Prosiectau Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol: Cyngor ar Ddylunio Da
惭补别鈥檙 cyngor hwn yn esbonio pam mae dylunio da yn bwysig, beth allai fod yn llwyddiannus a sut y gellid ei gyflawni mewn ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol (NSIPau).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
惭补别鈥檙 llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau鈥檙 cyhoedd a phart茂on eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr 芒 (y Ddeddf Cynllunio).
惭补别鈥檙 cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio yngl欧n 芒 chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu鈥檙 ddeddfwriaeth, y rheoliadau a鈥檙 canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSau) yn amlinellu鈥檙 gofyniad i gyflawni dylunio da a鈥檙 meini prawf a ddefnyddir i鈥檞 asesu.
Y gofyniad ar gyfer dylunio da
Wrth baratoi NPSau, mae鈥檔 ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, lliniaru鈥檙 newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, a chyflawni dylunio da.
Mae dylunio da yn hanfodol i gyflawni ymarferoldeb gwych, cynaliadwyedd, creu lleoedd cadarnhaol a gwydnwch mewn NSIPau.
惭补别鈥檙 NPSau yn amlinellu meini prawf ar gyfer cyflawni dylunio da mewn prosiectau, gan gysylltu ymarferoldeb ag egwyddorion cynaliadwyedd a chydbwyso ffactorau amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol.
惭补别鈥檙 NPSau a chanllawiau hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd esbonio penderfyniadau a wneir yn ystod y broses ddylunio a鈥檙 rhesymau drostynt. Mae hyn yn cynnwys sut mae asesu effeithiau amgylcheddol (AEA) a safbwyntiau a gafwyd o ymgysylltu ac ymgynghori 芒 rhanddeiliaid wedi llywio鈥檙 broses ddylunio.
Diffiniadau o ddylunio da
惭补别鈥檙 diffiniadau o ddylunio da yn dod o sawl ffynhonnell. 惭补别鈥檙 egwyddorion a amlinellwyd gan y pensaer a鈥檙 peiriannydd Rhufeinig, Marcus Vitruvius (c70-15CC), ar gyfer pensaern茂aeth dda yr un mor berthnasol i seilwaith heddiw ac yn cyd-fynd 芒鈥檙 datganiadau yn yr NPSau. Diffiniodd bensaern茂aeth dda fel 鈥渇irmitas, utilitas, venustas鈥, sef cadernid, defnydd, a hyfrydwch, sy鈥檔 pwysleisio ymarferoldeb, gwydnwch, ac ap锚l esthetig mewn adeiladau a strwythurau.
Mae yn cydnabod dylunio da fel proses, hefyd. Mae鈥檔 diffinio dylunio fel 鈥測 berthynas rhwng holl elfennau鈥檙 amgylchedd naturiol ac adeiledig鈥. Mae鈥檔 pwysleisio鈥檙 angen i fynd y tu hwnt i estheteg a chynnwys 鈥測r agweddau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ar y datblygiad, gan gynnwys ei adeiladwaith, ei weithrediad a鈥檌 reolaeth, a鈥檌 berthynas 芒鈥檌 gyffiniau.鈥
Cyflawni dylunio da
I gyflawni dylunio da, mae angen ymagwedd gyfannol i ddarparu seilwaith cynaliadwy o ansawdd uchel sy鈥檔 ymateb i le ac yn ystyried amgylcheddau sy鈥檔 aml yn gymhleth. Nid yw dylunio da yn ymwneud yn bennaf 芒 sut mae seilwaith yn edrych, er bod yr ystyriaethau hyn (yr estheteg) yn bwysig.
Mae angen i broses effeithiol, fwriadol, dryloyw a chyflawnadwy gael ei chynllunio, ei dilyn a鈥檌 sicrhau i gyflawni canlyniadau dylunio da o ansawdd uchel. Daw llwyddiant o ran dylunio da o gyfuniad o sicrhau proses dda a chanlyniadau da.
O ystyried graddfa ac effaith datblygiadau NSIP, mae cyflawni canlyniadau prosiect a ddyluniwyd yn dda sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 chynaliadwyedd a鈥檙 newidiadau yn yr hinsawdd yn hanfodol.
Y Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol
惭补别鈥檙 yn ymrwymo鈥檙 llywodraeth i ymgorffori dylunio da ym mhob NSIP. Mae Gr诺p Dylunio鈥檙 Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn argymell bod ystyried dylunio mewn modd priodol mewn NSIPau yn cefnogi uchelgais y llywodraeth i gyflymu鈥檙 broses gyflawni a chynyddu gwerth i鈥檙 eithaf trwy fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 canlynol:
-
proses ddylunio strwythuredig
-
egwyddorion dylunio
-
canlyniadau buddiol niferus
Egwyddorion, paramedrau a chodau dylunio
惭补别鈥檙 llywodraeth wedi mabwysiadu pedair egwyddor lefel uchel ar gyfer seilwaith, sef yr hinsawdd, pobl, lleoedd a gwerth, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn ei .
Yng nghanllawiau鈥檙 llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio, paragraff 14, cynghorir ymgeiswyr y dylent gynnwys ystod amrywiol o bobl wrth ddatblygu eu dyluniad ac y dylent esbonio sut mae鈥檔 ymateb i egwyddorion y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol.
Ategwyd egwyddorion y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ymhellach gan ganllawiau ar sut i鈥檞 cymhwyso yng nghyd-destun prosiect, sef Egwyddorion Dylunio ar Lefel Prosiect. 惭补别鈥檙 rhain yn amlinellu proses strwythuredig ar gyfer cymhwyso egwyddorion dylunio wedi鈥檜 teilwra ar bob cam o gylch oes prosiect. Gan ychwanegu at egwyddorion dylunio lefel uchel y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, mae鈥檙 Egwyddorion Dylunio ar Lefel Prosiect yn rhoi materion i ymgeiswyr eu hystyried o dan bob un o鈥檙 pedair egwyddor ddylunio.听
O ran yr hinsawdd, gall y rhain gynnwys effaith carbon, gwella鈥檙 amgylchedd gan gynnwys adfer natur, a gwrthsefyll yr hinsawdd. Mae dylunio gwirioneddol gynhwysol a hygyrch sy鈥檔 ystyriol o鈥檙 cyd-destun cymdeithasol a chymunedol yn bwysig i bobl. Dylai lleoedd ymdrin 芒 hybu ymdeimlad lleol o hunaniaeth a gwarchod y dirwedd leol. O ran gwerth, mae鈥檔 bwysig edrych y tu hwnt i ffin y safle, gan weithio gyda phartneriaid i ddatgloi gwerth ychwanegol.
Mae diben yr egwyddorion dylunio ar lefel prosiect yn cynnwys cael gweledigaeth drosfwaol gyda naratif dylunio cyd-destunol lleol, cael ei lywio gan bobl a grwpiau yr effeithir arnynt, bod yn gynhwysol ac amlygu cyfleoedd ar gyfer buddion a chanlyniadau ehangach y tu hwnt i鈥檙 prosiect ei hun.
Mae , a yn amlinellu鈥檙 polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer cyflawni dylunio da yng Nghymru. Dylai ymgeiswyr bennu鈥檙 egwyddorion dylunio priodol ar gyfer y prosiect.
Amlinellir ymagweddau at egwyddorion dylunio mewn canllawiau, fel yr Egwyddorion Dylunio ar gyfer Seilwaith Cenedlaethol, yr Egwyddorion Dylunio ar Lefel Prosiect a鈥檙 , yn ogystal ag mewn polis茂au a safonau dylunio lleol. Dylai ymgeiswyr sicrhau y bydd canlyniadau dylunio da yn cael eu sicrhau trwy ddefnyddio egwyddorion, paramedrau a chodau dylunio o鈥檙 fath.
惭补别鈥檙 yn offeryn defnyddiol ar gyfer sefydlu codau dylunio. 惭补别鈥檙 rhain yn fwyaf tebygol o fod yn berthnasol ar 么l cael caniat芒d wrth lywio cam adeiladu鈥檙 prosiect. Gellir sicrhau codau dylunio trwy ofynion neu鈥檙 Datganiad Dylunio a Mynediad.
Proses dylunio da
Mae proses dylunio da yn ailadroddus o fewn ymagwedd strwythuredig sy鈥檔 datrys problemau a sicrhau canlyniadau dylunio da.
Mae proses dylunio da yn cynnwys yr elfennau canlynol:
-
proses effeithiol, fwriadol, dryloyw, a chyflawnadwy
-
ymagwedd gydweithredol, amlddisgyblaethol sy鈥檔 cynnwys ymgysylltu鈥檔 gadarnhaol 芒鈥檙 gymuned ac yngl欧n 芒 hawliau tir
-
gweledigaeth gryno ac uchelgeisiol ar gyfer y prosiect, wedi鈥檌 seilio ar ddadansoddiad clir o鈥檙 cyd-destun ar gyfer y lle, ei amgylchedd a鈥檙 cyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol, gan gynnwys ar gyfer yr economi leol ac ehangach
-
datganiad clir o egwyddorion dylunio a fydd yn sbarduno鈥檙 prosiect ac yn cyflawni gwerth a buddion ehangach y tu hwnt i ddiben craidd y cynllun
-
naratif sy鈥檔 esbonio sut mae鈥檙 ymagwedd at ddylunio wedi esblygu, y rhesymau dros y dewisiadau a wnaed neu a fydd yn cael eu gwneud, esboniad o鈥檙 canlyniadau buddiol niferus y bydd y prosiect yn eu cyflawni a sut byddant yn cael eu sicrhau
-
arweinyddiaeth ddylunio a gefnogir gan hyrwyddwr dylunio i sicrhau bod trefniadau llywodraethu dylunio鈥檔 cael eu sicrhau a bod yr egwyddorion dylunio鈥檔 sbarduno proses ddylunio strwythuredig a hierarchaeth rheoli dylunio
Canlyniadau dylunio da
Mae cyflawni canlyniadau dylunio da yn cynnwys:
-
sicrhau cysyniad dylunio integredig a chlir, iaith ddylunio gyson, a chynaliadwyedd ar draws y prosiect
-
iaith ddylunio gyson sy鈥檔 golygu y gellir dilyn yr holl elfennau drwodd mewn penderfyniadau 么l-ganiat芒d
-
eglurder yngl欧n 芒 chyflawni cynaliadwyedd ar draws y prosiect sy鈥檔 mynd y tu hwnt i liniaru effeithiau niweidiol i gyflawni budd net economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol
-
egwyddorion dylunio sy鈥檔 ymateb yn gadarnhaol i鈥檙 pedair elfen 鈥 yr hinsawdd, pobl, lleoedd a gwerth 鈥 a sefydlwyd gan y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
-
asesiadau realistig o wydnwch ac effeithiolrwydd y prosiect yn ystod ei gam gweithredol, i ategu a sicrhau system cynnal a chadw a monitro lwyddiannus
-
digon o hyblygrwydd ar gyfer arloesedd technegol a gydbwysir gan ddigon o fanylion a rheolaethau ar gyfer cymeradwyaethau 么l-ganiat芒d a fydd yn sicrhau bod canlyniadau dylunio da yn cael eu cyflawni
-
sylw arbennig i greu lleoedd er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol y datblygiad ar gymeriad lle a chyflawni buddion cyhoeddus
-
dulliau a gynlluniwyd yn ofalus i alluogi craffu ar ganlyniadau dylunio, eu hasesu a鈥檜 datblygu yn ystod y broses ddylunio 么l-ganiat芒d. Er enghraifft, cynlluniau paramedr, codau dylunio, cynlluniau rheoli, adolygiad dylunio annibynnol ac ymgysylltiad bwriadol 芒鈥檙 gymuned a sicrheir mewn gofynion neu ddogfennau ardystiedig
Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a dylunio da
Pwysigrwydd AEA
Mae AEA yn offeryn pwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau ac fe all helpu i gyflawni canlyniadau dylunio da trwy osgoi neu leihau effeithiau niweidiol a darparu buddion trwy amlygu ffyrdd o wella鈥檙 cyfleoedd amgylcheddol neu ddiwylliannol. Mae Cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol yn rhoi mwy o wybodaeth am AEA.
Mae Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn galluogi rheoliadau sy鈥檔 mynnu bod datblygwr yn cynhyrchu 鈥楢droddiad Canlyniadau Amgylcheddol鈥 i asesu鈥檙 effaith ar gyflawni 鈥榗anlyniadau amgylcheddol penodedig鈥.
Cynyddu effeithiolrwydd AEA i鈥檙 eithaf
Bydd ymgysylltu a chydweithio ag arbenigwyr technegol ac integreiddio鈥檙 t卯m dylunio 芒鈥檙 t卯m AEA yn cynyddu effeithiolrwydd y broses i鈥檙 eithaf. Dylid defnyddio鈥檙 cydweithrediad hwn i lywio鈥檙 prif benderfyniadau dylunio a sicrhau enillion amgylcheddol.
