Canllawiau

Cyfnodau profi TB buchol

Canllawiau i geidwaid gwartheg ar gyfnodau profi gwyliadwriaeth TB buchol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Rhaid i geidwaid gwartheg, byfflos a buail brofi eu hanifeiliaid ar gyfer TB buchol fel rhan o gyfundrefn sy鈥檔 adlewyrchu risgiau rhanbarthol y clefyd.

Rhaid i chi gwblhau鈥檙 profion TB o fewn yr amser a roddir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Os na fyddwch yn bodloni鈥檙 terfynau amser, bydd APHA yn gwneud y canlynol:

  • rhoi cyfyngiadau symud ar eich anifeiliaid
  • hysbysu鈥檙 asiantaethau sy鈥檔 talu yng Nghymru a鈥檙 Alban

Efallai y byddwch hefyd yn cael:

  • lleihad mewn taliadau iawndal am adweithydd
  • yng Nghymru a鈥檙 Alban, lleihad yn nhaliadau cynllun y Polisi Amaethyddol Cyffredin o dan drawsgydymffurfio 鈥 gellir ystyried bod cynnal profion听TB听yn hwyr yn achos bwriadol o ddiffyg cydymffurfio

Bydd APHA yn cymryd pob cam angenrheidiol i wneud y canlynol:

  • hwyluso鈥檙 gwaith o gwblhau profion sy鈥檔 hwyr
  • adennill treuliau rhesymol yn sgil profion

Ceir cyfnodau profi gwyliadwriaeth TB gwahanol yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban.

Darllenwch y canllawiau i ganfod y cyfnod profi ar gyfer eich gwlad neu ardal. Gallwch hefyd gadarnhau:

  • yr
  • (PDF, 896 KB, 1 page)

Cyfnodau profi TB yn Lloegr

Yn Lloegr, mae鈥檙 cyfnodau profi gwyliadwriaeth TB yn seiliedig ar risg y clefyd ar lefel ranbarthol.

Mae鈥檙 cyfnodau profi TB diofyn ar gyfer buchesi fel a ganlyn:

  • 4 blynedd yn yr ardal risg isel
  • 6 neu 12 mis yn yr ardal ymylol
  • 6 mis yn yr ardal risg uchel

Tabl 1: Cyfnodau profi TB yn Lloegr

Ardal Risg Uchel: Profion bob 6 mis Ardal ymylol: Profion bob 6 mis Ardal ymylol: profion blynyddol Ardal Risg Isel Profion bob 4 blynedd
Avon Berkshire (yn rhannol) Berkshire (yn rhannol) Swydd Bedford
Cernyw Swydd Gaer Swydd Buckingham Swydd Gaergrawnt
Dyfnaint Swydd Derby (yn rhannol) Swydd Derby (yn rhannol) Cleveland
Dorset Hampshire (yn rhannol) Dwyrain Sussex Swydd Durham
Swydd Gaerloyw Swydd Rydychen Hampshire (yn rhannol) Cumbria
Henffordd Swydd Warwick Swydd Gaerl欧r Essex
Swydd Amwythig Swydd Northampton Llundain Fwyaf
Gwlad yr Haf Swydd Nottingham Manceinion Fwyaf
Swydd Stafford Swydd Hertford
Gorllewin Canolbarth Lloegr Glannau Humber
Wiltshire Ynys Wyth
Caerwrangon Ynysoedd Sili
Caint
Swydd Gaerhirfryn
Swydd Lincoln
Glannau Mersi
Norfolk
Northumberland
Gogledd Swydd Efrog
De Swydd Efrog
Suffolk
Surrey
Tyne a Wear
Gorllewin Sussex
Gorllewin Swydd Efrog

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

Newidiadau i gyfnodau profi gwyliadwriaeth eich buches unigol

Os yw eich buches mewn ardal profion gwyliadwriaeth bob 6 mis, gall fod yn gymwys am brofion blynyddol. Mae hyn yn gwobrwyo ceidwaid gwartheg y mae gan eu buchesi lai o risg o gael achos o TB.

