Canllawiau

Cyfleusterau deunyddiau: samplu gwastraff ac adroddiadau o fis Hydref 2024 ymlaen

O 1 Hydref 2024 ymlaen, bydd angen i ragor o gyfleusterau deunyddiau samplu eu gwastraff a chyflwyno adroddiadau arno. Bydd y gwaith samplu ac adrodd yn fanylach ac yn amlach o dan y rheoliadau diwygiedig.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Dylai gweithredwyr cyfleusterau deunyddiau (MFs) wirio a fydd yn gymwys iddyn nhw ai peidio o fis Hydref 2024 ymlaen.

Dylai pob busnes mae鈥檙 rheoliadau鈥檔 effeithio arno o fis Hydref 2024 ymlaen fynd ati i gael gwybod beth sy鈥檔 newid a sut y dylen nhw baratoi.

Bydd y rheoliadau diwygiedig yn golygu:

  • y bydd rhaid i ragor o MFs weithredu o dan y rheoliadau
  • y bydd ffrydiau gwastraff sengl yn cael eu mesur a鈥檜 hadrodd am y tro cyntaf
  • y bydd amlder y samplu yn cynyddu i 60kg am bob 75 tunnell o ddeunydd sy鈥檔 dod i mewn
  • y bydd angen i MFs fesur a chyflwyno adroddiadau ar 10 math o ddeunydd gwastraff sy鈥檔 dod i mewn yn hytrach na 4 a dweud o ble mae鈥檙 deunydd gwastraff yn dod.
  • y bydd angen samplu a chyflwyno adroddiadau am gyfran y deunyddiau pecynwaith a鈥檙 cynllun dychwelyd ernes (DRS)
  • bod rhaid i鈥檙 holl ddata sy鈥檔 cael ei gasglu (nid cyfartaleddau yn unig) gael eu hadrodd i鈥檙 rheoleiddiwr

Pwy sy鈥檔 cael eu heffeithio o fis Hydref 2024 ymlaen

O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol i lawer o gyfleusterau deunyddiau (MFs) weithredu o dan y rheoliadau am y tro cyntaf.

Mae hyn yn cynnwys MFs:

  • sy鈥檔 derbyn ac yn rheoli o leiaf 1,000 o dunelli o wastraff cartrefi (neu wastraff tebyg i wastraff cartrefi) y flwyddyn, gan gynnwys ffrydiau gwastraff sengl neu wastraff sydd eisoes wedi鈥檌 wahanu wrth ei gasglu
  • sy鈥檔 cydgrynhoi neu鈥檔 鈥榮wmpio鈥 gwastraff (er enghraifft, gorsafoedd swmpio neu drosglwyddo) oddi wrth nifer o gyflenwyr
  • sy鈥檔 didoli gwastraff yn ddeunyddiau allbwn penodol, fel caniau alwminiwm neu gardfwrdd

Bydd angen i MFs hunanasesu i ddarganfod a yw鈥檙 rheoliadau鈥檔 gymwys iddyn nhw ai peidio.

Hysbysu鈥檙 rheoleiddiwr

Os ydych chi鈥檔 weithredwr MF y mae鈥檙 rheoliadau鈥檔 effeithir arno am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024, bydd angen ichi hysbysu鈥檙 rheoleiddiwr yn ysgrifenedig. Y rheoleiddiwr yw:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych chi yng Nghymru
  • Asiantaeth yr Amgylchedd os ydych chi yn Lloegr

Bydd angen ichi hunanasesu ar ddechrau pob cyfnod adrodd o 3 mis.

Bydd angen ichi hysbysu鈥檙 rheoleiddiwr ar ddiwedd eich cyfnod adrodd cyntaf o 3 mis os yw鈥檙 ddau o鈥檙 canlynol yn gymwys:

  • bod eich math chi o MF wedi鈥檌 gynnwys yn y rheoliadau am y tro cyntaf
  • bod eich asesiad yn dangos eich bod yn debygol o dderbyn o leiaf 1,000 o dunelli o wastraff cartrefi neu wastraff tebyg i wastraff cartrefi yn ystod y 12 mis nesaf

Er enghraifft, os gwnewch chi鈥檆h asesiad cyntaf yn y cyfnod adrodd sy鈥檔 dechrau ym mis Hydref 2024, bydd angen ichi hysbysu鈥檙 rheoleiddiwr cyn diwedd mis Rhagfyr 2024.

Does dim angen ichi barhau i hysbysu鈥檙 rheoleiddiwr ar 么l y tro cyntaf.

Os yw鈥檆h hunanasesiad chwarterol yn dangos nad ydych chi mwyach yn debygol o dderbyn o leiaf 1,000 o dunelli o wastraff dros y 12 mis nesaf, rhaid ichi ddweud wrth y rheoleiddiwr nad yw鈥檙 rheoliadau yn effeithio arnoch chi bellach.

Cyfnodau adrodd

Mae pedwar cyfnod adrodd mewn blwyddyn, sef:

  • 1 Ionawr i 31 Mawrth
  • 1 Ebrill i 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr

Cyfleusterau deunyddiau sy鈥檔 aros y tu allan i鈥檙 rheoliadau

Mae MFs y tu allan i鈥檙 rheoliadau os oes unrhyw un neu ragor o鈥檙 canlynol yn gymwys:

  • eu bod yn delio 芒 nwyddau trydan gwastraff yn unig
  • eu bod yn derbyn ac yn cydgrynhoi gwastraff oddi wrth un cyflenwr yn unig (er enghraifft, gwastraff un awdurdod lleol)
  • eu bod nhw鈥檔 gyfleusterau a ddarperir gan gynghorau ar gyfer ailgylchu a gwaredu gwastraff cartrefi (er enghraifft, canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi)

Beth i鈥檞 fesur a鈥檌 gofnodi o fis Hydref 2024 ymlaen

Yn ystod pob cyfnod adrodd o 3 mis, rhaid i MFs fesur a chofnodi:

  • pwysau cyfanswm y deunydd gwastraff sydd wedi dod i law oddi wrth bob cyflenwr (deunydd mewnbwn)
  • enw a chyfeiriad cyflenwr pob llwyth
  • dyddiad derbyn llwyth pob cyflenwr
  • pwysau鈥檙 deunydd sy鈥檔 gadael y safle (deunydd allbwn), y dyddiad y mae鈥檔 gadael a鈥檌 gyrchfan
  • mesuriadau samplu ar gyfer deunyddiau mewnbwn ac, os oes angen, deunyddiau allbwn

Rhaid cyflwyno adroddiad ar yr wybodaeth hon i鈥檙 rheoleiddiwr ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Samplu鈥檙 mewnbwn

Samplu鈥檙 mewnbwn yw鈥檙 broses o gymryd samplau o wastraff sy鈥檔 dod i mewn er mwyn mesur ei gyfansoddiad a鈥檌 ansawdd. O fis Hydref 2024 ymlaen, rhaid ichi samplu鈥檙 mewnbwn os ydych chi:

  • yn cydgrynhoi deunyddiau gwastraff 2 neu fwy o gyflenwyr
  • yn didoli gwastraff yn ddeunydd allbwn penodedig cyn ei anfon i rywle arall i gael ei baratoi i鈥檞 ailddefnyddio neu ei ailgylchu

Bydd angen ichi gymryd un sampl o 60kg am bob 75 tunnell o wastraff sy鈥檔 dod i law oddi wrth bob cyflenwr.

Bydd angen ichi fesur a chofnodi:

  • cyfansoddiad pob sampl
  • cyfanswm y samplau a gymerwyd oddi wrth bob cyflenwr
  • cyfanswm y pwysau mewn kg o鈥檙 holl samplau oddi wrth bob cyflenwr
  • cyfanswm pob math o ddeunydd fel cyfran o鈥檙 sampl y mae鈥檔 rhan ohoni
  • y gyfran o bob math o ddeunydd (ac eithrio gwydr) a nodwyd fel pecynwaith neu gynwysyddion diodydd sy鈥檔 rhan o鈥檙 cynllun dychwelyd ernes (DRS)

Categor茂au deunydd gwastraff

Bydd angen ichi nodi鈥檙 gwastraff o fewn sampl fel un o dri chategori o ddeunydd:

  • deunydd targed 鈥 deunydd y mae angen ei wahanu oddi wrth ddeunydd gwastraff arall neu ei gydgrynhoi鈥檔 feintiau swmp o ddeunydd penodol
  • deunydd nad yw鈥檔 ddeunydd targed 鈥 deunydd a all gael ei ailgylchu ond na fydd yn cael ei wahanu na鈥檌 gydgrynhoi
  • deunydd nad yw鈥檔 gallu cael ei ailgylchu

10 math o ddeunydd mewnbwn

O fis Hydref 2024 ymlaen, rhaid nodi deunydd gwastraff o fewn sampl fel un o 10 math o ddeunydd mewnbwn. (Pedwar math sydd ar hyn o bryd.)

Y 10 math o ddeunydd mewnbwn o fis Hydref 2024 ymlaen yw:

  • gwydr
  • alwminiwm
  • dur
  • papur
  • cerdyn
  • poteli plastig
  • potiau, tybiau a hambyrddau plastig
  • ffilm neu blastig hyblyg arall
  • plastig arall
  • deunydd cyfansawdd wedi鈥檌 seilio ar ffeibrau

Deunyddiau pecynwaith a鈥檙 cynllun dychwelyd ernes (DRS)

Yn eich samplau mewnbwn ac allbwn, rhaid ichi fesur a chofnodi

  • y gyfran sy鈥檔 becynwaith
  • y gyfran sy鈥檔 becynwaith DRS

Pecynwaith gwydr a鈥檙 DRS

Does dim angen ichi fesur a chofnodi pecynwaith gwydr yn rheolaidd.

Er hynny, gall y rheoleiddwyr ofyn am samplau mewnbwn ac allbwn o becynwaith gwydr. Bydd yn rhaid iddyn nhw:

  • rhoi o leiaf 4 wythnos o rybudd i MFs cyn dechrau鈥檙 cyfnod adrodd y cymerir y mesuriadau ynddo.
  • nodi鈥檙 isafswm samplau ar gyfer pob cyflenwr

Bydd angen i MFs gadw cofnodion o鈥檜 methodolegau wrth gymryd a mesur samplau. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod y samplau鈥檔 adlewyrchu cyfansoddiad y deunydd gwastraff cyffredinol yn gywir.

Samplu鈥檙 allbwn

Bydd angen i MFs sy鈥檔 didoli gwastraff pecynwaith yn ddeunydd allbwn penodedig gofnodi gradd y deunydd allbwn penodedig, gan gyfeirio at y deunyddiau canlynol:

  • gwydr
  • papur
  • cerdyn
  • alwminiwm
  • dur
  • plastig
  • cyfansoddion wedi鈥檜 seilio ar ffeibrau

Mae graddio yn ddisgrifiad sy鈥檔 seiliedig ar fanyleb y deunydd. Er enghraifft, gall graddau gwydr fod yn seiliedig ar liw, fel gwydr clir 鈥榝flint鈥. Gall graddau plastig fod yn seiliedig ar bolymerau, fel poteli polyethylen dwysedd-uchel (HDPE) lliw.

Ar 么l graddio鈥檙 deunydd, bydd angen i鈥檙 MFs gymryd sampl, yna mesur a chofnodi:

  • cyfanswm yr holl samplau a gymerwyd mewn cyfnod adrodd
  • cyfanswm pwysau mewn kg yr holl samplau a gymerwyd mewn cyfnod adrodd
  • y dyddiad y cymerwyd y sampl
  • p鈥檜n a yw鈥檙 deunydd yn ddeunydd targed, yn ddeunydd heblaw deunydd targed neu鈥檔 ddeunydd na all gael ei ailgylchu
  • cyfrannau鈥檙 pecynwaith a鈥檙 deunydd DRS
  • manylion y fethodoleg samplu a ddefnyddiwyd, i ddangos sut mae鈥檙 MFs yn sicrhau bod y samplau yn adlewyrchu cyfansoddiad y deunydd gwastraff yn gywir

Amlder a maint y samplau

Mae amlder a maint y samplau yn dibynnu ar y deunydd allbwn penodedig. Pan fydd dau neu ragor o ddeunyddiau mewn allbwn penodol, defnyddiwch amlder a maint y deunydd sydd 芒鈥檙 ffigur isaf yn y golofn amlder isaf yn y tabl.

Enghreifftiau:

  • byddai cymysgedd o blastig ac alwminiwm angen amlder o bob 15 tunnell, a maint sampl o 20kg
  • byddai cymysgedd o ddur a gwydr angen amlder o bob 20 tunnell, a maint sampl o 10kg
Deunydd allbwn penodedig Isafswm amlder Pwysau鈥檙 sampl
Gwydr bob 50 tunnell 10kg
Papur a cherdyn bob 60 tunnell 50kg
Metel (alwminiwm, dur neu鈥檙 ddau) bob 20 tunnell 10kg
Plastig bob 15 tunnell 20kg
Cyfansoddion wedi鈥檜 seilio ar ffeibrau bob 60 tunnell 50kg

Adroddiadau

Rhaid ichi:

  • cyflwyno adroddiad ar yr holl fesuriadau a chofnodion a gymerwyd yn ystod y cyfnod adrodd 3 mis
  • cyflwyno adroddiad ar ddiwedd pob cyfnod adrodd mewn fformat electronig a ddarperir gan y rheoleiddiwr
  • cyflwyno adroddiadau o fewn mis ar 么l diwedd y cyfnod adrodd
  • cadw cofnodion am 7 mlynedd o鈥檙 mesuriadau a gymerwyd a鈥檙 adroddiadau a gynhyrchwyd, a鈥檜 cyflwyno os yw鈥檙 rheoleiddiwr yn gofyn amdanyn nhw

Wedi鈥檜 cyhoeddi 28 Mehefin 2023

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Hydref 2024 show all updates
  1. You can tell the Environment Agency about a material facility online.

  2. This update adds more details on which materials facilities will be in and out of scope of these regulations, gives examples of who is affected, gives more detail on sampling requirements, and adds examples for sampling too.

  3. Added Welsh translation.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon