Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau, cyfarwyddyd i ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF

Diweddarwyd 14 Awst 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cefndir

Efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu cwblhau cais oherwydd bod rhywun wedi gwrthwynebu. Heblaw am ychydig o eithriadau, mae adran 73(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn rhoi hawl i unrhyw un wrthwynebu cais.

Rhaid gwneud gwrthwynebiad yn ysgrifenedig, sy鈥檔 cynnwys ebost ar yr amod bod yr ebost yn cael ei anfon i鈥檙 cyfeiriad a nodir yn y rhybudd. Rhaid i鈥檙 gwrthwynebiad amlinellu sail y gwrthwynebiad (rheol 19 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Efallai y bydd yn bosibl estyn y cyfnod ar gyfer ymateb i/gwrthod rhybudd o dan rai amgylchiadau, ar yr amod nad yw鈥檙 cais wedi ei gwblhau. Argymhellir y dylid gwneud unrhyw gais am estyniad amser cyn dyddiad terfyn y rhybudd.

Os yw鈥檙 cofrestrydd yn fodlon bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail, nid effeithir ar y cais (adran 73(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fel arall, rhaid i鈥檙 cofrestrydd roi rhybudd o鈥檙 gwrthwynebiad i鈥檙 ceisydd ac nid oes modd cwblhau鈥檙 cais nes bydd y gwrthwynebiad wedi cael ei derfynu (adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Ceir nifer o ffyrdd i derfynu gwrthwynebiad. Gall y part茂on ddod i gytundeb ar sut i fwrw ymlaen gyda鈥檙 cais, gall y ceisydd dynnu ei gais neu wrthwynebiad yn 么l neu gall y gwrthwynebydd dynnu ei gais yn 么l. Os na fydd hynny鈥檔 digwydd, nid oes gan y cofrestrydd unrhyw ddewis ond cyfeirio鈥檙 mater at is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf (y tribiwnlys).

Ar 1 Gorffennaf 2013, disodlwyd swyddogaeth Dyfarnwr Cofrestrfa Tir EF gan y tribiwnlys. Un o鈥檌 swyddogaethau yw pennu anghydfodau sy鈥檔 codi o wrthwynebiadau. Mae鈥檙 tribiwnlys yn hollol annibynnol ar Gofrestrfa Tir EF. Unwaith y cyfeirir mater at y tribiwnlys, caiff ei reoli gan ei reolau a鈥檌 drefnau ei hun (Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Siambr Eiddo) 2013) a chyfarwyddiadau ymarfer a gyhoeddir gan Brif Lywydd y Tribiwnlysoedd (30 Gorffennaf 2013). Mae trosolwg o drefnau鈥檙 tribiwnlys i鈥檞 weld ar wefan 伊人直播.

Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cynnal gwrandawiad ond mae ganddo鈥檙 p诺er i gyfarwyddo un ochr i ddechrau achos llys yn lle hynny (adran 110(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

O dan rai amgylchiadau, sy鈥檔 cael eu nodi yn rheolau鈥檙 drefniadaeth tribiwnlys, gall y tribiwnlys hefyd derfynu anghydfod heb gynnal gwrandawiad.

Mae鈥檙 cyfarwyddyd ymarfer hwn yn trafod y cyfnod rhwng derbyn gwrthwynebiad a chyfeirio anghydfod at y tribiwnlys.

2. Y gwrthwynebiad

Pan fyddwn yn derbyn gwrthwynebiad byddwn yn ystyried yn gyntaf a oes gan y gwrthwynebiad unrhyw obaith o lwyddo. Os nad oes ganddo obaith o lwyddo, pa un ai yn 么l y ffeithiau neu鈥檙 gyfraith, ystyrir y cais yn ddi-sail a chaiff ei ddileu, gan alluogi i鈥檙 cais gael ei gwblhau. Mae hyn oherwydd nad yw gwrthwynebiad sy鈥檔 ddi-sail yn effeithio ar gais (adran 73(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn rhai achosion, gallwn ohirio cwblhau cais i ganiat谩u i wrthwynebydd egluro ei resymau dros wrthwynebu neu i ddarparu gwybodaeth bellach i ddangos nad yw ei wrthwynebiad yn ddi-sail.

