Taliadau mesothelioma ymledol

Printable version

1. Trosolwg

Efallai y gallwch gael taliad os ydych wedi derbyn diagnosis gyda’r afiechyd sy’n ymwneud ag asbestos, mesothelioma ymledol.

Mae 2 fath o daliad y gallwch wneud cais amdanynt:

  • taliadau mesothelioma ymledol (‘cynllun 2008’)
  • Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Gallwch hawlio DMPS os na allwch ddod o hyd i’r cyflogwr sy’n gyfrifol am eich cyswllt ag asbestos, neu ei yswiriwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

2. Beth fyddwch yn ei gael

Cynllun 2008

Byddwch yn cael un taliad.

Bydd y swm byddwch yn ei gael yn dibynnu ar beth oedd eich oedran pan gafoch chi ddiagnosis o’r afiechyd. Er enghraifft, os oeddech yn 60 oed pan gafoch chi ddiagnosis o’r afiechyd, ac rydych yn gymwys, byddwch yn cael taliad o £54,582.

Cyfraddau

Oedran yn cael diagnosis Taliad
37 oed neu iau £116,152
38 oed £113,893
39 oed £111,640
40 oed £109,386
41 oed £107,128
42 oed £104,873
43 oed £103,749
44 oed £102,614
45 oed £101,490
46 oed £100,362
47 oed £99,234
48 oed £96,082
49 oed £92,926
50 oed £89,762
51 oed £86,610
52 oed £83,443
53 oed £81,190
54 oed £78,939
55 oed £76,688
56 oed £74,421
57 oed £72,166
58 oed £66,305
59 oed £60,438
60 oed £54,582
61 oed £48,716
62 oed £42,853
63 oed £39,244
64 oed £35,631
65 oed £32,028
66 oed £28,418
67 oed £24,810
68 oed £24,074
69 oed £23,337
70 oed £22,612
71 oed £21,879
72 oed £21,149
73 oed £20,524
74 oed £19,888
75 oed £19,279
76 oed £18,668
77 oed a throsodd £18,047

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Bydd eich taliad yn dibynnu ar fanylion eich cais. Darllenwch fwy am y symiau talu ar .

3. Cymhwysedd

Cynllun 2008

Gallwch hawlio taliad untro os:

  • nad ydych yn gymwys i daliad o dan Ddeddf Pneumoconiosis 1979
  • nad ydych wedi cael taliad ar gyfer yr afiechyd gan gyflogwr, cais sifil neu rywle arall
  • nad ydych yn gymwys i iawndal gan gynllun Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Rhaid eich bod wedi dod mewn i gysylltiad ag asbestos yn y Deyrnas Unedig.

Mae enghreifftiau o gysylltiad yn cynnwys:

  • daethoch mewn i gysylltiad ag asbestos oherwydd perthynas, er enghraifft trwy olchi ei ddillad
  • daethoch mewn i gysylltiad ag asbestos yn yr amgylchedd, er enghraifft roeddech yn byw ger ffatri a oedd yn defnyddio asbestos
  • daethoch mewn i gysylltiad ag asbestos tra’n hunangyflogedig
  • ni ellir nodi eich cysylltiad ag asbestos ond digwyddodd yn y Deyrnas Unedig

Rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o’ch diagnosis.

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Efallai y gallwch wneud cais os ydy’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • cawsoch ddiagnosis o mesothelioma ymledol ar neu ar ôl 25 Gorffennaf 2012
  • achoswyd eich mesothelioma trwy gysylltiad ag asbestos wrth weithio yn y DU
  • nid oes modd i chi olrhain y cyflogwr ble daethoch i gysylltiad agasbestos, neu ei yswiriwr
  • nid ydych wedi gwneud cais sifil yn erbyn unrhyw gyflogwr neu yswiriwr
  • nid ydych wedi cael iawndal neu daliad am mesothelioma yn benodol ac nid ydych yn gymwys am daliad penodol

Efallai y gallwch hefyd wneud cais os oeddech yn ddibynnydd ar ddioddefwr sydd wedi marw.

Gallwch wneud cais am DMPS hyd yn oed os ydych eisoes wedi hawlio dan gynllun 2008 neu o dan ddeddf Pneumoconiosis 1979. Os ydych eisoes wedi cael taliad o gynllun 2008 neu’r Ddeddf Pneumoconiosis, caiff ei ddidynnu o’r swm a gewch gan DMPS.

Efallai y gallwch wneud cais o’r cynllun 2008 hyd yn oed os ydych yn aflwyddiannus yn eich cais DMPS.

Rhaid i geisiadau o dan gynllun DMPS cael ei wneud o fewn 3 blynedd o ddiagnosis.

4. Taliadau am ddibynyddion

Cynllun 2008

Efallai y gallwch wneud cais os oeddech yn ddibynnydd i ddioddefwr sydd wedi marw. Mae’n rhaid i chi wneud y cais o fewn 12 mis i’w farwolaeth.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) i ddarganfod os ydych yn gymwys.

Llinell Gymorth IIDB
Rhif ffôn: 0800 279 2322 Ffôn testun: 0800 169 0314 (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Darganfyddwch am gostau galwadau

Cyfraddau

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael un taliad. Bydd y swm yn dibynnu ar oedran y person gyda mesothelioma pan fuont farw. Er enghraifft, os oeddent yn 60 oed pan fuont farw, ac rydych yn gymwys, byddwch yn cael taliad o £23,628.

Oedran a fu farw y person gyda mesothelioma Taliad
37 oed neu iau £60,446
38 oed £59,148
39 oed £57,851
40 oed £56,554
41 oed £55,258
42 oed £53,962
43 oed £52,720
44 oed £51,468
45 oed £50,236
46 oed £48,996
47 oed £47,758
48 oed £46,237
49 oed £44,710
50 oed £43,190
51 oed £41,673
52 oed £40,150
53 oed £38,903
54 oed £37,668
55 oed £36,427
56 oed £35,178
57 oed £33,941
58 oed £30,509
59 oed £27,063
60 oed £23,628
61 oed £20,187
62 oed £16,743
63 oed £15,760
64 oed £14,785
65 oed £13,784
66 oed £12,800
67 oed a throsodd £10,007

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Bydd eich taliad yn dibynnu ar fanylion eich cais. Darllenwch fwy am y symiau talu ar .

5. Sut i wneud cais

Cynllun 2008

Llenwch ffurflen gais taliad mesothelioma a darparu tystiolaeth feddygol.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os nad oes modd i chi argraffu ffurflen ac mae angen un wedi’i anfon atoch.

Llinell Gymorth IIDB
Rhif ffôn: 0800 279 2322 Ffôn testun: 0800 169 0314 (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Darganfyddwch am gostau galwadau

Barnsley IIDBÌý°ä±ð²Ô³Ù°ù±ð
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY

Fformatiau Amgen

Cysylltwch â llinell gymorth IIDB i ofyn am fformatiau amgen, fel braille, print bras neu CD sain.

Rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o dderbyn diagnosis. Os ydych yn ddibynnydd sy’n hawlio ar gyfer rhywun sydd eisoes wedi marw rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o’u marwolaeth.

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Gallwch wneud cais ar lein ar .

Byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich hanes cyflogaeth lawn, gyda thystiolaeth – er enghraifft, P60
  • tystiolaeth o geisiadau aflwyddiannus i olrhain eich cyflogwr neu yswirwyr
  • dyddiad eich diagnosis
  • manylion unrhyw geisiadau blaenorol
  • datganiad tyst

Cysylltwch â TopMark am ragor o wybodaeth ar DMPS am sut i wneud cais.

TopMark
dmps@topmarkcms.com Rhif ffôn: 0330 058 3930 Darganfyddwch am gostau galwadau

TopMark Claims Management
160 Bath Street
Glasgow

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hwn yn ailystyriaeth orfodol.

Os nad ydych yn bodlon gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant. Bydd y tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol o’r llywodraeth.

Rhaid i chi apelio i’r tribiwnlys o fewn mis o gael penderfyniad yr ailystyriaeth orfodol. Os ydych yn cyflwyno eich apêl ar ôl mis bydd rhaid i chi esbonio pam nad oeddech wedi’i wneud yn gynharach.

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen SSCS6a a’i anfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd angen i chi benderfynu a ydych am fynd i’r gwrandawiad tribiwnlys i esbonio eich achos. Os nad ydych yn mynychu, bydd penderfyniad eich apêl yn cael ei wneud yn seiliedig ar y ffurflen ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Ar ôl cyflwyno eich apêl, gallwch ddarparu tystiolaeth. Bydd eich apêl a’r dystiolaeth yn cael eu trafod mewn gwrandawiad gan farnwr ac un neu ddau arbenigwr. Bydd y barnwr wedyn yn gwneud penderfyniad.

Mae fel arfer yn cymryd tua 6 mis i’ch apêl gael ei chlywed gan y tribiwnlys.