Cyfarwyddyd ymarfer 21: defnyddio ein ffurflenni ar gyfer trafodion cymhlethach a mwy anarferol
Diweddarwyd 2 Ebrill 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Llenwi ffurflenni trosglwyddo
1.1 Pryd i ddefnyddio mwy nag un ffurflen
Gallwch ddefnyddio ffurflen drosglwyddo unigol ar gyfer:
- trosglwyddo amryw deitlau (gan gynnwys teitlau rhannol, os oes rhai)
- teitlau rhydd-ddaliol a phrydlesol
- eiddo cofrestredig a digofrestredig
- gwerthiant ac iswerthiant a gwblhawyd ar yr un pryd (gweler Gwerthiannau ac iswerthiannau)
- trosglwyddo ar benodi ail ymddiriedolwr a gwerthiant gan yr ymddiriedolwyr. Cewch hefyd, os dymunwch, ddefnyddio ffurflenni trosglwyddo ar wah芒n (gweler Trafodion yn cynnwys ymddiriedolwyr)
Defnyddiwch ffurflenni trosglwyddo ar wah芒n ar gyfer:
- cyfnewid (gweler Cyfnewidiadau)
- trosglwyddiadau i wahanol bobl (gweler Trosglwyddiadau i wahanol bobl)
- trosglwyddiadau eiddo mewn perchnogaeth gofrestredig wahanol i brynwr cyffredin (gweler Trosglwyddiadau eiddo mewn perchnogaeth wahanol)
1.2 Pa ffurflen drosglwyddo i鈥檞 defnyddio
Sefyllfa | Ffurflen drosglwyddo | Ffurflen(ni) cais |
---|---|---|
Mae鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd yn ddigofrestredig. | Os yw鈥檙 trosglwyddiad: yn eiddo cyfan yn nheitl y trosglwyddwr, defnyddiwch ffurflen TR; yn neu鈥檔 cynnwys rhan yn unig o鈥檙 eiddo yn nheitl y trosglwyddwr, defnyddiwch ffurflen TP. Sylwer: Gallwch ddefnyddio unrhyw ffurf ar drawsgludiad sy鈥檔 cydymffurfio 芒 Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn lle ffurflen drosglwyddo. | Defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg. |
Mae鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys y cyfan o un teitl cofrestredig neu ragor. | Defnyddiwch ffurflen TR. | Defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel 鈥榗yfan鈥. |
Mae鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys rhan o un teitl cofrestredig neu ragor. | Defnyddiwch ffurflen TP. Sylwer: Os yw鈥檙 trosglwyddiad o eiddo cyfan mewn trosglwyddiad blaenorol, prydles, arwystl neu fudd arall y mae modd ei gofrestru am y tro cyntaf, defnyddiwch ffurflen TR yn hytrach na ffurflen TP. | Defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel 鈥榬han鈥. |
Mae鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys: un teitl cofrestredig cyfan neu ragor a; rhan o un teitl cofrestredig neu ragor. | Defnyddiwch ffurflen TP, ond gweler Sylwer isod. O ran ffurflen TP1 a ffurflen TP2, nodwch ym mhanel 1 a yw鈥檙 teitlau cyfan yn cael eu trosglwyddo neu ran, er enghraifft CB123 (cyfan), CB345 (rhan). Sylwer: Os yw鈥檙 trosglwyddiad o eiddo cyfan mewn trosglwyddiad blaenorol, prydles, arwystl neu fudd arall y mae modd ei gofrestru am y tro cyntaf, defnyddiwch ffurflen TR yn hytrach na ffurflen TP. | Defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel 鈥榬han鈥. |
Mae鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys: un teitl cofrestredig cyfan neu ragor a; thir digofrestredig. | Defnyddiwch ffurflen TR2 neu ffurflen TP2 ar gyfer trosglwyddiad gan arwystlai. Ar gyfer trosglwyddiadau eraill, mae鈥檔 haws defnyddio ffurflen TR5. | Ar gyfer y teitl(au) cofrestredig defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel 鈥榗yfan鈥. Ar gyfer yr eiddo digofrestredig defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg. |
Mae鈥檙 trosglwyddiad yn cynnwys: rhan o un teitl cofrestredig neu ragor ac; eiddo digofrestredig. | Defnyddiwch ffurflen TP1, ffurflen TP2 neu ffurflen TR5. | Ar gyfer y teitl(au) cofrestredig defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel 鈥榬han鈥. Ar gyfer yr eiddo digofrestredig defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddeublyg. |
Mae鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys: un teitl cofrestredig cyfan neu ragor a; rhan o un teitl cofrestredig neu ragor ac; eiddo digofrestredig. | Defnyddiwch ffurflen TP1, ffurflen TP2 neu ffurflen TR5. O ran ffurflen TP1 a ffurflen TP2, nodwch ym mhanel 1 a yw鈥檙 teitlau cyfan yn cael eu trosglwyddo neu ran, ee CB123 (cyfan), CB345 (rhan). | Ar gyfer y teitl(au) cofrestredig defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel 鈥榬han鈥. Ar gyfer yr eiddo digofrestredig defnyddiwch, ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg. |
1.3 Pryd i ddefnyddio鈥檙 ffurflenni argraffedig
Does dim rhaid defnyddio鈥檙 ffurflenni argraffedig, ond os byddwch yn atgynhyrchu鈥檙 ffurflen mewn dull electronig, rhaid ichi naill ai ddefnyddio pecyn ffurflenni masnachol neu eu llwytho i lawr o鈥檔 gwefan.
Rhaid argraffu eich ffurflenni trosglwyddo ar bapur gwydn maint A4 a rhaid eu hatgynhyrchu yn 么l gofynion rheol 210 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae hyn yn dangos y gofynion o ran geiriad, cynllun, llinellau, ffont a maint pwynt y ffurflen. Fodd bynnag, wrth baratoi鈥檙 ffurflenni ar eich CP neu brosesydd geiriau, mae rheol 211 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gadael ichi:
- newid dyfnder y paneli
- rhannu panel ar doriad tudalen
- gadael allan nodiadau ymylol, tystysgrifau a datganiadau amherthnasol, paneli fyddai鈥檔 cynnwys dim ond rhif a phennawd y panel os oes un (ond peidiwch ag ailrifo paneli dilynol), blychau 鈥榅鈥 mewn panel darpariaethau ychwanegol a鈥檙 llinellau fertigol sy鈥檔 diffinio ochr chwith ac ochr dde unrhyw banel
- newid unigol yn lluosog ac i鈥檙 gwrthwyneb
- ychwanegu at, newid ac ail-leoli isbenawdau yn y panel darpariaethau ychwanegol
- newid 鈥榯rosglwyddwr鈥 yn 鈥榞werthwr鈥 a 鈥榯rosglwyddai鈥 yn 鈥榩rynwr鈥 mewn trosglwyddiad trwy werthu. (Cofiwch ddefnyddio 鈥榞werthwr鈥 a 鈥榩rynwr鈥 drwy鈥檙 cyfan, hynny yw, ym mhenawdau鈥檙 paneli, testun y ffurflen ei hun (gan gynnwys y panel trosglwyddo) a鈥檆h testun eich hun.)
1.4 Blychau 鈥榅鈥
Does dim rhaid defnyddio blychau 鈥榅鈥. Os yw eich meddalwedd yn caniat谩u, gallwch ddewis yr un priodol a hepgor y gweddill.
1.5 Pwy i鈥檞 ddangos fel y trosglwyddwr neu drosglwyddwyr
Ffurflen TR1, ffurflen TR5, ffurflen TP1
Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig, nodwch y perchnogion cofrestredig presennol neu, os bu trosglwyddiad ers diweddaru鈥檙 gofrestr ddiwethaf, y rhai sydd 芒 hawl i鈥檞 cofrestru fel perchnogion. Os yw鈥檔 ddigofrestredig, nodwch berchnogion presennol yr ystad. Mae ychydig o ddarpariaethau statudol yn rhoi p诺er gwerthu i rywun heblaw perchennog neu arwystlai.
Nodwch yr arwystlai sy鈥檔 ymarfer ei b诺er gwerthu.
1.6 Sut i gyflwyno parti ychwanegol
Gallwch roi enw, cyfeiriad a manylion eraill part茂on eraill yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥. Os oes mwy nag un cyfeiriad at y parti, defnyddiwch derm disgrifiadol fel 鈥榶r is-werthwr鈥. Mewn rhai achosion bydd y parti yn cyflawni鈥檙 trosglwyddiad, felly bydd yn ymddangos eto yn y panel cyflawni.
1.7 Newidiadau i鈥檙 panel trosglwyddo
Ar ffurflenni argraffedig rhaid gadael y geiriau gweithredol yn y panel trosglwyddo yn union fel y maent:
鈥楳ae鈥檙 trosglwyddwr yn trosglwyddo鈥檙 eiddo i鈥檙 trosglwyddai.鈥 Os byddwch yn paratoi鈥檙 trosglwyddiad mewn dull electronig gallwch newid y naill neu鈥檙 2 ochr i鈥檙 lluosog: 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddwr/trosglwyddwyr yn trosglwyddo鈥檙 eiddo i鈥檙 trosglwyddai/trosglwyddeion鈥. Os yw鈥檔 drosglwyddiad trwy werthu gallwch roi 鈥榞werthwr/gwerthwyr鈥 yn lle 鈥榯rosglwyddwr/trosglwyddwyr鈥 a 鈥榩rynwr/prynwyr鈥 yn lle 鈥榯rosglwyddai/trosglwyddeion鈥.
1.8 Ble i ddiffinio鈥檙 termau a ddefnyddir
Gwnewch hyn yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥. Peidiwch ag ailddiffinio termau a ddefnyddir yn y panel trosglwyddo gan y gall hyn newid effaith y geiriau gweithredol.
1.9 Sut i gwblhau trosglwyddiad o eiddo digofrestredig
Llenwch y ffurflen fel y byddech gydag eiddo cofrestredig ond:
- gadewch banel rhif y teitl yn wag
- yn y panel eiddo cynhwyswch ddisgrifiad a rhowch gynllun lle bo ei angen sy鈥檔 ddigon da i alluogi nodi鈥檙 eiddo yn llawn ar fap yr Arolwg Ordnans. Os yw鈥檙 trosglwyddiad o deitl cyfan y trosglwyddwr cewch gynnwys cyfeiriad at y weithred olaf oedd yn cynnwys disgrifiad o鈥檙 fath
- cyfeiriwch yn y panel darpariaethau ychwanegol at unrhyw lyffetheiriau sydd ar yr eiddo wrth ei drosglwyddo, fel hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu.
