Canllawiau

Cyflogres: talu treuliau a buddiannau'ch cyflogeion drwy鈥檆h cyflogres

Sut i roi gwybod am y treuliau a鈥檙 buddiannau yr ydych yn eu darparu i'ch cyflogeion neu gyfarwyddwyr.

Sut i gofrestru i dalu treuliau a buddiannau drwy鈥檙 gyflogres

Os ydych yn bwriadu talu unrhyw dreuliau a buddiannau drwy鈥檙 gyflogres, mae鈥檔 rhaid i chi eu cofrestru 芒 Chyllid a Thollau EM gan ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth talu buddiannau a threuliau trethadwy cyflogeion drwy鈥檙 gyflogres. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn dechrau鈥檙 flwyddyn dreth.

Drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy鈥檙 gyflogres, ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D. Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEM pa fuddiannau yr ydych am eu talu drwy鈥檙 gyflogres yn ystod y broses gofrestru.

Bydd cod treth pob cyflogai sy鈥檔 cael y buddiannau hyn yn cael ei newid, oni bai eich bod yn eithrio cyflogeion nad ydych chi eisiau talu eu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres gan ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.

Os byddwch yn methu鈥檙 dyddiad cau ar gyfer cofrestru, ni fyddwch yn gallu talu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres tan y flwyddyn dreth ganlynol.

Sut i ddadgofrestru o鈥檙 gwasanaeth ar-lein

Mae鈥檆h cofrestriad yn barhaus, felly does dim ond angen i chi roi gwybod i CThEM os ydych yn penderfynu dadgofrestru. Gallwch wneud hyn cyn dechrau鈥檙 flwyddyn dreth drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein.

Os yw鈥檙 flwyddyn dreth wedi dechrau pan fyddwch yn newid eich meddwl, mae鈥檔 rhaid i chi aros tan ddiwedd y flwyddyn dreth cyn rhoi鈥檙 gorau i ddefnyddio鈥檙 gyflogres. Mae dal yn rhaid i chi ddidynnu treth bob diwrnod cyflog a rhoi gwybod i CThEM am hyn.

Buddiannau y gallwch eu talu drwy鈥檙 gyflogres

Gallwch dalu pob buddiant drwy鈥檙 gyflogres oni bai am y canlynol:

  • llety preswyl a ddarperir gan y cyflogwr
  • benthyciadau llog isel a di-log (buddiannol)

Mae dal yn rhaid i chi nodi鈥檙 buddiannau hyn ar ffurflen P11D, hyd yn oed os ydych yn talu buddiannau eraill drwy鈥檙 gyflogres ar gyfer yr un cyflogeion.

Os byddwch yn dewis talu buddiannau ceir cwmni drwy鈥檙 gyflogres, ni fydd angen i chi gyflwyno ffurflen P46(Car). Fodd bynnag, os nad yw鈥檙 buddiant yn cael ei dalu drwy鈥檙 gyflogres, mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno P46(Car) (yn agor tudalen Saesneg).

Rhoi gwybod i鈥檆h cyflogeion

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i dalu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres, bydd yn rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i鈥檆h cyflogeion yn esbonio eich bod yn talu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres a beth mae hynny鈥檔 ei olygu iddynt. Gallwch ddewis gwneud hyn, er enghraifft, drwy鈥檙 canlynol:

  • slipiau cyflog
  • e-byst
  • llythyrau

Mae鈥檔 rhaid i chi anfon yr hysbysiad erbyn 1 Mehefin ar 么l diwedd pob blwyddyn dreth. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 hysbysiad roi gwybod i鈥檆h cyflogeion na fyddant yn cael eu trethu ddwywaith oherwydd eich bod wedi cofrestru i dalu eu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres gyda CThEM cyn dechrau鈥檙 flwyddyn dreth newydd. Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • manylion y buddiannau rydych wedi鈥檜 talu drwy鈥檙 gyflogres, er enghraifft tanwydd ceir 鈥 gall hyn gynnwys beth yw鈥檙 buddiannau, y gwerth, y cyfwerth mewn arian parod a pha rai sydd wedi bod yn agored i dreth TWE
  • y swm rydych wedi鈥檌 dalu drwy鈥檙 gyflogres ar gyfer Trefniadau T芒l Opsiynol (OpRA)
  • manylion y buddiannau nad ydych wedi鈥檜 talu drwy鈥檙 gyflogres