Bydd angen i chi fodloni un o鈥檙 meini prawf canlynol o leiaf:

  • nid yw eich buches wedi cael achos o TB am 6 blynedd o leiaf
  • rydych chi wrthi鈥檔 ceisio cynyddu gwydnwch eich gwartheg i TB buchol drwy gymryd rhan mewn cynllun iechyd TB buchol trwyddedig [Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHECS)] (https://checs.co.uk/) - nid yw aelodaeth lefel mynediad TB CHECS yn gymwys

Yn yr Ardal Risg Isel neu rannau o鈥檙 ardal ymylol sy鈥檔 cael profion blynyddol, gall fod angen i chi ddilyn cyfundrefn profion TB dwysach (profion rheiddiol). Mae hyn os yw eich buches o fewn radiws o 3 cilometr o fuches gydag achos o TB lle mae ganddi friw newydd neu sydd wedi cael profion positif.

Gall fod angen i chi ddilyn cyfundrefn profion amlach yn yr ardal risg isel yn ddiofyn, a hynny am resymau iechyd y cyhoedd. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu llaeth amrwd neu os oes gennych fferm ddinesig neu agored.

Bydd APHA yn ysgrifennu atoch os oes newidiadau i鈥檆h ardal neu gyfnod profi buches, gan esbonio鈥檙 rheswm dros y newid.

Profion cyn symud ac ar 么l symud

Rhaid i chi gydymffurfio 芒 gofynion profion cyn symud statudol. Mae hyn yn cynnwys buchesi yn yr ardal risg isel sy鈥檔 cael eu profi鈥檔 amlach na鈥檙 cyfnod diofyn o bob 4 blynedd. Er enghraifft, buchesi sy鈥檔 cael profion rheiddiol.

Ceir nifer cyfyngedig o eithriadau i brofion cyn symud.

Rhaid i chi drefnu a thalu am brofion ar 么l symud os byddwch yn dod 芒 gwartheg o ardaloedd eraill o Gymru neu o Loegr a bod eich buches yn:

  • yr ardal risg isel yn Lloegr
  • rhannau sy鈥檔 destun profion gwyliadwriaeth blynyddol yn yr ardal ymylol yn Lloegr

Darllenwch y canllawiau ar brofion cyn symud ac ar 么l symud ac eithriadau.

Cyfnodau profi TB Cymru

Yng Nghymru, ceir profion buches blynyddol, ni waeth beth yw risg y clefyd ar lefel ranbarthol. Yr unig eithriad yw buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys sy鈥檔 cael eu profi bob 6 mis fel rhan o鈥檙 rheolaethau gwartheg ychwanegol yn yr ardal hon.

Ceir dull gweithredu rhanbarthol o ddileu TB yng Nghymru gydag ardaloedd TB isel, canolradd ac uchel. Mae hyn yn galluogi:

  • mesurau rheoli penodol i ardal

  • monitro patrymau clefydau newidiol yn well

  • olrhain cynnydd yn erbyn targedau dileu

Rhennir siroedd yng Nghymru yn ardaloedd llai o faint o鈥檙 enw unedau gofodol. Mae pob uned yn ymestyn dros sawl plwyf cyfan ac mae ganddynt niferoedd buchesi wedi鈥檜 safoni.

Mae 59 o unedau gofodol yng Nghymru. Mae pob uned yn cynnwys 225 o fuchesi ar gyfartaledd.

Mae gan bob uned enw wedi鈥檌 greu o 2 lythyren gyntaf enw鈥檙 sir a rhif. Er enghraifft, mae CL7 yn uned ofodol yng Nghlwyd.

Gallwch ddod o hyd i鈥檙 ardal TB ac uned ofodol ar gyfer pob plwyf gan ddefnyddio:

  • (ODS, 39.2 KB)
  • ar wefan Llywodraeth Cymru

Cafodd ei gyhoeddi ar 28 Mawrth 2023.

Profion cyn symud ac ar 么l symud

Rhaid i chi gydymffurfio 芒 gofynion profion cyn symud statudol oni bai eich bod wedi eich eithrio. O 1 Chwefror 2024, ni fydd buchesi yn yr ardal TB isel yng Nghymru wedi鈥檜 heithrio mwyach rhag gofynion profion cyn symud. Mae鈥檔 bosibl y bydd eithriadau eraill yn gymwys o hyd.

Rhaid i geidwaid gwartheg yn yr Ardal TB Isel yng Nghymru gydymffurfio 芒 gofynion profion ar 么l symud (oni bai eich bod wedi eich eithrio) wrth symud gwartheg i鈥檆h daliad o fuchesi:

  • yn yr ardaloedd TB canolradd ac uchel yng Nghymru
  • yn yr ardaloedd risg uchel neu ymylol yn Lloegr
  • o Ogledd Iwerddon

O 1 Chwefror 2024, bydd yn rhaid i geidwaid gwartheg yn yr ardaloedd TB canolradd yng Nghymru hefyd gydymffurfio 芒 gofynion profion ar 么l symud (oni bai eu bod wedi鈥檜 heithrio) wrth symud gwartheg i鈥檞 daliad o fuchesi:

  • yn yr ardaloedd TB uchel yng Nghymru
  • yn yr ardal risg uchel yn Lloegr
  • o Ogledd Iwerddon

Cyfnodau profi TB yr Alban

Mae gan yr Alban statws heb TB swyddogol ers mis Medi 2009. Ers 2009, mae buchesi risg isel wedi eu heithrio o鈥檙 gyfundrefn brofi arferol ddiofyn o 4 blynedd sy鈥檔 gymwys i bob buches arall nad yw wedi ei heithrio.

Ystyrir bod eich buches yn peri risg isel os:

  • oes gennych fuchesi 芒 llai na 50 o wartheg (cyfanswm stoc ar y fferm ar 1 Ionawr yn y flwyddyn y caiff y fuches ei hasesu) sydd wedi cael llai nag un llwyth o wartheg a symudwyd ymlaen o ardaloedd lle y cafwyd llawer o achosion o TB (gan gynnwys Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon) yn y 4 blynedd diwethaf
  • ydych wedi lladd mwy na 25% o鈥檆h stoc bob blwyddyn ym mhob un o鈥檙 4 blynedd diwethaf ac wedi cael dim mwy nag un llwyth o wartheg a symudwyd ymlaen o ardaloedd lle y cafwyd llawer o achosion o TB (gan gynnwys Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon) yn y 4 blynedd diwethaf
  • ydych wedi lladd mwy na 40% o鈥檆h stoc bob blwyddyn ym mhob un o鈥檙 4 blynedd diwethaf

Anifeiliaid wedi鈥檜 lladd yw anifeiliaid sydd wedi bod ar y daliad am 60 diwrnod o leiaf ac sy鈥檔 symud o鈥檙 fferm naill ai:

  • yn uniongyrchol i ladd-dy
  • yn uniongyrchol i farchnad ac yna i鈥檙 lladd-dy

Nid yw鈥檔 cynnwys anifeiliaid a symudwyd i ddaliad arall dros dro rhwng y farchnad a鈥檙 lladd-dy.

Y gyfradd lladd flynyddol yw cyfanswm nifer y gwartheg a laddwyd mewn lladd-dy yn y flwyddyn galendr ddiwethaf wedi鈥檌 rannu 芒 maint y fuches (cyfanswm y stoc ar y fferm ar 1 Ionawr).

Mae APHA yn asesu cymhwysedd pob buches unigol yn flynyddol ar gyfer eu heithrio o brofion TB. Bydd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau statws eithrio eich buches.

Ar 18 Mai 2023, i gynnwys:

  • gofynion profion cyn symud llymach ar gyfer gwartheg
  • adweithyddion, adweithyddion amhendant a chysylltiadau uniongyrchol
  • gostyngiadau iawndal newydd ar gyfer gwartheg nad ydynt yn l芒n a laddwyd at ddibenion rheoli TB ac adweithyddion, adweithyddion amhendant a chysylltiadau uniongyrchol heb eu hynysu鈥檔 briodol ar fferm

Am ragor o wybodaeth gweler:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Chwefror 2024 show all updates
  1. Guidance updated with the extension of post-movement testing requirements to the intermediate TB areas of Wales and the re-instatement of pre-movement testing requirements for cattle moving from herds in the low TB area of Wales. Diweddarwyd y canllawiau drwy ymestyn gofynion profion ar 么l symud i gynnwys yr ardaloedd tb canolradd yng Nghymru ac adfer gofynion profion cyn symud ar gyfer gwartheg sy鈥檔 symud o fuchesi i鈥檙 ardal tb isel yng Nghymru.

  2. Removed cross compliance requirements for England. Cross compliance no longer applies in England from 1 January 2024.

  3. Added Welsh language translation.

  4. Guidance has been rewritten and updated throughout to reflect the latest situation and policy changes.

  5. The bovine TB surveillance testing in England policy has been updated.

  6. Updated Wales TB testing intervals section: 3 spatial units (GW1, CL1, CL2) have moved from the low TB area into the intermediate TB area North temporarily. For cattle keepers in these spatial units, post-movement testing requirements will no longer apply.

  7. Updated the England TB testing intervals.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon