Platiau rhif preifat (personol)
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch brynu rhif cofrestru preifat (personol) ar gyfer platiau rhif eich cerbyd gan DVLA neu ddeliwr preifat.
Os oes gennych hawl i rif preifat nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, gallwch wneud cais i’w aseinio i gerbyd (ei roi ar gerbyd).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gaelÌýyn Saesneg (English).
Cymryd rhif cofrestru preifat oddi ar gerbyd (‘cadw’)
Os nad ydych am ddefnyddio’r rhif preifat bellach gallwch wneud cais i’w gymryd oddi ar eich cerbyd. Gallwch gadw’r rhif i’w ddefnyddio yn ddiweddarach.
Byddwch yn cael dogfen gadw rhifau V778W sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif o hyd.
Gwerthu rhif preifatÌý
Gallwch hefyd werthu eich rhif preifat os nad ydych am ei ddefnyddio bellach.
Os ydych yn gwerthu eich rhif preifat ar-lein, peidiwch â rhannu sgan na llun o’r ddogfen V750W neu V778W. Gallai rhywun heblaw’r prynwr ei ddefnyddio i roi’r rhif preifat ar gerbyd arall.Ìý
Trosglwyddo rhif preifat
I drosglwyddo rhif preifat o un cerbyd i’r llall, bydd angen ichi wneud y canlynol:
-
Cymryd ef oddi ar y cerbyd rydych yn ei drosglwyddo oddi wrtho.
-
Aseinio ef i’r cerbyd rydych yn ei drosglwyddo iddo.
Gallwch hefyd wneud hyn drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen V317W.
2. Prynu rhif preifat
Prynu gan DVLA
Gallwch brynu rhifau cofrestru newydd gan .Ìý
Prynu yn ocsiynau DVLA
Mae DVLA yn cynnal 9 ocsiwn y flwyddyn. Maent yn cael eu cynnal ar-lein ac yn rhedeg am 7 diwrnod. Ìý
Ewch i i:
-
wirio dyddiadau’r ocsiynau sydd i ddod
-
cofrestru fel cynigiwr
-
gweld pa blatiau sydd ar werth
Byddwch yn cael tystysgrif hawl V750W unwaith y byddwch wedi talu am y rhif preifat (personol). Mae hyn i brofi bod gennych hawl i roi’r rhif ar gerbyd.
Prynu gan ddeliwr preifat neu berson
Gallwch brynu rhif preifat gan ddeliwr neu gan berson arall.
Bydd y rhan fwyaf o ddelwyr yn trosglwyddo’r rhif i’ch cerbyd ar eich rhan. Os ydych chi eisiau cadw neu aseinio’r rhif eich hun, gofynnwch i’r deliwr a allwch chi gael y V750W neu’r V778W.
3. Aseinio rhif preifat i gerbyd
I aseinio rhif cofrestru preifat (personol) i gerbyd, mae angen un o’r canlynol arnoch:
-
tystysgrif hawl V750W - fe gewch hon os prynwch rif preifat
-
dogfen gadw rhifau V778W neu gyfeirnod ar-lein - byddwch yn cael un o’r rhain os cymerwch rif o gerbyd arall rydych yn berchen arno
Cymhwysedd
Ni allwch:
-
aseinio rhif sy’n dechrau gyda ‘Q’ neu ‘NIQ’
-
rhoi rhif preifat ar gerbyd sydd wedi’i gofrestru â phlât ‘Q’
-
defnyddio rhif preifat sy’n gwneud i gerbyd edrych yn fwy newydd nag ydyw - er enghraifft, rhif cofrestru ‘07’ ar gerbyd cofrestredig 2003
Rhaid i’r cerbyd:
-
fod wedi’i gofrestru gyda DVLA yn y DU
-
gallu symud o dan ei bŵer ei hun
-
bod o fath sydd angen MOT neu dystysgrif prawf gerbyd nwyddau trwm (HGV)
-
bod ar gael i’w archwilio - bydd DVLA yn cysylltu â chi os bydd angen iddynt archwilio eich cerbyd
-
wedi cael ei drethu neu wedi cael HOS yn barhaus am y 5 mlynedd diwethaf
-
bod wedi’i drethu ar hyn o bryd neu fod â HOS yn ei le - os yw wedi cael HOS yn ei le am fwy na 5 mlynedd, rhaid ei drethu a chael tystysgrif MOT
Os oes gennych gerbyd hanesyddol (clasurol) bydd angen tystysgrif MOT gyfredol arnoch hefyd, hyd yn oed os yw eich cerbyd fel arfer wedi’i eithrio rhag cael MOT.
