Cynrychioli eich hun yn y llys
Trosolwg
Mae gennych hawl i siarad drosoch eich hun yn y llys heb gyfreithiwr neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol arall.
Gallwch ddewis gwneud hyn oherwydd:
- rydych yn meddwl ei bod yn well siarad yn uniongyrchol â’r barnwr, y rheithgor neu’r ynadon eich hun
- ni allwch fforddio talu ffioedd cyfreithiol
Os ydych yn ystyried cynrychioli eich hun oherwydd na allwch fforddio costau cyfreithiol, gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol yn lle hynny.
Byddwch yn cael eich adnabod fel ‘ymgyfreithiwr drosoch eich hun’ os ydych yn cynrychioli eich hun. Byddwch hefyd yn cael eich adnabod fel ‘ceisydd’, ‘atebydd’ neu ‘ddiffynnydd’ yn dibynnu p’un a yw eich achos yn cael ei wrando mewn llys teulu, sifil neu droseddol.
¶Ù²¹°ù±ô±ô±ð²Ô·É³¦³óÌý am gyngor ar sut i gynnal eich achos.
Mae ynaÂ
Rhywun gyda chi yn y llys
Efallai y caniateir i chi gael rhywun i’ch helpu yn y llys drwy gymryd nodiadau a rhoi cyngor, ond ni allant:
- siarad ar eich rhan
- ymyrryd ag achosion
- llofnodi dogfennau ar eich rhan
Gelwir yr unigolyn hwn yn ‘gyfaill McKenzie’.
Bydd y barnwr yn penderfynu a allwch gael cyfaill McKenzie gyda chi yn y llys.
Darllenwch ganllaw ar .
Cael cyngor cyfreithiol
Gallwch dal gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu gyda’ch achos, hyd yn oed os byddwch yn dewis cynrychioli eich hun yn y llys.
Darllenwch gyngor ar  ar gyfer dyled, anghydfod neu hawliad anaf personol.