Dylech hefyd roi gwybod i鈥檆h cyflogeion beth fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd angen iddynt wybod y canlynol:

  • bydd eu cod treth yn newid i dynnu鈥檙 addasiad ar gyfer eu buddiannau
  • byddwch yn rhoi鈥檙 swm sydd wedi鈥檌 addasu drwy鈥檙 gyflogres bob mis a byddant yn talu treth ar y swm hwnnw
  • ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn rhoi gwybod iddynt faint o fuddiant trethadwy y maent wedi鈥檌 gael yn ystod y flwyddyn a beth oedd ei bwrpas

Cyflogeion newydd

Os oes gennych gyflogai newydd a鈥檆h bod yn rhoi buddiant iddo a fydd yn cael ei dalu drwy鈥檙 gyflogres, mae鈥檔 rhaid i chi egluro sut y bydd y buddiant hwnnw鈥檔 cael ei drethu.

Rhowch wybod i鈥檙 cyflogai:

  • efallai y bydd ei god treth yn cael ei newid er mwyn addasu unrhyw fuddiannau o gyflogaethau blaenorol
  • ni fydd y buddiant newydd yn cael ei gynnwys yn ei god treth
  • bydd unrhyw dreth heb ei thalu, sydd efallai鈥檔 cael ei thalu drwy ddefnyddio cod treth presennol y cyflogai, yn dal yn cael ei chasglu drwy鈥檙 cod treth

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A

Bydd dal i fod angen i chi gyfrifo鈥檙 CYG Dosbarth 1A ar yr arian parod cyfatebol (neu鈥檙 swm perthnasol at ddibenion OpRA) a llenwi ffurflen P11D(b). Mae CYG Dosbarth 1A yn gymwys p鈥檜n a ydych yn talu鈥檙 buddiannau drwy鈥檙 gyflogres neu鈥檔 rhoi gwybod amdanynt i CThEM ar ffurflen P11D.

Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnod o鈥檙 buddiannau yr ydych yn eu darparu drwy gydol y flwyddyn dreth, fel bod modd i chi roi gwybod ynghylch a chyflwyno鈥檆h ffurflen P11D(b) a鈥檙 taliad CYG Dosbarth 1A yn gywir. Mae鈥檔 rhaid gwneud hyn erbyn 6 Gorffennaf ar 么l diwedd y flwyddyn dreth.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno ffurflen P11D(b) ar gael yn CWG5: Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (yn agor tudalen Saesneg).

Enghraifft: mae鈥檙 cyflogwr eisiau talu buddiant yswiriant iechyd ei gyflogeion drwy鈥檙 gyflogres

Mae鈥檔 talu 拢600 y flwyddyn ar gyfer pob cyflogai am hyn. Mae鈥檔 rhoi gwybod i鈥檞 gyflogeion ei fod am dalu鈥檙 buddiant hwn drwy鈥檙 gyflogres.

Mae鈥檔 cofrestru gyda鈥檙 gwasanaeth ar-lein ac yn dewis buddiant meddygol fel y buddiant y mae am ei dalu drwy鈥檙 gyflogres.

Bydd codau treth ei gyflogeion yn newid yn awtomatig er mwyn tynnu鈥檙 addasiad ar gyfer y buddiant hwn - rhoddir gwybod i鈥檙 cyflogeion gan CThEM.

Yn ystod y flwyddyn dreth, bydd y cyflogwr yn cyfrifo鈥檙 swm trethadwy ar gyfer y buddiant ac yn ychwanegu hwn at gyflog misol gwirioneddol y cyflogeion.

Rhennir y gost flynyddol rhwng nifer y diwrnodau cyflog yn ystod y flwyddyn, a bydd y cyflogeion yn talu treth ar y swm hwn. Gellir cyfrifo hwn fel a ganlyn:

拢600 梅 12 = 拢50 y mis

Sut i gyfrifo鈥檙 arian parod cyfatebol

Rydych yn cyfrifo鈥檙 arian parod cyfatebol ar gyfer buddiant yn yr un modd ag y byddech yn ei wneud ar gyfer buddiant yr ydych yn ei gofnodi ar ffurflen P11D.

Os nad ydych yn si诺r beth yw gwerth y buddiant ar ddechrau鈥檙 flwyddyn dreth, gallwch amcangyfrif yr arian parod cyfatebol ar gyfer y buddiant. Gallwch ei addasu鈥檔 nes ymlaen yn ystod y flwyddyn pan fyddwch yn gwybod yr union werth.

Gallwch ddefnyddio鈥檙 canlynol i gyfrifo arian parod cyfatebol y buddiannau yr ydych yn eu darparu:

Ceir diesel sy鈥檔 cydymffurfio 芒 RDE2 (a elwir hefyd yn Euro 6d) ar gyfer y flwyddyn dreth 2018 i 2019

Os yw鈥檙 car diesel cwmni鈥檔 cydymffurfio 芒 RDE2 (a elwir hefyd yn Euro 6d), mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 ganran briodol ar gyfer 鈥楳ath o Danwydd A 鈥 Pob car arall鈥 pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifo鈥檙 arian parod cyfwerth ar gyfer y buddiant car a鈥檙 t芒l buddiant tanwydd car
  • rhowch wybod am geir diesel cwmni sy鈥檔 cydymffurfio 芒 RDE2 (a adwaenir hefyd fel Euro 6d) ar ffurflenni P11D neu P46 (Car)

Os ydych wedi cofrestru i dalu鈥檙 buddiant car a鈥檙 t芒l buddiant tanwydd car drwy鈥檙 gyflogres, dylech gyfrifo鈥檙 arian parod cyfwerth gan ddefnyddio鈥檙 ganran briodol ar gyfer 鈥楳ath o Danwydd A鈥 ac yna:

  • nodi hyn ym Mlwch 182 o鈥檙 Cyflwyniad Taliadau Llawn
  • nodi 鈥楢鈥 ym Mlwch 177 o鈥檙 Cyflwyniad Taliadau Llawn

Trefniadau cydnabyddiaeth opsiynol (OpRA), a elwir hefyd yn aberthu cyflog

OpRA yw pan fydd cyflogai鈥檔 ildio鈥檙 hawl i gael swm o enillion (a elwir yn aberthu cyflog, fel arfer) yn gyfnewid am fuddiant nad yw ar ffurf arian.

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, os ydych yn sefydlu OpRA newydd, bydd angen i chi gyfrifo gwerth y buddiant nad yw ar ffurf arian drwy ddefnyddio鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol, p鈥檜n bynnag sydd uchaf:

Nid yw鈥檙 rheolau newydd yn gymwys i:

  • taliadau i gynlluniau pensiwn
  • cyngor ar bensiynau a roddir gan y cyflogwr
  • talebau gofal plant, meithrinfeydd yn y gweithle, a gofal plant sy鈥檔 cael ei gontractio gan y cyflogwr
  • cynllun beicio i鈥檙 gwaith
  • ceir gydag allyriadau CO2 o 75g/km neu lai

OpRA a sefydlwyd cyn 6 Ebrill 2017

Os gwnaethoch sefydlu OpRA gyda chyflogai cyn 6 Ebrill 2017, gallwch barhau i gyfrifo gwerth y buddiant (yn agor tudalen Saesneg) fel yr oeddech yn ei wneud o鈥檙 blaen.

