Canllawiau

Sut mae cosbau am dalu鈥檔 hwyr yn gweithio os byddwch yn talu TAW yn hwyr

Os yw鈥檆h taliad yn fwy nag 15 diwrnod yn hwyr, bydd cosb gyntaf ac ail gosb am dalu鈥檔 hwyr yn gymwys. Dysgwch sut i osgoi cosbau a chael help i dalu fesul rhandaliad.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2023, mae cosbau am dalu鈥檔 hwyr yn berthnasol i daliadau TAW hwyr.

Mae鈥檙 gordal diffygdalu TAW yn cael ei ddisodli gan gosbau newydd ar gyfer TAW a gaiff ei thalu鈥檔 hwyr a Ffurflenni TAW a gaiff eu cyflwyno鈥檔 hwyr. Mae鈥檙 ffordd y codir llog hefyd yn newid.

Mae鈥檙 newidiadau hyn yn effeithio ar bawb sy鈥檔 cyflwyno Ffurflenni TAW, gan gynnwys ffurflenni ad-daliad a ffurflenni 鈥榙im鈥. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu TAW a ddechreuodd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022, darllenwch arweiniad ynghylch y gordal diffygdalu TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Sut mae cosbau am dalu鈥檔 hwyr yn gweithio

Gall cosbau am dalu鈥檔 hwyr fod yn berthnasol i unrhyw daliadau TAW na ch芒nt eu talu鈥檔 llawn erbyn y dyddiad dyledus perthnasol, ac eithrio:

O ran cosbau am dalu鈥檔 hwyr, po gyntaf y byddwch yn talu, yr isaf fydd y gosb.

Gallwch gynnig cynllun talu ar unrhyw adeg a allai olygu cosbau is neu ddim cosbau o gwbl.

Pa daliadau TAW sy鈥檔 agored i gosbau am dalu鈥檔 hwyr

Gall hyn gynnwys taliad sy鈥檔 ddyledus:

  • ar eich Ffurflen TAW
  • yn dilyn diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gennym pan na wnaethoch gyflwyno鈥檆h Ffurflen TAW
  • o asesiad TAW a anfonwyd gennym am reswm arall

Os na allwch dalu鈥檆h TAW mewn pryd

O鈥檙 diwrnod cyntaf y mae鈥檆h taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch yn talu鈥檔 llawn, byddwn yn codi llog am dalu鈥檔 hwy.

Dylech gysylltu 芒 CThEF cyn gynted 芒 phosibl os ydych yn cael anhawster talu erbyn y dyddiad cau ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu. Gallai hyn atal rhagor o daliadau cosb rhag cael eu hychwanegu at y TAW sy鈥檔 ddyledus gennych.

Gofynnwch a allwch dalu fesul rhandaliad

Gallwch ofyn i CThEF am gynllun talu a elwir yn drefniant Amser i Dalu.

Mae trefniant Amser i Dalu yn hyblyg ac yn cael ei addasu i amgylchiadau ariannol penodol unigolyn neu fusnes.

Os bydd CThEF yn cytuno ar drefniant Amser i Dalu gyda chi, gall olygu cosbau is, neu ddim cosbau o gwbl am dalu鈥檔 hwyr. Gall gwmpasu鈥檙 holl symiau sy鈥檔 ddyledus, gan gynnwys cosbau a llog.

Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i drafod eich sefyllfa ariannol a鈥檙 swm y gallwch ei dalu bob mis tuag at y TAW sy鈥檔 ddyledus gennych.

Crynodeb o gosbau am dalu鈥檔 hwyr

Byddwch yn cael eich cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr os yw鈥檆h taliad 16 diwrnod neu fwy yn hwyr.

Pan fydd eich taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr, bydd eich cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr yn cynyddu, a byddwch yn cael ail gosb am dalu鈥檔 hwyr.

Taliad sydd hyd at 15 diwrnod yn hwyr

Ni fydd:

  • cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr yn cael ei chodi
  • ail gosb am dalu鈥檔 hwyr yn cael ei chodi

Taliad sydd rhwng 16 a 30 diwrnod yn hwyr

Bydd y gosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr yn cael ei chyfrifo yn seiliedig ar 2% o鈥檙 TAW sydd arnoch ar ddiwrnod 15.

Does dim ail gosb am dalu鈥檔 hwyr.

Taliad sydd 31 diwrnod neu fwy yn hwyr

Bydd y gosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr yn cael ei chyfrifo yn seiliedig ar 2% o鈥檙 hyn a oedd yn ddyledus ar ddiwrnod 15 ynghyd 芒 2% o鈥檙 hyn sy鈥檔 ddyledus ar ddiwrnod 30.