Gallwch wrth gwrs ddefnyddio trawsgludiad yn lle trosglwyddiad os bydd yn well gennych.
1.10 Yr hyn i鈥檞 wneud os nad yw鈥檙 dderbynneb argraffedig yn briodol
Os nad oes unrhyw gydnabyddiaeth am y trosglwyddiad, dewiswch yr ail ddewis yn y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥. Os oes cydnabyddiaeth ond na chaiff unrhyw arian ei dalu na dim o werth arian yn newid dwylo, er enghraifft, bod y trosglwyddiad er mwyn rhyddhau dyled, anwybyddwch y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥 yn gyfan gwbl. Fel arall, dewiswch y trydydd dewis a llenwi鈥檙 gofod testun rhydd fel bo angen. Er enghraifft:
- arian prynu wedi ei gymhwyso yn 么l cyfarwyddyd y trosglwyddwyr 鈥 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddwyr wedi cyfarwyddo鈥檙 trosglwyddai i gymhwyso pris prynu鈥檙 eiddo, sef swm o 鈥, tuag at 鈥..鈥
- arian prynu wedi ei dalu i drydydd parti 鈥 鈥榤ae AB a CD wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddeion am yr eiddo鈥檙 swm o 鈥︹
- arian prynu wedi ei dalu gan drydydd parti 鈥 鈥榤ae鈥檙 trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth EF am yr eiddo鈥檙 swm o 鈥︹.
1.11 Gofynion o ran cyflawni
Rhaid ichi ddefnyddio鈥檙 ffurfiau cyflawni yn Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003 lle byddant yn berthnasol neu mae modd eu haddasu. Gallwch ddod o hyd i ffurfiau cyflawni eraill yng nghyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd, sydd ar gael yn ddi-d芒l o unrhyw un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF neu i鈥檞 lwytho i lawr o鈥檔 gwefan. Rhaid ichi sicrhau bod pob parti angenrheidiol yn cyflawni鈥檙 trosglwyddiad yn y panel cyflawni priodol, gan ei ehangu yn 么l yr angen. Peidiwch 芒 defnyddio ffurflen CS i gyflawni gweithredoedd, oni bai eich bod yn llenwi ffurflen bapur 芒 llaw neu trwy deipio ac wedi rhedeg allan o le.
Lle bydd y trosglwyddwr neu drosglwyddwyr yn cyflawni trosglwyddiad, yn gyffredinol ni fyddwn yn ei ddychwelyd i鈥檞 gyflawni gan bart茂on eraill.
2. Gwerthiannau ac iswerthiannau
Os byddwch am ddefnyddio un ffurflen drosglwyddo ar gyfer gwerthiant ac iswerthiant:
- rhowch y gwerthwr/perchennog cofrestredig fel y trosglwyddwr
- rhowch yr is-brynwr fel y trosglwyddai
- enwch yr is-werthwr yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥, er enghraifft: 鈥榊r is-werthwr yw (enw a rhif cofrestredig y cwmni, os oes un)鈥
- yn y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥, dewiswch y trydydd dewis a rhowch y dderbynneb a fynnwch, er enghraifft: 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth yr is-werthwr am yr eiddo鈥檙 swm o 鈥 ac mae鈥檙 is-werthwr wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai am yr eiddo鈥檙 swm o 鈥︹
- yn y panel 鈥榞warant teitl鈥, dewiswch warant y teitl, os oes un, sydd i鈥檞 rhoi gan y trosglwyddwr ac ychwanegwch unrhyw addasiadau angenrheidiol at y warant honno
- os yw鈥檙 is-werthwr hefyd i roi gwarant teitl, cynhwyswch hi yn y panel darpariaethau ychwanegol, er enghraifft: 鈥榊mhlyg yn y trosglwyddiad hwn mae鈥檙 cyfamodau fyddai ymhlyg mewn trosglwyddiad o鈥檙 eiddo gan yr is-werthwr a wnaeth y trosglwyddai gyda gwarant teitl [llawn] [cyfyngedig]鈥
- peidiwch 芒 cheisio cynnwys geiriau trosglwyddo oddi wrth yr is-werthwr i鈥檙 trosglwyddai.
- os dymunwch weithredu trosglwyddiad o鈥檙 fath bydd angen ichi ddefnyddio 2 drosglwyddiad ar wah芒n 鈥 un oddi wrth y gwerthwr i鈥檙 is-werthwr a鈥檙 llall oddi wrth yr is-werthwr i鈥檙 prynwr.
Ar gyfer gofynion Treth Dir y Dreth Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules 鈥 伊人直播.
Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler .
3. Cyfnewidiau
Os yw鈥檙 trosglwyddiad yn gyfnewid, rhaid ichi ddefnyddio ffurflen drosglwyddo ar wah芒n ar gyfer pob rhan o鈥檙 cyfnewid. Llenwch y paneli derbyn a darpariaethau ychwanegol fel a ganlyn.
Bydd Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy fel arfer ar werth ar y farchnad pob eiddo a gafwyd trwy gyfnewid (oni bai bod rhyddhad) a rhaid ichi gyflwyno ffurflen trafodiad tir i Gyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, fel sy鈥檔 briodol.