Bydd y rhan fwyaf o drefniadau鈥檔 amodol ar y rheolau newydd o 6 Ebrill 2018 ymlaen, oni bai eu bod yn cael eu hamrywio, eu hadnewyddu neu eu haddasu cyn y dyddiad hwnnw.

Pan mai darparu car gydag allyriadau o fwy na 75g CO2/km, llety byw neu ffioedd ysgol yw鈥檙 buddiant, mae鈥檙 rheolau trosiannol yn gymwys am gyfnod hwy. Ni fydd y rheolau newydd yn gymwys tan 6 Ebrill 2021.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am OpRA ac Aberthu Cyflog (yn agor tudalen Saesneg).

O 6 Ebrill 2018 ymlaen, bydd deddfwriaeth TWE yn caniat谩u i gyflogwyr dalu symiau perthnasol drwy鈥檙 gyflogres o dan drefniadau o鈥檙 fath.

Enghraifft: Mae Peter yn dechrau swydd newydd ar 10 Ebrill 2018, ac yn aberthu rhan o鈥檌 gyflog yn gyfnewid am fuddiant meddygol.

拢500 yw鈥檙 gost i鈥檙 cyflogwr, ond mae angen i Peter aberthu 拢600 o鈥檌 gyflog yn gyfnewid am y buddiant. 拢600 yw鈥檙 鈥榮wm a aberthir鈥.

O dan y rheolau newydd, yr arian parod cyfatebol neu鈥檙 arian a aberthir, p鈥檜n bynnag sydd uchaf, yw鈥檙 swm perthnasol at ddibenion didyniadau treth TWE.

Felly, yn achos Peter, mae鈥檙 cyflogwr (sydd wedi cofrestru cyn hyn i dalu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres) yn cyfrifo鈥檙 didyniadau treth TWE ar y 拢600, sef y 鈥榮wm trethadwy鈥, ac yn eu cyflwyno drwy ddefnyddio Gwybodaeth Amser Real (RTI).

Rhaid cynnwys y swm trethadwy ar:

  • y P60 ar ddiwedd y flwyddyn fel rhan o 鈥榞yfanswm y cyflog trethadwy yn y flwyddyn鈥
  • unrhyw P45 yn y blwch 鈥榗yfanswm y cyflog trethadwy hyd yma鈥

Cyfnodau talu a ddefnyddir i dalu鈥檙 swm trethadwy drwy鈥檙 gyflogres

Er mwyn cyfrifo swm trethadwy鈥檙 buddiant yr ydych yn ei dalu drwy鈥檙 gyflogres bob diwrnod cyflog, mae angen i chi wybod nifer y dyddiau yr ydych yn disgwyl talu鈥檆h cyflogeion yn ystod y flwyddyn dreth. Mae nifer y diwrnodau cyflog yn dibynnu ar y bwlch rhwng pob diwrnod cyflog (y cyfnod cyflog). Caiff y rhan fwyaf o gyflogeion eu talu bob wythnos, bob mis calendr neu bob 4 wythnos.

Enghraifft: mae gan gyflogai gar cwmni sydd ag arian parod cyfatebol o 拢5,200

Caiff y cyflogai ei dalu bob wythnos (52 o ddiwrnodau cyflog). Swm trethadwy鈥檙 buddiant yw 拢5,200 梅 52 = 拢100. Wedyn mae鈥檙 cyflogwr yn ychwanegu 拢100 at gyflog trethadwy鈥檙 cyflogai bob diwrnod cyflog.

Caiff y cyflogai ei dalu bob mis (12 o ddiwrnodau cyflog). Swm trethadwy鈥檙 buddiant yw 拢5,200 梅 12 = 拢433.33. Wedyn mae鈥檙 cyflogwr yn ychwanegu 拢433.33 at gyflog trethadwy鈥檙 cyflogai bob diwrnod cyflog.

