Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion, megis ffôn symudol y cwmni.
Mae’n rhaid i chi hefyd eu talu ar daliadau dros £30,000 yr ydych yn eu gwneud i gyflogeion pan fo’u cyflogaeth yn dod i ben, megis taliad diswyddo (‘dyfarniadau terfynu’).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n rhaid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu dim ond os nad ydych eisoes wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arnynt.
Mae yna arweiniad gwahanol ar dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon.
Pryd i dalu
Mae pryd rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn dibynnu a ydynt yn fuddiannau gwaith neu’n ddyfarniadau terfynu.
Buddiannau gwaith
Mae angen i chi dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith erbyn 22 Gorffennaf bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Bydd angen i chi dalu erbyn 19 Gorffennaf os ydych yn talu drwy’r post.
Dyfarniadau terfynu
Rydych yn talu cyfraniadau ar ddyfarniadau terfynu drwy TWE.
Talu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
- Debyd Uniongyrchol (talu’n awtomatig, neu daliad unigol)
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Dulliau eraill o dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
- bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
- ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
3 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
- bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
- â siec drwy’r post
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF ar ddiwrnod gwaith olaf yr wythnos (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).
Llyfrynnau talu
Nid yw CThEF bellach yn anfon llyfrynnau talu wedi’u printio.
Gallwch barhau i dalu treth sy’n ddyledus o flwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gan ddefnyddio llyfryn talu, os oes gennych un eisoes. I dalu treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, mae’n rhaid i chi ddewis dull arall o dalu.
2. Debyd Uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy’ch i naill ai:
- talu’ch bil yn awtomatig
- gwneud taliad unigol
Ni allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol sy’n bodoli eisoes ar gyfer taliadau TWE safonol.
Talu’ch bil yn awtomatig
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth. Dim ond unwaith y bydd angen i chi sefydlu’r Debyd Uniongyrchol.
Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.
Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:
- yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis
- 4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu, fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig os oes gennych Ddebyd Uniongyrchol Newidiol ar gyfer TWE y Cyflogwr ar waith.
Gwneud taliad unigol
Bydd angen i chi roi cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau.
Mae hwn ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.
Ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’. Os na fyddwch yn gwneud hyn, caiff eich taliad ei ddyrannu i’r flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.
Enghraifft
Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.
I wneud taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau ‘2413’ at eich cyfeirnod. Eich cyfeirnod 17 o gymeriadau yw 123PA000123452413.
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.
3. Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Pan fyddwch yn barod i dalu, . Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
08 32 10 | 12001039 | HMRC Cumbernauld |
Cyfeirnod
Bydd angen i chi roi cyfeirnod, sy’n 17 o gymeriadau, fel y cyfeirnod talu. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau. Yna, ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’ er mwyn gwneud yn siŵr bod eich taliad yn cael ei neilltuo’n gywir.
Blwyddyn dreth | Ychwanegwch y digidau hyn at eich cyfeirnod |
---|---|
2022 i 2023 | 2313 |
2023 i 2024 | 2413 |
2024 i 2025 | 2513 |
Enghraifft
Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.
I wneud taliad ym mis Gorffennaf 2024 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau ‘2413’ at eich cyfeirnod fel bod eich cyfeirnod nawr yn 123PA000123452413.
Mae’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.
Mae’n rhaid i chi wneud taliad ar wahân ar gyfer taliadau Dosbarth 1A. Ni allwch eu hychwanegu at daliad TWE safonol.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, mae taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:
Rhif y cyfrif (IBAN) | Cod Adnabod y Busnes (BIC) | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
GB62BARC20114770297690 | BARCGB22 | HMRC Cumbernauld |
Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
5. Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch .
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu’ch bil Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.
Cyfeirnod
Gwnewch eich taliad i swyddfa ‘HMRC Cumbernauld’. Bydd angen i chi roi cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau.
Mae hwn ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.
Ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’. Os na fyddwch yn gwneud hyn, caiff eich taliad ei ddyrannu i’r flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.
Enghraifft
Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.
I wneud taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau ‘2413’ at eich cyfeirnod. Eich cyfeirnod 17 o gymeriadau yw 123PA000123452413.
6. Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod Dosbarth 1A ar gefn y siec. Bydd hwn i’w weld ar eich slip talu.
Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu anfonodd CThEF atoch. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Os nad oes gennych slip talu
Gallwch i’w ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.
7. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law
Gwiriwch eich – dylai ddiweddaru o fewn 6 diwrnod gwaith.
Os ydych yn talu â siec drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb gan CThEF.
8. Cyfraniadau Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon
Digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, i anrhydeddu chwaraewr am ei wasanaeth yw tysteb chwaraeon, megis pan fo chwaraewr yn ymddeol.
Mae’n rhaid i’r pwyllgor tystebau dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A os yw’r taliad i’r chwaraewr:
- yn fwy na £100,000
- heb fod yng nghontract y chwaraewr
Elw o’r digwyddiad yw’r taliad fel arfer.
Mae’n rhaid i’r pwyllgor dalu’r cyfraniadau ar y taliad drwy TWE.