Pan ddefnyddir ymagwedd seiliedig ar baramedrau, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 tybiaethau a鈥檙 egwyddorion dylunio sy鈥檔 sail i鈥檙 paramedrau gael eu hamlinellu鈥檔 glir.
AEA yn y broses ddylunio
Dylai AEA lywio鈥檙 broses ddylunio, a dylai ei ddylanwad ar y dyluniad gael ei fynegi鈥檔 glir yn y Datganiad Amgylcheddol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i amlygu safle ac arfarnu a dethol seilwaith wrth ystyried dewisiadau amgen.
Sefydlu dylunio da
Heriau wrth ddylunio NSIP
Mae dylunio鈥檔 fodd o ddelio 芒鈥檙 cymhlethdodau a鈥檙 heriau sy鈥檔 gysylltiedig ag NSIPau. Gall y rhain gynnwys amserlenni hir, technolegau sy鈥檔 newid a microleoli sy鈥檔 gallu dylanwadu ar ganlyniadau dylunio ac amodau newidiol y farchnad.
Yn aml, ni fydd manylion yr NSIP a ystyrir yn ystod archwiliad yn adlewyrchu鈥檙 seilwaith terfynol a adeiladwyd oherwydd bydd angen mewnbwn dylunio ychwanegol am y rhesymau a amlinellir uchod. Felly, bydd angen i鈥檙 Awdurdod Archwilio (ExA) fod yn fodlon bod tystiolaeth bod ymgeiswyr wedi ymwneud 芒 phroses sy鈥檔 gallu cyflawni canlyniadau dylunio da, sy鈥檔 benodol i鈥檙 math o seilwaith a gynigir ac yn gymesur ag ef, a鈥檜 bod wedi ymrwymo i鈥檙 broses honno. Bydd angen i鈥檙 rhain gael eu sicrhau gan y Gorchymyn Caniat芒d Datblygu (DCO) trwy ofynion, amodau, cynlluniau rheoli neu ddogfennau eraill ardystiedig.
Diagram proses dylunio da
惭补别鈥檙 diagram isod yn ddisgrifiad graffigol o elfennau鈥檙 broses ddylunio gyffredinol y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio鈥檔 disgwyl gweld tystiolaeth ohonynt yn ystod y camau cyn-ymgeisio ac archwilio.
A flow diagram showing the design process through four stages: 'assemble, research, co-ordinate and secure'.
Dylid ystyried yr elfennau canlynol yn ystod y broses cyn-ymgeisio a rhoi sylw iddynt mewn cais NSIP. Bydd angen mynd i鈥檙 afael 芒 nhw i raddau amrywiol yn dibynnu ar natur y seilwaith a gynigir a鈥檙 safle. Gellir ceisio cyngor cyn-ymgeisio gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn hyn o beth.
Cydosod
惭补别鈥檙 cam hwn yn gofyn am friff sy鈥檔 amlinellu diben y prosiect, cyllideb, amserlen arfaethedig, t卯m amlddisgyblaethol sydd 芒 sgiliau dylunio a chasglu gwybodaeth sylfaenol a all lywio鈥檙 broses o ystyried dewisiadau amgen a dethol safle yn y pen draw.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 t卯m prosiect amlddisgyblaethol ddefnyddio鈥檙 wybodaeth a gasglwyd ganddo i ddatblygu gweledigaeth. Dylai鈥檙 weledigaeth gynnwys naratif cymhellol, sy鈥檔 mynd y tu hwnt i ddatrys problemau technegol a chydymffurfio 芒 pholisi ac sy鈥檔 ystyried adeiladu yn ogystal 芒 gweithredu. Dylai ddiffinio uchelgais sy鈥檔 mynd y tu hwnt i derfynau鈥檙 Gorchymyn yn unol 芒 chanlyniadau sy鈥檔 ehangach na therfynau鈥檙 prosiect. Mae鈥檔 rhaid iddi gynnwys datblygu egwyddorion dylunio.
Ymchwilio
Mae angen i鈥檙 cam hwn fod yn ailadroddol. Dylai ddadansoddi cyfyngiadau a chyfleoedd yn ymwneud 芒 thechnoleg a lleoliad gan ddisgrifio sut mae鈥檙 dyluniad wedi esblygu o鈥檙 briff. Bydd angen iddo liniaru effeithiau niweidiol a aseswyd yn rhan o鈥檙 broses AEA a dangos sut bydd y datblygiad arfaethedig yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol a chreu lle newydd ac unigryw. Yn ystod y cam hwn, dylai ymgysylltu ac ymgynghori 芒 phart茂on statudol, unigolion yr effeithir arnynt, cymunedau lleol a phaneli dylunio annibynnol lywio esblygiad dylunio鈥檙 prosiect. Dylid esbonio hyn.听
Cydlynu
Mae鈥檔 rhaid llunio fersiwn arall i fireinio dewisiadau ar gyfer manylion a pharamedrau. Dylai hyn gynnwys ymatebion ymgynghori a mewnbwn dylunio annibynnol, a sicrhau bod egwyddorion dylunio鈥檔 cael eu bodloni. Mae鈥檔 bosibl y bydd dewisiadau i鈥檞 gwneud. Bydd angen gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio arweinyddiaeth ddylunio gref, wedi鈥檌 sbarduno gan y weledigaeth. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cam hwn amlinellu鈥檙 broses ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ar 么l cael caniat芒d.
Sicrhau
Allbwn hanfodol y cam hwn yw amlinellu sut mae dyluniad da yn cael ei sicrhau ar gyfer y prosiect a sut y caiff ei gyflawni, gan gynnwys cyngor dylunio parhaus ac ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned. Mae鈥檔 bwysig bod ymgeiswyr yn deall y dylanwad y gallai penderfyniadau caffael ei gael a bod unrhyw anghytundebau ag awdurdodau cydsynio yn y dyfodol yn cael eu mynegi. Bydd ExAau yn disgwyl i ddyluniad manwl gael ei ddatblygu ar gyfer nodweddion lle y ceir eglurder yngl欧n 芒 sut y penderfynir ar y rhai hynny sy鈥檔 llai sicr ar 么l cael caniat芒d.
Y prif ffactorau i ymgeiswyr
Ystyriaethau ar gyfer dylunio da
Mae Atodiad A isod yn amlinellu鈥檙 ystyriaethau yn ymwneud 芒 dylunio da y dylai ymgeiswyr eu hystyried cyn gwneud cais am dderbyn o dan adran 55 y Ddeddf Cynllunio.
Y broses cyn-ymgeisio
Gall ymgeiswyr geisio cyngor gan yr Arolygiaeth Gynllunio o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio i fynd i鈥檙 afael ag ystyriaethau dylunio da. Anogir ymgeiswyr i ymgysylltu yngl欧n 芒 materion yn ymwneud 芒 dylunio da yn gynnar yn ystod datblygu鈥檙 prosiect. Y nod yw sicrhau bod y pwyslais a roddir ar ddylunio da yn yr NPSau neu ddogfennau dylunio lleol yn cael ei ystyried o鈥檙 dechrau. Dylai hyn olygu y gellir cynhyrchu ceisiadau a baratowyd yn dda, sy鈥檔 ddigon manwl, a all symud ymlaen trwy archwiliad effeithlon.
Cydnabyddir efallai y bydd angen i ymgeiswyr gael cymorth ar lefelau gwahanol yn ystod y cam cyn-ymgeisio trwy鈥檙 haenau cymorth a gynigir, a amlinellir yn y Prosbectws Cyn-ymgeisio. Un elfen o鈥檙 fath yw Dogfen Ymagwedd Ddylunio. Bydd Dogfennau Ymagwedd Ddylunio鈥檔 cynorthwyo ExAau a Phart茂on 芒 Buddiant i ddeall sut mae鈥檙 achos dylunio wedi cael ei baratoi a sut mae wedi esblygu o鈥檙 syniad cychwynnol ar gyfer y prosiect i hwnnw a gyflwynir yn y cais. Cefnogir Dogfennau Ymagwedd Ddylunio o dan y cynnig Haen 3. Maen nhw鈥檔 briodol i unrhyw NSIP fel modd o gyfleu鈥檙 achos dylunio a chefnogi archwiliad effeithlon.
Meini prawf derbyn
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod y cais a鈥檙 dogfennau ategol o safon foddhaol, gan gynnwys i ba raddau y mae鈥檙 ymgeisydd wedi ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd o dan adran 50 y Ddeddf Cynllunio.
Archwiliad, Argymhelliad a Phenderfyniad
Bydd angen dangos ymagwedd glir at ddylunio da, yr ymgynghorwyd arni ac sydd wedi ymateb i sylwadau, er mwyn cefnogi archwiliad effeithlon o鈥檙 NSIP. Bydd hefyd angen dyluniad manwl ar lefel briodol ynghyd ag eglurder yngl欧n 芒 sut y bydd cymeradwyaethau yn y dyfodol ar 么l cael caniat芒d yn cael eu hasesu a鈥檜 sicrhau. Bydd hyn yn arbed amser yn yr archwiliad (cwestiynau ysgrifenedig a gwrandawiadau, lle y bo鈥檙 angen), yn lleihau鈥檙 angen i Ysgrifenyddion Gwladol ymgynghori ymhellach ac yn lleihau鈥檙 amser sy鈥檔 ofynnol ar gyfer cymeradwyaethau 么l-ganiat芒d.
Mae dylunio da yn un ffactor y bydd angen i ExAau ei ystyried wrth adrodd ar y cydbwysedd cynllunio a gwneud unrhyw newidiadau argymelledig i DCO terfynol ymgeisydd. Bydd angen i ExAau ystyried pa mor llwyddiannus y cyflawnwyd dylunio da yn yr argymhelliad yngl欧n 芒鈥檙 prosiect. Os na ddatrysir materion dylunio, neu os na sicrheir dulliau ar gyfer cymeradwyaethau yn y dyfodol (a allai hefyd gynnwys mewnbwn dylunio annibynnol ychwanegol ac ymgynghori 芒鈥檙 gymuned), bydd angen i ExAau archwilio ffyrdd o sicrhau bod hyn yn digwydd yn eu hargymhellion.
Casgliad
Mae dylunio da yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith cynaliadwy a chynhwysol a ddyluniwyd yn dda, a dylai ymgeiswyr ddilyn yr argymhellion a鈥檙 ystyriaethau a amlinellir yn y cyngor.
Atodiad A 鈥 Materion dylunio da i鈥檞 hystyried
Mae Atodiad A yn amlinellu materion dylunio da y dylai ymgeiswyr eu hystyried cyn cyflwyno cais NSIP i鈥檞 archwilio.
Mater | Ystyriaethau |
---|---|
Dogfen Ymagwedd Ddylunio | A ddarperir Dogfen Ymagwedd Ddylunio? |
听 | A yw鈥檙 Ddogfen Ymagwedd Ddylunio yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 briff, y broses ddylunio, yr egwyddorion dylunio, a chanlyniadau buddiol? |
听 | Os na ddarperir Dogfen Ymagwedd Ddylunio, ble mae鈥檙 broses ddylunio a鈥檙 egwyddorion dylunio wedi鈥檜 hamlinellu? |
听 | 听 |
Dadansoddi, Ymchwil | Sut mae鈥檙 safle datblygu wedi cael ei ddadansoddi i lywio ymagwedd dylunio da? |
听 | Beth yw鈥檙 prif gasgliadau o鈥檙 dadansoddiad hwn sy鈥檔 llywio鈥檙 dyluniad ar y cam hwn ac wrth iddo ddatblygu? |
听 | 听 |
Ymateb | Beth yw prif effeithiau niweidiol arwyddocaol y datblygiad arfaethedig a sut yr eir i鈥檙 afael 芒 nhw i alluogi dylunio da? |
听 | 听 |
Gweledigaeth | Beth yw鈥檙 weledigaeth ar gyfer y datblygiad wedi鈥檌 gwblhau a鈥檌 gyffiniau? Ble mae hyn wedi鈥檌 amlinellu? |
听 | Amlinellwch y naratif, sut bydd y weledigaeth yn cyflawni cynaliadwyedd, yn creu lle newydd ac yn dal y dyluniad at ei gilydd. |
听 | 听 |
Sgiliau | Pa ddisgyblaethau proffesiynol a setiau sgiliau sy鈥檔 gweithio ar ddyluniad y prosiect ac a fydd yn gweithio arno? |
听 | A oes hyrwyddwr dylunio wedi鈥檌 ddynodi ar gyfer y prosiect hwn ac, os felly, pwy ydyw a beth yw ei sgiliau? |
听 | 听 |
Datblygu鈥檙 dyluniad | Disgrifiwch yr ymagwedd at ddylunio da ac esboniwch sut mae鈥檙 dyluniad wedi esblygu (ac y bydd yn parhau i esblygu). |
听 | Sut mae unrhyw hyblygrwydd sy鈥檔 ofynnol yn derbyn sylw? |
听 | Pa ddewisiadau dylunio sydd wedi cael eu gwneud (ac a fydd yn cael eu gwneud)? |
听 | Beth yw鈥檙 egwyddorion dylunio sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg a sut mae鈥檙 egwyddorion wedi llywio penderfyniadau yn uniongyrchol? |
听 | A oes ymagwedd hierarchaidd at elfennau o鈥檙 cynnig (er enghraifft wrth ddylunio pontydd pwysig a llai pwysig mewn cynllun priffyrdd)? |
听 | A ddefnyddiwyd technegau digidol, gan gynnwys algorithmau a deallusrwydd artiffisial, i ddatblygu鈥檙 dyluniad? Os felly, esboniwch yr offer a鈥檙 data a ddefnyddiwyd. |
听 | A oes naratif cydlynol yngl欧n 芒 sut mae鈥檙 ymagwedd at ddylunio wedi esblygu? |
听 | Ble mae鈥檙 canlyniadau dylunio wedi鈥檜 hamlinellu? |
听 | A fydd gwerth ychwanegol y tu hwnt i ffin y safle yn cael ei gynnwys? |
听 | 听 |
Adolygiad dylunio annibynnol | A yw datblygiad y dyluniad wedi bod yn destun adolygiad dylunio annibynnol? |
听 | Os felly, beth oedd y prif sylwadau a sut mae鈥檙 dyluniad wedi ymateb iddynt? |
听 | A fwriedir cynnwys adolygiadau o鈥檙 dyluniad ar 么l cael caniat芒d? Os felly, sut mae鈥檙 rhain yn cael eu sicrhau? |
听 | 听 |
Cyflawni | Sut bydd y dyluniad terfynol yn cael ei gyflawni? A fydd cynllun rheoli dylunio, canllaw dylunio neu god dylunio? Os na, pam nad oes eu hangen? |
听 | A oes cynllun ymgynghori yngl欧n 芒鈥檙 dyluniad i ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned ar 么l i鈥檙 DCO gael ei ganiat谩u? |
听 | A oes proses gytunedig ar gyfer penderfyniadau 么l-ganiat芒d gydag awdurdodau cynllunio lleol ac eraill, pan fydd angen? |
听 | 听 |
Lleoedd | Sut mae creu lleoedd yn derbyn sylw? |
听 | Sut bydd y lle hwn yn unigryw a sut bydd y gymuned yn elwa ohono? |
听 | Disgrifiwch beth fydd y canlyniad ansawdd lle, sut mae hyn yn berthnasol i鈥檙 weledigaeth a sut y caiff ei sicrhau. |
听 | 听 |
Pobl | Pa ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag awdurdodau statudol a lleol, cymunedau a phobl sydd 芒 buddiant yn y tir? |
听 | Sut bydd eu safbwyntiau鈥檔 cael eu cynnwys yn esblygiad y dyluniad a ble bydd hyn yn cael ei amlinellu? |
听 | 听 |
Ymagwedd ddylunio integredig | Esboniwch sut y bydd ymagwedd gyfannol, integredig at ddylunio鈥檙 prosiect yn cael ei chyflawni. |
听 | Ble y dangosir hyn yn y dogfennau? A oes uwchgynllun? |
听 | Sut bydd hyn yn cael ei sicrhau? |
听 | 听 |
Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSau) | Sut mae鈥檙 gofynion ar gyfer dylunio da yn yr NPS (neu鈥檙 NPSau) perthnasol wedi cael eu bodloni? |
听 | 听 |
Egwyddorion Dylunio | Amlinellwch yr egwyddorion dylunio da sy鈥檔 cael eu cymhwyso i鈥檙 prosiect. |
听 | A yw鈥檙 egwyddorion dylunio wedi鈥檜 strwythuro neu wedi鈥檜 trefnu mewn grwpiau yn rhesymegol? |
听 | Sut byddant yn cael eu datblygu cyn cael caniat芒d? |
听 | Sut byddant yn cael eu dangos a鈥檜 sicrhau? |
听 | 听 |
鈥楨gwyddorion鈥 y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol | A oes ymateb i bedair egwyddor dylunio da y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol? |
听 | Os na, pa egwyddorion dylunio a fabwysiadwyd? |
听 | Pa broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu ac ymgorffori egwyddorion dylunio ar lefel prosiect? |
听 | 听 |