Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad
Printable version
1. Trosolwg
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.
Mae angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch er mwyn sicrhau bod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’ch treth yn cael eu cofnodi yn erbyn eich enw chi’n unig.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Pwy sy’n talu Yswiriant Gwladol
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gorfodol os ydych yn 16 oed, neu’n hŷn, a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn gyflogai sy’n ennill dros £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
-
rydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o fwy na £12,570 y flwyddyn
Gallwch hefyd weld cyfraddau a throthwyon ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol fel arfer, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth, os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gyflogai sy’n ennill rhwng £125 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
- rydych yn hunangyflogedig, ac mae’ch elw yn £6,845 neu’n fwy y flwyddyn
Caiff eich cyfraniadau eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol
Mae gwahanol fathau o Yswiriant Gwladol (a elwir yn ‘dosbarthiadau’).
Mae’r math o Yswiriant Gwladol rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.
Pryd rydych yn rhoi’r gorau i dalu
Os ydych yn gyflogedig, rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (yn agor tudalen Saesneg) pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn hunangyflogedig, rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
2. Eich rhif Yswiriant Gwladol
Mae gennych rif Yswiriant Gwladol er mwyn sicrhau bod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’ch treth yn cael eu cofnodi yn erbyn eich enw chi’n unig.
Ni fydd eich rhif Yswiriant Gwladol yn newid ar unrhyw adeg. Mae’n cynnwys 2 lythyren, 6 rhif a llythyren i orffen.
Er enghraifft, QQ123456B
Fel arfer, byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol yn fuan cyn eich pen-blwydd yn 16 mlwydd oed. Caiff hwn ei anfon i’r cyfeiriad sydd gan CThEF ar eich cyfer.
Os oes angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch
Bydd eich rhif Yswiriant Gwladol ar ddogfennau sy’n ymwneud â threth, megis eich clip cyflog neu’ch P60. Gallwch hefyd ei gael ar ffurf llythyr a dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar-lein.
Os nad ydych erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol
³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýwneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad ydych wedi cael un o’r blaen.
Cadw eich rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel
Er mwyn atal twyll hunaniaeth, peidiwch â rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gydag unrhyw un nad oes ei angen arno.
Mae’n bosibl y bydd angen i’r sefydliadau hyn wybod beth yw’ch rhif:
- Cyllid a Thollau EF (CThEF)
- eich cyflogwr
- yr Adran Gwaith a Phensiynau (sy’n cynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr), os ydych yn hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, neu’r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
- eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, neu Weithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon
- Swyddogion Cofrestru Etholiadol (er mwyn gwirio pwy ydych pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio)
- y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os ydych yn gwneud cais am fenthyciad myfyriwr
- eich darparwr pensiwn os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid
- darparwr eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), os ydych yn agor ISA
- darparwyr gwasanaethau ariannol awdurdodedig sy’n eich helpu i brynu a gwerthu buddsoddiadau, megis cyfranddaliadau, bondiau, a deilliadau. Gallwch
- Cyn-filwyr y DU
3. Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol
Mae’r dosbarth yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill. Gweler y cyfraddau presennol ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1, 2 a 4.
Os ydych yn gyflogedig
Bydd eich cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Dosbarth 1 o’ch tâl yn awtomatig os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- rydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn ennill mwy na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
Caiff cyfraniadau Dosbarth 1A a Dosbarth 1B eu talu gan gyflogwyr ar dreuliau neu fuddiannau eu cyflogeion yn unig.
Os ydych yn ennill llai na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
Os ydych yn ennill rhwng £125 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, ni fyddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn ennill llai na £125 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn hunangyflogedig
Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar eich elw.
Os yw’ch elw yn £6,845 neu’n fwy y flwyddyn
Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.
Os yw’ch elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.
Os yw’ch elw yn llai na £6,845 y flwyddyn
Nid oes angen i chi dalu unrhyw beth, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gweithio
Gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).
4. Faint rydych yn ei dalu
Mae swm yr Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.
Gallwch fwrw golwg dros gyfraddau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn gyflogedig
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
Y cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw:
Eich cyflog | O 6 Ebrill 2025 hyd at 5 Ebrill 2026 |
---|---|
£242 i £967 yr wythnos (£1,048 i £4,189 y mis) | 8% |
Dros £967 yr wythnos (£4,189 y mis) | 2% |
Byddwch yn talu llai os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn wraig briod neu’n weddw (yn agor tudalen Saesneg) gyda ‘thystysgrif dewis’ ddilys
- rydych yn gohirio Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) gan fod gennych fwy nag un swydd
Mae cyflogwyr yn talu cyfradd wahanol o Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar lythrennau categori (yn agor tudalen Saesneg) eu cyflogeion.
Sut i dalu
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gyda’ch treth. Bydd eich cyflogwr yn ei ddidynnu o’ch cyflog cyn i chi gael eich talu. Bydd eich slip cyflog yn dangos eich cyfraniadau.
Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg), efallai y byddwch hefyd yn gyflogai i chi’ch hun, ac felly yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy’ch cyflogres TWE.
Os ydych yn hunangyflogedig
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (yn agor tudalen Saesneg), yn dibynnu ar eich elw. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y taliadau hyn drwy Hunanasesiad.
Os yw’ch elw yn £6,845 neu’n fwy, caiff eich cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych elw sy’n llai na £6,845 y flwyddyn yn sgil eich hunangyflogaeth
- mae gennych swydd benodol (megis arholwr neu berchennog busnes sy’n ymwneud ag eiddo neu dir) ac nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy Hunanasesiad
Os oes gennych fylchau ac os nad ydych yn talu cyfraniadau gwirfoddol, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau y gallwch eu cael, megis Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes gennych swydd benodol ac os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy Hunanasesiad, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i drefnu taliad gwirfoddol.
Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig
Mae’n bosibl eich bod yn gyflogai ond eich bod hefyd yn gwneud gwaith hunangyflogedig. Yn yr achos hwn, bydd eich cyflogwr yn didynnu’ch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 oddi wrth eich cyflog, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig.
Bydd faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog cyfunol a’ch gwaith hunangyflogedig. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint o Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cyfarwyddwyr, landlordiaid a physgotwyr cyfran
Mae rheolau gwahanol ar gyfer Yswiriant Gwladol os ydych yn un o’r canlynol:
-
landlord sy’n rhedeg busnes eiddo (yn agor tudalen Saesneg)
-
pysgotwr cyfran (yn agor tudalen Saesneg) – er enghraifft, rydych yn gweithio ar gwch pysgota Prydeinig ond nid o dan gontract gwasanaeth
Gallwch wneud cais i CThEF i wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol a hawlio ad-daliad os ydych o’r farn eich bod wedi gordalu.
5. Yr hyn y mae Yswiriant Gwladol ar ei gyfer
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag at y budd-daliadau a’r pensiynau yn y tabl.
Dosbarth 1: cyflogeion | Dosbarth 2: hunangyflogedig | Â Dosbarth 3: cyfraniadau gwirfoddol | |
---|---|---|---|
Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth | Iawn | Iawn | Iawn |
Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth | Iawn | Na | Na |
Pensiwn Newydd y Wladwriaeth | Iawn | Iawn | Iawn |
Lwfans Ceisio Gwaith newydd | Iawn | Na | Na |
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau | Iawn | Iawn | Na |
Lwfans Mamolaeth | Iawn | Iawn | Na |
Taliad Cymorth Profedigaeth | Iawn | Iawn | Na |
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o fwy na £12,570 y flwyddyn, rydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 4. Nid yw’r rhain yn cyfrif tuag at fudd-daliadau na phensiwn y Wladwriaeth.
6. Cymorth os nad ydych yn gweithio
Gallai unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol effeithio ar eich budd-daliadau. Gall credydau Yswiriant Gwladol helpu i osgoi bylchau yn eich cofnod a diogelu eich budd-daliadau.
Gallwch gael credydau os na allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, er enghraifft os yw’r canlynol yn wir:
-
na allwch weithio o ganlyniad i salwch
-
rydych yn gofalu am rywun
Os nad ydych yn gweithio, nac yn derbyn credydau, gallwch hefyd gyfrannu at eich Yswiriant Gwladol gyda chyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg).
7. Newid mewn amgylchiadau
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn newid eich manylion personol – er enghraifft eich enw, eich cyfeiriad, neu’ch statws priodasol
-
rydych yn rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig (yn agor tudalen Saesneg)