Sefyllfa 1 | Trosglwyddiad A (eiddo gwerth uwch) | Trosglwyddiad B (eiddo gwerth is) |
Trosglwyddiad A o eiddo gwerth 拢200,000 mewn cydnabyddiaeth o Drosglwyddiad B a 拢80,000 | Panel cydnabyddiaeth: TR1 panel 8(3) TP1 panel 9(3) 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddwr wedi derbyn gan y trosglwyddai arian cydraddoldeb o 拢80,000鈥 Panel darpariaethau ychwanegol: TR1 panel 11 TP1 panel 12 鈥渁rall鈥 鈥業 fodloni鈥檙 pris prynu o [拢200,000] y mae鈥檙 trosglwyddwr wedi ei gael gan y trosglwyddai ar gyfer yr eiddo swm o [拢80,000]鈥 neu 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddiad hwn yn gydnabyddiaeth o drosglwyddiad eilrif i hyn鈥 |
Panel cydnabyddiaeth: TR1 panel 8 TP1 panel 9 Gadewch yn wag Panel darpariaethau ychwanegol: TR1 panel 11 TP1 panel 12 鈥榓rall鈥 鈥楪wnaed y trosglwyddiad hwn i fodlonrwydd rhannol 芒鈥檙 pris gwerthu [拢200,000] yn daladwy ar bryniant gan y trosglwyddwr oddi wrth y trosglwyddai o [eiddo A]鈥 neu 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddiad yn cael ei wneud yn gydnabyddiaeth rannol o ddyddiad trosglwyddo eilrif鈥 |
Sefyllfa 2 | Trosglwyddiad A | Trosglwyddiad B |
Trosglwyddiad A i gydnabod Trosglwyddiad B dim arian cydraddoldeb | Panel cydnabyddiaeth: TR1 panel 8(3) TP1 panel 9(3) 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddiad hwn yn ystyried trosglwyddiad dyddiad eilrif i hyn鈥 neu 鈥榃rth ystyried cytundeb dyddiedig [鈥 ac a wnaed rhwng y part茂on i hyn鈥 Sylwer: Nid oes unrhyw beth y mae angen ei gynnwys yn y panel darpariaethau ychwanegol mewn perthynas 芒鈥檙 cyfnewid |
Panel cydnabyddiaeth: TR1 panel 8(3) TP1 panel 9(3) 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddiad hwn yn ystyried trosglwyddiad dyddiad eilrif i hyn鈥 neu 鈥榃rth ystyried cytundeb dyddiedig [鈥 ac a wnaed rhwng y part茂on i hyn鈥 Sylwer: Nid oes unrhyw beth y mae angen ei gynnwys yn y panel darpariaethau ychwanegol mewn perthynas 芒鈥檙 cyfnewid |
Ar gyfer gofynion Treth Dir y Dreth Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules 鈥 伊人直播.
Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler .
4. Trosglwyddiadau i wahanol bobl
Nid oes modd cyfuno amryw drosglwyddiadau ar un ffurflen. Os yw鈥檙 eiddo a drosglwyddwyd i fod ym meddiant gwahanol bobl fel aelodau consortiwm o ddatblygwyr, dylid ei drosglwyddo鈥檔 gyntaf i鈥檙 consortiwm ar y cyd (neu i ymddiriedolwyr ar ei ran) ac yna ei rannu trwy drosglwyddiadau ar wah芒n i bob aelod. Ni fydd y budd sy鈥檔 cael ei ddal gan bob prynwr cyn rhannu yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy at ddiben Treth Dir y Dreth Stamp, neu Atodlen 3, paragraff 1 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Fel arall, mae modd dosrannu鈥檙 gydnabyddiaeth fel y gall fod trosglwyddiadau ar wah芒n i bob aelod.
Os oes croes-hawddfreintiau gallant naill ai gael eu rhoi a鈥檜 neilltuo yn y trosglwyddiadau rhannu neu gael eu creu trwy weithred grant cilyddol. Fel arfer, bydd gweithred o鈥檙 fath yn rhydd o Dreth Dir y Dreth Stamp o dan Atodlen 3, paragraff 1 i Ddeddf Cyllid 2003.
Ar gyfer gofynion Treth Dir y Dreth Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules 鈥 伊人直播.
Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler .
5. Trosglwyddiadau eiddo mewn perchnogaeth wahanol
Dyluniwyd y ffurflenni trosglwyddo i drosglwyddo eiddo mewn perchnogaeth gyffredin. Os yw鈥檙 gwahanol eiddo ym meddiant gwahanol berchnogion gall hyn achosi anawsterau o ran adnabod pa elfennau o鈥檙 trosglwyddiad sy鈥檔 berthnasol i bob trosglwyddwr ac wrth sicrhau bod ff茂oedd a Threth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir wedi cael eu talu鈥檔 gywir. I osgoi hyn, dylid defnyddio ffurflen drosglwyddo ar wah芒n.
Os defnyddir ffurflen drosglwyddo unigol ar gyfer mwy nag un trosglwyddiad, mae ff茂oedd ar wah芒n yn daladwy ar gyfer pob trosglwyddiad. At ddibenion asesu鈥檙 ffi sy鈥檔 daladwy (o dan erthyglau 3 a 4 o鈥檙聽Gorchymyn Ffi聽Cofrestru Tir cyfredol (gweler聽Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru), 鈥榯rosglwyddo鈥 yw鈥檙 gwaredu (y weithred o drosglwyddo), nid y weithred neu ffurflen a ddefnyddir i beri鈥檙 gwarediad. Felly mae ff茂oedd ar wah芒n yn ofynnol ar gyfer yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn warediadau lluosog. Mae鈥檔 bosibl y bydd yr enghreifftiau canlynol o gymorth.
Senario | Ffi |
---|---|
1. Yr union drosglwyddwr a throsglwyddai, ond ystadau cofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre a Blackacre i C.) Sylwer: Mae trosglwyddiad lle mae A yn trosglwyddo Whiteacre i C, ac A a B yn trosglwyddo Blackacre i C, yn cael ei drin fel dau drosglwyddiad lle mae ff茂oedd ar wah芒n yn ofynnol. |
Un ffi |
2. Yr un trosglwyddwr, ond trosglwyddai ac ystadau cofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre i C a Blackacre i D.) | Ff茂oedd ar wah芒n ar gyfer trosglwyddiadau gan A i C ac A i D |
3. Yr un trosglwyddai, ond trosglwyddwr ac ystadau cofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre a B yn trosglwyddo Blackacre i C.) | Ff茂oedd ar wah芒n ar gyfer trosglwyddiadau gan A i C a B i C |
4. Trosglwyddwr, trosglwyddai ac ystad gofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre i C a B yn trosglwyddo Blackacre i D.) | Ff茂oedd ar wah芒n ar gyfer trosglwyddiadau gan A i C a B i D |
Ar gyfer gofynion Treth Dir y Dreth Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules 鈥 伊人直播.
Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler .
6. Trafodion yn cynnwys ymddiriedolwyr
6.1 Sut i ddelio 芒 gwerthiant pan fo cyfyngiad Ffurf A ar warediadau gan unig berchennog ar y gofrestr a dim ond un perchennog
Gall yr unig berchennog drosglwyddo鈥檔 uniongyrchol i鈥檙 prynwr naill ai:
- os daeth yr ymddiried tir o dan warchodaeth y cyfyngiad i ben (bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o鈥檙 teitl ecwit茂ol, fel arfer mewn datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd ar gyfer hyn)
- os yw鈥檙 perchennog yn gorfforaeth ymddiried.
Fel arall bydd rhaid penodi ymddiriedolwr newydd. Gallwch ddefnyddio naill ai trosglwyddiad unigol neu 2 drosglwyddiad ar wah芒n i鈥檙 diben hwn, fel y bo鈥檔 briodol i鈥檆h amgylchiadau.
6.2 Defnyddio un trosglwyddiad
Dylech gwblhau trosglwyddiad unigol fel a ganlyn.
- Rhowch unig berchennog A ac ymddiriedolwr newydd B yn y panel 鈥榯rosglwyddwr鈥.
- Rhowch benodiad B fel ymddiriedolwr newydd yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥. Geiriau penodiad addas yw: 鈥楩el bod y trosglwyddwr yn gallu rhoi derbynneb dda am y pris prynu, mae [A] wrth ymarfer [ei b诺er][ei ph诺er] statudol yn penodi [B] i fod yn ymddiriedolwr yr eiddo gydag [A] yn lle [yr ymddiriedolwr blaenorol]鈥.
- Rhowch brynwr C yn y panel 鈥榯rosglwyddai鈥.
6.3 Defnyddio 2 drosglwyddiad
Dylech gwblhau trosglwyddiadau ar wah芒n trwy benodi鈥檙 ymddiriedolwr newydd yn y cyntaf ac yna cwblhau鈥檙 gwerthiant i鈥檙 prynwr yn yr ail fel a ganlyn.
Y trosglwyddiad cyntaf
- Rhowch unig berchennog A yn y panel 鈥榯rosglwyddwr鈥.
- Rhowch berchennog A ac ymddiriedolwr B yn y panel 鈥榯rosglwyddai鈥.
- Yn y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥, dewiswch yr ail ddewis.
- Yn y panel 鈥榙atganiad o ymddiried鈥, dylech gwblhau鈥檙 trydydd dewis trwy ychwanegu 鈥榓r yr ymddiriedau presennol鈥 neu eiriau tebyg.
Yr ail drosglwyddiad
Dylai A a B gyflawni鈥檙 trosglwyddiad trwy werthu i brynwr C yn y ffordd arferol. Yn y 2 achos, pan fydd y trosglwyddiad trwy werthu wedi ei gofrestru bydd y cyfyngiad Ffurf A presennol yn cael ei ddileu.
Ar gyfer gofynion Treth Dir y Dreth Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules 鈥 伊人直播.
Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler .
7. Trosglwyddiad ag arwystl arno
- Yn y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥 dewiswch y dewis cyntaf, os oes cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi; fel arall anwybyddwch y panel cydnabyddiaeth yn gyfan gwbl.
- Os yw鈥檙 arwystlai yn ymuno yn y trosglwyddo i ryddhau rhywun o ymrwymiad, rhowch y rhyddhad yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥.
- Os oes rhywun yn mynd i gyfamod yn ymwneud 芒鈥檙 arwystl, rhowch ef yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥.
- Nid yw Treth Dir y Dreth Stamp yn daladwy pan nad oes cydnabyddiaeth drethadwy am y trosglwyddiad (Atodlen 3, paragraff 1 i Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 3, paragraff 1 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017). Yn achos trosglwyddiad ag arwystl arno (hyd yn oed os yw鈥檙 trosglwyddo trwy rodd) neu os trosglwyddwyd eiddo am ddim gwerth a bod rhyddhad cysylltiedig, byddai Cyllid a Thollau EF ac Awdurdod Cyllid Cymru yn gweld hyn fel y prynwr yn ysgwyddo dyled bresennol (Atodlen 4, paragraff 8 i Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 4, paragraff 8 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017) a gall Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir fod yn daladwy.
- Os dymunwch, cewch ddatgan yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥: 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddiad hwn yn cael ei wneud yn amodol ar arwystl dyddiedig 鈥 o blaid 鈥︹.
- Ar ffurflen AP1, disgrifiwch y trosglwyddiad fel 鈥榯rosglwyddo ecwiti鈥 i gynorthwyo staff Cofrestrfa Tir EF.
8. Trosglwyddo cyfran
8.1 Yr hyn i鈥檞 wneud os mai dim ond cyfran o鈥檙 eiddo sy鈥檔 newid dwylo
Cewch weithredu neilltuad y gyfran a throsglwyddiad dilynol yr ystad gyfreithiol trwy offerynnau ar wah芒n. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio trosglwyddiad Cofrestrfa Tir EF i weithredu鈥檙 trafodiad cyfan os dymunwch.
- Os yw arian yn newid dwylo, dewiswch yr ail ddewis yn y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥 a rhowch dderbynneb addas, er enghraifft: 鈥楳ae鈥檙 trosglwyddwr/trosglwyddwyr (neu rhowch enw(au) os yw鈥檔 briodol) wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai (neu rhowch enw os yw鈥檔 briodol) am [ei gyfran][hanner cyfran] yn yr eiddo鈥檙 swm o 鈥︹. Fel arall naill ai dewiswch ddewis 3 neu anwybyddwch y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥 yn gyfan gwbl.
- Os yw鈥檙 trosglwyddiad i gydberchnogion, llenwch y panel 鈥榙atganiad o ymddiried鈥 fel bo angen.
- Os nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer creu neu neilltuo鈥檙 gyfran, mae鈥檙 trosglwyddiad yn rhydd o Dreth Dir y Dreth Stamp o dan Atodlen 3, paragraff 1 i Ddeddf Cyllid 2003 ac o Dreth Trafodiadau Tir o dan Atodlen 3, paragraff 1 o Ddeddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Fel arall bydd y Dreth Dir y Dreth Stamp briodol yn dibynnu ar y pris a dalwyd am y gyfran, os talwyd rhywbeth, ac unrhyw gydnabyddiaeth arall (er enghraifft unrhyw drosglwyddo cyfrifoldeb dros ran neu鈥檙 cyfan sydd ar 么l i鈥檞 dalu o dan arwystl sy鈥檔 effeithio ar yr ystad gyfreithiol gofrestredig).
Ar ffurflen AP1, disgrifiwch y trosglwyddiad fel 鈥榯rosglwyddo cyfran鈥 i gynorthwyo staff Cofrestrfa Tir EF.
9. Trosglwyddo portffolios morgeisi neu eiddo
Mae cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau ar raddfa fawr (cyfrifo ff茂oedd) yn rhoi gwybodaeth am sut i lenwi鈥檙 ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trosglwyddo portffolios. Maent hefyd yn rhoi cyfarwyddyd ar ein trefnau ac ymarfer ar gyfer y math hwn o drafodiad.
10. Trosglwyddiadau mewn cysylltiad 芒 chwalfa priodas neu bartneriaeth sifil
Yn y panel 鈥榗ydnabyddiaeth鈥 dewiswch yr opsiwn cyntaf, rhoddir cydnabyddiaeth ariannol os yw鈥檔 werth trosglwyddo (am arian neu werth arian); anwybyddwch y panel cydnabyddiaeth yn gyfan gwbl fel arall.
Os yw鈥檙 trosglwyddiad yn ddarostyngedig i arwystl a bod yr arwystlai鈥檔 ymuno yn y trosglwyddiad i ryddhau rhywun rhag atebolrwydd, rhowch y gollyngiad yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥.
Os yw rhywun yn ymrwymo i gyfamod yn ymwneud 芒鈥檙 arwystl, nodwch hyn yn y panel 鈥榙arpariaethau ychwanegol鈥.
Pan fydd p芒r yn ysgaru neu鈥檔 diddymu partneriaeth sifil, mae rhai trafodion eiddo wedi eu heithrio rhag Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir. Enghraifft fyddai trosglwyddiad o鈥檙 2 ohonynt i un ohonynt, neu drosglwyddiad eiddo a berchnogir yn llwyr i鈥檙 priod neu bartner sifil arall. Bydd trosglwyddiad o鈥檙 fath wedi ei eithrio rhag Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir os caiff ei wneud yn unol 芒 gorchymyn llys neu gytundeb rhwng y part茂on mewn cysylltiad ag ysgariad, dirymu priodas neu wahaniad barnwrol, neu ddiddymu partneriaeth sifil ( Atodlen 3 i Ddeddf Cyllid 2003 fel y鈥檌 diwygiwyd gan Reoliadau Treth a Phartneriaeth Sifil 2005 neu Atodlen 3, paragraff 3 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017). Cadarnhewch a yw hyn yn wir ym mhanel darpariaethau ychwanegol y ffurflen TR1. Nid oes angen ffurflen trafodiad tir.
Nid yw unrhyw drosglwyddiad sy鈥檔 cynnwys parti arall wedi ei eithrio a chodir Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir fel ar gyfer unrhyw drosglwyddiad arall.
11. Trafodion yn ymwneud 芒 pherson heb allu meddyliol
11.1 Gwarediadau ar ran person heb allu meddyliol
Gellir rhoi p诺er i ddirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod weithredu ar ran unig berchennog.
Rhaid ichi ddarparu copi o鈥檙 gorchymyn sy鈥檔 penodi鈥檙 dirprwy wrth gyflwyno鈥檙 gwarediad i鈥檞 gofrestru. Os yw鈥檙 gorchymyn yn gyfyngedig o ran hyd, rhaid cyflawni鈥檙 gwarediad ar ddiwedd cyfnod y penodiad neu cyn hynny, neu bydd angen gorchymyn pellach gan y llys.
Rhaid i ddirprwy beidio 芒 gwneud penderfyniadau mawr lle ceir gwrthdaro rhwng ei fuddion personol a rhai鈥檙 person heb allu meddyliol. Er enghraifft, os yw鈥檙 dirprwy, neu aelod o鈥檌 deulu, yn dymuno prynu eiddo sy鈥檔 eiddo i鈥檙 person heb allu meddyliol, efallai bydd angen i hyn gael ei awdurdodi gan y llys. Nid yw p诺er mewn gorchymyn llys sy鈥檔 penodi鈥檙 dirprwy sy鈥檔 eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau na all y perchennog cofrestredig eu gwneud mewn perthynas 芒鈥檜 hystad gyfan, gan gynnwys y gallu i brynu a gwerthu eiddo, yn mynd y tu hwnt i鈥檙 egwyddor hon. Os yw dirprwy鈥檔 pryderu y gallai fod gwrthdaro buddiannau, dylai gysylltu 芒 Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus, a all, o bosibl, roi arweiniad pellach.
Ni ellir rhoi p诺er i ddirprwy weithredu ar ran person sydd allu meddyliol mewn perthynas ag eiddo ymddiried (adran 20(3) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Pan fo rhywun heb allu meddyliol yn gydberchennog/ymddiriedolwr, ni chaiff dirprwy wneud y gwarediad ar ran y person heb allu meddyliol ar y cyd 芒鈥檙 ymddiriedolwr arall/ymddiriedolwyr eraill heb orchymyn gan y Llys (adran 22(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Dylid penodi ymddiriedolwr newydd yn lle鈥檙 unigolyn heb allu meddyliol 鈥 gweler Defnyddio un trosglwyddiad a Defnyddio 2 drosglwyddiad ar gyfer sut i symud ymlaen.
Fel arall, ymddengys y byddai gorchymyn gan y llys o blaid dirprwy o dan adran 18 (1)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (nid adran 18 (1)(j), a fyddai鈥檔 gweithredu ar y budd llesiannol yn unig) yn galluogi鈥檙 dirprwy i drosglwyddo budd llesiannol yr unigolyn heb allu ac, ar y cyd ag unrhyw gydberchennog/ymddiriedolwr/ymddiriedolwyr eraill, yr ystad gyfreithiol.
Nid oes ffurf gyflawni benodedig ond mae cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd yn cynnwys enghraifft o ffurf dderbyniol o gyflawni. Rhaid i unrhyw fath o ardystiad a ddefnyddir fodloni adran 1(3) ac 1(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989. Gallwch ddod o hyd i鈥檙 arweiniad canlynol ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Threthi EF.
- Penodi dirprwy ar gyfer eiddo a materion ariannol.
- Llys Gwarchod: gwerthu eiddo sy鈥檔 eiddo ar y cyd.
- Gwneud cais fel dirprwy presennol i newid eich pwerau.
11.2 Caffael tir ar ran person sydd heb allu meddyliol
Dylai unrhyw drosglwyddiad fod i鈥檙 person heb allu meddyliol oni bai bod gorchymyn llys yn awdurdodi鈥檙 dirprwy i brynu鈥檙 eiddo yn ei enw ei hun.
Mae angen copi o鈥檙 gorchymyn sy鈥檔 awdurdodi鈥檙 pryniant. Gall hwn fod yn orchymyn pryniant ar wah芒n neu gellir cynnwys awdurdodiad o鈥檙 fath yn y gorchymyn sy鈥檔 penodi鈥檙 dirprwy. Os nad yw鈥檙 gorchymyn sy鈥檔 penodi鈥檙 dirprwy yn rhoi p诺er i鈥檙 dirprwy brynu eiddo ar ran y person heb allu meddyliol, bydd angen gorchymyn llys ar wah芒n. Sylwch fod gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 sy鈥檔 rhoi awdurdod cyffredinol i鈥檙 dirprwy weithredu ar ran y person heb allu meddyliol yn cynnwys (oni bai ei fod yn amodol fel arall yn y gorchymyn) y p诺er angenrheidiol.
Pan fydd yr eiddo ym mherchnogaeth lwyr y person heb allu meddyliol, caiff y dirprwy wneud cais ar ffurflen RX1 am gyfyngiad safonol ffurf RR. Bydd hyn yn atal gwaredu鈥檙 tir neu arwystl cofrestredig ac eithrio o dan orchymyn y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
12. Gwarediadau gan warcheidwad a benodir ar gyfer person coll yn unol 芒 Deddf Gwarcheidwaeth (Pobl ar Goll) 2017
Tybir bod rhywun sy鈥檔 diflannu yn fyw hyd nes caiff y gwrthwyneb ei ddatgan. Fodd bynnag, er ei fod ar goll, efallai bydd ei eiddo鈥檔 cael ei adael yn 鈥榙di-berchennog鈥, gyda goblygiadau difrifol iddo ef neu hi a鈥檙 dibynyddion. Er mwyn datrys y broblem hon, mae Deddf Gwarcheidwaeth (Pobl ar Goll) 2017 (鈥榶 Ddeddf 鈥) yn darparu fframwaith statudol i berson (gwarcheidwad) gael ei benodi gan yr Uchel Lys i ddelio 芒 materion eiddo ac ariannol yr unigolyn sydd ar goll. Cefnogir y Ddeddf gan Reoliadau a .
Pan fydd gwarcheidwad yn trosglwyddo, yn rhoi prydles gofrestradwy neu鈥檔 arwystlo eiddo鈥檙 person coll, rhaid i bob un o鈥檙 canlynol gael ei gynnwys gyda鈥檙 cais i gofrestru:
- copi ardystiedig o鈥檙 gorchymyn llys yn penodi鈥檙 gwarcheidwad/gwarcheidwaid
- os oes angen bond sicrwydd, naill ai (pan fydd trawsgludwr yn cyflwyno鈥檙 cais) copi o dystysgrif sicrwydd a gyhoeddwyd gan ddarparwr y bond neu dystysgrif trawsgludwr bod y fath sicrwydd ar waith, neu (ar gais gan ddinesydd) copi o鈥檙 dystysgrif sicrwydd a gyhoeddwyd gan ddarparwr y bond
- datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y gwarcheidwad yn cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wybodaeth am benodi unrhyw warcheidwad arall a ddylai weithredu gydag ef mewn perthynas 芒鈥檙 gwarediad.
Os yw鈥檙 gorchymyn sy鈥檔 penodi鈥檙 gwarcheidwad yn h欧n na 12 mis oed ar adeg y gwarediad, bydd angen datganiad statudol arnom hefyd gan y gwaredai (er enghraifft, y trosglwyddai, tenant neu roddwr benthyg morgais) yn cadarnhau nad oeddynt ar adeg cwblhau鈥檙 gwarediad yn gwybod am unrhyw amrywiad neu ddirymiad i鈥檙 gorchymyn gwarcheidwaeth. Sylwch fod angen datganiad statudol arnom yn yr achos hwn gan fod hyn yn ofynnol yn benodol gan adran 15(3) o鈥檙 Ddeddf.
Nid oes angen tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y gwarcheidwad ond rhaid i鈥檙 gwarcheidwad a鈥檙 person coll gael eu henwi o hyd yn nhystiolaeth paneli hunaniaeth ein ffurflenni cais.
Gweler hefyd adran 9.8 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd sy鈥檔 awgrymu math o ddienyddiad y gellir ei ddefnyddio pan fydd gwarcheidwad yn cyflawni gweithred.
13. Trosglwyddiadau a gyflawnir gan farnwr neu swyddog o鈥檙 llys yn unol 芒 gorchymyn llys
Rhaid i鈥檙 perchnogion cofrestredig gael eu dangos fel trosglwyddwyr gan mai dim ond llofnodi ar ran y perchennog na fydd yn cyflawni鈥檙 weithred y bydd y barnwr.
Gweler adran 10.8 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd am wybodaeth ar ffurf y cyflawni.
14. Tystiolaeth Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir lle ceir sawl eiddo
14.1 Treth Dir y Dreth Stamp
Yn y rhan fwyaf o achosion lle ceir sawl eiddo, dim ond y cyfeiriad eiddo cyntaf ar gyfer unrhyw drafodiad y bydd y Dystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir (SDLT5) yn ei ddangos. Lle ceir sawl cyfeiriad, rhaid i chi hefyd gyflwyno cop茂au o鈥檙 Atodlen i鈥檙 Dystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir (SDLT5 (CS)).
Weithiau, gall Cyllid a Thollau EF ddefnyddio rhestr a roddir gan gyfreithiwr fel sail i鈥檙 atodlen. Caiff yr atodlen ei chymeradwyo gyda stamp swyddogol a rhif y dystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir pan wneir hyn. Dylid cyflwyno hon yn ychwanegol at y ffurflen SDLT5.
14.2 Treth Trafodiadau Tir
Yn y rhan fwyaf o achosion lle ceir sawl eiddo, dylai鈥檙 dystysgrif(tystysgrifau) Treth Trafodiadau Tir gynnwys y rhestr lawn o eiddo a/neu rifau teitl a gynhwysir yn y trafodiad.
15. Ceisiadau鈥檔 ymwneud ag endid tramor
Wrth baratoi cais yn ymwneud ag endid tramor, dylech ystyried a yw hyn wedi ei ddal gan Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022. Fe welwch rywfaint o wybodaeth am endidau tramor, y Ddeddf a鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen arnom yng nghyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor. Sylwer hefyd y diwygiwyd rhai ffurflenni penodedig ar 1 Awst 2022 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2022, i鈥檆h galluogi i ddarparu鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen arnom.
16. Pethau i鈥檞 cofio
Wrth lenwi ffurflenni trosglwyddo, dylech:
- ddefnyddio鈥檙 ffurflen gywir ar gyfer eich trafodiad
- wneud yn siwr bod y ffurflen yn cydymffurfio 芒鈥檙 ffurf benodedig yn 么l rheolau 210 a 211 o Reolau Cofrestru Tir 2003
- adael geiriau gweithredol heb eu newid
- sicrhau bod pawb perthnasol wedi cyflawni鈥檙 weithred yn gywir
- wneud y taliadau cywir
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.