Caiff y cyflogai ei dalu bob pedair wythnos (13 o ddiwrnodau cyflog). Swm trethadwy鈥檙 buddiant yw 拢5,200 梅 13 = 拢400. Wedyn mae鈥檙 cyflogwr yn ychwanegu 拢400 at gyflog trethadwy鈥檙 cyflogai bob diwrnod cyflog.

Cyfnodau talu afreolaidd

Ystyr cyfnodau talu afreolaidd yw incwm cyflogaeth sy鈥檔 cael ei dalu heb batrwm penodedig. Er mwyn cyfrifo swm trethadwy鈥檙 buddiant, rhannwch yr arian parod cyfatebol 芒 365, wedyn lluosi hwnnw 芒 nifer y diwrnodau rhwng dechrau鈥檙 flwyddyn dreth a dyddiad y cyfnod cyflog.

Enghraifft: caiff car cwmni ei ddarparu i gyflogai, sydd ag arian parod cyfatebol o 拢5,200 ar gyfer y flwyddyn dreth

Caiff y cyflogai ei dalu ar 31 Mai, sydd 56 diwrnod ers dechrau鈥檙 flwyddyn dreth.

拢5,200 梅 365 x 56 diwrnod = 拢797.80 i鈥檞 ychwanegu at y cyflog trethadwy yn ystod y cyfnod hwnnw.

Y tro nesaf y byddwch yn talu鈥檆h cyflogai, cyfrifwch y cyfnod y cafodd y buddiant ei ddarparu o鈥檙 dyddiad y talwyd eu cyflog diwethaf, yn hytrach nag o ddechrau鈥檙 flwyddyn dreth.

Sut i ddidynnu neu ad-dalu treth

Rydych yn ychwanegu swm trethadwy鈥檙 buddiant at gyflog eich cyflogai er mwyn gallu didynnu鈥檙 swm cywir o dreth.

Enghraifft: mae cyflogai鈥檔 ennill 拢24,000 y flwyddyn, yn cael ei dalu bob mis ac mae ganddo gar cwmni sydd ag arian parod cyfatebol o 拢5,200

Cyn ei dalu drwy鈥檙 gyflogres, cyflog misol trethadwy鈥檙 cyflogai yw 拢2,000 (拢24,000 梅 12 = 拢2,000).

Swm trethadwy鈥檙 buddiant car bob diwrnod cyflog yw 拢433.33 (拢5,200 梅 12 = 拢433.33 ).

Cyfanswm cyflog trethadwy鈥檙 cyflogai pan gaiff ei dalu drwy gyflogres yw 拢2,433.33 (拢2,000 + 拢433.33 = 拢2,433.33).

Ar 么l i gyfanswm y cyflog a swm trethadwy鈥檙 buddiant gael eu nodi ar y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg), dylid cyfrifo鈥檙 dreth TWE

Cyflogai鈥檔 cyfrannu tuag at gost buddiant

Efallai y bydd y cyflogwr yn cytuno bod y cyflogeion yn gallu gwneud taliadau tuag at gost buddiant. Gelwir hyn yn 鈥榗yfrannu鈥. Pan fo cyflogeion yn gwneud hyn, mae arian parod cyfatebol y buddiant yn cael ei leihau.

Os cyfrannir cost lawn y buddiant, does dim buddiant trethadwy gan fod y cyflogai wedi talu amdano.

Ni fydd unrhyw symiau a gyfrannir ar 么l 6 Gorffennaf yn cael effaith ar yr arian parod cyfatebol. Golyga hyn y bydd y buddiant yn dal i fod yn drethadwy ac yn agored i CYG, ac ni fydd modd i鈥檙 cyflogwr ei addasu.

