Platiau rhif preifat (personol)
Newid eich enw neu gyfeiriad
Os yw eich rhif preifat (personol) eisoes wedi’i aseinio i gerbyd, mae dim ond angen ichi newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW).
Os nad yw’r rhif wedi’i aseinio i gerbyd, yna mae angen ichi gwblhau tystysgrif V750W neu V778W.
Pan fyddwch yn derbyn eich V750W neu V778W newydd, dylech ddinistrio’r holl ddogfennau a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd nad ydynt bellach yn ddilys ac na ellir eu defnyddio ar-lein neu i hysbysu DVLA am unrhyw newid.
Newid eich cyfeiriad ar-lein - V750W yn unig
Defnyddiwch eich .
Newid eich cyfeiriad drwy’r post - V750W neu V778W
Llenwch yr adran ‘newid cyfeiriad’ ar eich V750W neu V778W. Llofnodwch hi a’i hanfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÂ Â
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÂ Â
Os nad oes gennych eich V778W neu V750W
Ysgrifennwch lythyr sy’n dweud beth yw eich cyfeiriad newydd. Llofnodwch ef a’i anfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch hunaniaeth. Gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:
-
bil cartref a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf
-
eich bil Treth Gyngor ar gyfer eleni
-
cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf
-
cerdyn meddygol
-
eich trwydded yrru Brydeinig gyfredol
-
eich pasbort
-
eich tystysgrif geni
Newid eich enw - V750W neu V778W
Gallwch dim ond newid eich enw drwy’r post. Bydd arnoch angen prawf o’ch newid enw - gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:
-
eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
-
eich dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)
-
gweithred newid enw i ddangos eich bod wedi newid eich enw yn gyfreithiol
Llenwch yr adran ‘manylion yr enwebai’ ar eich V750W neu V778W. Llofnodwch hi a’i hanfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch newid enw.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÂ Â
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÂ Â
Os nad oes gennych eich V750W neu V778W
Ysgrifennwch lythyr sy’n dweud beth yw eich enw newydd. Llofnodwch ef a’i anfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch newid enw.
Cywiro gwallau
Ysgrifennwch lythyr sy’n dweud beth yw’r gwallau. Anfonwch ef ynghyd â’r V750W neu V778W i Rhifau Cofrestru Personol DVLA.
Rhifau Cofrestru Personol DVLAÂ Â
´¡²ú±ð°ù³Ù²¹·É±ðÌý
SA99 1DSÂ Â