Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau.
Beth sydd ei angen arnoch
Gallwch wirio eich hun ar-lein gyda ֱ os oes gennych un o’r mathau canlynol o ID llun:
- pasbort biometrig o unrhyw wlad
- trwydded yrru llun y DU (yn llawn neu dros dro)
- trwydded breswylio biometrig y DU (BRP)
- cerdyn preswylio biometrig y DU (BRC)
- trwydded gweithiwr trawsffiniol y DU (FWP)
Byddwch hefyd angen:
- eich cyfeiriad cyfredol, a’r flwyddyn y gwnaethoch symud i mewn
- i fewngofnodi neu greu ֱ One Login
Bydd eich hunaniaeth wedi’i gwirio yn gysylltiedig â’ch ֱ One Login. Os yw pobl eraill yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost â chi i gael mynediad ֱ One Login, bydd angen iddynt greu un eu hunain gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Dim ond unwaith y gellir defnyddio cyfeiriad e-bost i wirio hunaniaeth.
Beth yw pasbort biometrig
Mae gan basbortau biometrig symbol petryal bach ar y clawr blaen. Gallwch eu defnyddio i fynd trwy gatiau electronig mewn meysydd awyr a gorsafoedd trên rhyngwladol.
Mae holl basbortau’r DU a gyhoeddwyd ar ôl 2006 yn fiometrig.
Sut i wirio os nad oes gennych y mathau hyn o ID gyda Llun
Os nad oes gennych unrhyw un o’r mathau hyn o ID gyda llun ond rydych yn byw yn y DU, defnyddiwch y gwasanaeth ֱ hwn i weld a allwch wirio yn un o’r ffyrdd canlynol:
- yn bersonol yn Swyddfa’r Post
- gyda manylion banc neu gymdeithas adeiladu - yna bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol ac ateb rhai cwestiynau diogelwch
Darllenwch y canllawiau ar wirio eich hunaniaeth.
Os nad oes gennych y dogfennau adnabod neu’r wybodaeth angenrheidiol i’w gwirio gyda ֱ neu yn Swyddfa’r Post
Gallwch ofyn i , fel cyfrifydd neu gyfreithiwr, wirio eich hunaniaeth ar eich rhan. Gelwir hyn hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod addas.
Rhybudd twyll: peidiwch â gadael i eraill ddefnyddio eich hunaniaeth.
Peidiwch â gwerthu na rhoi eich hunaniaeth i alluogi pobl nad ydych yn ymddiried ynddynt i sefydlu neu redeg cwmni. Gall troseddwyr gymryd benthyciadau a dyledion eraill yn eich enw chi, a byddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol.
. Er enghraifft, newid lliw cefndir neu faint y testun.
Updates to this page
-
Content added for clarity: Your verified identity will be connected to your ֱ One Login. If other people use the same email address as you to access ֱ One Login, they’ll need to create their own using a different email address. An email address can only be used once to verify an identity.
-
Added translation