Canllawiau

Agwedd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus tuag at daliadau gofal teulu (fersiwn y we)

Cyhoeddwyd 7 Mawrth 2025

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Crynodeb

Mae鈥檙 canllawiau鈥檔 nodi safbwynt y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar daliadau gofal y mae dirprwyon yn eu gwneud i aelodau o鈥檙 teulu sy鈥檔 darparu gofal i rywun sydd heb alluedd meddyliol (y cyfeirir ato fel 鈥淧鈥).

Pwrpas a chwmpas

Mae鈥檙 nodyn ymarfer hwn yn diffinio beth a olygir wrth daliad gofal teulu, a elwir weithiau鈥檔 daliad 鈥榞ofal am ddim鈥. Mae鈥檔 nodi鈥檙 fframwaith cyfreithiol, awdurdod y dirprwy i wneud taliadau a barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar bethau i鈥檞 hystyried wrth gytuno ar y taliadau hyn a鈥檜 cyfrifo. Mae鈥檔 esbonio pryd y mae鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddirprwyon geisio cymeradwyaeth i daliadau gan y Llys Gwarchod (鈥榶 llys鈥) a phryd y bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried gwneud cais i鈥檙 llys yngl欧n 芒 thaliadau heb eu hawdurdodi.

Gall Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiwygio鈥檙 canllawiau hyn ar unrhyw adeg ac yn benodol er mwyn cadw鈥檔 unol 芒 dyfarniadau newydd y Llys Gwarchod.

Mae鈥檙 canllawiau ond yn berthnasol i ddirprwyon a benodir gan y llys dan orchymyn cyllid ac eiddo. Efallai y bydd yr adran Ffactorau i鈥檞 hystyried yn ddefnyddiol i atwrneiod a benodir gan atwrneiaeth arhosol wrth gynllunio taliadau gofal.

Beth yw gofal teulu?

Mae aelodau鈥檙 teulu a ffrindiau yn aml yn darparu rhywfaint o ofal anffurfiol i P 鈥 coginio prydau, helpu gyda hylendid, goruchwylio neu fod yn gwmni, er enghraifft. Gall hyn amrywio o fod yn achlysurol a鈥檙 hyn y byddai鈥檙 aelod o鈥檙 teulu yn ei weld fel rhan o fod yn berthynas i P, i ofal rheolaidd amser llawn sy鈥檔 cynnwys sgiliau nyrsio a ffisiotherapi. Mewn llawer o achosion, mae鈥檔 well i aelod o鈥檙 teulu ofalu am P (yn achos plant, gan eu rhieni) ac mae llawer o berthnasau鈥檔 gwneud hynny heb ddisgwyl unrhyw daliad. Mewn achosion eraill, gall taliad leddfu sefyllfa ariannol y gofalwr ei hun a鈥檌 alluogi i barhau yn ei r么l gofalu.

Mae鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus o鈥檙 farn y gall taliadau i alluogi gofal o鈥檙 fath fod er lles pennaf P, ar yr amod bod y ffactorau a amlinellir yn y canllawiau hyn yn cael eu hystyried. Pan gaiff ei reoli鈥檔 iawn, mae鈥檔 aml yn well i bawb os yw P yn cael cyfuniad o ofal proffesiynol a gofal gan aelod o鈥檙 teulu, gan wella ansawdd bywyd y teulu ar yr un pryd 芒 darparu seibiant i鈥檙 aelod o鈥檙 teulu.

