Cyfraddau a lwfansau Treth Enillion Cyfalaf
Defnyddiwch y cyfraddau a鈥檙 lwfansau hyn ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf er mwyn cyfrifo cyfanswm eich enillion sydd dros eich lwfans rhydd o dreth. Mae hyn yn cael ei adnabod fel y swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio.
Byddwch yn cael lwfans rhydd o dreth blynyddol 鈥 sy鈥檔 cael ei adnabod fel y swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio (AEA) 鈥 os ydych yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf pob blwyddyn dreth. Yr eithriad i hyn yw os nad yw eich domisil yn y DU, a鈥檆h bod chi wedi hawlio鈥檙 sail trosglwyddo at ddibenion trethiant ar eich incwm ac enillion tramor.
Dim ond os bydd cyfanswm eich enillion ar gyfer y flwyddyn dreth (ar 么l didynnu unrhyw golledion a rhyddhadau) yn uwch na鈥檙 swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Mae un swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio ar gyfer y canlynol:
-
y mwyafrif o bobl sy鈥檔 byw yn y DU
-
ysgutorion neu gynrychiolwyr personol yst芒d person sydd wedi marw
-
ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd
Mae cyfradd is o swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio yn berthnasol ar gyfer y mwyafrif o ymddiriedolwyr eraill.
Mae pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU, sy鈥檔 cael gwared ar eiddo preswyl yn y DU, yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf. Yn y rhan fwyaf o achosion gallant hawlio鈥檙 swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio, yn yr un ffordd a phreswylwyr yn y DU. Nid yw hyn ar gael i gwmn茂au sy鈥檔 cael gwared ar eiddo preswyl yn y DU, gan ei fod yn bosibl iddynt hawlio lwfansau eraill.
Terfynau symiau blynyddol wedi鈥檜 hesemptio
Gallwch ddefnyddio eich swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio yn erbyn yr enillion sy鈥檔 cael eu trethu ar y cyfraddau uchaf er mwyn gostwng swm y dreth sy鈥檔 ddyledus gennych.
Blwyddyn dreth聽 | Swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio ar gyfer unigolion, cynrychiolwyr personol ac ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd | Swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio ar gyfer ymddiriedolwyr eraill |
触鈥斺赌斺赌斺赌斺赌-触鈥斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌斺赌攟鈥斺赌斺赌斺赌斺赌攟
2025 to 2026 | 拢3,000 | 拢1,500 |
2024 to 2025 | 拢3,000 | 拢1,500 |
2023 to 2024 | 拢6,000 | 拢3,000 |
2022 to 2023 | 拢12,300 | 拢6,150 |
2021 to 2022 | 拢12,300 | 拢6,150 |
2020 to 2021 | 拢12,300 | 拢6,150 |
Ysgutorion neu gynrychiolwyr personol
Os ydych yn gweithredu fel ysgutor neu gynrychiolydd personol ar gyfer yst芒d person sydd wedi marw, efallai y cewch y swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio yn llawn yn ystod y cyfnod gweinyddu.
Y cyfnod gweinyddu yw鈥檙 amser sy鈥檔 cael ei gymryd i setlo materion y person sydd wedi marw. Bydd y cyfnod hwn yn dechrau ar y diwrnod ar 么l y farwolaeth, ac yn gorffen pan fydd popeth wedi鈥檌 drosglwyddo i鈥檙 buddiolwyr.
Bydd gennych hawl i鈥檙 swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio ar gyfer y flwyddyn dreth y digwyddodd y farwolaeth ynddi, a鈥檙 ddwy flynedd dreth olynol. Mae hyn yn golygu un swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio yn erbyn enillion ym mhob un o鈥檙 blynyddoedd hynny. Ar 么l hynny, nid oes lwfans rhydd o dreth y gellir ei ddefnyddio yn erbyn enillion yn ystod y cyfnod gweinyddu.
Dysgwch ragor am sut i ddelio ag yst芒d rhywun sydd wedi marw.
Ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd
Os ydych yn gweithredu fel ymddiriedolwr ar gyfer person ag anabledd, defnyddiwch y cyfraddau sydd i鈥檞 gweld yn y tabl o dan y pennawd 鈥榰nigolion, cynrychiolwyr personol ac ymddiriedolwyr ar gyfer pobl ag anabledd鈥.