Ar gyfer buddiannau a delir drwy鈥檙 gyflogres, mae鈥檙 canllawiau isod yn egluro beth y dylid ei wneud mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Cyflogai鈥檔 methu 芒 chyfrannu at fuddiant erbyn y diwrnod cyflog terfynol

Pan fo cost buddiant yn hysbys, ac nid yw鈥檙 cyflogai wedi cyfrannu erbyn y diwrnod cyflog terfynol, mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm trethadwy鈥檙 buddiant sy鈥檔 dal angen ei drethu
  • ychwanegu鈥檙 swm trethadwy at daliad cyflog olaf y cyflogai yn y flwyddyn dreth
  • cyfrifo鈥檙 dreth y dylid ei didynnu

Ni allwch ddidynnu鈥檙 holl dreth o鈥檙 taliad cyflog olaf os yw hynny鈥檔 fwy na 50% o鈥檙 cyflog.

Cyfrannu: buddiant tanwydd preifat ar gyfer ceir a faniau

Efallai bod gennych drefniant 芒鈥檆h cyflogai lle y bydd yn cyfrannu gwir gost y tanwydd preifat er mwyn osgoi talu treth buddiant tanwydd ar gar neu fan cwmni.

Efallai na fyddwch yn gwybod faint o danwydd sydd wedi cael ei brynu erbyn diwedd y flwyddyn dreth, naill ai oherwydd:

  • eich bod yn aros i鈥檙 cyflenwr anfon y bil ar gyfer y tanwydd, neu
  • nid yw鈥檆h cyflogai wedi bod mewn sefyllfa i gyfrifo鈥檌 filltiroedd preifat ar 5 Ebrill

Pan fyddwch yn cael gwybod beth yw gwir gost y tanwydd ar gyfer milltiroedd preifat, bydd gan eich cyflogai tan 1 Mehefin i gyfrannu鈥檙 holl gost, neu gyfran ohoni.

Os bydd eich cyflogai鈥檔 methu 芒 gwneud hynny, mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo cost y buddiant tanwydd
  • ychwanegu cost y buddiant tanwydd fel swm trethadwy at y taliad cyflog nesaf ar 1 Mehefin neu ar 么l hynny
  • cyfrifo鈥檙 swm TWE

Os bydd y buddiant yn parhau ar 么l 1 Mehefin, mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ail-gyfrifo鈥檙 buddiant tanwydd car neu danwydd fan ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • cynnwys hwn fel swm trethadwy o fuddiant bob diwrnod cyflog

Gwneir hyn er mwyn osgoi sefyllfa debyg ar ddiwedd y flwyddyn dreth nesaf.

Cyfrannu: tocynnau credyd

Efallai bod gennych drefniant gyda鈥檆h cyflogai lle y mae鈥檔 gallu defnyddio cerdyn credyd y busnes, ond ei fod yn talu am unrhyw bryniannau preifat a wnaiff 芒鈥檙 cerdyn.

Efallai na fyddwch yn gwybod faint y mae鈥檆h cyflogai wedi鈥檌 wario ar nwyddau a gwasanaethau preifat gan ddefnyddio鈥檙 cerdyn credyd erbyn diwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft:

  • rydych yn disgwyl i鈥檙 darparwr anfon y bil
  • efallai nad yw manylion y trafodyn gan eich cyflogai

Pan fydd y swm yn hysbys, bydd gan eich cyflogai tan 1 Mehefin i gyfrannu gwir gost y buddiant. Os bydd eich cyflogai鈥檔 methu 芒 chyfrannu鈥檙 holl gost neu gyfran ohoni erbyn 1 Mehefin ar 么l diwedd y flwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm y buddiant sy鈥檔 dal angen ei drethu, gan ystyried unrhyw symiau blaenorol a gyfrannwyd
  • ychwanegu鈥檙 swm at y taliad cyflog nesaf ar 1 Mehefin neu ar 么l hynny
  • talu鈥檙 costau ar gyfer defnyddio鈥檙 cerdyn credyd ym mlwyddyn 2 drwy鈥檙 gyflogres, heb ganiat谩u鈥檙 addewid i gyfrannu

Enghraifft:

Mae gan gyflogai鈥檙 hawl i ddefnyddio cerdyn credyd y cwmni yn ystod y flwyddyn dreth, a 拢120 yw鈥檙 swm a wariwyd. Cytunwyd ar ddechrau鈥檙 flwyddyn y byddai鈥檙 cyflogai鈥檔 addo cyfrannu 拢30, ac mae鈥檔 gwneud hyn. Mae hynny鈥檔 golygu mai 拢90 yw鈥檙 swm trethadwy ar ddiwedd y flwyddyn.

Cytunodd y cyflogai hefyd ar ddechrau鈥檙 flwyddyn dreth y byddai鈥檙 cyflogwr yn codi treth o 拢5 y mis drwy dalu drwy鈥檙 gyflogres gan ddisgwyl buddiant. Felly, cafodd 拢60 o鈥檙 bil cerdyn credyd ei dalu drwy鈥檙 gyflogres.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd y cyflogwr yn tynnu鈥檙 拢60 a dalwyd drwy鈥檙 gyflogres o鈥檙 拢90 sy鈥檔 drethadwy. Mae hyn yn golygu bod 拢30 ar 么l i鈥檞 drethu.

Os na fydd y cyflogai鈥檔 cyfrannu鈥檙 拢30 erbyn 1 Mehefin, caiff hwnnw ei ychwanegu at y taliad cyflog nesaf ar 1 Mehefin neu ar 么l hynny.

Os yw鈥檙 cyflogai鈥檔 defnyddio鈥檙 cerdyn credyd i brynu nwyddau a gwasanaethau preifat ym mlwyddyn 2, bydd y swm cyfan yn cael ei drethu drwy鈥檙 gyflogres yn y flwyddyn honno, heb ystyried unrhyw symiau a gyfrannwyd. Mae hyn yn atal y cyflogai rhag peidio 芒 thalu treth mewn pryd, fel ag y gwnaeth ym mlwyddyn 1.

Efallai y bydd angen i chi ail-gyfrifo鈥檙 swm trethadwy (yn agor tudalen Saesneg).

Treth y cyflogai鈥檔 fwy na 50% o鈥檌 gyflog

Ni ddylai cyflogwyr ddidynnu mwy na 50% o dreth o gyflog y cyflogai. Gelwir hyn y terfyn pennaf, ac mae鈥檔 sicrhau nad yw cyflogeion yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt ddigon o gyflog i dalu鈥檜 costau byw.

O dan rai amgylchiadau, gallai traul neu fuddiant gwerth uchel, wedi鈥檌 gyfuno 芒 chyflog isel, olygu mai ychydig iawn o arian, neu ddim o gwbl, y byddai gan y cyflogai yn ei law. Gallai hyn ddigwydd pan fo鈥檙 cyflogai鈥檔 cael T芒l Salwch Statudol.

Mae gennych hawl i atal talu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres, os oes angen, pan fo didynnu鈥檙 dreth ar gyfer y buddiant yn golygu y bydd y dreth sy鈥檔 daladwy鈥檔 fwy na 50% o gyflog clir y cyflogai.

Mae gennych 2 opsiwn:

Opsiwn 1

Gallwch eithrio鈥檙 cyflogai rhag talu drwy鈥檙 gyflogres drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein. Os byddwch yn ei eithrio am weddill y flwyddyn dreth, bydd y buddiant y mae鈥檔 ei gael yn cael ei ailgyflwyno i鈥檞 god treth. Dylai鈥檆h cyflogai wirio bod y cod diwygiedig yn cynnwys swm cywir y buddiant er mwyn sicrhau nad yw鈥檔 talu gormod o dreth neu ddim digon.

