Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Printable version

1. Trosolwg

Mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith ac yn atal eraill rhag ei ddefnyddio heb eich caniatâd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rydych chi’n cael eich diogelu gan hawlfraint yn awtomatig - nid oes rhaid i chi wneud cais na thalu ffi. Nid oes cofrestr o weithiau hawlfraint yn y DU.

Rydych yn cael eich diogelu gan hawlfraint yn awtomatig pan ydych yn creu:

  • gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol ac artistig gwreiddiol, gan gynnwys darlunio a ffotograffiaeth
  • gwaith ysgrifenedig anllenyddol gwreiddiol, megis meddalwedd, cynnwys gwe a chronfeydd data
  • recordiadau sain a cherddoriaeth
  • recordiadau ffilm a theledu
  • darllediadau
  • cynllun argraffiadau cyhoeddedig o weithiau ysgrifenedig, dramatig a cherddorol

Gallwch farcio’ch gwaith gyda’r symbol hawlfraint (©), eich enw a blwyddyn ei greu. Nid yw p’un a ydych yn marcio’r gwaith ai peidio’n effeithio ar lefel y diogelu sydd gennych.

Sut mae hawlfraint yn diogelu’ch gwaith

Mae hawlfraint yn atal pobl rhag:

  • copïo’ch gwaith
  • dosbarthu copïau ohono, boed yn rhad ac am ddim neu ar werth
  • rhentu neu fenthyg copïau o’ch gwaith
  • perfformio, dangos neu chwarae’ch gwaith yn gyhoeddus
  • gwneud addasiad o’ch gwaith
  • ei roi ar y rhyngrwyd

Hawlfraint dramor

Gallai eich gwaith gael ei ddiogelu gan hawlfraint mewn gwledydd eraill trwy gytundebau rhyngwladol, er enghraifft .

Yn y rhan fwyaf o wledydd mae hawlfraint oes yr awdur a 50 mlynedd ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o weithiau ysgrifenedig, dramatig ac artistig, ac o leiaf 25 mlynedd ar gyfer ffotograffau. Gall fod yn wahanol ar gyfer mathau eraill o waith.

Cysylltwch â’r Ganolfan Cymorth i Gwsmeriaid IPOÌýos oes gennych gwestiwn am hawlfraint ryngwladol.

Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid IPO
information@ipo.gov.uk
Ffôn: 0300 300 2000
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau

2. Pa mor hir mae hawlfraint yn parhau

Mae diogelu hawlfraint yn dechrau cyn gynted ag y bydd gwaith yn cael ei greu. Unwaith y bydd eich hawlfraint wedi dod i ben, gall unrhyw un ddefnyddio neu gopïo’ch gwaith.Ìý

Mae hyd hawlfraint yn dibynnu ar y math o waith.Ìý

Math o waith Pa mor hir mae hawlfraint yn parhau fel arfer
Gwaith ysgrifenedig, dramatig, cerddorol ac artistig 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur
Recordio sain a cherddoriaeth 70 mlynedd ers ei gyhoeddi gyntafÌý
Ffilmiau 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfarwyddwr, awdur sgript a chyfansoddwr
Darllediadau 50 mlynedd o’i ddarlledu gyntafÌý
Cynllun argraffiadau cyhoeddedig o weithiau ysgrifenedig, dramatig neu gerddorol 25 mlynedd o’i gyhoeddi gyntafÌý

Mae hyd hawlfraint hefyd yn dibynnu ar ba mor bell yn ôl y crëwyd y gwaith.

Gallwch ddarllen rhagor o ganllawiau am ba mor hir mae hawlfraint yn parhau.

Cysylltwch â Chanolfan Cymorth Cwsmeriaid yr IPO os oes gennych chi gwestiynau am hawlfraint gwaith hÅ·n.Ìý

Canolfan Cymorth Cwsmeriaid IPO
information@ipo.gov.uk
Ffôn: 0300 300 2000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadauÌý

3. Trwyddedu a gwerthu eich hawlfraint

Gallwch drwyddedu defnydd eich gwaith os mai chi sy’n berchen ar yr hawlfraint. Gallwch hefyd benderfynu sut y defnyddir eich gwaith.Ìý

Gallwch gofrestru eich gwaith gyda chorff trwyddedu, er enghraifft cymdeithas gasglu, a fydd yn cytuno ar drwyddedau gyda defnyddwyr ar eich rhan ac yn casglu breindaliadau i chi.

Gwerthu neu drosglwyddo eich hawlfraintÌý

Bydd angen i chi ysgrifennu a llofnodi dogfen (a elwir weithiau yn ‘aseiniad’) i ddangos bod gwerthiant neu drosglwyddiad wedi digwydd.Ìý

Gall eich hawlfraint gael ei drosglwyddo trwy etifeddiaeth a bydd yn ddilys cyhyd â bod y gwaith yn parhau i fod dan hawlfraint - gwirio pa mor hir y mae’r amddiffyniad yn parhau.

Hawliau moesolÌý

Gallwch gadw neu ildio eich ‘hawliau moesol’, sy’n cynnwys yr hawl i:Ìý

  • cael eich adnabod fel awdur eich gwaithÌý
  • gwrthwynebu sut mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno, er enghraifft os ydych chi’n meddwl ei fod yn ‘ddirmygus’ neu’n niweidiol i chi neu’ch enw daÌý
  • gwrthwynebu newidiadau a wneir i’ch gwaith

Hawliau perfformwyrÌý

Mae gennych hawliau yn eich perfformiadau ar wahân i hawlfraint os ydych yn berfformiwr.

Er enghraifft, os ydych chi’n actor mewn drama efallai fod gennych chi ‘hawliau economaidd’ mewn unrhyw recordiadau neu ddarllediadau o’u perfformiad, hyd yn oed os yw’r hawlfraint yn cael ei werthu.Ìý

4. Atal pobl rhag defnyddio eich gwaith

Chi sy’n gyfrifol am amddiffyn eich deunydd hawlfraint yn erbyn tor-hawlfraint.Ìý

Efallai y bydd rhai pobl neu sefydliadau (megis llyfrgelloedd neu ysgolion) yn gallu defnyddio gwaith hawlfraint heb ganiatâd. Dylech wirio a ganiateir defnydd rhywun o’ch gwaith cyn ceisio eu hatal.Ìý

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn defnyddio’ch gwaith ac nad ydyn nhw’n gwybod mai chi sy’n berchen ar yr hawliauÌý

Mae’n rhaid i bobl neu sefydliadau wneud cais am drwydded os ydynt am ddefnyddio gwaith sy’n destun hawlfraint ond nad ydynt yn gwybod pwy yw deiliad yr hawliau.Ìý

Gwiriwch y i weld a yw unrhyw un wedi trwyddedu’ich gwaith neu yn y broses o wneud cais am drwydded. Os yw eich gwaith ar y gofrestr gallwch:

  • gwneud cais i atal caisÌý
  • hawlio ffi’r drwydded a dalwyd (os yw trwydded eisoes wedi’i rhoi)Ìý

Os oes gennych anghydfod ynghylch trwyddedu

Gall eich cymdeithas gasglu gysylltu â’r a gofyn iddynt benderfynu ar rai anghydfodau ynghylch trwyddedu.

Tribiwnlys HawlfraintÌý
copyright.tribunal@ipo.gov.ukÌý
Ffôn: 01633 814 044Ìý
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau

Gallant hefyd gysylltu â nhw drwy’r post.

The Secretary
Copyright Tribunal
10 Victoria Street
Llundain
SW1H ONN

Help gyda chyfraith hawlfraintÌý

Mae Canolfan Cymorth Cwsmeriaid yr IPO yn cynnig cyngor cyffredinol ar gyfraith hawlfraint.Ìý

Canolfan Cymorth Cwsmeriaid IPO
information@ipo.gov.uk
Ffôn: 0300 300 2000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dysgu am gostau galwadau

Gallwch gael cyngor ar faterion cyfreithiol penodol gan weithiwr eiddo deallusol proffesiynol (IP).Ìý

Os hoffech ragor o arweiniad am faes cyfraith hawlfraint

Gallwch hefyd Ìý

Efallai y byddant yn cyhoeddi ‘hysbysiad hawlfraint’ cyhoeddus os yw eich cwestiwn yn amlygu bwlch yn y canllawiau hawlfraint cyffredinol.Ìý