At ddibenion Treth Enillion Cyfalaf, mae person ag anabledd yn berson sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl, neu sy鈥檔 cael Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i鈥檙 Anabl ar y gyfradd ganolig neu鈥檙 gyfradd uwch.
Dysgwch ragor am ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad yw eich domisil yn y DU
Ni fyddwch yn cael y swm blynyddol wedi鈥檌 esemptio os nad yw eich domisil yn y DU, a鈥檆h bod chi wedi hawlio鈥檙 sail trosglwyddo at ddibenion trethiant ar eich incwm ac enillion tramor.
Mae鈥檔 bosibl nad yw鈥檆h domisil yn y DU os cawsoch eich geni mewn gwlad arall, ac yn bwriadu mynd yn 么l yno.
Os oes gennych incwm ac enillion tramor, a鈥檆h bod wedi penderfynu y byddai o fudd i chi gael eich trethu ar yr incwm a鈥檙 enillion yr ydych yn eu trosglwyddo i鈥檙 DU, yn hytrach na鈥檙 holl incwm ac enillion sy鈥檔 deillio o dramor, yna mae鈥檔 bosibl eich bod wedi hawlio鈥檙 sail trosglwyddo.聽
Mae materion ynghylch domisil a threth ar enillion tramor yn gymhleth. Mae llawer yn dibynnu ar ffeithiau鈥檙 achos.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad ynghylch mannau preswylio, domisil a鈥檙 sail trosglwyddo: RDR1, a chysylltwch 芒 CThEF os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Cyfraddau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf
Mae鈥檙 gyfradd Treth Enillion Cyfalaf yr ydych yn ei defnyddio yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm trethadwy. Bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm eich incwm trethadwy yn gyntaf felly.
6 Ebrill 2025 ac ymlaen
Dyma鈥檙 cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
18% a 24% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
-
32% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
24% ar gyfer ymddiriedolwyr
-
24% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
32% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
14% ar gyfer enillion sy鈥檔 gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg)听补 Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
30 Hydref 2024 i 5 Ebrill 2025
Dyma鈥檙 cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
18% a 24% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
-
18% a 28% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
24% ar gyfer ymddiriedolwyr
-
24% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
28% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
10% ar gyfer enillion sy鈥檔 gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg)听补 Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
6 Ebrill 2024 i 29 Hydref 2024
Dyma鈥檙 cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
10% a 20% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir (yn agor tudalen Saesneg))
-
18% a 24% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
18% a 28% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
20% ar gyfer ymddiriedolwyr (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl)
-
24% ar gyfer ymddiriedolwyr, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
20% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
24% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
28% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
10% ar gyfer enillion sy鈥檔 gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes听补 Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
6 Ebrill 2019 i 5 Ebrill 2024
Dyma鈥檙 cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf:
-
10% a 20% ar gyfer unigolion (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
18% a 28% ar gyfer unigolion, ar gyfer enillion o eiddo preswyl ac enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
20% ar gyfer ymddiriedolwyr (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl)
-
28% ar gyfer ymddiriedolwyr, ar gyfer enillion o eiddo preswyl
-
20% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw (heb gynnwys enillion o eiddo preswyl nac enillion o fuddiant a drosglwyddir)
-
28% ar gyfer cynrychiolwyr personol ar ran rhywun sydd wedi marw, ar gyfer enillion o eiddo preswyl ac enillion o fuddiant a drosglwyddir
-
10% ar gyfer enillion sy鈥檔 gymwys ar gyfer Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) (Rhyddhad Entrepreneuriaid yn gynt),听补 Rhyddhad Buddsoddwyr (yn agor tudalen Saesneg)
Updates to this page
-
Annual exempt amount limits and rates for Capital Gains Tax have been updated for the 2025 to 2026 tax year.
-
Annual exempt amount limits and rates for Capital Gains Tax have been updated for the 2024 to 2025 tax year.
-
Annual exempt amount limits have been updated.
-
Annual exempt amount limits have been added for 2022 to 2023.
-
AEA limits have been added for 2020 to 2021.
-
First published.