Bydd angen i chi anfon ffurflen P11D ar 么l diwedd y flwyddyn dreth ar gyfer y cyflogai sydd wedi鈥檌 eithrio. Caiff y swm ar y ffurflen P11D, ac unrhyw dreth sydd eisoes wedi鈥檌 thalu drwy鈥檙 gyflogres, ei chynnwys yng nghyfrifiad treth y cyflogai ar 么l diwedd y flwyddyn.

Os ydych am ailddechrau talu drwy鈥檙 gyflogres yn y flwyddyn dreth ganlynol, bydd yn rhaid i chi aros tan ar 么l i chi anfon eich ffurflen P11D, gan ei fod yn sbardun ar gyfer newid codau treth. Er mwyn ailddechrau talu drwy鈥檙 gyflogres, gallwch adolygu鈥檙 rhestr o gyflogeion sydd wedi鈥檜 heithrio a thynnu鈥檙 cyflogai oddi arni.

Opsiwn 2

Gallwch barhau i dalu鈥檙 cyflogai drwy鈥檙 gyflogres a chario swm trethadwy鈥檙 buddiant ymlaen i gyfnodau cyflog yn nes ymlaen yn y flwyddyn dreth honno.

Enghraifft:

Telir 拢1,000 y mis i gyflogai, a鈥檌 god treth yw 1060L.

Mae ganddo fuddiant car sy鈥檔 ychwanegu 拢4,000 at ei gyflog trethadwy ym mis Medi, sy鈥檔 golygu bod ganddo gyflog trethadwy o 拢5,000 ar gyfer mis Medi.

Defnyddiwch y tablau treth i gyfrifo swm y dreth y mae鈥檔 rhaid ei didynnu. O dan y cod treth 1060L, bydd hyn yn 拢1,116.25.

Dim ond hyd at 拢500 y gallwch chi鈥檌 ddidynnu ym mis Medi (50% o鈥檌 gyflog, sef 拢1,000).

Caiff y 拢616.25 o dreth heb ei chasglu ei chario ymlaen i鈥檙 diwrnod cyflog nesaf.

Bydd cyfanswm y cyflog trethadwy hyd yma yng Nghyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) mis Hydref yn cynnwys y buddiant llawn.

Ym mis Hydref, bydd modd casglu hyd at 拢500 o dreth, a bydd y dreth heb ei thalu sy鈥檔 weddill ar gyfer y buddiant a chyflog mis Hydref yn cael ei chario ymlaen at ddiwrnod cyflog mis Tachwedd.

Os na fydd digon o gyfnodau cyflog i adennill y dreth sydd heb ei chasglu, bydd unrhyw dreth sydd heb ei thalu, ar 么l talu鈥檙 Cyflwyniad Taliadau Llawn olaf, yn cael ei chynnwys yn y cyfrifiad diwedd blwyddyn, ac yn cael ei hanfon at y cyflogai gan CThEM.

Newidiadau sy鈥檔 effeithio ar dreuliau a buddiannau

Os bydd pethau鈥檔 newid, megis cyflogai鈥檔 gadael neu鈥檔 newid car cwmni, bydd angen i chi ail-gyfrifo鈥檙 swm trethadwy i fynd drwy鈥檆h cyflogres. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain a newidiadau eraill ar gael yn Cyflogres: newidiadau sy鈥檔 effeithio ar dreuliau a buddiannau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Rhagfyr 2023 show all updates
  1. The link to the HMRC online calculator to work out cash equivalents of benefits an employer provides has been updated.

  2. How to register for payrolling benefits and expenses section has been changed, because there is no longer any informal payroll arrangements from April 2023.

  3. The section 'Tell your employees' has been updated with the information you need to give your employees once you've registered to payroll benefits.

  4. Updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.

  5. The employee pays towards the cost of benefit section has been updated to remove the tax deadline date.

  6. A Welsh language version of the guidance has been added.

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon