Rhoi eich eiddo ar osod
Printable version
1. Cyfrifoldebau landlordiaid
Rydych yn landlord os ydych yn rhoi eich eiddo ar osod.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Fel landlord, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- sicrhau bod yr eiddo rydych wedi’u rhoi ar osod yn ddiogel ac nad oes peryglon i iechyd
- sicrhau bod yr holl a wedi’u gosod a’u cynnal yn ddiogel
- darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer yr eiddo
- diogelu blaendal eich tenant (yn agor tudalen Saesneg) mewn cynllun a gymeradwywyd gan y llywodraethÌý
- os yw’r eiddo yn Lloegr, gwirio bod gan eich tenant yr hawl i rentu eich eiddo (yn agor tudalen Saesneg)
- rhoi copi o’r rhestr wirio Sut i rentu (yn agor tudalen Saesneg) i’ch tenant pan fydd yn dechrau rhentu eich eiddo (gallwch ei e-bostio ato)
Mae rheolau gwahanol ar gyfer a .
Diogelwch tân
Eich cyfrifoldeb chi yw’r canlynol:
- ffitio a phrofi larymau mwg a larymau carbon monocsid (yn agor tudalen Saesneg)
- dilyn rheoliadau diogelwch tân ar gyfer eiddo mewn neu ar gyfer tai ac eiddo wedi’u haddasu’n fflatiau (yn agor tudalen Saesneg)
Archwiliadau iechyd a diogelwch
²Ñ²¹±ð’r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) (yn agor tudalen Saesneg) yn cael ei defnyddio gan eich cyngor i sicrhau bod pob eiddo yn ei ardal yn ddiogel i’r bobl sy’n byw yno. Mae hyn yn golygu archwilio’ch eiddo am beryglon posibl, fel grisiau anwastad.
Os ydych yn berchen ar eiddo ac yn ei roi ar osod, gall y cyngor benderfynu gwneud archwiliad HHSRS am y rhesymau canlynol:
- mae eich tenantiaid wedi gofyn am archwiliad
- mae’r cyngor wedi gwneud arolwg o eiddo lleol ac o’r farn y gallai’ch eiddo fod yn beryglus
Sgoriau perygl HHSRS
Mae arolygwyr yn edrych ar 29 o feysydd iechyd a diogelwch ac yn gosod pob perygl y maent yn eu canfod naill ai yng nghategori 1 neu 2, yn seiliedig ar eu difrifoldeb.
Mae’n rhaid i chi weithredu ar hysbysiadau gorfodi a gewch gan eich cyngor. Mae gennych hefyd yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gorfodi.
Gall y cyngor wneud unrhyw un o’r canlynol os ydynt yn dod o hyd i berygl difrifol:
- cyhoeddi hysbysiad gwella
- trwsio’r perygl eu hunain a’ch bilio am y gost
- eich atal chi neu unrhyw un arall rhag defnyddio’r eiddo cyfan, neu ran ohono
Cyfrifoldebau ariannol
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar eich incwm rhent, llai eich costau rhedeg o ddydd i ddydd. Mae rheolau gwahanol os ydych yn defnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell.
Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol neu Ddosbarth 3 gwirfoddol.
Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn rhoi eich eiddo neu ran o’ch cartref ar osod (er enghraifft, drwy apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am yr incwm hwn.
Os oes gennych forgais ar yr eiddo rydych am ei roi ar osod, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich benthyciwr morgais.
Tenantiaethau rheoleiddiedig
Mae rheolau arbennig ar gyfer newid rhent a newid telerau ar gyfer tenantiaethau rheoleiddiedig (fel arfer, tenantiaethau preifat sy’n dechrau cyn 15 Ionawr 1989).
2. Gwneud atgyweiriadau
Mae’n rhaid i chi gadw eich eiddo mewn cyflwr da, ac mae’n rhaid i unrhyw systemau nwy neu systemau trydanol fodloni safonau diogelwch penodol.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer a .
Pryd y gallwch fynd i mewn i’r eiddo
Mae gennych hawl gyfreithiol i fynd i mewn i’ch eiddo i’w archwilio neu i wneud gwaith atgyweirio. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd i’ch tenantiaid, er, mae’n bosibl y gellir cael mynediad ar unwaith mewn argyfwng. Mae gan eich tenantiaid yr hawl i aros yn yr eiddo yn ystod y gwaith atgyweirio.
Fel arfer, rydych yn gyfrifol am atgyweiriadau i’r canlynol:
- strwythur eich eiddo
- basnau, sinciau, bathiau a gosodiadau glanweithiol eraill
- systemau gwresogi a systemau dŵr poeth
- unrhyw beth rydych chi’n ei ddifrodi’n ddamweiniol drwy geisio gwneud gwaith atgyweirio
Os yw eich eiddo wedi’i ddifrodi’n ddifrifol gan dân, llifogydd neu ddigwyddiad tebyg arall, nid oes rhaid i chi ei ailadeiladu na’i adnewyddu. Fodd bynnag, os gwnewch hynny, ni allwch godi tâl ar eich tenantiaid am unrhyw waith atgyweirio a wnaed.
Ardaloedd cyffredin
Os ydych chi’n berchen ar floc o fflatiau, chi sydd fel arfer yn gyfrifol am atgyweirio ardaloedd cyffredin, fel grisiau. Gall cynghorau ofyn i landlordiaid ddatrys problemau mewn ardaloedd cyffredin, neu atgyweirio fflat tenant sydd wedi’i ddifrodi gan denant arall.
Yr hyn sy’n digwydd os na wneir atgyweiriadau yn iawn
Os byddwch yn gwrthod gwneud atgyweiriadau, gall tenantiaid wneud y canlynol:
- dechrau hawliad yn y llys mân-symiau am atgyweiriadau o dan £5,000
- o dan rai amgylchiadau, gwneud y gwaith atgyweirio eu hunain a didynnu’r gost o’u rhent
Os nad ydych yn gwneud atgyweiriadau i gael gwared ar beryglon, gall eich tenantiaid ofyn i’r cyngor archwilio’r eiddo o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) a chymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol.
Os yw’r cyngor yn canfod peryglon difrifol, rhaid iddo gymryd camau gorfodi i sicrhau bod y perygl yn cael ei ddileu.
Os nad yw’r eiddo yn addas i fyw ynddo dros dro
Gallwch ofyn i denantiaid symud allan yn ystod gwaith atgyweirio mawr. Cyn i hyn ddigwydd, dylech gytuno i’r canlynol yn ysgrifenedig:
- pa mor hir y bydd y gwaith yn para
- hawl y tenantiaid i ddychwelyd
- manylion unrhyw lety amgen
Ni allwch ad-ennill meddiant eiddo i wneud gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, os ydych yn cynllunio gwaith sylweddol, neu os ydych am ailddatblygu’r eiddo, gallwch wneud cais i’r llysoedd am orchymyn i’ch tenantiaid adael. ²Ñ²¹±ð’r llysoedd yn fwy tebygol o ganiatáu hyn os ydych yn darparu llety amgen.
Gwaith atgyweirio a chodi rhent
Os yw’r gwaith atgyweirio’n aflonyddgar iawn, efallai y bydd eich tenantiaid yn gallu hawlio gostyngiad ar eu rhent a elwir yn ‘diddymiad rhent’. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o’r eiddo na ellir ei ddefnyddio.Ìý
Mae’n bosibl bydd gennych yr hawl i gynyddu’r rhent ar ôl cynnal atgyweiriadau a gwelliannau, yn dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
3. Cynyddu Rhent
¶Ù²â±ô²¹¾±â€™r cytundeb tenantiaeth (yn agor tudalen Saesneg) gynnwys manylion ynghylch pryd y byddwch yn adolygu’r rhent a sut y byddwch yn gwneud hynny.
Mae rheolau arbennig ar gyfer cynyddu rhenti tenantiaeth rheoleiddiedig.
Pryd y gallwch gynyddu rhent
Ar gyfer tenantiaeth gyfnodol (sy’n seiliedig ar gyfnodau o wythnos i wythnos neu o fis i fis) dim ond unwaith y flwyddyn y gallwch gynyddu’r rhent.
