 leoli.
Adran 2 鈥 Ymddiriedolwyr/Aelodau鈥檙 Corff Llywodraethu
Nodwch a ydych yn dymuno penodi鈥檙 person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau o鈥檙 un rhyw yn unig, neu鈥檙 ddau. Rhaid i chi dicio un blwch (a, b neu c) YN UNIG.
2.1 Y person awdurdodedig sy鈥檔 gyfrifol am gadw cofrestrau priodasau wedi鈥檜 cwblhau yn ddiogel ac unrhyw ddogfennau eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phriodasau.
2.2 Dyddiad penodi 鈥 Rhaid i berson awdurdodedig beidio 芒 gweithredu hyd nes y bydd wedi鈥檌 ardystio鈥檔 briodol ac wedi鈥檌 awdurdodi ar gyfer y diben hwnnw gan yr ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu鈥檙 adeilad a dylai aros am gadarnhad gan GRO cyn ymgymryd 芒鈥檌 ddyletswyddau.
2.3聽 Dyddiad unrhyw briodas ar ddod 鈥 Rhowch wybod i ni am ddyddiad unrhyw briodas i鈥檞 gweinyddu yn yr adeilad lle mae angen i鈥檙 person awdurdoedig wedi鈥檌 enwi fod yn bresennol. Ni ddylent, o dan unrhyw amgylchiadau, fynychu a llofnodi amserlen briodas ar gyfer unrhyw briodas nes cael cadarnhad gan GRO bod eu penodiad wedi鈥檌 gofnodi.
Manylion a llofnodion ymddiriedolwyr 鈥 Mae Deddf Priodasau 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i ddau ymddiriedolwr neu aelod o gorff llywodraethu鈥檙 adeilad lofnodi tystysgrif benodi. Os bydd y penodiad mewn adeilad Catholig, yna rhaid i un llofnodwr fod yn Esgob neu Ficer Cyffredinol yr Esgobaeth lle mae鈥檙 adeilad wedi鈥檌 leoli.
Adran 3 鈥 Manylion Personau Awdurdodedig
3.1 Gellir ond yn cael un Person Awdurdodedig Cyfrifol yn yr adeilad cofrestredig ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, efallai y bydd mwy nag un person awdurdodedig. Y 鈥淧erson Awdurdodedig Cyfrifol鈥 fydd pwynt cyswllt cyntaf y GRO.
Os bydd person awdurdodedig yn gadael ei swydd, mae鈥檔 ofyniad cyfreithiol i鈥檙 ymddiriedolwyr roi gwybod i鈥檙 GRO. Os mai鈥檙 person hwn yw鈥檙 person awdurdoedig cyfrifol, rhaid i鈥檙 ymddiriedolwyr benodi olynydd drwy gwblhau tystysgrif benodi newydd. Gall yr olynydd fod yn berson awdurdoedig presennol neu gall fod yn benodiad newydd. Nid oes angen i鈥檙 person awdurdoedig cyfrifol fod yn weinidog nac yn offeiriad a gall fod yn unrhywun sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 adeilad cofrestredig.
Dylech nodi o leiaf un rhif ff么n ar gyfer y person awdurdodedig rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu 芒 nhw.
3.2 Cyfeiriad e-bost 鈥 Dylech nodi cyfeiriad e-bost dilys (os yn berthnasol). Byddwn ni ond yn defnyddio y cyfeiriad hwn at ddibenion sy鈥檔 ymwneud 芒 dyletswyddau person awdurdodedig ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw sefydliad arall. Os bydd y person awdurdodedig yn newid ei gyfeiriad e-bost neu unrhyw fanylion cyswllt eraill, rhowch wybod i GRO drwy lenwi鈥檙 ffurflen Newid Manylion Cyswllt (Ffurflen AP2).
Adran 4 鈥 i鈥檞 llenwi gan y Person Awdurdodedig
Nid yw Deddf Priodas (Cyplau o鈥檙 Un Rhyw) 2013 yn caniat谩u i berson gael ei orfodi i gael ei awdurdodi i fod yn bresennol mewn priodasau cyplau o鈥檙 un rhyw os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Felly, dylai鈥檙 person awdurdodedig nodi a yw鈥檔 cytuno i gyflawni dyletswyddau person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau o鈥檙 un rhyw yn unig, neu鈥檙 ddau. Rhaid iddynt dicio un blwch (a, b neu c) YN UNIG ac yna llofnodi a dyddio鈥檙 dystysgrif.
Adran 5 鈥 Datganiad Person Awdurdodedig
Dylai鈥檙 person awdurdodedig ddarllen y canllawiau hyn cyn llofnodi a dyddio鈥檙 dystysgrif i gadarnhau ei fod yn fodlon i GRO gysylltu ag ef ynghylch dibenion eu penodiad.