Taliad Tywydd Oer

Printable version

1. Trosolwg

Efallai byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog Morgais.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond efallai bydd angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn cael babi neu mae plentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi.

Nid yw’r taliadau yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd yn eich ardal chi, ar gyfartaledd, wedi’i gofnodi fel, neu y rhagwelir i fod, yn sero gradd celsius neu’n llai am 7 diwrnod yn olynol.

Byddwch yn cael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025.

Darganfyddwch a yw’r tywydd lle rydych chi’n byw yn golygu y gallech gael taliad.

.

.

Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf.

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Ni allwch gael Taliad Tywydd Oer.

Efallai byddwch yn cael blynyddol yn lle. Byddwch yn cael y taliad ni waeth beth yw’r tywydd yn eich ardal.

2. Cymhwyster

Efallai byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymorth ar gyfer Llog Morgais

Os ydych yn byw yn Yr Alban, ni allwch gael Taliad Tywydd Oer. Efallai byddwch yn cael yn lle.

Credyd Pensiwn

Fel arfer, byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael Credyd Pensiwn.

Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm ac yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • premiwm anabledd neu bensiynwr
  • plentyn sy’n anabl
  • Credyd Treth Plant sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • plentyn o dan 5 oed sy’n byw gyda chi

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ac rydych mewn grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith neu’r grŵp cymorth. Os nad ydych yn y naill grŵp neu’r llall, efallai y byddwch hefyd yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • premiwm anabledd difrifol neu uwch
  • premiwm pensiynwr
  • plentyn sy’n anabl
  • Credyd Treth Plant sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • plentyn o dan 5 oed sy’n byw gyda chi

Credyd Cynhwysol

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac:

  • nid ydych yn gyflogedig neu’n ‘hunangyflogedig â thâl’
  • nid yw eich partner yn gyflogedig neu’n ‘hunangyflogedig â thâl’ (os oes gennych bartner)

Rydych yn debygol o gael eich ystyried i fod yn ‘hunangyflogedig â thâl’ os mai bod yn hunangyflogedig yw eich prif swydd, rydych yn gweithio’n rheolaidd ac yn disgwyl gwneud elw.

Mae’n rhaid i un o’r canlynol hefyd fod yn berthnasol:

  • mae gennych chi neu’ch partner gyflwr iechyd neu anabledd ac mae gennych allu cyfyngedig i weithio (gyda neu heb swm sy’n gysylltiedig â gweithgaredd gwaith)
  • mae gennych blentyn o dan 5 oed yn byw gyda chi

Byddwch hefyd yn gymwys os oes gennych swm plentyn anabl yn eich cais. Nid oes ots os ydych chi neu’ch partner yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu nad ydych yn gweithio.

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) ac yn cael eich trin fel eich bod yn cael budd-dal cymhwyso ble mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • premiwm anabledd difrifol neu uwch
  • premiwm pensiynwr
  • mae gennych blentyn sy’n anabl
  • rydych yn cael Credyd Treth Plant sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • mae gennych blentyn o dan 5 oed sy’n byw gyda chi

Rydych fel arfer yn cael eich trin fel eich bod yn cael budd-dal cymhwyso os ydych yn gwneud cais amdano ond nad ydych yn ei dderbyn oherwydd bod eich incwm yn rhy uchel.

3. Beth y mae angen i chi ei wneud

Nid oes rhaid i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig.

Os oes gennych fabi neu os yw plentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi

Dywedwch wrth y Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm a:

  • rydych wedi cael babi
  • mae plentyn o dan 5 oed wedi dod i fyw gyda chi

Ni fyddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer yn awtomatig os na wnewch hyn.

4. Pryd byddwch yn cael eich talu

Os ydych yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer, byddwch yn cael £25 ar gyfer pob cyfnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025.

Ar ôl pob cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal, dylech gael taliad o fewn 14 diwrnod gwaith. Telir i mewn i’r un cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu â’ch taliadau budd-dal.

Os na fyddwch yn cael eich Taliad Tywydd Oer

Dywedwch wrth y [Gwasanaeth Pensiwn](/cysylltwch-gwasanaeth-pensiwn neu swyddfa Canolfan Byd Gwaith os credwch y dylech fod wedi cael Taliad Tywydd Oer ond nad ydych wedi ei gael.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, mewngofnodwch i’ch cyfrif ac ychwanegwch nodyn i’ch dyddlyfr.

Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Mae’r rhif ffôn ar lythyrau am eich cais Credyd Cynhwysol.

5. Arosiadau mewn ysbyty

Dywedwch wrth eich canolfan pensiwn neu swyddfa Canolfan Byd Gwaith os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty – gall hyn effeithio ar eich taliad.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, mewngofnodwch i’ch cyfrif ac ychwanegwch nodyn i’ch dyddlyfr.

Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Mae’r rhif ffôn ar lythyrau am eich cais Credyd Cynhwysol.