Bydd yr ail gosb am dalu鈥檔 hwyr yn cael ei chyfrifo ar gyfradd ddyddiol o 4% y flwyddyn ar y balans sydd heb ei dalu. Caiff hyn ei godi bob dydd, o ddiwrnod 31 nes:

  • i鈥檙 balans dyledus gael ei dalu鈥檔 llawn
  • ychydig cyn diwedd terfyn amser yr asesiad o 2 flynedd, lle bo treth yn dal i fod yn ddyledus, pan asesir y gosb

Darllenwch i gael rhagor o wybodaeth.

Cymryd camau i osgoi cosbau pellach am dalu鈥檔 hwyr

Rhwng 1 a 15 o ddiwrnodau鈥檔 hwyr

Er mwyn osgoi cosbau a fydd yn gymwys o ddiwrnod 16, dylech wneud y canlynol:

  • talu鈥檔 llawn
  • gofyn am drefniant Amser i Dalu ar neu rhwng diwrnodau 1 a 15

Rhwng 16 a 30 o ddiwrnodau鈥檔 hwyr

Er mwyn osgoi cosbau uwch a fydd yn berthnasol o ddiwrnod 31, dylech wneud y canlynol:

  • talu鈥檔 llawn
  • gofyn am drefniant Amser i Dalu ar neu hyd at ddiwrnod 30

Yn hwyr ar neu ar 么l diwrnod 31

Er mwyn atal eich ail gosb am dalu鈥檔 hwyr a鈥檆h llog rhag cynyddu, dylech wneud y canlynol:

  • talu鈥檔 llawn
  • gofyn am drefniant Amser i Dalu ar neu ar 么l diwrnod 31

Cyfnod ymgyfarwyddo

Er mwyn rhoi amser i chi ddod i arfer 芒鈥檙 newidiadau, ni fyddwn yn codi cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr tan ar 么l 31 Rhagfyr 2023. Mae hyn ar yr amod y byddwch, cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad dyledus eich taliad, naill ai鈥檔:

  • talu鈥檔 llawn
  • gwneud trefniant Amser i Dalu

Os nad fyddwch yn cadw at drefniant Amser i Dalu

Os na fyddwch yn cadw at amodau鈥檙 trefniant Amser i Dalu ar unrhyw adeg, mae鈥檔 bosibl y caiff ei ganslo. Os bydd hyn yn digwydd, byddai CThEF yn codi鈥檙 gosb gyntaf a鈥檙 ail gosb am dalu鈥檔 hwyr fel pe na bai鈥檙 trefniant Amser i Dalu erioed wedi bodoli.

Apelio yn erbyn cosb am dalu鈥檔 hwyr cosb

Os cewch gosb am dalu鈥檔 hwyr, bydd CThEF yn dweud wrthych mewn llythyr penderfyniad o gosb. Bydd y llythyr yn cynnig adolygiad i chi gyda CThEF.

Dysgwch sut a phryd y gallwch apelio yn erbyn cosb.

Gallwch ddewis cael adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Mae鈥檔 bosibl y bydd eich cosb yn cael ei chanslo neu ei diwygio os oes gennych esgus rhesymol.

Gwirio ac apelio yn erbyn cosbau ar-lein

Gallwch wirio manylion cosbau yn eich cyfrif TAW ar-lein a gofyn am adolygiad drwy鈥檆h cyfrif ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio鈥檆h cyfrif ar-lein, gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad hwn i ofyn am adolygiad. Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, dinas na blwch Swyddfa鈥檙 Post.

Swyddfa鈥檙 Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor鈥檚 Office and Legal Services
HMRC
BX9 1ZT

Enghraifft o gosb am dalu鈥檔 hwyr

Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau ar fideo drwy wylio鈥檙 gweminar wedi鈥檌 recordio, 鈥極verview of new VAT penalties and interest charges鈥 (yn agor tudalen Saesneg).

Mae鈥檙 enghraifft hon yn cynnwys senarios am dalu鈥檔 hwyr sy鈥檔 digwydd ar 么l y cyfnod ymgyfarwyddo.

Mae cwmni鈥檔 fanwerthwr sydd wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer TAW ac sydd wedi cyflwyno鈥檜 Ffurflen TAW ar gyfer mis Mehefin 2024 erbyn y dyddiad cau ar gyfer ei gyfnod adrodd. Ond nid yw CThEF yn cael y 拢15,000 o TAW sydd arno mewn pryd.聽 聽鈥

Mae鈥檙 taliad hyd at 15 diwrnod yn hwyr

Mae CThEF yn anfon llythyr i鈥檙 cwmni 芒 nodyn atgoffa am dalu鈥檔 hwyr, yn gofyn iddo dalu鈥檔 llawn er mwyn osgoi cosbau. Mae鈥檙 cwmni鈥檔 setlo鈥檌 fil TAW yn llawn erbyn diwedd diwrnod 15 ac felly nid yw鈥檔 cael cosb am dalu鈥檔 hwyr.

Mae鈥檙 taliad rhwng 16 a 30 diwrnod yn hwyr

Mae鈥檙 cwmni鈥檔 talu鈥檔 llawn rhwng diwrnod 16 a diwrnod 30 ar 么l i鈥檙 TAW fod yn ddyledus. Bydd y gosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr wedi鈥檌 chyfrifo yn seiliedig ar 2% o鈥檙 TAW a oedd yn ddyledus ar ddiwedd diwrnod 15.

Mae CThEF yn codi cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr o 2% o 拢15,000 = 拢300

Mae鈥檙 taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr

Mae鈥檙 cwmni鈥檔 talu鈥檙 TAW sydd arno 51 diwrnod ar 么l y dyddiad dyledus.

Mae CThEF yn codi cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr o 拢600, cyfrifwyd hyn fel a ganlyn:

  • 2% o鈥檙 swm dyledus ar ddiwrnod 15 (2% o 拢15,000 = 拢300)
  • 2% o鈥檙 swm dyledus ar ddiwrnod 30 (2% o 拢15,000 = 拢300)

Yn ogystal 芒 hyn, bydd CThEF yn codi ail gosb am dalu鈥檔 hwyr ar y swm o 拢15,000 sy鈥檔 ddyledus, a gyfrifwyd yn ddyddiol ar gyfradd flynyddol sy鈥檔 gyfwerth 芒 4%.

Mae CThEF yn codi 4% o ddiwrnod 31 ar 么l i鈥檙 taliad fod yn hwyr hyd at a chan gynnwys diwrnod 51 pan fydd y cwmni yn talu鈥檔 llawn.

Mae hyn yn cael ei gyfrifo fel 21 diwrnod (拢15,000 x 4% x 21 梅 365 diwrnod) =聽拢34.50

Cyfanswm y gosb sy鈥檔 cael ei chodi ar y cwmni am dalu 51 diwrnod yn hwyr yw 拢634.50 oherwydd y canlynol:

  • y gosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr o 拢600
  • yr ail gosb am dalu鈥檔 hwyr o 拢34.50

Taliad sy鈥檔 ddyledus 6 diwrnod cyn diwedd y terfyn amser o 2 flynedd

Ar 7 Mawrth 2023, mae disgwyl i鈥檙 cwmni dalu鈥檙 拢15,000 o TAW sy鈥檔 ddyledus ganddo.

Mae鈥檙 taliad yn dal i fod yn ddyledus ar 7 Ebrill 2023, 31 diwrnod ar 么l y dyddiad dyledus.

Mae CThEF yn codi cosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr o 拢600, cyfrifwyd hyn fel a ganlyn:

  • 2% o鈥檙 swm dyledus ar ddiwrnod 15 (2% o 拢15,000 = 拢300)
  • 2% o鈥檙 swm dyledus ar ddiwrnod 30 (2% o 拢15,000 = 拢300)

Mae鈥檙 ail gosb am dalu鈥檔 hwyr yn dechrau cronni o 7 Ebrill 2023 (31 diwrnod yn dilyn dyddiad dyledus y taliad) ar y swm sy鈥檔 ddyledus, a gyfrifwyd yn ddyddiol ar gyfradd flynyddol sy鈥檔 gyfwerth 芒 4%.

Mae鈥檙 拢15,000 yn dal i fod yn ddyledus ar 27 Chwefror 2025, 724 diwrnod ar 么l dyddiad dyledus y taliad.

Gan fod hwn o fewn 7 diwrnod cyn diwedd terfyn amser yr asesiad o 2 flynedd, mae CThEF yn codi鈥檙 ail gosb am dalu鈥檔 hwyr. Mae hwn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar 4% o 7 Ebrill 2023 hyd at a chan gynnwys 27 Chwefror 2025 pan gaiff y gosb ei hasesu.

Mae hyn yn cael ei gyfrifo fel 693 diwrnod (拢15,000 脳 4% = 拢600 梅 365 脳 693 diwrnod) =聽拢1139.17聽

Cyfanswm y gosb yn yr esiampl hon yw 拢1739.17.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Rhagfyr 2024 show all updates
  1. Information about payments overdue by 31 days or more has been added. Also, an example covering payments outstanding 6 days before the 2 year assessment time limit expires.

  2. Welsh translation added.

  3. '30 days' changed to '15 days' 鈥 page summary does not need to reflect the 'period familiarisation'.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon