Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif

Printable version

1. Mewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF

Unwaith eich bod chi wedi creu cyfrif, gallwch fewngofnodi ar gyfer pethau fel eich cyfrif treth personol neu’ch cyfrif treth busnes, Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE i gyflogwyr a TAW.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os na allwch fewngofnodi i’ch cyfrif

Gallwch gael help os ydych yn cael trafferthion wrth fewngofnodi i’ch cyfrif.

Gwasanaethau gyda manylion mewngofnodi gwahanol

Mae yna ffordd wahanol i fewngofnodi ar gyfer:

Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda’ch cyfrif ar-lein CThEF

Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i ar gyfer:

  • Dyfarniadau Tariffau Ymlaen Llaw
  • Dyfarniadau Prisio Ymlaen Llaw
  • Toll Alcohol
  • Warysu Alcohol a Thybaco
  • Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol
  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu
  • Cyfnewid Gwybodaeth yn Awtomatig (AEOI)
  • Cyfrif treth busnes
  • Elusennau Ar-lein
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
  • Treth Gorfforaeth
  • Datganiadau Electronig i Ohirio Tollau (DDES)
  • Ardoll Troseddau Economaidd
  • Cyfryngwyr Cyflogaeth
  • Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth
  • System Symudiadau a Rheolaeth Ecséis (EMCS)
  • Cynllun Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Busnesau Cyflawni
  • Gwasanaeth Treth Hapchwarae
  • Rhodd Cymorth
  • System Rheoli Mewnforion (ICS)
  • Datganiad Atodol Intrastat
  • Toll Peiriannau Hapchwarae
  • Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
  • Rheoli Cynlluniau Pensiwn
  • Goruchwyliaeth Gwyngalchu Arian
  • System Gludo Gyfrifiadurol Newydd (NCTS)
  • Cynllun Allforio Newydd (NES)
  • Gwasanaeth Un Cam (GUC)
  • TWE i gyflogwyr
  • Cynlluniau Pensiwn Ar-lein
  • Cyfrif treth personol
  • Colofn 2
  • Treth Deunydd Pacio Plastig
  • Gwasanaeth Ymholiadau Olew Ad-daledig
  • Hunanasesiad
  • Hunanasesiad ar gyfer partneriaethau ac ymddiriedolaethau
  • Gweithle sy’n cael ei Rannu
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
  • Trethi Stamp
  • Gwasanaeth Ymholiadau Olew ‘Tied’
  • TAW: Rhestr Gwerthiannau yn y GE
  • Ad-daliadau TAW yr UE
  • TAW: Gwybodaeth y Llywodraeth ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cenedlaethol (GIANT)
  • Cynllun Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio)
  • Cynllun Gwasanaeth Mini Un Cam ar gyfer TAW (GMUC)
  • TAW: Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA)

2. Creu cyfrif ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF

Bydd angen i chi fewngofnodi i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Mae 3 math o gyfrif:

  • cyfrifon unigolion
  • cyfrifon sefydliadau
  • cyfrifon i asiantau

Cyfrifon unigolion

Er enghraifft, gallwch wneud y canlynol:

Gallwch ddefnyddio’r un manylion mewngofnodi i gael mynediad at y ddau gyfrif. Er enghraifft, os byddwch yn creu cyfrif treth personol gallwch wedyn ychwanegu Hunanasesiad at y cyfrif hwnnw.

Cyfrifon sefydliadau

Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifon ar gyfer:

.

Cyfrifon treth busnes

Unwaith eich bod chi wedi creu eich cyfrif treth busnes, gallwch ei ddefnyddio, er enghraifft, i wneud y canlynol:

Os ydych yn asiant

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF ar ran eich cleientiaid (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn asiant treth neu’n ymgynghorydd treth.

3. Cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF

Gallwch gael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael anawsterau.

Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar goll

Gallwch adfer neu ailosod eich manylion mewngofnodi os ydych wedi’u colli. Cewch wybod sut i wneud hyn pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi.

Os gofynnwyd i chi am god cychwyn

Efallai y bydd angen i chi nodi cod cychwyn, sy’n 12 digid, pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth CThEF am y tro cyntaf.

Byddwch wedi cael gwybod p’un a oes angen cod cychwyn arnoch pan wnaethoch ymrestru ar gyfer y gwasanaeth. Bydd cod cychwyn yn eich cyrraedd drwy’r post cyn pen 10 diwrnod (neu 21 diwrnod os ydych yn byw dramor).

Os bydd angen cod cychwyn newydd arnoch

Os na allwch ddod o hyd i’ch cod cychwyn, neu os yw’ch cod cychwyn wedi dod i ben, gallwch wneud cais am un newydd.

  1. .

  2. Dewiswch ‘gwneud cais am god cychwyn newydd’ neu gallwch ymrestru ar gyfer y gwasanaeth eto.

Bydd y cod newydd yn eich cyrraedd drwy’r post cyn pen 10 diwrnod (neu 21 diwrnod os ydych yn byw dramor).

Os ydych wedi’ch cloi allan o’ch cyfrif

Byddwch yn cael eich cloi allan o’ch cyfrif os byddwch yn defnyddio’r manylion mewngofnodi anghywir gormod o weithiau.

Caiff eich cyfrif ei ddatgloi ar ôl 2 awr. Ni all ymgynghorwyr y ddesg gymorth ddatgloi’ch cyfrif.Ìý

Argaeledd a phroblemau ynghylch y gwasanaeth

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help gyda phroblemau eraill

Gallwch am help wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF.Ìý

Os na all y cynorthwyydd digidol helpu, gallwch ofyn i gael eich trosglwyddo i sgwrs dros y we ag ymgynghorydd CThEF, os yw’r ymgynghorydd ar gael.

Gallwch hefyd gael help gyda’r canlynol: