Cael help i lenwi adran ‘cyfrannu at elusen’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘cyfrannu at elusen’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae cyfraniadau gan unigolion i elusennau neu i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn rhydd o dreth. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad treth’. Mae’r ffordd y mae hyn yn gweithio yn dibynnu ar y ffordd yr ydych yn gwneud eich cyfraniad.
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau penodol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Darllenwch ragor am ryddhad treth ar gyfer cyfrannu at elusen (taflen gymorth Hunanasesiad HS342) (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn cyfrannu at elusen drwy’r dulliau canlynol:
-
Rhodd Cymorth
-
Rhoi Trwy’r Gyflogres
-
rhoddion o gyfranddaliadau a gwarantau
-
rhoddion o dir neu adeiladau
Fideo YouTube CThEF
Gwyliwch recordiad o weminar ynglŷn â rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein.
.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
incwm arall, fel pensiynau gwaith
-
rhyddhadau treth, gan gynnwys taliadau i elusennau
Cofrestru ar gyfer gweminarau
Mae gweminarau yn rhoi rhagor o wybodaeth am adrannau o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cofrestrwch ar gyfer y .
Rhagor o wybodaeth am gyfrannu at elusen
Dysgwch ragor am y rhyddhad treth sydd ar gael pan fyddwch yn cyfrannu at elusen.
Cyfrifwch swm y rhyddhad treth y gallwch ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn cyfrannu at elusen, neu’n cynnig rhodd o dir, eiddo neu gyfranddaliadau iddi.