Gwirio a ellir symud eich nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU
Dysgwch pryd y gallwch ac na allwch symud neu storio nwyddau mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU.
Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd’ (Green Freeports) yn yr Alban, oni nodir yn wahanol.
Pryd y gellir symud eich nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd
Gallwch symud nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd, neu storio nwyddau yno, os nad ydyn nhw’n nwyddau sydd wedi’u gwahardd.
Mae nwyddau wedi’u gwahardd yn cynnwys y canlynol:
- blew a gwlân anifeiliaid penodol
- unrhyw anifail neu blanhigyn, boed yn fyw neu wedi marw, neu ei rannau neu ei ddeiliadau, o’r rhywogaethau sydd ar y rhestr CITES (gweler )
- eitemau sy’n cynnwys dyfeisiau sy’n awgrymu neu’n tueddu i awgrymu bod cosb neu warant gan y llywodraeth
- asbestos
- ffwr cathod a chŵn, a chynhyrchion wedi’u gwneud o ffwr o’r fath
- nwyddau ffug, anghyfreithlon neu rai sy’n mynd yn groes i batent
- arian papur cyfred ffug
- stampiau post ffug
- nwyddau sy’n cynnwys disgrifiad masnach ffug
- nwyddau sydd (mewn perthynas â nod masnach cofrestredig) yn nwyddau, deunyddiau neu eitemau sy’n mynd yn groes i berchennog y nod masnach, neu drwyddedai
- nwyddau y gellid eu defnyddio at ddibenion y gosb eithaf neu arteithio a thriniaeth neu gosb greulon, ddiraddiol neu annynol arall, neu mewn cymorth technegol cysylltiedig
- deunydd anweddus a fyddai’n cael ei wahardd rhag cael ei fewnforio i’r DU
- nwyddau wedi’u gwneud mewn carchar
- diemyntau bras
- tocynnau, hysbysebion a deunyddiau eraill sy’n ymwneud â loterïau tramor
Rhagor o wybodaeth am nwyddau sydd wedi’u gwahardd neu sydd wedi’u cyfyngu (yn Saesneg).