Unwaith y byddwn wedi gweld nad yw gwrthwynebiad yn ddi-sail, byddwn yn rhoi manylion y gwrthwynebiad i鈥檙 ceisydd. Ar yr un pryd, byddwn yn rhoi dewisiadau penodol i鈥檙 ceisydd a鈥檙 gwrthwynebydd.

Dyma鈥檙 4 dewis sydd ar gael i鈥檙 part茂on:

  • gall y ceisydd dynnu鈥檙 cais yn 么l
  • gall y gwrthwynebydd dynnu鈥檙 gwrthwynebiad yn 么l
  • gall y part茂on benderfynu cyd-drafod i weld a allant ddod i gytundeb ar sut i drin y gwrthwynebiad a sut i gwblhau鈥檙 cais
  • gall un o鈥檙 part茂on benderfynu dechrau achos llys 鈥 gweler Achos llys

Os nad oes unrhyw obaith y daw鈥檙 part茂on i gytundeb, rhaid cyfeirio鈥檙 mater at y tribiwnlys.

Mae adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gosod dyletswydd i beidio 芒 gwrthwynebu cais heb achos rhesymol. Mae鈥檔 bosibl y bydd unrhyw un sy鈥檔 torri鈥檙 ddyletswydd hon yn gorfod talu iawndal i unrhyw un sy鈥檔 dioddef colled o ganlyniad.

3. Cyfle i gyd-drafod

Caiff nifer o anghydfodau eu datrys trwy gytundeb, ac mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod hyn. Ond rhaid i ni gofio hefyd ein hymrwymiad i gyfeirio mater at y tribiwnlys os yw鈥檙 part茂on yn methu datrys eu hanghydfod trwy gytundeb. Dywed adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 bod Cofrestrfa Tir EF yn gorfod cyfeirio unrhyw achos lle 鈥渘ad oes modd cael gwared ar wrthwynebiad trwy gytuno鈥.

Byddwn felly, wrth anfon rhybudd am y gwrthwynebiad at bob parti, yn gofyn iddynt:

  • ddatgan a ydynt am gyd-drafod
  • cadarnhau eu bod yn credu y gall fod modd dod i gytundeb

Rhaid i bawb gadarnhau hyn; fel arall bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys ar unwaith. Mae angen cydweithrediad pawb er mwyn dod i drefniant.

Os yw pob parti i鈥檙 anghydfod yn cytuno eu bod am gyd-drafod i geisio dod i gytundeb, rhoddir amser penodol, 6 mis fel arfer (a ystyrir yn amser rhesymol i ddod 芒鈥檙 cyd-drafodaethau i ben) ar gyfer y cyd-drafodaethau.

Byddwn yn cysylltu 芒鈥檙 part茂on ddwywaith eto yn ystod y cyfnod 6 mis o gyd-drafod. Yn gyntaf, byddwn yn cysylltu 芒鈥檙 part茂on ar 么l 3 mis i ofyn am gynnydd y cyd-drafodaethau. Os ymddengys ar yr adeg honno nad oes posibilrwydd dod i gytundeb, caiff y mater ei gyfeirio at y tribiwnlys bryd hynny.

Os yw鈥檙 cyd-drafod yn datblygu a bod y posibilrwydd o ddod i gytundeb yn dal i fodoli, ni fyddwn yn cyfeirio鈥檙 mater at y tribiwnlys ond yn cysylltu 芒鈥檙 part茂on eto ar 么l 5 mis i weld a yw鈥檙 cyd-drafodaethau鈥檔 parhau ac i atgoffa鈥檙 part茂on y bydd cyfnod y cyd-drafod yn dod i ben mewn mis. Byddwn yn anfon talfyriad o鈥檙 achos at y part茂on bryd hynny hefyd (gweler Y talfyriad achos).

Gall unrhyw barti i anghydfod ofyn i鈥檙 mater gael ei gyfeirio at y tribiwnlys ar unrhyw adeg.

Ni fyddwn fel rheol yn estyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer trafodaethau oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn cyfiawnhau gwneud hynny.

Unwaith i鈥檙 mater gael ei gyfeirio at y tribiwnlys, ni all y part茂on dynnu eu cais/gwrthwynebiad yn 么l heb gytundeb y tribiwnlys. Gall y tribiwnlys benderfynu sut y dylid ymdrin ag unrhyw dynnu鈥檔 么l.

4. Swyddogaeth Cofrestrfa Tir EF

Os ystyriwn ei bod yn briodol, byddwn yn mynegi ein barn ar rinweddau cymharol achos pob parti. Gobeithiwn y bydd ein profiad a鈥檔 sefyllfa ddiduedd yn ddefnyddiol ond mae croeso i鈥檙 part茂on dderbyn, gwrthbrofi neu anwybyddu鈥檙 hyn a ddywedwn.

Ond mae鈥檔 bwysig cofio na fydd y farn a fynegir gan unrhyw aelod o Gofrestrfa Tir EF yn gyfrwymol ar y tribiwnlys, os bydd yn datrys y mater maes o law. Ni fyddant yn gyfrwymol chwaith ar farnwr pe bai un o鈥檙 part茂on yn dewis dechrau achos llys neu wneud hynny yn dilyn cyfarwyddyd y tribiwnlys. Ni fyddwn fel arfer yn anfon cop茂au o ohebiaeth sy鈥檔 cynnwys barn o鈥檙 fath at y tribiwnlys. Bydd ar gael i鈥檙 tribiwnlys a鈥檙 llysoedd dim ond os caiff ei chyflwyno fel tystiolaeth yn y gwrandawiad. Ceir rheolau arbennig o ran tystiolaeth sy鈥檔 berthnasol yn y llysoedd ac mewn gwrandawiadau gerbron y tribiwnlys. Bydd yn rhaid i鈥檙 part茂on ystyried y rheolau hyn os bydd y mater yn cyrraedd y cam hwnnw.

Mae鈥檔 bwysig hefyd bod pawb yn ymwybodol o ddadleuon a thystiolaeth pawb arall. O ganlyniad ni allwn gynnal unrhyw drafodaethau cyfrinachol. Mae鈥檔 debygol y bydd unrhyw ohebiaeth neu ddogfennau cefnogol a anfonir at Gofrestrfa Tir EF yn cael ei datgelu i鈥檙 part茂on eraill hyd yn oed os ydynt wedi eu nodi鈥檔 鈥榞yfrinachol鈥. Lle bo鈥檔 amlwg nad yw parti鈥檔 ymwybodol o鈥檙 polisi hwn ac wedi darparu gohebiaeth neu ddogfen gefnogol 鈥榞yfrinachol鈥, rhoddir cyfle i鈥檙 parti hwnnw ei thynnu鈥檔 么l ond os nad yw鈥檔 gwneud hynny, efallai y caiff ei datgelu er gwaethaf y ffaith y nodwyd ei bod yn gyfrinachol. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o鈥檙 gwrthwynebwyr yn ymwybodol o鈥檔 polisi ar wybodaeth gyfrinachol gan ei fod wedi ei nodi yn y nodiadau eglurhaol sy鈥檔 cael eu hanfon gyda鈥檙 rhan fwyaf o rybuddion Cofrestrfa Tir EF.