Gwneud cais i aseinio rhif
Os yw’r cerbyd:
-
wedi’i gofrestru ichi - gwnewch gais ar-lein neu drwy’r post
-
yn gerbyd ail law rydych newydd ei brynu - arhoswch i DVLA anfon V5CW newydd yn eich enw atoch cyn ichi wneud cais ar-lein neu drwy’r post
-
yn newydd sbon - rhowch eich dogfen V750W neu V778W i’r deliwr a gofynnwch iddynt wneud cais
-
wedi’i gofrestru i rywun arall ac rydych am i’r rhif preifat gael ei drosglwyddo iddynt - gwnewch gais ar-lein neu drwy’r post
Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais ar-lein neu drwy’r post.Ìý Mae angen llyfr log y cerbyd (V5CW) arnoch.
Os oes gennych rif preifat ar eich cerbyd yn barod, gwnewch gais i’w gymryd oddi ar y cerbyd yn gyntaf. Gallech golli’r hawl i ddefnyddio’r rhif os nad ydych yn gwneud hynny.
Gwneud cais ar-lein
Bydd y rhif yn cael ei aseinio ar unwaith os nad oes angen archwiliad ar eich cerbyd. Byddwch yn barod i roi platiau rhif newydd ar y cerbyd cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais.
Mae’r gwasanaeth hwn ar agor o 7am i 7pm. Mae hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwneud cais drwy’r post
Anfonwch yr holl ddogfennau canlynol i DVLA:
-
y V750W neu V778W wedi’i llenwi - mae’r cyfeiriad ar y ffurflen
-
llyfr log y cerbyd (V5CW) neu’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd gyda V62W ‘cais am dystysgrif gofrestru cerbyd V5CW’ wedi’i lenwi
Os ydych yn aseinio’r rhif i gerbyd rhywun arall, ychwanegwch nhw fel ‘enwebai’ - cwblhewch adran 2 o’r V750W neu’r V778W.
I drethu’ch cerbyd ar yr un pryd, cynhwyswch bob un o’r canlynol:
-
ffurflen V10W ‘cais am dreth cerbyd’
-
y swm cywir o dreth cerbyd
-
tystysgrif MOT
Ar ôl ichi aseinio rhif preifat
Bydd y canlynol yn cael eu hanfon atoch:
-
llyfr log newydd (V5CW)
-
eich MOT gwreiddiol (os gwnaethoch ei anfon i drethu’r cerbyd)
Rhaid ichi roi platiau rhif newydd ar y cerbyd cyn ichi ei yrru.
Gallwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol a’r platiau - byddant yn cael eu hailaseinio i’r cerbyd pan fyddwch yn cymryd y rhif preifat oddi ar y cerbyd.
Rhaid ichi beidio â gwerthu na chael gwared ar gerbyd nes ichi gael y llyfr log newydd (V5CW).
Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr logÌý
Fel arfer byddwch yn derbyn eich llyfr log ar ôl 4 wythnos.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.Ìý
Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.
Wrth bwy i ddweud am eich rhif cofrestru newydd
Rhaid ichi ddweud wrth eich cwmni yswiriant.
Diweddarwch eich rhif cofrestru ar gyfer unrhyw gyfrifon talu awtomatig sydd gennych, er enghraifft i dalu:
-
y Tâl Atal Tagfeydd
-
y Tâl Parth Allyriadau Isel
-
y Tâl Parth Allyriadau Isel Iawn
-
y Tâl Dart
-
taliadau am yrru mewn Parthau Aer Glân
Efallai y cewch dâl cosb os na fyddwch yn diweddaru eich manylion cofrestru ac yn mynd i mewn i un o’r parthau hyn.
Os oes gan eich cerbyd ardystiad cynllun Achredu Ôl-osod Cerbydau Glân, mae angen ichi roi eich rhif cofrestru newydd iddynt hwy hefyd.
4. Cymryd rhif preifat oddi ar gerbyd
Gallwch wneud cais i gymryd rhif preifat (personol) oddi ar gerbyd os ydych eisiau naill ai:
-
cadw’r rhif i’w ddefnyddio yn ddiweddarach
-
ei aseinio i gerbyd arall
Ni allwch gadw rhif sy’n dechrau â ‘Q’ neu ‘NIQ’.
Bydd rhif cofrestru gwreiddiol y cerbyd yn cael ei ail-aseinio iddo yn awtomatig fel arfer pan fyddwch yn cymryd rhif preifat oddi arno.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd dogfen gadw rhifau V778W a llyfr log (V5CW) newydd yn cael eu hanfon atoch.
Rhaid bod eich V778W a’ch llyfr log newydd gennych cyn ichi sgrapio neu werthu eich cerbyd - fel arall, byddwch yn colli’r hawl i ddefnyddio’r rhif preifat.
Cymhwysedd
Rhaid i’r cerbyd:
-
fod wedi’i gofrestru gyda DVLA yn y DU
-
gallu symud o dan ei bŵer ei hun
-
bod o fath sydd angen MOT neu dystysgrif prawf gerbyd nwyddau trwm (HGV)
-
bod ar gael i’w archwilio - bydd DVLA yn cysylltu â chi os bydd angen iddynt archwilio eich cerbyd
-
wedi cael ei drethu neu wedi cael HOS yn barhaus am y 5 mlynedd diwethaf
-
bod wedi’i drethu ar hyn o bryd neu fod â HOS yn ei le - os yw wedi cael HOS yn ei le am fwy na 5 mlynedd, rhaid ei drethu a chael tystysgrif MOT
Os oes gennych gerbyd hanesyddol (clasurol) bydd angen tystysgrif MOT gyfredol arnoch hefyd, hyd yn oed os yw eich cerbyd fel arfer wedi’i eithrio rhag cael MOT.
Gwneud cais i gymryd rhif oddi ar gerbyd
Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £80. Rhaid bod llyfr log (V5CW) y cerbyd gennych.
Os nad yw’r cerbyd yn eich enw chi, rhaid ichi wneud cais drwy’r post.
Gwneud cais ar-lein
Bydd y rhif yn cael ei ddileu ar unwaith os nad oes angen archwiliad ar eich cerbyd.
Gallwch aseinio’r rhif i gerbyd arall cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais i’w gymryd oddi ar y cerbyd - defnyddiwch y cyfeirnod y byddwch yn ei gael wedi ichi wneud y cais.
Mae’r gwasanaeth hwn ar agor o 7am i 7pm. Mae hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwneud cais drwy’r post
Anfonwch bob un o’r canlynol i DVLA:
-
ffurflen V317W ‘trosglwyddo neu gadw rhif cofrestru cerbyd’ - mae’r cyfeiriad ar y ffurflen
-
llyfr log y cerbyd (V5CW) neu’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd gyda V62W ‘cais am dystysgrif gofrestru cerbyd V5CW’ wedi’i lenwi
-
y ffi trosglwyddo o £80
I drethu’ch cerbyd ar yr un pryd, anfonwch bob un o’r canlynol:
-
ffurflen V10W ‘cais am dreth cerbyd’
-
y swm cywir o dreth cerbyd
-
tystysgrif MOT
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd eich rhif cofrestru gwreiddiol yn cael ei ail-aseinio i’ch cerbyd yn awtomatig fel arfer, os bydd eich cais yn llwyddiannus. Bydd hynny’n digwydd ar unwaith.
Anfonir:
-
llyfr cofrestru newydd (V5CW) yn dangos rhif cofrestru newydd y cerbyd - gall gymryd 4 i 6 wythnos i gyrraedd
-
eich MOT gwreiddiol yn ôl (os gwnaethoch ei anfon i drethu’r cerbyd)
-
dogfen gadw rhifau V778W os yw’r rhif preifat yn eich enw chi
Os yw’r rhif preifat yn enw rhywun arall, bydd y ddogfen V778W yn cael ei hanfon atyn nhw.
Cyn y gallwch yrru eich cerbyd, rhaid ichi:
-
roi’r platiau gwreiddiol neu’r platiau rhif newydd ar y cerbyd cyn ichi ei yrru
-
dweud wrth eich cwmni yswiriant beth yw eich rhif cofrestru newydd
Wrth bwy i ddweud am eich rhif cofrestru newydd
Rhaid ichi ddweud wrth eich cwmni yswiriant.
Diweddarwch eich rhif cofrestru ar gyfer unrhyw gyfrifon talu awtomatig sydd gennych, er enghraifft i dalu:
-
y Tâl Atal Tagfeydd
-
y Tâl Parth Allyriadau Isel
-
y Tâl Parth Allyriadau Isel Iawn
-
y Tâl Dart
-
taliadau am yrru mewn Parthau Aer Glân
Efallai y cewch dâl cosb os na fyddwch yn diweddaru eich manylion cofrestru ac yn mynd i mewn i un o’r parthau hyn.
Os oes gan eich cerbyd ardystiad cynllun Achredu Ôl-osod Cerbydau Glân, mae angen ichi roi eich rhif cofrestru newydd iddynt hwy hefyd.
Beth sy’n digwydd i’r rhif preifat
Mae eich dogfen gadw rhifau V778W yn profi bod yr hawl gennych o hyd i aseinio’r rhif preifat am y 10 mlynedd nesaf.
Rhaid ichi adnewyddu eich hawl i ddefnyddio rhif preifat cyn i’r V778W ddod i ben.
Gallwch ildio’ch hawl i ddefnyddio’r rhif preifat os byddwch yn penderfynu peidio â’i aseinio.
5. Adnewyddu neu amnewid eich rhif preifat
Rhaid ichi adnewyddu eich hawl i ddefnyddio’ch rhif preifat (personol) bob 10 mlynedd os nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gerbyd.
Byddwch yn colli’r hawl i ddefnyddio’r rhif yn barhaol os na fyddwch yn ei adnewyddu ar neu cyn y dyddiad dod i ben. Ni fydd DVLA yn derbyn ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwnnw.
Adnewyddu eich tystysgrif hawl V750W neu ddogfen gadw rhifau V778W
Gallwch wneud cais i adnewyddu eich V750W neu V778W hyd at 28 diwrnod cyn iddi ddod i ben. Peidiwch â gwneud cais yn gynharach na hyn, neu efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Byddwch yn cael llythyr atgoffa neu e-bost os nad ydych yn defnyddio rhif preifat ac mae eich hawl i’w ddefnyddio ar fin dod i ben.
Mae’n rhad ac am ddim i’w adnewyddu a bydd y V750W neu V778W yn ddilys am 10 mlynedd.
Adnewyddu eich V750W ar-lein
Gallwch adnewyddu eich V750W drwy ddefnyddio’r a ddefnyddiwyd gennych i brynu eich rhif preifat (personol).
Adnewyddu drwy’r post
Llenwch y ffurflen ar y V750W neu V778W.
Anfonwch y V750W neu V778W i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Amnewid V750W neu V778W sydd ar goll neu wedi’i dwyn
Gallwch wneud cais am V750W neu V778W amnewid os:
-
nad yw wedi dod i ben
-
mai chi yw’r unigolyn sydd â’r hawl i ddefnyddio’r rhif (bydd eich enw wedi bod ar y V778W neu V750W fel y ‘grantî’).
Bydd yn cymryd tua 3 i 4 wythnos i’r V750W neu V778W newydd gyrraedd.
Pan fyddwch yn derbyn eich V750W neu V778W newydd, dylech ddinistrio’r holl ddogfennau a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd nad ydynt bellach yn ddilys ac na ellir eu defnyddio ar-lein neu i hysbysu DVLA am unrhyw newid.
Gwneud cais ar-lein i amnewid V750W sydd ar goll neu wedi’i dwyn
Gallwch wneud cais am V750W amnewid drwy ddefnyddio’r a ddefnyddiwyd gennych i brynu eich rhif preifat (personol).
Gwneud cais drwy’r post i amnewid V750W sydd ar goll neu wedi’i dwyn
Gallwch anfon llythyr i Rhifau Cofrestru Personol DVLA i ofyn am V750W neu V778W amnewid.
Rhifau Cofrestru Personol DVLA
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌýÌýÌý
SA99 1DS
Os yw eich cyfeiriad neu’ch enw wedi newid, bydd angen ichi gynnwys dogfen ychwanegol gyda’ch llythyr.
Os yw eich cyfeiriad wedi newid, bydd angen ichi gynnwys prawf o’ch hunaniaeth. Gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:
- bil cartref a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf
- eich bil Treth Gyngor ar gyfer eleni
- cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf
- cerdyn meddygol
- eich trwydded yrru Brydeinig gyfredol
- eich pasbort
- eich tystysgrif geni
Os yw eich enw wedi newid, bydd angen ichi gynnwys prawf o’ch newid enw. Gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:
- eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- eich dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)
- gweithred newid enw i ddangos eich bod wedi newid eich enw yn gyfreithiol
6. Gwerthu neu roi rhif preifat i rywun arall
Gallwch werthu neu roi rhif preifat (personol) i rywun. Rhaid i’r rhif gael ei aseinio i’w gerbyd cyn y gellir ei ddefnyddio.
Os ydych yn rhoi rhif preifat i rywun dilynwch y camau ar gyfer aseinio eich rhif preifat i rywun arall.
Gwerthu eich rhif preifat
Gallwch ddefnyddio deliwr rhifau preifat neu werthu’r rhif eich hun.
Peidiwch â rhannu ffotograff neu sgan o’r ddogfen V750W neu V778W.Ìý Gallai rhywun heblaw’r prynwr ei ddefnyddio i roi’r rhif preifat ar gerbyd arall.
Defnyddio deliwr rhifau preifat
Bydd y rhan fwyaf o werthwyr yn dod o hyd i brynwr, yn trefnu’r taliad ac yn trosglwyddo’r rhif i gerbyd y prynwr ar eich rhan.
Gwerthu eich rhif preifat eich hun
Ar ôl ichi ddod o hyd i brynwr, bydd angen ichi aseinio eich rhif i’w gerbyd. Dilynwch y camau ar gyfer aseinio eich rhif preifat i rywun arall.
Aseinio eich rhif preifat i rywun arall
Gallwch roi eich rhif preifat ar gerbyd rhywun arall ar-lein neu drwy’r post.
Ar ôl hynny, bydd DVLA yn anfon llyfr log newydd am y cerbyd ond gyda’r rhif preifat newydd wedi’i aseinio iddo.
Ar-lein
Bydd arnoch angen manylion o’r canlynol:
-
llyfr log (V5CW) y cerbyd rydych yn aseinio’r rhif iddo
-
eich V778W neu V750W
Fel arfer, bydd y rhif yn cael ei aseinio ar unwaith.
Mae’r gwasanaeth hwn ar agor o 7am i 7pm. Mae hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Drwy’r post
Anfonwch y canlynol i DVLA:
-
eich ffurflen V778W neu V750W - llenwch adrannau 1 a 2 a’i llofnodi yn gyntaf
-
llyfr log (V5CW) am y cerbyd rydych am roi’r rhif preifat arno
Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os bydd yr enwebai yn marw
Gall yr unigolyn sydd â’r hawl i ddefnyddio’r rhif preifat newid yr ‘enwebai’ (yr unigolyn rydych yn rhoi’r rhif iddo). Llenwch adran 2 o’r V750W neu V778W gyda manylion yr enwebai newydd, llofnodwch y ffurflen a’i hanfon i:
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÌýÌýÌýÌýÌýÌý
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÌý
7. Newid eich enw neu gyfeiriad
Os yw eich rhif preifat (personol) eisoes wedi’i aseinio i gerbyd, mae dim ond angen ichi newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW).
Os nad yw’r rhif wedi’i aseinio i gerbyd, yna mae angen ichi gwblhau tystysgrif V750W neu V778W.
Pan fyddwch yn derbyn eich V750W neu V778W newydd, dylech ddinistrio’r holl ddogfennau a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd nad ydynt bellach yn ddilys ac na ellir eu defnyddio ar-lein neu i hysbysu DVLA am unrhyw newid.
Newid eich cyfeiriad ar-lein - V750W yn unig
Defnyddiwch eich .
Newid eich cyfeiriad drwy’r post - V750W neu V778W
Llenwch yr adran ‘newid cyfeiriad’ ar eich V750W neu V778W. Llofnodwch hi a’i hanfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÌýÌý
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÌýÌý
Os nad oes gennych eich V778W neu V750W
Ysgrifennwch lythyr sy’n dweud beth yw eich cyfeiriad newydd. Llofnodwch ef a’i anfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch hunaniaeth. Gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:
-
bil cartref a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf
-
eich bil Treth Gyngor ar gyfer eleni
-
cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf
-
cerdyn meddygol
-
eich trwydded yrru Brydeinig gyfredol
-
eich pasbort
-
eich tystysgrif geni
Newid eich enw - V750W neu V778W
Gallwch dim ond newid eich enw drwy’r post. Bydd arnoch angen prawf o’ch newid enw - gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:
-
eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
-
eich dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)
-
gweithred newid enw i ddangos eich bod wedi newid eich enw yn gyfreithiol
Llenwch yr adran ‘manylion yr enwebai’ ar eich V750W neu V778W. Llofnodwch hi a’i hanfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch newid enw.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÌýÌý
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÌýÌý
Os nad oes gennych eich V750W neu V778W
Ysgrifennwch lythyr sy’n dweud beth yw eich enw newydd. Llofnodwch ef a’i anfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch newid enw.
Cywiro gwallau
Ysgrifennwch lythyr sy’n dweud beth yw’r gwallau. Anfonwch ef ynghyd â’r V750W neu V778W i Rhifau Cofrestru Personol DVLA.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÌýÌý
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÌýÌý
8. Ildio'ch hawl i ddefnyddio rhif preifat
Efallai y cewch ad-daliad o £80 os oes gennych hawl i ddefnyddio rhif preifat ond rydych yn penderfynu peidio â’i aseinio i gerbyd.
Mae hyn yn ad-dalu’r ffi o £80 a dalwyd gennych pan wnaethoch naill ai:
-
brynu’r rhif (cafodd y ffi ei gynnwys yn y gost)
-
cymryd y rhif oddi ar gerbyd
Gallwch wneud cais am ad-daliad os:
-
na chafodd y rhif ei aseinio i unrhyw gerbyd ar ôl ichi dalu’r ffiÌý
-
oes gennych y ddogfen V778W neu V750W ddiweddaraf - os ydych wedi’i cholli a’i bod yn dal yn ddilys gallwch gael un amnewid gan DVLA
Os cyhoeddwyd y ddogfen cyn 9 Mawrth 2015, dim ond ar ôl iddi ddod i ben y gallwch gael ad-daliad. Ni allwch gael dogfen newydd os yw wedi dod i ben.
Ticiwch yr adran ‘Ildio’r hawl i’r rhif cofrestru hwn’ o’r ddogfen V778W neu V750W, ei llofnodi a’i hanfon i:
Rhifau Cofrestru Personol DVLA
Abertawe
SA99 1DS
Ni allwch ddefnyddio’r rhif preifat ar ôl ichi ildio’ch hawl iddo.
Mae proses wahanol os yw’r person sydd â’r hawl i ddefnyddio’r rhif preifat wedi marw.
9. Os yw'r person gyda'r hawl i ddefnyddio'r rhif preifat yn marw
Os yw rhywun wedi marw a gadael rhif personol ichi yn ei ewyllys, neu os ydych yn gyfrifol am yr ewyllys (‘ysgutor’), gallwch:
-
gadw’r rhif preifat
-
ei drosglwyddo i gerbyd arall
-
ei roi mewn enw rhywun arall
-
ildio’r hawl i ddefnyddio’r rhif (gallwch wneud cais am ad-daliad)
I wneud hyn, bydd angen ichi anfon ffurflen i DVLA, ynghyd â dogfennau sy’n profi bod gennych hawl i ddefnyddio’r rhif.
Profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif
Rhaid ichi anfon y dystysgrif marwolaeth i DVLA pan fyddwch yn anfon eich ffurflen. Gall y dystysgrif marwolaeth fod yn wreiddiol neu’n gopi ardystiedig.
Rhaid ichi anfon o leiaf un o’r canlynol hefyd:
-
copi ardystiedig o brofiant
-
copi o’r ewyllys
-
llythyr gan y cyfreithiwr yn cadarnhau pwy yw’r ysgutorion neu’r berthynas agosaf
Cadw neu drosglwyddo’r rhif, neu ei roi i rywun arall
Mae pa ffurflen a anfonwch yn dibynnu ar a yw’r rhif eisoes ar (‘wedi’i aseinio i’) gerbyd.
Os yw’r rhif eisoes wedi’i aseinio i gerbyd
Llenwch y canlynol:
-
y ffurflen V317W (os oes gennych hen ffurflen las, llenwch adran 2)
-
adran 2 os oes gennych llyfr log steil newydd (gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y blaen) neu adran 6 os oes gennych y llyfr log steil hen
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys:
-
llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn cadarnhau eu bod yn cytuno â’r cais
-
manylion yr unigolyn rydych am drosglwyddo’r rhif iddo, er enghraifft ysgutor neu berthynas agosaf
Mae’n costio £80.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÌý
Abertawe
SA99 1DS
Os nad yw’r rhif wedi’i aseinio i gerbyd
Anfonwch y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif ac un o’r canlynol:
-
y ddogfen gadw rhifau V778W
-
y ffurflen tystysgrif hawl V750W
Rhaid i’r ysgutorion lofnodi’r V778W neu V750W cyn ichi ei hanfon.
Rhaid ichi hefyd anfon llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn dweud a ydych chi eisiau:
-
cadw’r rhif
-
rhoi’r rhif i rywun arall
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÌý
Abertawe
SA99 1DS
Os nad oes gennych y V778W neu’r V750W
Anfonwch y canlynol i DVLA:
-
y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif
-
llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn cadarnhau nad oes gennych y ffurflenni, ac yn esbonio beth rydych am ei wneud gyda’r rhif
Ildio eich hawl i ddefnyddio’r rhif preifat
Efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad o’r ffi aseinio o £80 os:
-
nad oedd rhif preifat wedi’i aseinio i gerbyd ar ôl talu’r ffi
-
oes gennych y ddogfen V778W neu V750W ddiweddaraf - os ydych wedi’i cholli a’i bod yn dal yn ddilys gallwch gael un amnewid gan DVLA
Gwiriwch y ddogfen V778W neu V750W i weld a oedd ffi wedi’i thalu.
Os cyhoeddwyd y ddogfen cyn 9 Mawrth 2015, dim ond ar ôl iddi ddod i ben y gallwch gael ad-daliad. Ni allwch gael dogfen newydd os yw wedi dod i ben.
Anfonwch y canlynol i DVLA:
-
y ddogfen V778W neu V750W - ticiwch yr adran ‘Ad-daliad o’r ffi aseinio’ a chael yr holl ysgutorion i’w llofnodi
-
y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif
-
enw a chyfeiriad yr unigolyn y bydd yr ad-daliad yn cael ei gyhoeddi iddo
Rhifau Cofrestru Personol DVLA
Abertawe
SA99 1DS
Os nad oes gennych y V778W neu’r V750W
Anfonwch y canlynol i DVLA:
-
y dogfennau sy’n profi bod gennych yr hawl i ddefnyddio’r rhif
-
llythyr eglurhaol wedi’i lofnodi gan yr holl ysgutorion yn cadarnhau nad oes gennych y ffurflenni, ac yn esbonio beth rydych am ei wneud gyda’r rhif