Mae鈥檙 mathau o drefniadau gofal a allai gyfiawnhau taliad gofal teulu yn cynnwys pan:

  • nad oes perthynas gytundebol rhwng P a鈥檙 aelod o鈥檙 teulu dan sylw
  • mae鈥檙 aelod o鈥檙 teulu yn darparu鈥檙 gofal oherwydd eu cariad a鈥檜 hoffter naturiol o P
  • mae鈥檙 gofal yn anffurfiol ei natur ac nid drwy ddisgrifiad swydd
  • nad oes gan yr aelod(au) o鈥檙 teulu oriau, egwyliau na gwyliau y cytunwyd arnynt yn ffurfiol
  • nid oes fawr ddim diffiniad o鈥檙 gwaith rhwng aelodau o鈥檙 teulu, neu ddim o gwbl, ac nid oes unrhyw un yn gyfrifol am sicrhau telerau cytundebol neu ddarparu gwasanaeth*

*Er enghraifft, rheolwr achos (ni waeth am unrhyw drefniadau ffurfiol sydd ar waith ar gyfer gofal proffesiynol neu ofal wedi鈥檌 reoleiddio).

Mae trefniadau mwy ffurfiol na鈥檙 rhai uchod yn awgrymu bod yr aelod o鈥檙 teulu鈥檔 cael ei gyflogi鈥檔 uniongyrchol fel gofalwr, gyda hawliau cyflogaeth a chytundebol. Nid yw鈥檙 canllawiau hyn yn cynnwys trefniadau o鈥檙 fath.

Fframwaith cyfreithiol

Mae鈥檙 rhan fwyaf o orchmynion sy鈥檔 penodi dirprwy ar gyfer eiddo a materion ariannol yn rhoi awdurdod cyffredinol i reoli materion ariannol P. Fodd bynnag, cyn gwneud unrhyw daliadau teulu, rhaid i鈥檙 dirprwy ystyried dau beth:

  • A yw鈥檙 taliad sy鈥檔 cael ei awgrymu er lles pennaf P
  • A yw鈥檙 penderfyniad i wneud taliad yn gwrthdaro 芒 dyletswydd y dirprwy i beidio 芒 manteisio ar ei safle

Mae Adrannau 1 i 4 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi mai鈥檙 sefyllfa pan nad yw person yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad penodol ar adeg benodol, yw bod rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad y mae rhywun arall yn ei wneud ar ran y person hwnnw gael ei wneud er ei les pennaf.

Ceir rhestr wirio yn adran 4 y Ddeddf Galluedd Meddyliol sy鈥檔 ei gwneud yn ofynnol i ddirprwy ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol wrth benderfynu beth sydd er lles pennaf P a rhaid iddo gymryd y camau y mae鈥檙 adran honno鈥檔 cyfeirio atynt. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys ystyried a oes gan y person alluedd i wneud neu gymryd rhan yn y penderfyniad; peidio 芒 gwneud y penderfyniad ar sail oedran neu ymddangosiad y person yn unig; ystyried dymuniadau, teimladau a chredoau鈥檙 person yn y gorffennol a鈥檙 presennol; ac ymgynghori ag eraill lle bo hynny鈥檔 briodol, er enghraifft, y rhai sy鈥檔 ymwneud 芒 gofalu am y person neu sydd 芒 diddordeb yn ei les.

Mae adran 19(6) o鈥檙 Ddeddf Galluedd Meddyliol yn datgan bod dirprwy i鈥檞 drin fel 鈥渁siant鈥 P pan fydd yn gweithredu ar ran P. Mae bod yn asiant yn golygu bod gan y dirprwy ddyletswyddau cyfreithiol i鈥檙 sawl y mae鈥檔 ei gynrychioli. Mae鈥檙 ddyletswydd hon yn cynnwys y dirprwy yn peidio 芒 manteisio ar ei swydd neu rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae eu buddiannau personol yn gwrthdaro 芒鈥檜 dyletswyddau. Gelwir hyn yn 鈥榙dyletswydd ymddiriedol鈥. Gall dirprwy sy鈥檔 gwneud taliadau gofal teulu iddo鈥檌 hun dorri鈥檙 ddyletswydd hon os nad oes ganddo awdurdod penodol gan y Llys Gwarchod i wneud taliadau o鈥檙 fath.

Mae鈥檙 llys wedi cyhoeddi dyfarniadau sy鈥檔 rhoi syniad o鈥檌 ddull o ymdrin 芒 thaliadau gofal teulu, ond mae鈥檔 bwysig peidio 芒鈥檜 dilyn yn rhy llythrennol, gan fod pob achos yn ddibynnol ar ei amgylchiadau ei hun. Dyma鈥檙 dyfarniadau:

HC, Re [2015] EWCOP 29 (23 Ebrill 2015)

Yn y penderfyniad hwn, ymdriniodd uwch farnwr y Llys Gwarchod 芒 thaliadau am ofal yn yr un ffordd ag y byddai llys yn ei wneud wrth wrando hawliad anaf personol 鈥 drwy ganiat谩u cyfradd fasnachol, gyda disgownt o 20% gan nad yw鈥檙 taliad yn drethadwy. Darparodd hefyd ar gyfer codiadau blynyddol yn unol 芒鈥檙 Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 6145 鈥 gofalwyr a gofalwyr cartref.

A, Re [2015] EWCOP 46 (7 Gorffennaf 2015)

Yn y penderfyniad hwn, roedd yr uwch farnwr wedi ystyried barn dirprwy proffesiynol ac wedi canfod bod y dirprwy wedi mynd drwy鈥檙 rhestr wirio o faterion i鈥檞 hystyried yn ofalus wrth wneud penderfyniad er lles pennaf.

HNL, Re [2015] EWCOP 77 (19 Tachwedd 2015)

Yn y penderfyniad hwn, gorchmynnodd yr uwch farnwr fod adroddiad arbenigol yn cael ei ddarparu gan reolwr achos proffesiynol ar gyfer anafiadau i鈥檙 ymennydd er mwyn gwerthuso a mesur y gofal a鈥檙 gwasanaethau rheoli achos yr oedd y dirprwy yn eu darparu i鈥檞 chwaer. Nododd hefyd nad oedd angen adolygu taliadau ymhellach tan 2022 neu tan y cyfryw amser ag y bu newid mewn amgylchiadau. Roedd hynny oherwydd y bwlch rhwng gwerth masnachol y gwasanaethau a ddarparwyd gan y dirprwy a鈥檙 taliad gwirioneddol a gafodd y dirprwy.

Gellir darllen y dyfarniadau llawn ar gronfa ddata Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon yn:

Pa un a oes angen awdurdod y Llys Gwarchod

Dirprwyon proffesiynol (y telir ffi iddynt)

Mae鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus o鈥檙 farn bod dirprwyon proffesiynol, y telir ffi iddynt am eu gwasanaethau, yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch taliadau gofal teulu o dan eu gorchymyn llys. Disgwylir iddynt ddilyn yr egwyddorion a鈥檙 canllawiau yn y nodyn ymarfer hwn.

Cyhyd 芒 bod y dirprwy proffesiynol yn gallu darparu tystiolaeth o wneud penderfyniadau er lles pennaf, ni fydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud cais i鈥檙 llys am gymeradwyo taliadau. Fodd bynnag, mewn achosion lle na ellir dod i gytundeb ynghylch swm y taliad, neu lle mae posibilrwydd o herio gan aelodau eraill o鈥檙 teulu, efallai y bydd y dirprwy proffesiynol yn dymuno gwneud cais i鈥檙 llys ei hun am gymeradwyaeth benodol i鈥檙 taliadau.

Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud cais i鈥檙 llys am gyfarwyddiadau os yw o鈥檙 farn nad yw鈥檙 taliadau鈥檔 dilyn y canllawiau hyn ac nad ydynt er lles pennaf P. Mewn achosion eithafol, gall wneud cais i鈥檙 llys am ddiswyddo鈥檙 dirprwy.

Dirprwyon lleyg

Pan fydd dirprwy lleyg yn darparu gofal ac yn derbyn taliad, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynghori鈥檙 dirprwy i geisio cymeradwyaeth y llys i osgoi torri ei ddyletswydd ymddiriedol.

Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd ei gwneud yn ofynnol i ddirprwy lleyg geisio cymeradwyaeth y llys os yw鈥檔 talu rhywun y mae ganddo gysylltiad agos ag ef 鈥 er enghraifft priod neu blentyn 鈥 lle gallai鈥檙 berthynas agos ddylanwadu ar y penderfyniad i dalu yn hytrach na鈥檌 fod yn cael ei wneud yn wrthrychol er lles pennaf P.

Ffactorau i鈥檞 hystyried

Wrth benderfynu a yw taliadau gofal teulu er lles pennaf P, dylai dirprwyon ystyried y ffactorau canlynol:

Rhaid i鈥檙 gofal fod yn rhesymol ofynnol i ddiwallu anghenion P a bod o safon dda. Os nad yw鈥檔 si诺r, efallai y bydd angen i鈥檙 dirprwy geisio asesiad gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol. Os bu unrhyw hawliad ymgyfreitha am iawndal, dylai鈥檙 dirprwy ystyried lefel y gofal a argymhellir gan arbenigwyr yn ystod yr hawliad ymgyfreitha.

Rhaid i鈥檙 taliadau fod yn fforddiadwy o ystyried adnoddau, oed a disgwyliad oes P. Os na ellir talu鈥檙 taliadau o incwm P, rhaid i ddirprwyon ystyried yr effaith ar gyfalaf, gan ystyried anghenion gofal P yn y dyfodol.

Rhaid i daliadau adlewyrchu鈥檔 briodol gyfraniad y teulu/gofalwr. Dylid cael tystiolaeth o sut mae鈥檙 taliad gofal wedi cael ei gyfrifo mewn perthynas 芒 faint o ofal sy鈥檔 cael ei ddarparu. Os yw P yn blentyn ifanc iawn, dylai dirprwyon ystyried a yw鈥檙 gofal yn ychwanegol at yr hyn y byddai rhiant fel arfer yn ei roi.

Rhaid darparu鈥檙 gofal mewn gwirionedd. Os nad oes angen darparu gofal dros dro, er enghraifft os yw P yn yr ysbyty, nid yw hynny鈥檔 golygu bod angen atal y taliadau, ond rhaid ystyried newidiadau tymor hir i drefniadau byw P sy鈥檔 effeithio ar faint o ofal sy鈥檔 cael ei ddarparu 鈥 er enghraifft, symud yn barhaol i gartref gofal neu drefniant byw 芒 chymorth.

Dylai dirprwyon ystyried taliadau ochr yn ochr 芒 lefel y gofal proffesiynol sydd ar waith, h.y. dylai fod yn angenrheidiol ychwanegu at y gofal proffesiynol. Dylai taliadau gynrychioli arbediad o鈥檜 cymharu 芒 chost gofal proffesiynol.

Dylai taliadau ystyried unrhyw gyfraniadau eraill y mae P yn eu gwneud tuag at redeg yr aelwyd neu dalu biliau. Efallai y bydd angen addasu鈥檙 taliadau i lawr os yw鈥檙 gofalwr yn byw yn eiddo P yn ddi-rent neu os yw鈥檔 cael incwm arall.

Dylai taliadau ystyried sefyllfa gyffredinol y teulu, er enghraifft, a oes unrhyw un mewn gwaith cyflogedig. Os oes dau riant yn darparu gofal, beth yw cyfraniad y naill a鈥檙 llall? Os oes angen dau berson ar P ar unrhyw adeg i reoli eu hanghenion, efallai y bydd angen cynyddu鈥檙 taliadau i adlewyrchu hyn.

Dylid cytuno ar y taliadau drwy ymgynghori 芒鈥檙 gofalwr ac aelodau eraill o鈥檙 teulu, lle bo hynny鈥檔 bosibl. Mae鈥檔 arfer da ymgynghori ag eraill sydd 芒 buddiant ym materion P er mwyn osgoi sefyllfaoedd o wrthdaro.

Cyfrifo lefel y taliad

Mae 3 cham ar gyfer cyfrifo鈥檙 taliad.

Pan fo yst芒d P yn ddigonol a bod y teulu鈥檔 darparu鈥檙 rhan fwyaf o ofal

Os yw yst芒d P yn ddigonol a bod y teulu鈥檔 darparu鈥檙 rhan fwyaf o ofal, gall y dirprwy ofyn pa lwfans fyddai ei angen. Os yw鈥檙 swm yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn rhesymol o ystyried faint o ofal a ddarperir, yna gellir talu.

Pan fo yst芒d P yn ddigonol a bod cryn lawer o ofal proffesiynol yn cael ei ddarparu

Os yw yst芒d P yn ddigonol a bod cryn lawer o ofal proffesiynol yn cael ei ddarparu, yna efallai y bydd y dirprwy鈥檔 dymuno cyfrifo鈥檙 lwfans gan gyfeirio at y dull gweithredu a argymhellwyd gan yr Uwch Farnwr Lush yn achos Re HC [2015] EWCOP 29. Mae hynny鈥檔 golygu cyfrifo gofal teulu drwy gymryd cost fasnachol gofal a鈥檌 leihau 20%. Mae hyn, yn ei dro, yn dilyn y dull a fabwysiadwyd gan Adran Mainc y Brenin yn yr Uchel Lys i fesur penawdau iawndal mewn achosion ymgyfreitha yn ymwneud ag anafiadau personol.

Yn gyffredinol, bydd Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfeirio at y cyflog fesul awr cymedrig (llai 20%) ar gyfer gofalwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) (Tabl 26.5a) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel meincnod ar gyfer cost fasnachol gofal.

Os yw鈥檙 Uchel Lys wedi cytuno bod y gyfradd uwch o鈥檙 80ain canradd yn adlewyrchu cost fasnachol gofalu am P, ac wedi rhoi cymeradwyaeth i wneud Gorchymyn Taliad Cyfnodol ar y raddfa uwch, yna byddai鈥檙 80ain canradd yn bwynt cychwyn addas fel meincnod ar gyfer taliadau gofal. Efallai y bydd taliadau gofal teulu a Gorchmynion Taliad Cyfnodol yn cael eu cysylltu 芒鈥檙 mynegai, yn yr achosion hynny ni fydd angen darparu Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Pan fo yst芒d P yn gyfyngedig

Pan fo yst芒d P yn gyfyngedig, yna ni ddylai鈥檙 taliad ond adlewyrchu鈥檙 hyn y gall P ei fforddio鈥檔 rhesymol.

Wrth ystyried fforddiadwyedd, os oes taliad cyfnodol blynyddol y mae P yn ei gael fel rhan o hawliad ymgyfreitha, yna mae taliad o鈥檙 fath fel arfer ar gyfer gofal a rheoli鈥檙 achos. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cyfeirio at gyngor cwnsler ynghylch setlo hawliad am iawndal. Mae hyn yn helpu i gael gafael ar gyllideb gyffredinol ar gyfer gofal teulu pan fydd unrhyw gostau gofal proffesiynol a chostau rheoli鈥檙 achos yn cael eu dileu o鈥檙 hafaliad.

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai fod y gofalwr wedi rhoi鈥檙 gorau i swydd sy鈥檔 talu鈥檔 dda i ofalu am P. Ym mhob achos heblaw鈥檙 amgylchiadau mwyaf eithriadol, barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus yw na fwriedir i daliadau gofal teulu gymryd lle cyflogau.

Cynnydd mewn taliadau

Yn achos re HC, a grybwyllwyd uchod, awgrymodd yr uwch farnwr fod taliadau鈥檔 cael eu cysylltu 芒鈥檙 mynegai, er mwyn osgoi鈥檙 angen i wneud cais dro ar 么l tro i鈥檙 llys i ail-gyfrifo lwfans gofal. Pan ystyrir bod angen cynyddu lwfans, gellir cysylltu taliadau 芒 gwir gost gofal, fel y nodir yn yr ASHE. Mae tabl 26.5a ASHE yn cynnwys y cyfraddau fesul awr ar gyfer yr holl weithwyr gofal.

Rhaid i ddirprwyon gofio, wrth gymhwyso鈥檙 gwahanol ffactorau yn y canllawiau hyn, ac yn enwedig wrth ystyried fforddiadwyedd, y gall taliadau amrywio鈥檔 fawr. Mae鈥檔 bosibl, er enghraifft, y gallai dau ofalwr sy鈥檔 darparu鈥檙 un faint o ofal gael taliadau gofal teulu gwahanol. Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn ymddangos yn annheg, ond mae鈥檔 adlewyrchu鈥檙 ffaith bod yn rhaid ystyried sefyllfaoedd gofalwyr yn gyffredinol yn hytrach na defnyddio dull fformiwla syml.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae鈥檙 cynnydd o dan ASHE wedi bod yn fach, ac mewn rhai achosion mae wedi gostwng. Efallai y bydd angen i ofalwyr fod yn ymwybodol felly nad ydynt yn debygol o weld cynnydd blynyddol mawr mewn taliadau am ofal o ganlyniad i鈥檙 mynegeio hwn.

Pa mor aml y gwneir taliad

Nid oes unrhyw reolau pendant ynghylch amlder taliadau; mae dirprwyon yn cytuno arnynt gyda鈥檙 gofalwr ac ni ddylid eu cyfrifo ar lefel enillion blaenorol y gofalwr.

Gall gofalwyr gael eu talu鈥檔 fisol, yn wythnosol neu fel taliad unswm blynyddol.

Cadw cofnodion ac adolygiadau

Er mwyn dangos bod penderfyniadau鈥檔 cael eu gwneud er lles pennaf, mae鈥檔 arfer da i ddirprwyon gadw cofnod o鈥檙 ffactorau y maent wedi鈥檜 hystyried wrth wneud penderfyniad am daliadau gofal teulu. Mae鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i bob dirprwy ddarparu tystiolaeth o鈥檙 broses a ddilynwyd wrth benderfynu ar swm y taliad. Dylai dirprwyon hefyd gofnodi鈥檙 taliadau yn eu hadroddiad blynyddol a darparu dadansoddiad o bwy sy鈥檔 darparu鈥檙 gofal, faint o oriau o ofal a ddarparwyd ac ar ba gyfradd.

Dylai dirprwyon adolygu taliadau鈥檔 rheolaidd, i wneud yn si诺r eu bod yn dal yn briodol ac yn fforddiadwy. Bydd pa mor aml y cynhelir adolygiadau鈥檔 dibynnu ar yr achos, ond dylid eu cynnal o leiaf pan fydd amgylchiadau鈥檔 newid, er enghraifft, oherwydd bod trefniadau byw y cleient yn newid neu oherwydd bod yr anghenion gofal yn cynyddu neu鈥檔 lleihau.

Dyma amgylchiadau eraill a allai ysgogi newid neu ddirwyn taliadau i ben:

  • hawl i gyllid gofal iechyd parhaus,
  • amgylchiadau鈥檙 gofalwr yn newid
  • unrhyw newidiadau yn sefyllfa ariannol y cleient

Atebolrwydd treth ar daliadau gofal teulu

Mae Cyllid a Thollau EF yn ystyried bod taliadau i aelodau teulu yn daliadau gwirfoddol sydd wedi鈥檜 heithrio o dreth ac yswiriant gwladol (Llawlyfr Statws Cyflogaeth 鈥 ESM 4016) ac am y rheswm hwn maent yn aml yn cael eu galw鈥檔 daliadau 鈥榯eulu鈥.

Bydd Cyllid a Thollau EF yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu a yw taliadau wedi鈥檜 heithrio rhag treth.

Ni all Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus roi cyngor ar faterion treth a bydd angen i ddirprwyon ddatrys unrhyw faterion sy鈥檔 ymwneud 芒 thrin taliadau鈥檔 uniongyrchol gyda CThEF.

Os na ellir cael caniat芒d Cyllid a Thollau EF, efallai y bydd angen i aelodau鈥檙 teulu gael eu cyflogi鈥檔 uniongyrchol fel gofalwyr ochr yn ochr 芒 gofalwyr proffesiynol a thalu treth ac yswiriant gwladol ar eu taliadau.