Newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW)
Printable version
1. Newid eich cyfeiriad
Mae’n rhaid ichi ddiweddaru eich llyfr log cerbyd (V5CW) os ydych yn newid eich cyfeiriad. Fel arfer mae’n rhad ac am ddim i’w ddiweddaru.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’n rhaid ichi hefyd:
- newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru
- diweddaru eich Debyd Uniongyrchol am dreth cerbyd (os dyna sut rydych yn ei thalu)
Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.
Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Bydd angen ichi ddiweddaru eich manylion mewn ffordd wahanol os:
- oes angen ichi newid eich enw a chyfeiriad ar eich llyfr log ar yr un pryd - er enghraifft, os ydych wedi symud tÅ· ac wedi newid eich enw
- oes angen ichi newid eich enw ar eich llyfr log yn unig
- ydych wedi gwerthu, trosglwyddo neu brynu’r cerbyd
Hefyd ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:
- ydych eisoes wedi anfon eich llyfr log i DVLA
- ydych wedi colli eich llyfr log - mae angen ichi wneud cais am lyfr log newydd yn lle
- yw eich cerbyd wedi’i gofrestru fel rhan o gynllun fflyd DVLA
- yw eich cyfeiriad newydd dramor, gan gynnwys ynysoedd y sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon
Newid eich cyfeiriad ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid y cyfeiriad yn eich llyfr log i gyfeiriad newydd yn y DU.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 7am i 8pm.
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid ichi fod yn ‘geidwad cofrestredig’ y cerbyd.
Cyn ichi ddechrau
Mae arnoch angen:
- rhif cofrestru eich cerbyd
- cyfeirnod eich llyfr log
- cyfeiriad yn y DU
- gwirio os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf
Os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf bydd angen ichi drethu eich cerbyd ar-lein trwy ddefnyddio eich V5CW gyfredol cyn newid eich cyfeiriad.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch hefyd wneud cais trwy’r post i newid eich cyfeiriad. Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar ba steil o lyfr log sydd gennych.
Os oes gennych y llyfr log steil newydd gyda blychau aml-lyw wedi’u rhifo ar y clawr blaen, mae angen ichi:
- ysgrifennu’r cyfeiriad newydd yn adran 3 - peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
- anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 3
Os oes gennych y llyfr log steil hen, mae angen ichi:
- ysgrifennu’r cyfeiriad newydd yn adran 6 - peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
- llofnodi ac anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 8
Peidiwch â thicio’r blwch ‘ceidwad newydd’ na chwblhau eich enw ar y ffurflen steil hen.
Os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf
Gallwch naill ai:
- drethu eich cerbyd ar-lein cyn anfon eich llyfr log i DVLA
- cymryd eich llyfr log i Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd, i newid eich manylion a threthu eich cerbyd yr un pryd
Bydd angen ichi gymryd eich tystysgrif brawf MOT ddiweddaraf os oes angen i’ch cerbyd gael MOT bob blwyddyn. Mae’n rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y dreth cerbyd yn dechrau.
Os ydych yn symud i gyfeiriad y tu allan i’r DU
Os ydych yn cymryd eich cerbyd, ewch â’ch llyfr log a chofrestru’r cerbyd yn y wlad rydych yn symud iddi.
Os oes gennych ôl-gerbyd, efallai y bydd angen ichi ei gofrestru i’w gymryd dramor.
Os nad yw eich llyfr log newydd yn cyrraedd
Cysylltwch â DVLA os nad yw’r llyfr log newydd wedi cyrraedd ar ôl 6 wythnos.
2. Newid eich enw a chyfeiriad ar yr un pryd
Mae’n rhaid ichi ddiweddaru eich llyfr log cerbyd (V5CW) os ydych yn newid eich enw neu gyfeiriad. Fel arfer mae’n rhad ac am ddim i’w ddiweddaru.
Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA pan fydd eich enw neu gyfeiriad yn newid.
Os ydych am newid eich enw a chyfeiriad ar yr un pryd, gallwch dim ond wneud hwn drwy’r post.
Mae angen ichi lenwi’r adrannau perthnasol o’r llyfr log a’i anfon i DVLA.
Bydd angen ichi ddiweddaru eich manylion mewn ffordd wahanol os:
- ydych wedi gwerthu, trosglwyddo neu brynu’r cerbyd
- oes angen ichi newid eich cyfeiriad yn unig ar eich llyfr log
- oes angen ichi newid eich enw yn unig ar eich llyfr log
Beth i’w wneud gyda’ch llyfr log
Pan rydych yn llenwi eich llyfr log a’i anfon, sicrhewch:
- fod dim ond enw un unigolyn sydd arno
- eich bod chi’n cynnwys prawf o’ch newid enw, er enghraifft tystysgrif briodas neu weithred newid enw
Os mai busnes yw’r ceidwad cofrestredig, mae’n rhaid ichi gynnwys prawf o’i newid enw (fel tystysgrif gorfforiad gan Dŷ’r Cwmnïau).
Ar gyfer llyfrau log steil newydd gyda blychau aml-lyw wedi’u rhifo ar y blaen
I newid eich enw a chyfeiriad os oes gennych y llyfr log steil newydd, mae angen ichi:
- ysgrifennu’r enw a chyfeiriad newydd yn llawn yn adran 3 - peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
- anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 3
- cynnwys prawf os ydych wedi newid eich enw, er enghraifft tystysgrif briodas neu weithred newid enw
Ar gyfer llyfrau log steil hen
Os oes gennych y llyfr log steil hŷn heb y blychau aml-lyw wedi’u rhifo ar y blaen, mae angen ichi:
- ysgrifennu’r enw a chyfeiriad newydd yn llawn yn adran 6 – peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
- llofnodi ac anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 8
- cynnwys prawf os ydych wedi newid eich enw, er enghraifft tystysgrif briodas neu weithred newid enw
Peidiwch â thicio’r blwch ‘ceidwad newydd’ na chwblhau eich enw ar y ffurflen steil hŷn.
Os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf
Gallwch naill ai:
- drethu eich cerbyd ar-lein cyn anfon eich llyfr log i DVLA
- cymryd eich llyfr log i Swydda’r Post sy’n delio â threth cerbyd, i newid eich manylion a threthu eich cerbyd yr un amser
Cymerwch eich tystysgrif brawf MOT ddiweddaraf os oes angen i’ch cerbyd gael MOT bob blwyddyn. Mae’n rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y dreth cerbyd yn dechrau.
Diweddaru eich trwydded yrru a threth cerbyd
Mae’n rhaid ichi hefyd newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru a Debyd Uniongyrchol am dreth cerbyd (os ydych yn talu yn y modd hwn).
Symud y tu allan i’r DU
Os ydych yn cymryd eich cerbyd, ewch â’r llyfr log a chofrestru’r cerbyd yn y wlad rydych yn symud iddi.
Os oes gennych ôl-gerbyd, efallai y bydd angen ichi ei gofrestru i’w gymryd dramor.
Os ydych wedi colli eich llyfr log ac mae arnoch angen newid eich enw a chyfeiriad
-
Lawrlwytho a llenwi cais am lyfr log (V62W).
-
Anfon i DVLA gyda siec neu archeb bost am £25 yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe. Ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi na’u newid.
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Mae’n rhaid bod gennych gyfeiriad y DU i wneud cais am lyfr log amnewid. Os ydych yn symud dramor, gwnewch gais cyn ichi gymryd eich cerbyd y tu allan i’r DU.
Os nad yw eich llyfr log newydd yn cyrraedd
Cysylltwch â DVLA os nad yw’r llyfr log newydd wedi cyrraedd ar ôl 6 wythnos.