Pwyntiau cosb (ardystiadau)
Printable version
1. Trosolwg
Gall y llysoedd eich dirwyo ac ‘ardystio’ eich cofnod gyrru gyda phwyntiau cosb os cewch yn euog o drosedd foduro.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhoddir yr ardystiad a phwyntiau cosb ar eich cofnod gyrrwr. Gweld eich cofnod trwydded yrru i weld pa bwyntiau cosb sydd gennych a phryd y byddant yn cael eu dileu.
Rhaid i ardystiadau aros ar eich cofnod gyrru am 4 neu 11 mlynedd, yn dibynnu ar y drosedd.
Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru os byddwch yn cronni 12 pwynt cosb neu fwy o fewn cyfnod o 3 blynedd. Mae rheolau gwahanol ar gyfer gyrwyr newydd.
yn wahanol.
2. Codau ardystiadau a phwyntiau cosb
Mae gan bob ardystiad god arbennig a rhoddir ‘pwyntiau cosb’ iddo ar raddfa o 1 i 11. Rydych yn cael mwy o bwyntiau am droseddau mwy difrifol.
Mae’r tabl yn dangos y codau trosedd y gellir eu rhoi ar eich cofnod gyrru. Mae hefyd yn dangos faint o bwyntiau cosb y gallwch eu cael amdanynt. Gall rhai troseddau hefyd gynnwys gwaharddiad.
Rhaid i godau trosedd a phwyntiau cosb aros ar eich cofnod gyrru am 4 neu 11 mlynedd, yn dibynnu ar y drosedd.
Troseddau sy’n gysylltiedig â damweiniau
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
AC10 | Methu â stopio ar ôl damwain | 5 i 10 |
AC20 | Methu â rhoi manylion neu roi gwybod am ddamwain o fewn 24 awr | 5 i 10 |
AC30 | Troseddau damwain heb eu diffinio | 4 i 9 |
Gyrrwr wedi’i wahardd
Rhaid i godau BA10 a BA30 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
BA10 | Gyrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd gan orchymyn llys | 6 |
BA30 | Ceisio gyrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd gan orchymyn llys | 6 |
Rhaid i godau BA40 a BA60 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
BA40 | Achosi marwolaeth wrth yrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd | 3 i 11 |
BA60 | Achosi niwed difrifol wrth yrru tra’ch bod wedi’ch gwahardd | 3 i 11 |
Gyrru diofal
Rhaid i godau CD10 a CD33 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
CD10 | Gyrru heb ofal na sylw priodol | 3 i 9 |
CD20 | Gyrru heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill | 3 i 9 |
CD30 | Gyrru heb ofal na sylw priodol neu heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill | 3 i 9 |
CD33 | Achosi niwed difrifol drwy yrru diofal neu anystyriol | 3 i 9 |
Rhaid i godau CD40 a CD70 aros ar gofnod gyrru am 11 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
CD40 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal pan fyddwch yn anghymwys oherwydd diod | 3 i 11 |
CD50 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal pan fyddwch yn anghymwys oherwydd cyffuriau | 3 i 11 |
CD60 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal gyda lefel alcohol uwchben y terfyn | 3 i 11 |
CD70 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac yna methu â rhoi sbesimen ar gyfer dadansoddiad alcohol | 3 i 11 |
Rhaid i godau CD80 a CD90 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
CD80 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal neu anystyriol | 3 i 11 |
CD90 | Achosi marwolaeth drwy yrru: gyrwyr heb drwydded, wedi’u gwahardd neu heb yswiriant | 3 i 11 |
Troseddau adeiladu a defnydd
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
CU10 | Defnyddio cerbyd gyda breciau diffygiol | 3 |
CU20 | Achosi neu’n debygol o achosi perygl oherwydd defnyddio cerbyd anaddas neu ddefnyddio cerbyd â rhannau neu ategion (ac eithrio breciau, llywio neu deiars) mewn cyflwr peryglus | 3 |
CU30 | Defnyddio cerbyd gyda theiar(s) diffygiol | 3 |
CU40 | Defnyddio cerbyd gyda llywio diffygiol | 3 |
CU50 | Achosi neu’n debygol o achosi perygl oherwydd llwyth neu deithwyr | 3 |
CU80 | Torri gofynion o ran rheoli’r cerbyd, fel defnyddio ffôn symudol | 3 i 6 |
Gyrru diofal/beryglus
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
DD10 | Achosi niwed difrifol wrth yrru’n beryglus | 3 i 11 |
DD40 | Gyrru peryglus | 3 i 11 |
DD60 | Dynladdiad neu laddiad beius wrth yrru cerbyd | 3 i 11Â Â |
DD80 | Achosi marwolaeth wrth yrru’n beryglus | 3 i 11 |
DD90 | Gyrru gwyllt | 3 i 9 |
Yfed
Rhaid i godau DR10 a DR61 aros ar gofnod gyrru am 11 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
DR10 | Gyrru neu geisio gyrru â lefel alcohol uwchben y terfyn | 3 i 11 |
DR20 | Gyrru neu geisio gyrru tra’n anghymwys oherwydd diod | 3 i 11 |
DR30 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac yna methu â rhoi sbesimen ar gyfer dadansoddiad alcohol | 3 i 11 |
DR31 | Gyrru neu geisio gyrru ac yna’n gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer dadansoddiad sampl gwaed a gymerwyd heb ganiatâd oherwydd anallu | 3 i 11 |
DR61 | Gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer dadansoddiad sampl gwaed a gymerwyd heb ganiatâd oherwydd anallu mewn amgylchiadau ac eithrio gyrru neu geisio gyrru | 10 |
Rhaid i godau DR40 i DR70 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd neu 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn lle mae gwaharddiad yn cael ei osod.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
DR40 | Yn gyfrifol am gerbyd tra bod y lefel alcohol uwchben y terfyn | 10 |
DR50 | Yn gyfrifol am gerbyd tra’n anghymwys oherwydd diod | 10 |
DR60 | Methu â darparu sbesimen ar gyfer dadansoddiad mewn amgylchiadau ac eithrio gyrru neu geisio gyrru | 10 |
DR70 | Methu â chydsynio â phrawf rhagarweiniol | 4 |
Cyffuriau
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 11 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
DG10 | Gyrru neu geisio gyrru gyda lefel cyffuriau uwchben y terfyn a nodir | 3 i 11 |
DG60 | Achosi marwolaeth drwy yrru diofal gyda lefel cyffuriau uwchben y terfyn | 3 i 11 |
DR80 | Gyrru neu geisio gyrru tra’n anghymwys oherwydd cyffuriau | 3 i 11 |
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd neu 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn lle mae gwaharddiad yn cael ei osod.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
DG40 | Yn gyfrifol am gerbyd tra bod y lefel cyffuriau uwchben y terfyn | 10 |
DR70 | Methu â chydsynio â phrawf rhagarweiniol | 4 |
DR90 | Yn gyfrifol am gerbyd tra’n anghymwys oherwydd cyffuriau | 10 |
Troseddau yswiriant
Rhaid i god IN10 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
IN10 | Defnyddio cerbyd heb ei yswirio yn erbyn risgiau trydydd parti | 6 i 8 |
Troseddau trwydded
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
LC20 | Gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded | 3 i 6 |
LC30 | Gyrru ar ôl gwneud datganiad ffug ynghylch ffitrwydd wrth wneud cais am drwydded | 3 i 6 |
LC40 | Gyrru cerbyd wedi methu â rhoi gwybod am anabledd | 3 i 6 |
LC50 | Gyrru ar ôl i drwydded gael ei chanslo (diddymu) neu ei gwrthod ar sail feddygol | 3 i 6 |
Troseddau amrywiol
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
MS10 | Gadael cerbyd mewn safle peryglus | 3 |
MS20 | Reidio piliwn yn anghyfreithlon | 3 |
MS30 | Troseddau stryd chwarae | 2 |
MS50 | Rasio modur ar y briffordd | 3 i 11 |
MS60 | Troseddau nad ydynt yn dod o dan godau eraill (gan gynnwys troseddau sy’n ymwneud â thorri gofynion o ran rheoli cerbyd) | 3 |
MS70 | Gyrru gyda golwg diffygiol heb ei gywiro | 3 |
MS80 | Gwrthod caniatáu cael prawf golwg | 3 |
MS90 | Methu â rhoi gwybodaeth er mwyn adnabod gyrrwr ac ati | 6 |
Troseddau traffordd
Rhaid i god MW10 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
MW10 | Torri rheoliadau ffyrdd arbennig (ac eithrio terfynau cyflymder) | 3 |
Croesfannau i gerddwyr
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
PC10 | Torri anniffiniedig o reoliadau croesfannau i gerddwyr | 3 |
PC20 | Torri rheoliadau croesfannau i gerddwyr gyda cherbyd sy’n symud | 3 |
PC30 | Torri rheoliadau croesfannau i gerddwyr gyda cherbyd sy’n llonydd | 3 |
Terfynau cyflymder
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
SP10 | Gyrru’n gynt na therfynau cyflymder cerbydau nwyddau | 3 i 6 |
SP20 | Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder ar gyfer y math o gerbyd (ac eithrio cerbydau nwyddau neu gerbydau teithwyr) | 3 i 6 |
SP30 | Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus | 3 i 6 |
SP40 | Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder cerbyd teithwyr | 3 i 6 |
SP50 | Gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder ar draffordd | 3 i 6 |
Cyfarwyddiadau ac arwyddion traffig
Rhaid i’r codau hyn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
TS10 | Methu â chydymffurfio ag arwyddion goleuadau traffig | 3 |
TS20 | Methu â chydymffurfio â llinellau gwyn dwbl | 3 |
TS30 | Methu â chydymffurfio ag arwydd ‘stop’ | 3 |
TS40 | Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd gan gwnstabl/warden | 3 |
TS50 | Methu â chydymffurfio ag arwydd traffig (ac eithrio arwyddion ‘stop’, goleuadau traffig neu linellau gwyn dwbl) | 3 |
TS60 | Methu â chydymffurfio ag arwydd hebryngwr croesfan ysgol | 3 |
TS70 | Methiant anniffiniedig i gydymffurfio ag arwydd cyfeirio traffig | 3 |
Cod arbennig
Rhaid i god TT99 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Mae’n dangos gwaharddiad o dan weithdrefn ‘adio’ - os bydd cyfanswm y pwyntiau cosb yn cyrraedd 12 neu fwy o fewn 3 blynedd, gall y gyrrwr gael ei wahardd.
Dwyn neu gymryd heb awdurdod
Rhaid i god UT50 aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Cod | Trosedd | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
UT50 | Cymryd cerbyd yn waethygedig | 3 i 11 |
Codau ‘cydnabyddiaeth gilyddol’
Byddwch yn cael cod ‘MR’ ar eich cofnod gyrru os ydych yn cael eich gwahardd rhag gyrru yng Ngogledd Iwerddon neu Ynys Manaw. Bydd eich cyfnod gwahardd hefyd yn ddilys ym Mhrydain Fawr a bydd yn aros ar eich cofnod am 4 blynedd o ddyddiad yr euogfarn.
Cod | Trosedd |
---|---|
MR09 | Gyrru yn ddi-hid neu’n beryglus (p’un a yw’n arwain at farwolaeth, anaf neu risg ddifrifol ai peidio) |
MR19 | Methiant bwriadol i gyflawni’r rhwymedigaeth a osodwyd ar yrrwr ar ôl cymryd rhan mewn damweiniau ffordd (taro neu ffoi) |
MR29 | Gyrru car tra o dan ddylanwad alcohol neu sylwedd arall yn effeithio ar neu’n lleihau galluoedd meddyliol a chorfforol gyrrwr |
MR39 | Gyrru cerbyd yn gyflymach na’r cyflymder a ganiateir |
MR49 | Gyrru cerbyd tra’ch bod wedi eich gwahardd |
MR59 | Ymddygiad arall sy’n cynnwys trosedd lle mae gwaharddiad gyrru wedi’i roi gan ffurf y drosedd |
Troseddau helpu, annog, cwnsela neu beri
Yr gyfer y troseddau hyn, mae’r codau’n debyg, ond gyda’r rhif 0 ar y cod wedi newid i 2.
Er enghraifft, mae cod LC20 (gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded) yn dod yn god LC22 ar eich cofnod gyrru os ydych wedi helpu rhywun i wneud hyn.
Troseddau achosi neu ganiatáu
Yr gyfer y troseddau hyn, mae’r codau’n debyg, ond gyda’r rhif 0 ar y cod wedi newid i 4.
Er enghraifft, mae LC20 (gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded) yn dod yn LC24 ar eich trwydded os ydych wedi achosi neu ganiatáu i rywun wneud hyn.
Troseddau ysgogi
Yr gyfer y troseddau hyn, mae’r codau’n debyg, ond gyda’r rhif 0 ar y cod wedi newid i 6.
Er enghraifft, mae DD40 (gyrru peryglus) yn dod yn DD46 ar eich cofnod gyrru os ydych wedi ysgogi rhywun i wneud hyn.
3. Pa mor hir y mae ardystiadau yn aros ar eich cofnod gyrru
Mae ardystiadau’n aros ar eich cofnod gyrru am 4 neu 11 mlynedd, yn dibynnu ar y drosedd. Gall hyn ddechrau naill ai o’r dyddiad y cewch yn euog neu ddyddiad eich trosedd.
Mae’r ardystiad yn ‘ddilys’ am:
-
y 3 blynedd gyntaf, ar gyfer ardystiad 4 blynedd
-
y 10 mlynedd cyntaf, ar gyfer ardystiad 11 mlynedd
Gall llys ystyried eich ardystiad os yw’r ddau o’r canlynol yn wir:
-
os byddwch yn cyflawni trosedd arall tra bo’n ddilys
-
os bydd yr ardystiad yn dal ar eich cofnod gyrru pan fydd y llys yn ystyried eich achos
Efallai y bydd pobl eraill, fel yswirwyr a chyflogwyr, yn gallu darganfod bod gennych yr ardystiad:
-
ar unrhyw adeg yn ystod ardystiad 4 blynedd
-
yn ystod 5 mlynedd cyntaf ardystiad 11 mlynedd, neu’r 30 mis cyntaf os ydych o dan 18 oed
4 blynedd o ddyddiad euogfarn
Bydd ardystiad yn aros ar gofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad euogfarn os yw’r drosedd:
-
am yrru diofal/beryglus - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel DD40, DD60 a DD80
-
yn arwain at waharddiad
Enghraifft
Dyddiad euogfarn 28 Mai 2011 - rhaid i’r ardystiad aros ar y cofnod gyrru tan 28 Mai 2015.
4 blynedd o ddyddiad trosedd
Ym mhob achos arall, mae ardystiadau’n aros ar eich cofnod gyrru am 4 blynedd o ddyddiad y drosedd.
Enghraifft
Dyddiad euogfarn 10 Mehefin 2012 - rhaid i’r ardystiad aros ar y cofnod gyrru tan 10 Mehefin 2016.
11 blynedd o ddyddiad euogfarn
Os yw’r drosedd am:
-
yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel DR10, DR20, DR30, DR31, DR61 a DR80
-
achosi marwolaeth drwy yrru diofal dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel CD40, CD50 a CD60
-
achosi marwolaeth drwy yrru diofal, ac yna methu â rhoi sbesimen ar gyfer dadansoddiad - a ddangosir ar y cofnod gyrru fel CD70
Enghraifft
Dyddiad euogfarn 3 Rhagfyr 2009 - rhaid i’r ardystiad aros ar y cofnod gyrru tan 3 Rhagfyr 2020.
4. Gyrwyr newydd
Bydd eich trwydded yn cael ei chanslo (diddymu) os byddwch yn cael 6 neu fwy o bwyntiau o fewn 2 flynedd ichi basio’ch prawf.
Pwyntiau ar eich trwydded dros dro
Bydd unrhyw bwyntiau cosb ar eich trwydded dros dro sydd heb ddod i ben yn cael eu trosglwyddo drosodd i’ch trwydded lawn pan fyddwch yn pasio’ch prawf. Fodd bynnag, bydd eich trwydded yn cael ei chanslo os cewch unrhyw bwyntiau cosb pellach sy’n mynd â chi hyd at gyfanswm o 6 neu fwy o fewn 2 flynedd ichi basio’ch prawf gyrru.
Os caiff eich trwydded ei chanslo o fewn 2 flynedd
Bydd yn rhaid ichi wneud cais a thalu am drwydded dros dro newydd a phasio’r rhannau theori ac ymarferol o’r prawf gyrru neu reidio eto i gael trwydded lawn.
Os nad ydych wedi anfon am eich trwydded lawn
Mae’n rhaid ichi ail-sefyll y ddwy ran o’ch prawf gyrru os ydy’ch trwydded wedi cael ei chanslo ar ôl ichi basio eich prawf, ond nid ydych wedi anfon am eich trwydded lawn eto. Gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru dros dro bresennol i sefyll y profion.
Pwy sy’n cael eu cynnwys yn y rheolau
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i bob gyrrwr newydd a basiodd ei brawf gyrru cyntaf yn y canlynol:
-
Prydain Fawr
-
Gogledd Iwerddon
-
Ynys Manaw
-
Ynysoedd y Sianel
-
Gibraltar
-
Y Gymuned Ewropeaidd (CE) a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
Y gwledydd CE/AEE yw:
Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Croatia, Gweriniaeth Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Slofenia, Slofacia, Sbaen a Sweden.
Nid oes cyfnod 2 flynedd arall os byddwch yn pasio prawf am gategori arall o gerbyd, er enghraifft i yrru cerbyd nwyddau trwm.
Trwyddedau tramor
Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol os ydych yn cyfnewid trwydded yrru dramor am drwydded Brydeinig ac yna pasio prawf gyrru pellach ym Mhrydain Fawr.
5. Dychwelyd eich trwydded yrru i’w hardystio
Os cewch hysbysiad cosb benodedig am drosedd foduro, nid oes angen ichi roi eich trwydded yrru i’r heddlu neu’r swyddfa gosb benodedig (FPO).
I dderbyn y gosb benodedig, mae angen ichi roi’r canlynol iddynt:
-
eich enw
-
eich dyddiad geni
-
eich rhif trwydded yrru
Bydd yr FPO yn dweud wrth DVLA am yr ardystiad (gan gynnwys pwyntiau cosb) fel y gallant ei ychwanegu at eich cofnod.
Efallai y gofynnir ichi roi eich trwydded i mewn yn y llys. Bydd y llys wedyn yn ei hanfon i DVLA. Os na fyddwch yn ei rhoi i mewn, yna efallai y gofynnir ichi ei hanfon i DVLA.
Pryd mae’n rhaid ichi anfon eich trwydded i DVLA
Bydd DVLA yn ysgrifennu atoch yn gofyn ichi anfon eich trwydded atynt os:
-
rydych yn yrrwr newydd, sydd wedi cael 6 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn 2 flynedd ichi basio’ch prawf, ac mae DVLA wedi diddymu eich trwydded
-
rydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru gan y llys ac ni wnaethoch roi’ch trwydded i’r llys
-
mae’r drwydded a roesoch i’r llys yn annilys
-
rydych wedi rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi newid eich cyfeiriad
Rhaid ichi anfon eich trwydded yrru i DVLA pan ofynnir ichi wneud hynny. Os na wnewch hynny, gallech gael dirwy o hyd at £1000.
6. Dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben o'ch cofnod gyrru
Bydd y rhan fwyaf o ardystiadau sydd wedi dod i ben yn cael eu dileu’n awtomatig o’ch cofnod gyrru pan nad ydynt yn ddilys bellach.
Mae faint o amser y maent yn aros ar eich cofnod yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd y drosedd.
7. Sut i wirio eich manylion ardystiadau
Gweld eich cofnod trwydded yrru i weld pa bwyntiau cosb sydd gennych a phryd y byddant yn cael eu dileu.
Gallwch hefyd gysylltu â DVLA.
Manylion ardystiadau anghywir ar eich trwydded
Cysylltwch â’r llys a’ch cafwyd yn euog os dangosir eich manylion ardystiadau yn anghywir ar eich trwydded yrru.