5. Y talfyriad achos

Os cyfeirir anghydfod at y tribiwnlys, caiff ei gyfeirio trwy rybudd ffurfiol ynghyd 芒 thalfyriad achos. Diben y talfyriad achos yw rhoi manylion cryno i鈥檙 tribiwnlys am y mater sy鈥檔 cael ei gyfeirio, i alluogi鈥檙 tribiwnlys i benderfynu 2 beth. Yn gyntaf, i benderfynu pwy ddylai gael ei enwi鈥檔 geisydd a phwy fyddai鈥檙 ymatebwr yn y gwrandawiadau gerbron y tribiwnlys ac yn ail, i benderfynu a ddylai鈥檙 achos gael ei glywed gan y tribiwnlys neu a ddylai un o鈥檙 part茂on (y parti a enwyd yn geisydd fel rheol yn achos y tribiwnlys) gael ei gyfeirio i gychwyn achos llys. O dan reolau鈥檙 drefniadaeth tribiwnlys, sy鈥檔 pennu鈥檙 trefnau fydd yn berthnasol unwaith y caiff y mater ei gyfeirio, mae modd rhoi cyfle i鈥檙 part茂on gyflwyno achosion i鈥檙 tribiwnlys os bydd yn ystyried y byddai鈥檔 briodol i gyfarwyddo un o鈥檙 part茂on i ddechrau achos llys.

Bydd y talfyriad achos yn ymgorffori鈥檙 wybodaeth ganlynol (rheol 3(2) o Reolau鈥檙 Drefniadaeth Tribiwnlys):

  • enwau a chyfeiriadau鈥檙 part茂on
  • manylion unrhyw gynrychiolwyr cyfreithiol neu gynrychiolwyr eraill
  • crynodeb o鈥檙 ffeithiau craidd
  • manylion y cais
  • manylion y gwrthwynebiad
  • rhestr o unrhyw gop茂au o ddogfennau ynghlwm
  • unrhyw beth arall y bydd y cofrestrydd yn ystyried yn briodol

Ceir enghraifft o dalfyriad achos yn yr Atodiad.

Bydd gofyn i鈥檙 part茂on hefyd roi cyfeiriad o fewn Cymru a Lloegr at ddiben cyfathrebu gyda鈥檙 tribiwnlys. Gofynnir am hyn rhag ofn bod y part茂on wedi rhoi cyfeiriad sydd oddi allan i awdurdod Cofrestrfa Tir EF. (Mae hyn yn oddefedig o dan reol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003.) Ar 么l iddo gael ei gyfeirio at y tribiwnlys, gellir darparu cyfeiriadau pellach yn unol 芒 rheolau鈥檙 drefniadaeth tribiwnlys.

Bydd y cofrestrydd yn anfon copi o鈥檙 talfyriad achos at y part茂on a fydd yn cael cyfle i roi sylwadau arno pe byddent am wneud hynny (rheol 3(1)(c) o reolau cyfeirio at is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf). Ni fydd y talfyriad achos yn amlinellu dadleuon y part茂on na manylion y dystiolaeth a gyflwynwyd, ond bydd yn grynodeb o鈥檙 ffeithiau perthnasol. Bydd y cyfle i roi sylwadau yn galluogi cywiro unrhyw wallau ffeithiol.

Bydd y cofrestrydd yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir ac yn gwneud unrhyw newidiadau priodol i鈥檙 talfyriad achos.

Ar yr adeg briodol, naill ai:

(i) ar 么l cyrraedd y cyfnod cyd-drafod o 6 mis heb gytundeb, neu

(ii) ar 么l i鈥檙 cyfnod cyd-drafod o 3 mis fynd heibio ac mae鈥檔 amlwg na fydd modd dod i gytundeb, neu

(iii) os yw un o鈥檙 part茂on yn gofyn i鈥檙 mater gael ei gyfeirio at y tribiwnlys bydd y cofrestrydd yn anfon rhybudd ffurfiol at y tribiwnlys yn ei hysbysu y cyfeiriwyd yr achos hwn. Daw鈥檙 talfyriad achos (yn ymgorffori unrhyw newidiadau a wnaed gan y cofrestrydd) gyda鈥檙 rhybudd a bydd cop茂au o unrhyw ddogfennau yn cael eu rhestru yn y talfyriad achos. Bydd y part茂on hefyd yn derbyn rhybudd ffurfiol yn eu hysbysu y cyfeiriwyd yr achos, ynghyd 芒 chopi o鈥檙 talfyriad achos fel yr anfonwyd at y tribiwnlys. Ni fydd y part茂on yn cael cop茂au o鈥檙 dogfennau gan y bydd y gwreiddiol neu gop茂au ohonynt ganddynt eisoes ar eu ffeiliau.

Mae is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Swyddfa Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd ac nid yw鈥檔 gysylltiedig mewn unrhyw ffordd 芒 Chofrestrfa Tir EF. Os cyfeirir yr achos at y tribiwnlys, dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am gynnydd neu weithdrefnau at y tribiwnlys yn hytrach na Chofrestrfa Tir EF. Ni chaiff ffeil Cofrestrfa Tir EF ei throsglwyddo i鈥檙 tribiwnlys ond fe鈥檌 cedwir hyd nes y bydd canlyniadau鈥檙 achos gerbron y tribiwnlys.

6. Achos llys

Efallai y bydd un o鈥檙 part茂on am ddechrau achos llys. Sut y bydd yn cyd-fynd 芒鈥檙 trefnau hyn?

Fel yr ydym wedi dangos, nid oes gan Gofrestrfa Tir EF unrhyw ddewis ond cyfeirio anghydfod sy鈥檔 deillio o wrthwynebiad at y tribiwnlys. Cyn gynted ag y gwelwn fod un o鈥檙 part茂on wedi dechrau achos llys, byddwn yn trin yr achos fel mater nad oes modd ei ddatrys trwy gytundeb ac yn cyfeirio鈥檙 mater yn ffurfiol at y tribiwnlys.

Mae鈥檔 debygol y bydd y tribiwnlys yn gohirio鈥檙 achos ger ei fron i aros am ganlyniad yr achos llys.

7. Costau

Caiff y pwnc hwn ei drafod yng nghyfarwyddyd ymarfer 38: costau mewn ceisiadau cynhennus.

8. Gwallau yn y gofrestr

Gall anghydfod godi pan fydd cais yn cael ei wneud i gywiro gwall yn y gofrestr a rhywun yn cyflwyno gwrthwynebiad. Os yw hyn wedi digwydd, mae鈥檙 trefnau a nodwyd yn y cyfarwyddyd hwn yn dal yn berthnasol. Fodd bynnag, efallai y bydd y part茂on yn gallu hawlio iawndal o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Caiff y pwnc hwn ei drafod yn ein cyfarwyddyd ymarfer 39: Cywiro ac indemniad. Os ydych yn meddwl y gall hyn fod yn berthnasol i chi, cofiwch gysylltu 芒 ni i ofyn am gopi. Efallai y bydd iawndal yn talu costau a threuliau, ond bydd angen i chi ystyried a ddylech gael cydsyniad y cofrestrydd cyn mynd i gostau neu dreuliau o鈥檙 fath. Mae cyfarwyddyd ymarfer 38: costau mewn ceisiadau cynhennus yn egluro鈥檙 drefn.

9. Ar 么l penderfyniad y tribiwnlys

Bydd penderfyniad y tribiwnlys, pa un ai鈥檔 dilyn gwrandawiad neu beidio, yn cael ei gyflwyno mewn gorchymyn ffurfiol. Weithiau bydd hyn yn gorchymyn i Gofrestrfa Tir EF gymryd camau penodedig, pryd y bydd y tribiwnlys yn cyflwyno copi o鈥檙 gorchymyn i Gofrestrfa Tir EF. Fel arall, dylai鈥檙 part茂on anfon copi o鈥檙 gorchymyn i Gofrestrfa Tir EF, a byddwn yn eich hysbysu sut y bwriadwn ddelio 芒鈥檙 cais a鈥檙 gwrthwynebiad yng ngoleuni gorchymyn y tribiwnlys.

10. Atodiad

Talfyriad Achos Cofrestrfa Tir EF

Daw鈥檙 talfyriad achos hwn gyda rhybudd at is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf o dan reol 5 Rheolau Cofrestru Tir (Cyfeirio at Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EF) 2003.

Rhif(au) teitl: AB12345 ac AB7890
Eiddo: 123 a 125 Steep Hill, New Town, Midshire
Ceisydd: Anne Paula Plicant
Cyfeiriad y ceisydd: 123 Steep Hill, New Town, Midshire
Cynrychiolydd cyfreithiol neu gynrychiolydd arall y ceisydd: Hollys, 789 High Street, Down Town, Midshire. Cyf P/AD/12
Gwrthwynebydd: Oliver Brian Jector
Cyfeiriad y gwrthwynebydd: 125 Steep Hill, New Town, Midshire
Cynrychiolydd cyfreithiol neu gynrychiolydd arall y gwrthwynebydd: Ivys, 321 Lower Road, Uptown, Midshire. Cyf JEC/XZ/541
Crynodeb o鈥檙 ffeithiau craidd: Y ceisydd yw perchennog cofrestredig rhif teitl AB12345. Trwy drawsgludiad dyddiedig 24 Mehefin 1999 rhwng (1) Daisy May Jones a (2) y ceisydd, cafodd y ceisydd y tir sy鈥檔 ffurfio trawsgludiad dyddiedig 1 Ionawr 1956 rhwng (1) Alice Eleanor Thomas a (2) John Mark Smith. Cofrestrwyd y tir hwn ar 1 Gorffennaf 1999 a dyrannwyd rhif teitl AB12345 iddo. Nid oedd y tir wedi ei amlinellu鈥檔 goch ar y cynllun atodol yn y cynllun teitl ac ar hyn o bryd mae鈥檔 gofrestredig o dan deitl rhif AB7890.
Manylion y cais: Mae鈥檙 ceisydd wedi gwneud cais i newid cofrestri teitl rhif AB12345 a theitl rhif AB7890 o dan baragraff 5 Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae鈥檔 hawlio y dylai cynllun teitl teitl rhif AB12345 gynnwys y tir wedi ei amlinellu鈥檔 goch, oherwydd ei fod yn rhan o鈥檙 tir a gafwyd ganddi ym 1999.
Manylion y gwrthwynebiad: Cyflwynwyd rhybudd o鈥檙 cais i鈥檙 gwrthwynebydd fel perchennog cofrestredig teitl rhif AB7890. Mae鈥檙 gwrthwynebydd wedi gwrthwynebu newid y 2 rif teitl ar y sail ei fod wedi meddiannu鈥檙 tir wedi ei amlinellu鈥檔 goch fel rhan o鈥檌 ardd am y 15 mlynedd diwethaf.
Unrhyw beth arall y mae鈥檙 dyfarnwr yn ei ystyried i fod yn briodol: Dim
Cop茂au o鈥檙 dogfennau sydd gyda鈥檙 talfyriad achos: 1: cais ar ffurflen AP1 dyddiedig 13 Hydref 2003 2: llythyr oddi wrth Hollys i Gofrestrfa Tir EF dyddiedig 13 Hydref 2003 3: cynlluniau teitl teitlau rhif AB12345 ac AB7890 4: cynllun yn dangos y tir wedi ei amlinellu鈥檔 goch: rhybudd a gyflwynwyd i鈥檙 gwrthwynebydd dyddiedig 20 Hydref 2003 6: llythyr oddi wrth y gwrthwynebydd i Gofrestrfa Tir EF dyddiedig 6 Tachwedd 2003 7: trawsgludiad dyddiedig 1 Ionawr 1956 8: trawsgludiad dyddiedig 24 Mehefin 1999
Llofnodwyd: Cofrestrydd Tir ar ran y Prif Gofrestrydd Tir. Dyddiedig:

11. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.