Ar gyfer tenantiaeth am gyfnod penodol (sy’n rhedeg am gyfnod penodol), gallwch gynyddu’r rhent dim ond os yw eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi wneud hynny. Fel arall, dim ond pan ddaw’r cyfnod penodol i ben y gallwch godi’r rhent.
Sut y gallwch chi gynyddu’r rhent
Os yw cytundeb tenantiaeth am gyfnod penodol yn nodi sut y gellir cynyddu’r rhent, mae’n rhaid i chi gadw at hyn.Ìý
Ar gyfer tenantiaeth gyfnodol, gallwch wneud y canlynol:
- cytuno ar gynnydd mewn rhent gyda’ch tenantiaid a llunio cofnod ysgrifenedig o’r cytundeb sydd wedi’i lofnodi gan y ddau ohonoch
- llenwi Ffurflen 4: Hysbysiad gan y landlord yn cynnig rhent newydd (yn agor tudalen Saesneg), gan roi o leiaf mis o rybudd i’ch tenant
Mae rheolau gwahanol ar gyfer a .
Mae’n rhaid i’r cynnydd mewn rhent fod yn deg ac yn realistig – hynny yw, yn unol â rhenti rhesymol ar y farchnad agored.
Os nad yw’ch tenantiaid yn cytuno
Os yw eich tenantiaid o’r farn bod y cynnydd mewn rhent yn annheg, gallant ofyn i Haen Gyntaf y Tribiwnlys Eiddo (yn agor tudalen Saesneg) benderfynu ar y swm cywir.
4. Datrys anghydfodau
Yn aml, gallwch ddatrys anghydfodau gyda’ch tenantiaid heb fynd i’r llys:
-
Siaradwch â’ch tenantiaid am eich pryderon.
-
Os nad yw hyn yn gweithio, ysgrifennwch lythyr ffurfiol yn nodi’r broblem.
-
Defnyddiwch wasanaeth cyfryngu, sydd fel arfer yn rhatach ac yn gyflymach na mynd i’r llys.
-
Pan fydd popeth arall wedi methu, gallwch fynd â’ch tenantiaid i’r llys.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer a .
Mynd gerbron y llys
Os byddwch yn cymryd camau cyfreithiol, gall yr achos fynd i’r llys mân-symiau. Achosion mân-symiau yw’r achosion sy’n werth llai na £10,000 (neu £1,000 os yw’r achos yn ymwneud â gwaith i atgyweirio eiddo).
Mae’n bosibl bydd y llys yn cynnig cyfryngu i chi neu’n dweud wrthoch chi am fynychu ar ôl i chi wneud hawliad. ²Ñ²¹±ð’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn digwydd dros y ffôn.
Os ydych am gael eich eiddo yn ôl oherwydd bod eich tenantiaid ag arian rhent yn ddyledus i chi, gallwch .
Mae’n rhaid i chi ddilyn rheolau penodol os ydych chi am droi tenantiaid allan (yn agor tudalen Saesneg).
Cyngor sy’n rhad ac am ddim ar gyfer mynd i’r afael ag anghydfodau
Gallwch gael a ynghylch anghydfodau a phroblemau tai.
Yng Nghymru, gallwch gysylltu â .
Mae’n bosibl y gallwch gael cyngor cyfreithiol cyfrinachol sy’n rhad ac am ddim gan y Cyngor Cyfreithiol Sifil (CLA) fel rhan o gymorth cyfreithiol (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yng Nghymru a Lloegr.
Gall cyfreithiwr eich helpu hefyd, ond mae’n bosibl y bydd yn codi ffi.
5. Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
Os ydych yn rhoi eich eiddo ar osod i nifer o denantiaid nad ydynt yn aelodau o’r un teulu, gall fod yn ‘TÅ· Amlfeddiannaeth’ (HMO).Ìý
Mae rheolau gwahanol ar gyfer a HMOs yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).
Mae eich eiddo yn HMO os yw’r naill ²¹â€™r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- mae o leiaf 3 tenant yn byw yno, gan ffurfio mwy nag un aelwyd
- mae cyfleusterau toiled, ystafell ymolchi neu gegin yn cael eu rhannu
Mae aelwyd yn cynnwys naill ai person sengl neu aelodau o’r un teulu sy’n byw gyda’i gilydd. Mae’n cynnwys pobl sy’n briod neu’n byw gyda’i gilydd a phobl mewn perthynas o’r un rhyw.
Trwyddedau
Mae’n rhaid i HMO gael trwydded os yw’n cael ei feddiannu gan 5 neu fwy o bobl. Gall cyngor hefyd gynnwys mathau eraill o HMOs ar gyfer trwyddedu.Ìý
gan eich cyngor.
Asesiad risg
Mae’n rhaid i’r cyngor gynnal asesiad risg y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) ar eich HMO cyn pen 5 mlynedd o gael cais am drwydded. Os yw’r arolygydd yn canfod unrhyw risgiau annerbyniol yn ystod yr asesiad, bydd yn rhaid i chi wneud gwaith i’w dileu.
Rhoi gwybod am newidiadau
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r cyngor os yw’r canlynol yn wir:
- rydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau i HMO
- mae eich tenantiaid yn gwneud newidiadau
- mae amgylchiadau eich tenantiaid yn newid (er enghraifft, maent yn cael plentyn)
6. Talu treth ac Yswiriant Gwladol
Pan fyddwch yn rhoi eiddo ar osod, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth. Gallwch ddewis i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau penodol.Ìý
Yswiriant Gwladol
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ystyrir eich bod yn ‘gyflogedig â thâl’ at ddibenion Yswiriant Gwladol. Er enghraifft, os:
- bod yn landlord yw eich prif swyddÌý
- rydych yn rhoi mwy nag un eiddo ar osodÌý
- rydych yn prynu eiddo newydd i’w roi ar osod
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn cyfrif fel ‘cyflogedig â thâl’, darllenwch talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol fel landlord (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gymwys, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol yn lle. Er enghraifft, os ydych yn dal i wneud y canlynol, er taw nid ‘landlord’ yw eich prif swydd:Ìý
- casglu rhent
- trefnu neu’n gwneud atgyweiriadau
- cynnal a chadw ardaloedd cyffredinÌý
- paratoi eiddo rhwng cyfnodau gosod
- hysbysebu am denantiaid
- trefnu cytundebau tenantiaeth
Eiddo rydych chi’n berchen yn bersonol
²Ñ²¹±ð’r £1,000 cyntaf o’ch incwm o roi eiddo ar osod yn rhydd o dreth. Dyma’ch ‘lwfans eiddo’.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os yw’ch incwm o roi eiddo ar osod yn fwy na £1,000 y flwyddyn, hyd at £2,500.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich incwm o roi eiddo ar osod ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yw’n fwy na:Ìý
- £2,500 ar ôl treuliau caniataolÌý
- £10,000 cyn treuliau caniataol
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth a gawsoch incwm rhent.
Datgan treth heb ei thalu
Gallwch ddatgan treth heb ei thalu drwy roi gwybod i CThEF am incwm rhent o flynyddoedd blaenorol (yn agor tudalen Saesneg). Os oes rhaid i chi dalu cosb, bydd yn is na phe bai CThEF yn dod o hyd i’r incwm ei hunan.
Cewch gyfeirnod y datgeliad. Ar ôl i chi gael y cyfeirnod bydd gennych 3 mis i gyfrifo’r hyn sydd arnoch a’i dalu.
Peidiwch â chynnwys y lwfans eiddo rhydd o dreth o £1,000 am unrhyw flynyddoedd treth cyn 2017 i 2018.
Eiddo a berchnogwyd gan gwmni
Cyfrifwch yr incwm rhent yn yr un ffordd ag y byddech yn cyfrifo unrhyw incwm busnes arall.
Costau y gallwch eu hawlio i ostwng treth
Mae rheolau treth gwahanol ar gyfer:
- eiddo preswyl
- llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
- eiddo masnachol
Eiddo preswyl
Mae’n rhaid i chi, neu’ch cwmni, dalu treth ar yr elw a wnewch o roi’r eiddo ar osod ar ôl didynnu ‘treuliau caniataol’.
Mae treuliau caniataol yn bethau y mae angen i chi wario arian arnynt wrth redeg yr eiddo o ddydd i ddydd, fel:
- ffioedd asiantau gosod eiddo
- ffioedd cyfreithiol ar gyfer gosod eiddo am flwyddyn neu lai, neu ar gyfer adnewyddu prydles am lai na 50 mlynedd
- ffioedd cyfrifwyr
- yswiriant ar gyfer yr adeiladau ²¹â€™r cynnwys
- gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio’r eiddo (ond nid gwelliannau)
- biliau cyfleustodau, fel nwy, dŵr a thrydan
- rhent, rhent tir, taliadau gwasanaeth
- Treth Gyngor
- gwasanaethau rydych yn talu amdanynt, fel glanhau neu arddio
- costau uniongyrchol eraill o roi’r eiddo ar osod, fel galwadau ffôn, deunydd ysgrifennu a hysbysebu
Os ydych chi’n gwmni sy’n talu Treth Gorfforaeth, gallwch hawlio llog ar fenthyciadau eiddo fel traul caniataol. Ni allwch wneud hyn os ydych yn landlord unigol sy’n talu Treth Incwm. Darllenwch ragor am newidiadau i ryddhad treth ar gyfer eiddo preswyl (yn agor tudalen Saesneg).
Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys ‘gwariant cyfalaf’ – megis prynu eiddo neu ei adnewyddu y tu hwnt i atgyweiriadau o achos traul.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar arian sy’n cael ei wario ar amnewid ‘eitem ddomestig’. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad am amnewid eitemau domestig’.
Mae eitemau domestig yn cynnwys:
- gwelyau
- soffas
- llenni
- carpedi
- oergelloedd
- llestri a chyllyll a ffyrc
Mae’n rhaid eich bod ond wedi prynu’r eitem ddomestig i’w defnyddio gan denantiaid mewn eiddo preswyl, ac ni ddylid defnyddio’r eitem a amnewidiwyd gennych yn yr eiddo hwnnw fwyach.
Mae rhyddhad am amnewid eitemau domestig ar gael o’r dyddiadau canlynol:
- blwyddyn dreth 2016 i 2017, ar gyfer unigolion a phartneriaethau
- 1 Ebrill 2016, ar gyfer cwmnïau
Llety preswyl wedi’i ddodrefnu
Efallai y byddwch yn gallu hawlio ‘lwfans traul’ (yn agor tudalen Saesneg):
- ar gyfer blwyddyn dreth 2015 i 2016, ar gyfer unigolion a phartneriaethau
- ar neu cyn 31 Mawrth 2016, ar gyfer cwmnïau
Llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
Ar gyfer llety gwyliau wedi’i ddodrefnu, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio’r canlynol:
- lwfansau cyfalaf offer a pheiriannau ar ddodrefn, eitemau dodrefn ac yn y blaen sydd yn yr eiddo ar osod, yn ogystal ag ar gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio y tu allan i’r eiddo (fel faniau ac offer)
- rhyddhadau Treth Enillion Cyfalaf – Rhyddhad Treigl Ased Busnes, Rhyddhad Entrepreneuriaid, rhyddhad ar gyfer rhoi asedion busnes fel rhoddion a rhyddhad ar gyfer benthyciadau i fasnachwyr
Gallwch ond gwneud hawliad os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’r eiddo ar gael i’w roi ar osod fel llety gwyliau wedi’i ddodrefnu am o leiaf 210 diwrnod y flwyddyn
- mae’r eiddo ar gael i fod ar osod i’r cyhoedd fel llety gwyliau wedi’i ddodrefnu am o leiaf 105 diwrnod y flwyddyn
- ni all osodiadau hir (31 diwrnod neu fwy yn olynol) ddod i gyfanswm o fwy na 155 diwrnod mewn blwyddyn
- rydych yn codi’r gyfradd sylfaenol ar gyfer eiddo tebyg yn yr ardal (‘gwerth marchnadol’)
Mae eich elw yn cyfrif fel enillion at ddibenion pensiwn.
I gael help gyda’ch Ffurflen Dreth, gallwch ddefnyddio’r daflen gymorth lwfansau cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) ²¹â€™r daflen gymorth llety gwyliau wedi’i ddodrefnu (yn agor tudalen Saesneg).
Eiddo masnachol
Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf offer a pheiriannau ar rai eitemau os ydych yn rhoi eiddo masnachol ar osod – fel siop, garej neu garejis cloi.
Cyfrifo’ch elw
Rydych yn cyfrifo’r elw neu’r golled net ar gyfer pob eiddo sydd gennych ar osod (ac eithrio llety gwyliau wedi’i ddodrefnu) fel pe bai’n fusnes sengl. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- adio eich holl incwm rhent at ei gilydd
- adio eich holl dreuliau caniataol at ei gilydd
- tynnu’r treuliau o’r incwm
Cyfrifwch yr elw neu’r golled o lety gwyliau wedi’i ddodrefnu ar wahân i unrhyw fusnes rhentu eiddo arall er mwyn sicrhau eich bod ond yn hawlio’r manteision treth hyn ar gyfer eiddo cymwys.
Gwneud colledÌý
Didynnwch unrhyw golledion o’ch elw a nodwch y ffigur ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch wrthbwyso eich colled yn erbyn y canlynol:
- elw yn y dyfodol drwy ei gario ymlaen i flwyddyn ddiweddarachÌý
- elw o eiddo eraill (os oes gennych rai)
Gallwch gario eich colled ymlaen i’w gosod yn erbyn elw yn y dyfodol o’r un busnes yn unig.
7. Newid tenantiaeth rheoleiddiedig (rhent teg)
Mae rheolau arbennig ar gyfer newid rhent a thermau ar gyfer tenantiaethau rheoleiddiedig (a elwir weithiau’n ‘rhent teg’) a ddechreuodd, fel arfer, cyn 15 Ionawr 1989.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer cynyddu rhent mewn a .
Pryd y gallwch gynyddu rhent
Gallwch gynyddu’r rhent hyd at yr uchafswm a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn unig – gwiriwch y gofrestr rhent teg (yn agor tudalen Saesneg) i weld beth yw’r swm hwn.
Gallwch ofyn i’r VOA adolygu’r rhent bob 2 flynedd, neu’n gynharach os oes rhywbeth wedi effeithio ar y gwerth, fel ei fod yn parhau’n deg. Mae’n bosibl y bydd eich rhent yn cynyddu neu’n gostwng.
Gallwch lawrlwytho a llenwi ffurflen rhent teg (yn agor tudalen Saesneg) i gael eich rhent wedi’i adolygu. Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA drwy’r post.
Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA / VOA Network Support Office
Wycliffe HouseÌý Ìý Ìý Ìý
Green LaneÌý Ìý Ìý
Durham Ìý
DH1 3UWÌý
Ffôn: 03000 505 505 Ìý
E-bostiwch Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cynyddu eich rhent.
VOA Network Support Office
NSOhelpdesk@voa.gsi.gov.uk Ìý
Os yw’r rhent teg yn cynyddu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o gynnydd mewn rhent i’ch tenant. Gallwch godi’r rhent newydd o’r dyddiad y mae wedi’i gofrestru.
Llenwch ffurflen ‘hysbysiad o gynnydd’ (sydd ar gael o safwerthydd cyfreithiol) a’i hanfon at eich tenant.
Gallwch ôl-ddyddio eich hysbysiad o gynnydd mewn rhent am hyd at 4 wythnos.Ìý
Canslo rhent sydd wedi’i gofrestru
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen rhent deg (yn agor tudalen Saesneg) i ganslo rhent sydd wedi’i gofrestru, a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Er enghraifft, os bydd y denantiaeth yn stopio cael ei rheoleiddio, neu os ydych chi ²¹â€™r tenant yn cytuno i’w chanslo.
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i ganslo rhent sydd wedi’i gofrestru.