Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau
Os ydych chi’n marw pan fyddwch wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU
Os ydych chi wedi’ch lleoli dramor, dim ond ar eich asedion yn y DU y talir Treth Etifeddiant, er enghraifft eiddo neu gyfrifon banc yn y DU.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn eich trin fel un sydd wedi’i leoli dramor os ydych wedi byw yn y DU am lai na 10 mlynedd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Nid yw’n Treth Etifeddiant yn cael ei thalu ar ‘asedion sydd wedi’u heithrio’ megis:Â
-
cyfrifon arian cyfred tramor gyda banc neu’r Swyddfa Bost
-
pensiynau tramor
-
daliannau mewn ymddiriedolaethau unedol awdurdodedig a chwmnïau buddsoddi penagored
Mae rheolau gwahanol os oes gennych asedion mewn ymddiriedolaeth neu giltiau llywodraeth, neu os ydych yn aelod o luoedd arfog sy’n ymweld.
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych yn siŵr a yw’ch asedion wedi’u heithrio.
Ar gyfer marwolaethau ar neu cyn 5 Ebrill 2025
Bydd y person a fu farw yn cael ei drin fel un sydd wedi’i leoli yn y DU os yw un o’r canlynol yn wir:
-
roedd ei gartref parhaol (domisil) yn y DU
-
roedden nhw’n byw yn y DU am 15 o’r 20 mlynedd diwethaf
-
roedd ei gartref parhaol yn y DU ar unrhyw adeg yn ystod 3 blynedd olaf o’i fywyd
Cytuniadau trethiant dwbl
Mae’n bosibl y bydd eich ysgutor yn gallu adennill treth drwy gytuniad trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg) os codir Treth Etifeddiant ar yr un asedion gan y DU a’r wlad lle’r oeddech yn byw.